Lleoliad: Zoom
Cyswllt: Natalie Lloyd Jones 01286 679780
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Simon Glyn, Kevin
Morris Jones a Dafydd Owen ynghyd â’r Cynghorydd Catrin Wager (Aelod Cabinet
Priffyrdd a Bwrdeistrefol). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y
Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i'w
nodi. |
|
Bydd
y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r
pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 4ydd o Dachwedd, 2021 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y
4ydd o Dachwedd 2021 fel rhai cywir. |
|
DIWEDDARIAD BLYNYDDOL Y BARTNERIAETH DIOGELWCH CYMUNEDOL PDF 390 KB AELOD
CABINET: Y CYNGHORYDD DAFYDD MEURIG Rhoi
trosolwg i Aelodau o weithgareddau Partneriaeth Diogelwch Cymunedol (PDC)
Gwynedd a Môn yn ystod 2020-21, a'r datblygiadau ar gyfer 2021-22. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1. Derbyn
cynnwys yr adroddiad a'r dogfennau atodol gan nodi’r sylwadau, a chefnogi
blaenoriaethau a chyfeiriad y gwaith i'r dyfodol. 2. Cysylltu
gyda Chadeirydd y Cyngor i nodi dymuniad y Pwyllgor i estyn gwahoddiad i'r
Comisiynydd Heddlu a Throsedd i gyfarfod o’r Cyngor Llawn. 3. Gofyn i'r
bartneriaeth rhoi ystyriaeth i aelodau
eraill y bartneriaeth fod yn bresennol yng nghyfarfod Trosedd ac Anrhefn y
Pwyllgor Craffu Cymunedau. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant, gosododd y
cefndir a’r cyd-destun, gan nodi bod gan awdurdodau lleol dyletswydd statudol i
weithio mewn partneriaeth â’r Heddlu, y Gwasanaeth Iechyd, Gwasanaeth Prawf a’r
Gwasanaeth Tân ac Achub, i ymdrin â diogelwch cymunedol. Eglurodd y gwneir asesiad strategol i adnabod
blaenoriaethau yn rhanbarthol, ‘roedd y
cynlluniau lleol i ymdrin â’r blaenoriaethau hyn gerbron y Pwyllgor. Trosglwyddwyd i'r Swyddog Gweithredu a Phrosiectau Diogelwch Cymunedol. Rhoddwyd trosolwg o’r prif
bwyntiau o fewn yr adroddiad ac eglurwyd bod gofyn i'r bartneriaeth adrodd yn
ôl i'r Pwyllgor yn flynyddol i ddiweddaru ar waith y bartneriaeth. Aethpwyd ati i nodi’r prif gerrig filltir a
gyflawnwyd yn ystod y cyfnod diweddaraf a rhoddwyd trosolwg o’r gwaith oedd ar
y gweill. Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y
prif bwyntiau canlynol gan aelodau: ·
Holwyd ynghylch y 5 cam gweithredu oedd heb eu cyflawni ers bron
i ddwy flynedd. Beth oedd y camau nesaf i'w cyflawni? ·
Cyfeiriwyd at
y gwaith i adnabod adeiladau priodol ar gyfer y tîm camddefnyddio sylweddau ym
Mangor a holwyd os oedd modd cael mwy o wybodaeth. ·
Holwyd am y
cynllun bugeiliaid stryd a pham nad ydynt yn weithredol gan fod y Cyngor yn
defnyddio Zoom ers deunaw mis oedd modd iddynt ei
ddefnyddio. ·
Gofynnwyd a
oedd gwaith yn ymwneud a chaethwasiaeth fodern yn rhan o’r bartneriaeth. ·
Mynegwyd siom
nad oedd cynrychiolwyr eraill o’r bartneriaeth yn bresennol i ateb cwestiynau. ·
Nododd aelod
ei bod yn pryderu am y cynnydd mewn pobl a oedd angen cefnogaeth iechyd meddwl,
rhai yn camddefnyddio alcohol a digartrefedd yn enwedig yng Ngwynedd. ·
Gofynnwyd a
fyddai’n bosib cael cyfarfod â’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd newydd, bu ei
ragflaenydd gerbron y Cyngor Llawn yn y gorffennol. ·
Dywedwyd bod
y pynciau o fewn yr adroddiad yn berthnasol i glybiau ieuenctid a holwyd os
oedd y clybiau ieuenctid yn rhan o’r bartneriaeth. ·
Cefnogwyd y
syniad o wahodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd i'r Cyngor Llawn fel bod modd
i'r holl aelodau ei gyfarfod. ·
Holwyd
ynghylch trosedd seibr gan fod problemau yn codi oddi ar
wefannau cyfryngau cymdeithasol wrth i bobl ddatgelu data wrth ymateb i
gwestiynau cyffredinol. Bod angen rhoi pwysau ar gwmnïau cyfryngau cymdeithasol
i weithredu pan fo achosion yn cael eu hadrodd. Mewn ymateb, nododd y swyddogion: ·
O ran y 5 cam
gweithredu, oherwydd blaenoriaethau eraill nid oedd modd eu cyflawni. Byddai rhai ohonynt yn cael eu hystyried eto
yn y dyfodol. ·
Mewn
perthynas â’r bugeiliaid stryd, dros y cyfnodau clo nid oedd pobl yn mynd allan wrth i dafarndai
fod ar gau, felly doedd dim eu hangen. Yn ogystal ag hyn, wrth i’r cyfyngiadau
lacio nid oeddent yn teimlo’n ddiogel bod allan oherwydd covid-19. Ategodd y
byddai modd ail ymweld â hyn yn y dyfodol . · Nododd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
AELOD
CABINET: Y CYNGHORYDD CATRIN WAGER I ystyried yr adroddiad. Penderfyniad: PENDERFYNIAD:Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth yr Adran Priffyrdd a
Bwrdeistrefol a thywyswyd yr aelodau drwy’r prif faterion. Nodwyd bod gan y Cyngor ddyletswydd statudol i sicrhau nad
oes sbwriel ar briffyrdd a mannau cyhoeddus eraill.. ‘Roedd yn wasanaeth
gweladwy a phwysig yn enwedig yn ystod y cyfnod pandemig. Eglurwyd bod y
Gwasanaethau Stryd yn ymdrin â bob safle cyhoeddus a pob ffordd oedd wedi ei
fabwysiadu a reolir gan y Cyngor Amlygwyd bod ardaloedd wedi eu rhannu yn barthau yn ôl eu
defnydd. Eglurwyd bod glendid ardal yn cael ei asesu trwy gymharu gyda safon,
roedd amrediad safon o Gradd A i D. Ymhelaethwyd y caniateir cyfnod amser
gwahanol i lanhau'r ardaloedd a'u dychwelyd i'r safon briodol.. Nodwyd bod yr Adran wedi wynebu toriadau yn y gorffennol, a phwysau
ychwanegol yn sgil cynnydd yn nhwristiaeth. Manylwyd ar weledigaeth y Gwasanaeth gan
ofyn i’r Pwyllgor am eu sylwadau ar y weledigaeth. Ategodd y Rheolwr Gwasanaethau Stryd sylwadau’r Pennaeth
gyda’r pwyntiau canlynol: ·
Cyfeiriodd at y cod ymarfer a nododd
oherwydd sefyllfa Covid ni fyddai un newydd yn cael
ei gyflwyno o fewn y flwyddyn. Nododd bod deddfwriaeth yn Lloegr i gosbi
perchnogion ceir sy’n gollwng sbwriel, nid oedd hyn ar gael yng Nghymru ond yn
cael ei hystyried. ·
Nododd fel rhan o’r peilot, bod 4 bin
clyfar wedi eu harchebu a fyddai’n gweithio drwy bŵer solar. Byddai’r bin
yn gwasgu’r sbwriel nifer o weithiau cyn anfon signal i hysbysu’r swyddogion
bod angen ei wagio. Yn ystod y drafodaeth, cafwyd y prif sylwadau canlynol gan
aelodau: ·
Croesawyd y weledigaeth a holwyd am
finiau ailgylchu ar strydoedd. Nododd bod pobl yn rhoi sbwriel yn y bin
anghywir ar ddamwain neu yn ddiofal a gofynnwyd am fwy o wybodaeth am y broses
casglu a’r gofynion staffio i wahanu a sortio’r deunydd. ·
Holwyd ynghylch grwpiau codi sbwriel yn
wirfoddol gan nodi bod digwyddiadau cyson ar draws y wlad ac yng Ngwynedd a’i
fod yn syniad da bod y cyhoedd yn rhan o’r broses. ·
Holwyd beth yw’r drefn efo ysgubo
ffyrdd ag a yw hyn yn parhau mewn llefydd gwledig. Ategodd bod cadw ffyrdd yn
lan yn ddull o osgoi llifogydd. ·
Codwyd y mater o chwyn ar balmentydd yn
enwedig rhai sy’n cael eu defnyddio yn llai aml. ·
Cyfeiriwyd at y Tîm Cymunedau Glan a
Thaclus a’r angen i wybyddu aelodau o waith y tîm. ·
Derbynnir cwynion o ran arwyddion yn
wyrdd a gydag ymgyrchoedd codi ysbwriel yn ail-gychwyn roedd bagiau duon yn
cael eu rhoi tu ôl i finiau stryd. A ellir ystyried ysgubo’r llwybrau beicio yn
dilyn torri tyfiant? Holwyd am drefniadau glanhau gwm cnoi. ·
Yn falch bod addysgu plant wedi ei
gynnwys fel un o’r camau nesaf ond gall oedolion greu mwy o broblem e.e. peidio
â chodi baw cŵn. Wedi gweld cyd-gynghorwyr yn arddangos cynhwysydd siâp
asgwrn i ddal bagiau baw cŵn ar y cyfryngau cymdeithasol. Oedd rhai ar
gael i aelodau eraill. · Bod staff yn ymwybodol o fannau problemus, dylid parhau i wagio biniau yn rheolaidd yn hytrach na ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
TORRI GWAIR A CHYNNAL TIROEDD PDF 123 KB AELOD
CABINET: Y CYNGHORYDD CATRIN WAGER I ystyried yr adroddiad. Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Bennaeth yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol, gosododd y cefndir
a’r cyd-destun. Nododd er mwyn cyflawni dyletswyddau bod angen paratoi a
mabwysiadu polisi torri gwair ar gyfer ymylon ffyrdd, oedd yn ystyried
anghenion defnyddwyr y ffordd, yn ogystal ag anghenion bywyd gwyllt. Cyfeiriodd
at yr adolygiad o drefniadau torri gwair a’r gyfundrefn cynnal arfaethedig a
oedd gerbron er trafodaeth. Manylodd Pennaeth
Cynorthwyol Priffyrdd a Bwrdeistrefol ar rai o’r camau a oedd yn cael eu
cymryd. Nododd bod yr Adran yn cydweithio gyda’r Uwch Swyddog Bioamrywiaeth ac
yn adnabod mannau penodol o ran casglu’r gwair yn dilyn ei dorri. Cyfeiriodd at
brosiect ‘ymylon gwell’ gyda’r elusen Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, a oedd
i’w gynnal ym mlwyddyn ariannol 2022-23. Nododd bod Plantlife wedi cyhoeddi dogfen
yng nghyswllt ymylon ffyrdd cefn gwlad a oedd wedi derbyn sêl bendith
Llywodraeth Cymru. Yn ystod y
drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau: ·
Bod rhai
yn gefnogol i newid trefniadau torri gwair i wella bioamrywiaeth, ond doedd
eraill ddim yn gefnogol. ·
Yn
derbyn cwynion o ran coed yn ymwthio i’r ffyrdd, a ellir addasu uchder torri
mewn rhai achosion? Bod angen cael balans rhwng hybu
bioamrywiaeth a diogelwch ffyrdd. Efallai byddai’n opsiwn i dorri un ochr mewn
rhai mannau. Yn gefnogol i doriad llawn diwedd Hydref i ddelio gyda gordyfiant
prysgwydd ond o’r farn bod torri gwair ym mis Awst mewn ardaloedd gwledig yn
rhy hwyr. ·
Bod
angen torri mewn ardaloedd 30mya. Roedd ardaloedd yn fwy taclus pan gesglir y
gwair a dorrwyd. Beth oedd yr ystyriaethau wrth ddod i gasgliad o ran casglu’r
gwair yn dilyn ei dorri? Byddai toriad ym mis Awst yn rhy hwyr yn ei ardal –
fyddai’n bosib cael rota o ran pa ardaloedd oedd yn
cael toriad gyntaf? ·
Yn sicr
roedd lonydd cul angen sylw. Ei fod yn bwysig i fioamrywiaeth bod rhai mannau
yn cael eu gadael. Dylai’r Cyngor dynnu lluniau pan fo blodau gwyllt yn eu
hanterth a’u defnyddio i hyrwyddo. ·
Bod
sbwriel yn dod i’r amlwg yn dilyn torri gwair a’r angen i gyd-gordio
trefniadau. Wedi derbyn cwynion o ran drain yn crafu ceir ar lonydd cul a
thractorau a ddefnyddir i dorri yn rhy lydan ac yn tynnu waliau i lawr. Dylid
ystyried defnyddio peiriannau torri clawdd mewn rhai ardaloedd cul. ·
Bod
agweddau yn newid o ran torri gwair gyda mwy o ystyriaeth i fioamrywiaeth. Yn
gefnogol i beidio â thorri os oedd yn dderbyniol o safbwynt diogelwch. Mewn ymateb i’r
sylwadau uchod, nododd y swyddogion: ·
Bod
symudiad i wneud toriad llawn yn hwyrach yn y flwyddyn. Angen adnabod ardaloedd
penodol i hybu bioamrywiaeth gan gynnwys plannu. Edrychir ar y defnydd o
chwistrellwr i ladd chwyn gan gynnwys rhoi mwy o bwyslais ar ddefnyddio ysgubwr
yn lle. ·
Bod
gwrychoedd yn cael eu torri i fyny i uchder o 1 medr, cyfrifoldeb y perchennog
oedd y tyfiant uwchlaw hyn. Rhoddir ystyriaeth i ardaloedd penodol fel rhan o’r
adolygiad. · Rhoddir sylw i sylwadau’r aelod. O ran casglu’r holl wair yn dilyn ei dorri, bod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
BWRDD NEWID HINSAWDD I enwebu
aelod i gynrychioli’r Pwyllgor ar y Bwrdd Newid Hinsawdd. Penderfyniad: PENDERFYNWYD: Ethol y Cynghorydd Mike
Stevens i gynrychioli’r Pwyllgor Craffu
Cymunedau ar y Bwrdd Newid Hinsawdd. Cofnod: Nodwyd yn dilyn y drafodaeth yng nghyswllt aelodaeth y Bwrdd Newid Hinsawdd yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 23 Medi 2021, o dan yr eitem ‘Newid Hinsawdd’, derbyniwyd cais i ethol aelod i gynrychioli’r Pwyllgor ar y Bwrdd. Eglurwyd bod y Bwrdd wedi gwahodd y Cynghorydd Angela Russell fel y Pencampwr Bioamrywiaeth, ac yn estyn gwahoddiad i’r Pwyllgor enwebu un aelod arall oedd gyda diddordeb yn y maes ac yn awyddus i gyfrannu at y gwaith. PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Mike Stevens i
gynrychioli’r Pwyllgor Craffu Cymunedau ar y Bwrdd Newid Hinsawdd. Ar derfyn y
cyfarfod, cymerodd y Cadeirydd y cyfle i ddiolch i Natalie Lloyd Jones (Swyddog
Gwasanaethau Democratiaeth) am ei gwaith. Dymunwyd yn dda iddi ar gyfer y
dyfodol. |