Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679556
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorwyr Beca Roberts, Arwyn
Herald Roberts a Robert Glyn Daniels. |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar
22 Ionawr 2026 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 22
Ionawr 2026, fel rhai cywir. |
|
|
DIWEDDARIAD BLYNYDDOL GAN BARTNERIAETH DIOGELWCH CYMUNEDOL GWYNEDD A MÔN I roi
trosolwg i Aelodau o weithgareddau Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd a
Môn. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Penderfynwyd:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant ac
yr Uwch Swyddog Gweithredol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd a Môn. Cadarnhawyd bod yr adroddiad yn darparu diweddariad cynhwysfawr ar waith
y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol gan ddangos sut mae’n cydweithio er mwyn
mynd i’r afael â throsedd ac anrhefn ar draws Gwynedd a Môn ac i wella
diogelwch i’n cymunedau. Eglurwyd bod y Bartneriaeth yn gweithio i gynllun blynyddol sydd yn
seiliedig ar flaenoriaethau Strategaeth Bwrdd Gogledd Cymru Fwy Diogel.
Ymhelaethwyd bod y Bartneriaeth yn derbyn data chwarterol gan yr heddlu er mwyn
nodi tueddiadau, llywio trafodaethau,
cefnogi ymyrraeth gynnar a datrys problemau lleol o fewn cymunedau. Pwysleisiwyd nad oes gan y Bartneriaeth gyllid craidd parhaol a nodwyd
nad yw’n comisiynu gwasanaethau yn uniongyrchol oni bai am Adolygiadau
Dynladdiad Domestig (DHR). Eglurwyd bod y bartneriaeth yn ddibynnol yn bennaf
ar gyfleoedd grant tymor byr neu gystadleuol i gefnogi ei waith ehangach. Manylwyd ar weithgaredd y Bartneriaeth gan gadarnhau ei fod yn parhau i
ddarparu Cynllun Diogelwch Cymunedol a ffurfio adroddiadau chwarterol ohono i
Fwrdd Partneriaeth Gogledd Cymru Fwy Diogel. Nodwyd hefyd bod y Bartneriaeth yn
darparu cyfraniad gweithredol i Strategaeth Trais Difrifol Gogledd Cymru gan
egluro ei fod yn ddyletswydd genedlaethol newydd. Mynegwyd balchder bod £65,000 wedi cael ei ddyrannu ar gyfer saith prosiect ataliol yng Ngwynedd
a Môn. Manylwyd bod y prosiectau yng Ngwynedd yn cynnwys: · Sesiynau ‘Peidiwch â Dwyn
fy Nyfodol’ a gynhaliwyd gan RASASC Cymru (Canolfan Gefnogi Trais a Cham-drin
Rhywiol) er mwyn codi ymwybyddiaeth o drais rhywiol ymhlith disgyblion ac i
ddylanwadu ar agweddau ac ymddygiadau. · Ymgyrch ymwybyddiaeth
ynghylch gwerthu ‘vapes’ anghyfreithlon a cham-fanteisio plant, gan rannu
deallusrwydd. · Darpariaeth ieuenctid
ychwanegol dros wyliau ysgol i bobl ifanc 11-25 mewn ardaloedd sydd â risg
uchel o droseddu, trais ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. · Prosiect ar y cyd gydag
Adran Addysg y Cyngor i leihau eithriadau ac atal trais difrifol drwy
hyfforddiant, mentora a gwaith grŵp, gyda’r nod o gadw disgyblion mewn
ysgol ac yn ddiogel. Cyfeiriwyd at brosiectau eraill a gyflawnwyd gan y Bartneriaeth megis
uwchraddio camerâu cylch cyfyng yng Nghaernarfon, Bangor a Pwllheli; datblygu a
peilota pecyn ymwybyddiaeth Troseddau Cyfundrefnol Difrifol ar gyfer staff
awdurdodau lleol a bod yn Aelod parhaus o Banel Strategol Diogelu a Grŵp
Gweithredol Diogelu’r Cyngor. Tynnwyd sylw bod y bartneriaeth yn cydweithio’n agos gydag Arweinydd
Rhanbarthol ar Hunanladdiad a Hunan-niwed yn y Gwasanaeth Iechyd gan nodi bod
gweithdy aml-asiantaeth wedi cael ei ddarparu gan y Bartneriaeth i fanylu ar y
cysylltiad rhwng cam-drin domestig a hunanladdiad. Cyfeiriwyd hefyd at waith
parhaus yn Bartneriaeth gyda Strategaeth Lleihau Niwed Alcohol rhanbarthol sydd
yn mynd i’r afael â lleihau niwed sydd yn gysylltiedig ag alcohol. Eglurwyd bod y Bartneriaeth wedi cyflwyno hyfforddiant proffesiynol ar themâu rhywiaeth, gwrywdod a thrais. Cadarnhawyd bod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cais grant cyfalaf VAWDASV (Trais yn Erbyn Menywod, Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol) er mwyn prynu 100 camera diogelwch i oroeswyr cam-driniaeth ddomestig a chyfrannu at waith rhanbarthol ar safoni ‘target hardening’ drwy wneud cartrefi dioddefwyr a goroeswyr yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
|
GWASANAETHAU CASGLU GWASTRAFF AC AILGYLCHU I graffu
materion sy’n gysylltiedig â Gwasanaethau Casglu Gwastraff ac Ailgylchu, sy’n
rhan o Gynllun y Cyngor 2023-28 – Gwynedd Werdd. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Penderfynwyd: 1.
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a
gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth. 2.
Argymell i’r Aelod Cabinet Amgylchedd: ·
dylid ystyried dwysáu hyfforddiant/ymgyrchoedd i
addysgu ar bwysigrwydd ailgylchu. ·
dylid ystyried cyflwyno cosbau am fethu ag
ailgylchu’n briodol. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Amgylchedd a Phennaeth
Cynorthwyol Adran Amgylchedd. Tynnwyd sylw at y prif bwyntiau canlynol. Adroddwyd bod yr Adran yn gweithio i ddatblygu Strategaeth Gwastraff ar
hyn o bryd gan ymgymryd ag agwedd uchelgeisiol er mwyn datrys problemau.
Cydnabuwyd bod targedau Llywodraethau megis y targed o ailgylchu 70% o holl
wastraff y sir, yn heriol iawn i’w cyfarch. Cadarnhawyd bod yr Adran wedi addasu strwythur gweithredol trefniadau
casglu gwastraff i ddwy ran er mwyn gwella perfformiad. Eglurwyd bod ardal y De
yn gweithredu ar gyfer Dwyfor a Meirionnydd gyda’r Gogledd yn gwasanaethu
Arfon. Adroddwyd bod addasu’r strwythur gweithredol wedi gwella perfformiad y
gwasanaeth. Yn debyg, atgoffwyd bod system Bartec yn cael ei ddefnyddio gan yr
Adran er mwyn addasu cylchdeithiau yn ddynamig ac yn unol ag anghenion
gweithredol y gwasanaeth. Tynnwyd sylw y bydd aelodau yn derbyn cyflwyniad ar
sut mae’r systemau yma yn cynorthwyo’r adran yn Fforymau Ardal y Cyngor yn
hwyrach ymlaen eleni. Yn yr un modd, adroddwyd bod gosod system camerâu ar y
cerbydau casglu hefyd wedi cynorthwyo i wella gwelededd i waith y staff, gwella
iechyd a diogelwch a cyflwyno’r gallu i ymateb i gwynion gyda tystiolaeth
gadarn. Eglurwyd y cynhaliwyd ymgynghoriad yn ddiweddar fel rhan o ddatblygu’r
Strategaeth Gwastraff. Nodwyd y derbyniwyd 1,245 o ymatebion i’r ymgynghoriad.
Adroddwyd bod 62% o’r ymatebwyr yn nodi bod eu bin gwastraff gweddilliol dim
ond tua thri chwarter llawn neu lai ar ddiwedd y cyfnod o 3 wythnos.
Ymhelaethwyd bod 15% o ymatebwyr yn nodi nad oeddent yn gallu ymdopi gyda
capasiti presennol y bin a’r amserlen casglu gan ei fod yn llawn cyn y diwrnod
casglu. Tynnwyd sylw bod ail-asesu amlder casglu a maint y biniau gweddilliol
yn gallu bod yn ddiwygiad a all ei gyflawni er mwyn cefnogi’r Cyngor i gyrraedd
y targed o ailgylchu 70% o wastraff. Pwysleisiwyd bod yr Adran yn cydweithio
gyda WRAP Cymru (Waste and Resources Action Programme) er mwyn ymchwilio i’r
gwahaniaeth gwirioneddol byddai addasu hyn yn ei wneud . Atgoffwyd bod yr Adran wedi cychwyn treialu defnyddio sachau hessian yn
hytrach na’r cart-gylchu, gan adrodd bod canlyniadau’r treial hwnnw yn gymharol
lwyddiannus. Nodwyd bod bwriad i gynnal treialon mewn ardaloedd eraill o’r sir
cyn yr haf. Esboniwyd bod y sachau yn rhatach na’r cartgylchu ac y byddent yn
caniatáu mwy o gapasiti ailgylchu i drigolion petai’r Cyngor yn penderfynu
ailgylchu mwy o nwyddau fel plastigion meddal. Cadarnhawyd bod gwaith yn parhau i wella ymddygiadau trigolion tuag at
ailgylchu gan nodi bydd llythyr yn cael ei
yrru i bob cartref yn y Sir dros yr wythnos nesaf er mwyn gwella
ailgylchu yng Ngwynedd. Wrth ystyried materion gorfodaeth o fewn y gwasanaethu
gwastraff, cadarnhawyd nad oes modd cynnal gwasanaethau gorfodaeth os yw
aneddleoedd yn gor-gynhyrchu gwastraff oni bai ei fod yn arwain at faterion
megis tipio slei bach. Mynegwyd balchder bod sefyllfa gorwariant y gwasanaeth wedi gwella ond cydnabuwyd bod lle i wella er mwyn bod mewn sefyllfa ble mae cyllideb gytbwys. Ymfalchïwyd bod perfformiad y gwasanaeth y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
|
I graffu
materion sy’n gysylltiedig â llwybrau er mwyn darparu sicrwydd o ran
gweithrediad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a
gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Amgylchedd, Pennaeth
Cynorthwyol Adran Amgylchedd, Rheolwr Gwasanaeth Traffig a Phrosiectau ac
Arweinydd Tîm Llwybrau. Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol: Adroddwyd bod llwybrau hawliau tramwy cyhoeddus yn adnodd gwerthfawr
sydd yn cyfarch nifer o amcanion strategol y Cyngor, tra bod eu defnyddwyr yn
cael mwynhau tirwedd amrywiol y Sir. Ymhelaethwyd eu bod yn ddull o sicrhau
mynediad i awyr iach ar gyfer ei ddefnyddwyr, yn ddull da o gadw’n iawn ac yn
heini tra hefyd yn adlewyrchu hanes a diwylliant y cymunedau. Mynegwyd bod
rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus Gwynedd yn hirfaith, gyda chymaint o
filltiroedd o lwybrau i’w troedio, ei fod yn gyfystyr â cherdded o Gaernarfon i
Cairo (2,418 milltir). Eglurwyd bod y llwybrau hawliau tramwy cyhoeddus yn cynnwys Llwybr
Arfordir Cymru, rhwydwaith Lonydd Glas yng Ngwynedd a nifer o lwybrau teithiau
llesol sydd yn cael eu datblygu gan y Cyngor, ynghyd â llwybrau eraill. Cyfeiriwyd at rai o heriau’r gwasanaeth yn deillio o doriadau yng
nghyllidebau, tra bod disgwyliad deddfwriaethol parhaus ar y Cyngor i sicrhau
bod rhai o’r llwybrau yn aros ar agor ar gyfer defnydd. Cyfeiriwyd at raglen waith y Tim Llwybrau gan egluro bod eu prif
weithgareddau yn cynnwys: · Torri tyfiant tymhorol · Adnewyddu seilwaith
(pontydd, waliau, gatiau, camfeydd, cylfats) · Gosod seilwaith newydd · Gweithredu cynllun
arwyddo · Ymateb i ymholiadau,
cwynion a cheisiadau rhyddid gwybodaeth · Ymdrin a holl faterion
cyfreithiol y maes: o
Cynnal y map/cofnod swyddogol o ran tramwy cyhoeddus
yn y Sir o
Ymdrin â cheisiadau am hawliadau, newidiadau a
gwyriadau i’r rhwydwaith a’r map swyddogol sydd yn ddarostyngedig i brosesau
cyfreithiol. Cadarnhawyd bod gwaith yn mynd rhagddo er mwyn sicrhau bod y llwybrau hyn
mor hygyrch a phosib, gan gyfnewid camfeydd am giatiau ble’n bosib fel bod modd
i fwy o ddefnyddwyr ddilyn y llwybrau. Ychwanegwyd bod effeithiau newid hinsawdd a thywydd cythryblus yn gallu
gorfodi swyddogion i newid trywydd llwybrau, os nad oes modd ei ddefnyddio
mwyach megis os oes tirlithriadau wedi bod ger unrhyw lwybr. Nodwyd bod costau
ychwanegol er mwyn gwneud hyn sydd yn cael effaith ar gyllidebau’r gwasanaeth. Nodwyd bod gwaith ar droed i addasu polisi hawliau tramwy a’r Cynllun
Gwella Hawliau Tramwy gan gadarnhau bydd y gwasanaeth yn cynnal ymgynghoriad ar
y mater. Gobeithiwyd bydd trawstoriad o wahanol gymunedau o wahanol ardaloedd
o’r Sir yn cyfrannu sylwadau ac adborth o fewn yr ymgynghoriad hwnnw. Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau
a ganlyn gan yr Aelodau:- Tynnwyd sylw ni ellir defnyddio nifer o lwybrau o fewn y sir oherwydd gordyfiant. Mewn ymateb, eglurodd Arweinydd y Tîm Llwybrau bod diffyg adnoddau wedi gorfodi’r Tîm i gategoreiddio llwybrau yn unol â’r defnydd ohonynt gan nodi nad oes cyllidebau nac adnoddau ar gael i gynnal a chadw pob un llwybr o fewn y Sir. Ymhelaethwyd bod y Tîm yn ddibynnol ar adborth gan Gynghorau Cymuned ac Aelodau Lleol i nodi pa lwybrau sydd yn cael y mwyaf o ddefnydd o fewn eu hardaloedd, a chynnal trafodaethau gyda’r Tîm. Mewn ymateb i ymholiad pellach, eglurwyd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |