Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679556
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
ETHOL CADEIRYDD I ethol
Cadeirydd ar gyfer 2026-2027. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd Elfed Powell Roberts yn Gadeirydd y
Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn 2026/27. Cofnod: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Elfed Powell Roberts yn
Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn 2026/27. |
|
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol
Is-gadeirydd ar gyfer 2026-2027. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd Beca Roberts yn Is-gadeirydd y Pwyllgor
ar gyfer y flwyddyn 2026/27. Cofnod: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Beca Roberts yn Is-gadeirydd y
Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn 2026/27. |
|
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorwyr Linda Morgan ac
Annwen Hughes. |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
|
The
Chairman shall propose that the minutes of the meeting of this Committee, held
on 19 March 2026 be signed as a true record.
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 19
Mawrth 2026, fel rhai cywir. |
|
|
CYFARWYDDYD ERTHYGL 4 I ystyried
yr adroddiad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1.
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a
gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth. 2.
Argymell i’r Aelod Cabinet Amgylchedd bod angen
rhoi ystyriaeth fanwl o ran ‘newid defnydd materol’ a’r angen i dderbyn cyngor
cyfreithiol allanol wrth ystyried y camau nesaf. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Amgylchedd, Pennaeth Adran
Amgylchedd, Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Phennaeth Cynorthwyol
Amgylchedd. Eglurodd y Pennaeth Cynorthwyol, bod pryderon am y nifer uchel o ail
gartrefi a llety gwyliau tymor byr a oedd yn bodoli yng Ngwynedd, a bod Cabinet
Cyngor Gwynedd wedi cyflwyno adroddiad yn manylu ar waith ymchwil yn y maes yma
, i Lywodraeth Cymru yn 2020. Ymhelaethwyd bod yr adroddiad hwnnw yn gofyn am
fesurau i fynd i’r afael â’r pryderon hynny, megis newidiadau i’r gyfundrefn
cynllunio er mwyn rheoli ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr. Adroddwyd bod Llywodraeth Cymru, mewn ymateb, wedi cyflwyno newidiadau i’r gyfundrefn
gynllunio yn 2022 a oedd yn creu tri dosbarth defnydd cynllunio newydd. Nodwyd
bod y rhain yn diffinio ‘prif gartref’, ‘ail gartref’ a ‘llety gwyliau tymor
byr’. Ychwanegwyd eu bod hyn yn rhoi hawliau i newid o un dosbarth defnydd i’r
llall heb yr angen am ganiatâd cynllunio. Fodd bynnag, eglurwyd bod modd i
awdurdodau lleol fynd drwy broses i gyflwyno cyfarwyddyd Erthygl 4 ar gyfer
ardaloedd ble mae tystiolaeth bod nifer uchel o ail gartrefi a llety gwyliau
tymor byr yn effeithio’r ardal yn negyddol. Cadarnhawyd bod cyfarwyddyd Erthygl
4 yn declyn cynllunio sydd wedi cael ei
ddefnyddio ers nifer o flynyddoedd i reoli mathau gwahanol o ddatblygiadau
megis addasiadau i adeiladau mewn ardaloedd cadwraeth neu i reoli defnydd o dai
amlfeddiannaeth yn Lloegr. Pwysleisiwyd nad oedd cyfarwyddyd Erthygl 4 wedi cael ei ddefnyddio i
geisio rheoli ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr. Cadarnhawyd mai Cyngor Gwynedd oedd yr awdurdod lleol cyntaf i ymgymryd
â’r broses o gyflwyno cyfarwyddyd Erthygl 4 er mwyn ceisio rheolaeth well o ail
gartrefi a llety gwyliau tymor byr. Pwysleisiwyd fod y Cyngor yn ymwybodol o’r
risgiau a oedd yn gysylltiedig â’r broses o gyflwyno’r cyfarwyddyd, gan
sicrhau bod hyn yn cael ei cofnodi ar
gofrestr risg yr Adran. Adroddwyd bod mesurau mewn lle i reoli’r risgiau cyn
belled ag oedd yn rhesymol bosib, drwy gydol y broses. Atgoffodd Pennaeth y Gwasanaethau
Cyfreithiol fod y penderfyniad wedi cael ei wneud ym mis Mehefin 2023, i
gyflawni’r broses o sefydlu cyfarwyddyd Erthygl 4 dros gyfnod o ddwy flynedd.
Esboniwyd bod y penderfyniad hwn wedi cael ei wneud er mwyn sicrhau ei fod yn
cael ei hysbysebu am dros 12 mis er mwyn osgoi heriau iawndal. Adroddwyd bod y
cyfarwyddyd wedi dod i rym yn 2024. Manylwyd bod yr her gyfreithiol a gyflwynwyd yn ymwneud yn bennaf â’r
ymgynghoriad cyhoeddus a gyflawnwyd, nid ar gyfer y broses o gyflwyno’r
cyfarwyddyd. Eglurwyd bod yr her gyfreithiol lwyddiannus yn nodi bod adroddiad wedi gwneud camargraff ar y Cabinet wrth iddynt benderfynu ar y mater, oherwydd newid materol oedd yn yr adroddiad. Ychwanegwyd bod peidio cynnwys y newid materol hwn o fewn y ddogfennaeth, yn ei wneud yn anghyflawn ac yn ymddangos yn gamarweiniol. Tynnwyd sylw bod newid materol yn elfen sylfaenol i’r maes cynllunio ac felly ni fyddai’r adroddiad yn gamarweiniol os yw’r gynulleidfa briodol yn deall y maes gwaith. Nodwyd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET AMGYLCHEDD Adroddiad i’r
Pwyllgor Craffu ar berfformiad yr Adran Amgylchedd. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn
ystod y drafodaeth. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Amgylchedd, Pennaeth Adran
Amgylchedd a Phenaethiaid Cynorthwyol yr Adran. Atgoffwyd bod yr Adran yn arwain ar nifer o brosiectau Cynllun y Cyngor
2023-28 sef; ·
Gwynedd Glyd o
Rheolaeth ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr ·
Gwynedd Werdd o
Cynllun Datblygu Lleol newydd o
Gwastraff ac Ailgylchu o
Teithio Llesol o
Trafnidiaeth Gyhoeddus Cyfeiriwyd at nifer o brosiectau’r Adran yn ogystal â mesuryddion
perfformiad, gan groesawu sylwadau a chwestiynau gan yr Aelodau. Yn
ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan yr Aelodau:- Gwasanaeth
Cynllunio Cydnabuwyd bod straen wedi bod ar
swyddogion y gwasanaeth cynllunio yn ddiweddar, gan ddiolch iddynt am eu gwaith
ac ymfalchïo fod y gwasanaeth yn manteisio ar gyfleon Cynllun Yfory y Cyngor.
Mewn ymateb i’r sylwadau, cadarnhaodd yr Adran, eu bod wedi cymryd mantais o
Gynllun Yfory'r Cyngor er mwyn penodi aelodau staff
a’u hyfforddi i fod yn gymwys. Nodwyd bod posibilrwydd bydd Hyfforddai Polisi
Cynllunio yn cael ei gynnig yn fuan. Cadarnhawyd bod y gwasanaeth yn cynllunio
gweithlu yn effeithiol ac er yn cydnabod trosiant staff, mae swyddogion newydd
yn cael eu penodi er mwyn cyflawni’r gwaith. Pryderwyd bod y Cyngor mewn risg
o golli arbenigedd ymysg swyddogion cynllunio. Mewn ymateb i’r sylwadau,
cydnabuwyd bod peth arbenigedd yn cael ei golli wrth i swyddogion adael eu
rolau, ond sicrhawyd bod defnydd o
Gynllun Yfory a chynllunio gweithlu effeithiol yn sicrhad nad oes risg
sylweddol o golli arbenigedd. Gorfodaeth
Cynllunio Mewn ymateb i ymholiad ar
gyfraddau Gorfodaeth Cynllunio, eglurodd y Pennaeth Cynorthwyol bod swyddogion
yn ymateb i gwynion ar faterion gorfodaeth pan yn briodol. Eglurwyd bod
sefyllfaoedd yn codi ble mae unigolion yn anhapus gyda barn swyddogion ac mae
trefniadau statudol yn cael eu cymryd er mwyn sicrhau eu bod yn gallu apelio os
dymunir. Tynnwyd sylw ei fod yn heriol i leihau nifer o alwadau gorfodaeth sydd
yn cael eu derbyn oherwydd materion staffio, ond hyderwyd bod modd ymdrin â’r
mater hwn wrth i niferoedd o aelodau staff cymwys gynyddu. Cynllun
Datblygu Lleol Newydd Mewn ymateb i ymholiad,
cadarnhaodd Pennaeth Cynorthwyol yr Adran bod yr amserlen i gyflwyno Cynllun
Datblygu Lleol Newydd ar amser, ond mai’r flaenoriaeth ar hyn o bryd yw cefnogi
staff. Teithio
Llesol Mewn
ymateb i gais am ddata o ddefnydd a chynlluniau teithio llesol mewn ardaloedd
gwledig o’r Sir, cadarnhaodd Pennaeth yr Adran bod modd rhannu’r wybodaeth
honno y tu hwnt i’r cyfarfod hwn. Gwastraff
ac Ailgylchu Ystyriwyd os oes cynlluniau ar waith er mwyn casglu plastigion meddal er mwyn cynyddu canran o wastraff a ailgylchir yng Ngwynedd. Mewn ymateb i’r ymholiad, cadarnhaodd Pennaeth Cynorthwyol yr Adran bod trefniadau ar waith er mwyn casglu plastigion meddal fel rhan o gylchdeithiau, o fis Ebrill 2027 ymlaen. Ymhelaethwyd bod y Cyngor yn cydweithio gyda Chyngor Bro Morgannwg ar hyn o bryd, er mwyn chwilio am arfer dda, gan eu bod eisoes wedi rhoi’r gwasanaeth hwn ar waith. Nodwyd bod ymgorffori casgliadau o’r math hwn yn gallu arwain at gost sylweddol oherwydd yr angen i gynnwys cynlluniau newydd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET PRIFFYRDD, PEIRIANNEG AC YGC Cyfle i
Aelodau drafod a chraffu mesurau a blaenoriaethau gwella’r Adran. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn
ystod y drafodaeth. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Priffyrdd, Peirianneg a YGC,
ynghyd â Phennaeth a Phennaeth Cynorthwyol yr Adran Priffyrdd, Peirianneg a
YGC. Atgoffwyd bod yr Adran yn weladwy iawn o fewn y Sir gan ei fod yn
cyflawni gwasanaethau rheng flaen. Ymfalchïwyd bod Ymgynghoriaeth Gwynedd (YGC)
yn gweithredu’n effeithiol iawn ac yn dod ag incwm i’r Cyngor tra hefyd yn
cynorthwyo adrannau eraill i ddatblygu cynlluniau. Adroddwyd bod yr Adran yn arwain ar nifer o brosiectau Cynllun y Cyngor
2023-28 sef; ·
Gwynedd Yfory o
Ymestyn cyfleoedd chwarae a chymdeithasu ar gyfer
plant a phobl ifanc y Sir ·
Gwynedd Werdd o
Gweithredu ar risgiau llifogydd o
Cymunedau Glân a Thaclus Tynnwyd sylw at dargedau arbedion ariannol yr Adran gan nodi bod nifer
o’r targedau wedi eu cyfarch ond bod mwy o waith i’w wneud. Hyderwyd y bydd y
targedau hynny yn cael eu cyfarch o fewn y flwyddyn ariannol bresennol. Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau
a ganlyn gan yr Aelodau:- Gwasanaeth Cynnal
Priffyrdd – Cyflwr Ffyrdd Mynegwyd tristwch am ddigwyddiad angheuol a
fu’n ardal Bermo yn ddiweddar. Mewn ymateb i’r
sylwadau, cydnabuwyd bod gwersi angen eu dysgu o’r digwyddiad hwnnw, ble nad
oedd modd i wasanaethau brys gyrraedd yr ardal mewn pryd, gyda materion traffig
a chynnal priffyrdd wedi ychwanegu at yr her. Cadarnhawyd bod adolygiad i mewn
i’r digwyddiad a threfniadau eisoes wedi cael eu cynnal a bod cyfarfod arall yn
cael ei gynnal yn fuan, ble fydd modd i Aelodau etholedig lleol mewnbynnu i’r
drafodaeth. Mewn ymateb i ymholiad, cydnabuwyd bod
niferoedd ffyrdd dosbarth A, B ac C sydd yn adrodd yn goch (cyffredinol wael ac
yn debygol o angen gwaith cynnal arfaethedig yn fuan) ar gynnydd. Fodd bynnag,
pwysleisiodd Pennaeth yr Adran nad oedd yn sefyllfa bryderus ar hyn o bryd, gan
gadarnhau bod cyfraddau safon ffyrdd yng Ngwynedd ymysg yr uchaf yng Nghymru.
Amlygwyd yr ystyrir bod cadw cyflwr ffyrdd sydd yn adrodd yn goch o dan 8% yn
dderbyniol, gan adrodd bod 4.2% o ffyrdd dosbarth A, 5.2% o ffyrdd dosbarth B
ac 13.2% o ffyrdd dosbarth C yn adrodd mewn cyflwr drwg ar hyn o bryd.
Cydnabuwyd bod gwaith i’w wneud er mwyn lleihau’r cyfraddau hyn ar gyfer ffyrdd
dosbarth C, gan egluro eu bod yn ffyrdd gwledig fel rheol, gan amlygu bod
canran uchel o’r ffyrdd yng Ngwynedd yn disgyn i mewn i’r dosbarth hwn. Eglurwyd y defnyddir sganwyr pwrpasol i
adolygu’r ffyrdd pob blwyddyn, neu bob dwy flynedd os yw’r ffyrdd yn safonol.
Adroddwyd bod yr Adran wedi derbyn buddsoddiad o £2.8miliwn gan LGBI (Local Government Borrowing Initiative)
i ddatblygu’r trefniant hwn ac mae’n arf grêt i’r Adran wrth geisio rhaglenni
gwaith yn effeithiol gan fod modd blaenoriaethu’r ffyrdd sydd angen y gwaith
fwyaf. Diolchwyd i’r swyddogion am eu gwaith gan
nodi nifer o sylwadau o gyflwr ffyrdd boddhaol yng Ngwynedd. Gwasanaeth Fflyd Cyfeiriodd aelodau at darged afrealistig Llywodraeth Cymru o sicrhau bod 100% o gerbydau’r fflyd yn gerbydau gwyrdd erbyn 2030. Mewn ymateb i’r sylwadau, cadarnhaodd Pennaeth yr Adran bod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |