Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679556

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Dafydd Davies.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 190 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 11 Mehefin 2026 fel rhai cywir. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 11 Mehefin 2026 fel rhai cywir.

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN ARGYFWNG HINSAWDD A NATUR 2025/26 pdf eicon PDF 153 KB

I graffu Adroddiad Blynyddol Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur 2025/26.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.     Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

2.     Croesawyd y bwriad i drafod gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru o ran methodoleg  cyfrifo allyriadau carbon yn y maes Caffael, ynghyd a dilyniant i’r cynllun EC04 sydd yn dirwyn i ben.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd gan nodi ei fod yn adrodd ar waith a wnaethpwyd yn 2025/26 ac o dan y cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur gwreiddiol, sydd bellach wedi ei ddiweddaru a’i fabwysiadu gan y Cabinet yn haf 2026.

 

Mynegwyd fod y Cyngor yn adrodd ar allyriadau Carbon i Lywodraeth Cymru ers pedair blynedd bellach. Esboniwyd fod hyn yn rhoi sail gadarn i weld os yw’r cynnydd yn mynd i’r cyfeiriad cywir. Nodwyd yn ogystal fod ffigyrau yn cael ei gyflwyno gan gynnwys mesuriadau caffael a hebddynt, gan nad yw’r fethodoleg yn hollol gywir gyda chaffael am ei fod yn seiliedig ar wariant. Eglurwyd o edrych ar y ddau ddarlun ei fod yn dangos eu bod ar y  trywydd cywir. Manylwyd fod allyriadau carbon yn gostwng a bod lefelau amsugno carbon yn aros yn gyfartal oherwydd eu bod wedi defnyddio ystadegau 2024/25, ond fod y bwlch yn cau. Ychwanegwyd fod esboniadau dros hyn yn yr adroddiad, ond eu bod yn cynnwys buddsoddiad gwaith ar leihau allyriadau o ddefnydd ynni adeiladau, gosod pwyntiau gwefru fflyd a bod y strategaeth wastraff bellach yn weithredol. Pwysleisiwyd fod y darlun yn eang a chymhleth ond eu bod ar y trywydd cywir.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- 

 

Diolchwyd am yr adroddiad a thynnwyd sylw at gyfrifo allyriadau carbon o’r drefn caffael, gan nodi os yw’n cael ei fesur ar wariant yn unig sut mae modd cyrraedd sero net. Gyda chynnydd mewn costau ni fydd modd ei gyrraedd gan ei fod yn darged sydd yn symud yn gyson. Ychwanegwyd gyda chynnydd mewn costau tanwydd mae’r allyriadau am godi drwy’r mesurydd hwn. Nodwyd ei fod yn wallgof cyfri ôl troed carbon drwy gaffael gan nad oes modd i neb gyrraedd sero net. Pwysleisiodd ei fod yn ymwybodol mae mesurydd Llywodraeth Cymru yw hwn ond nad yw’n adlewyrchu’r sefyllfa a bod gwir angen ei gwestiynu. Ymatebwyd gan nodi eu bod yn cytuno yn llwyr gyda’r sylwadau ond fod y Cyngor wedi gwneud un cam positif wrth edrych ar brosesau caffael. Esboniwyd fod llawer o amser wedi ei dreulio i gefnogi cyflenwyr ac i’w cynorthwyo i ddatblygu cynlluniau rheoli carbon eu hunain. Drwy wneud hyn, eglurwyd ei fod wedi arwain at leihau lefelau carbon o fewn y cwmnïau a'u galluogi i roi data carbon cywir sydd yn cael ei fwydo yn ôl i Lywodraeth Cymru. Ymhelaethwyd drwy nodi fod canran uwch o’r data yn gywir o ganlyniad i’r gefnogaeth sydd wedi’i gynnig, ond os am weld y math yma o brosiect ar draws Cymru mae am fod angen llawer mwy  o adnoddau. Ychwanegwyd fod yr Aelod Cabinet wedi holi’r Llywodraeth newydd am drafodaeth bellach am y mesur hwn.

 

Tynnwyd sylw at y siart Amsugno Carbon o asedau tir y Cyngor gan holi pam fod gostyngiad mawr wedi bod yn ddwy flynedd gyntaf y cynllun ac yna cynnydd graddol i’w gweld yn dilyn hynny, gyda niferoedd 2025/26 yn uwch na beth oeddent yn 2021/22. Ymatebwyd drwy nodi fod y fethodoleg a  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYNNAL PRIFFYRDD - GOSOD MARCIAU FFORDD pdf eicon PDF 161 KB

I adolygu trefniadau presennol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth. 
  1. Datgan cefnogaeth i ddatblygu cynllun busnes ar gyfer buddsoddi i alluogi’r gwasanaeth i ymgymryd â chanran uchel o waith marcio ffyrdd yn fewnol. 
  1. Argymell i’r Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC y dylid datblygu mesurydd perfformiad o ran blaenoriaethu gosod marciau ffyrdd a diogelwch pob defnyddiwr ffordd, gan gynnwys cerddwyr a beicwyr. 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adran ar hyn o bryd yn edrych ar gamau i wella’r gwasanaeth. Nodwyd y trefniadau presennol sef fod contractwr allanol yn gwneud y gwaith o farcio ffyrdd, oni bai am un cyfarpar marciau ffyrdd a llaw yn ne'r Sir. Pwysleisiwyd mai dim ond dau gontractwr sydd yn gweithio ar draws y Gogledd, ac felly fod yr amser aros i wneud y gwaith yn gallu bod yn hir. Tynnwyd sylw at y camau i wella’r gwasanaeth sydd i’w weld yn yr adroddiad. Nodwyd mai cam dau yw buddsoddi mewn cyfarpar marciau ffyrdd a llaw ychwanegol, ynghyd a hyfforddi staff i’w ddefnyddio, ar gyfer ei weithredu yng Ngogledd y sir.

 

Eglurwyd fod cam 3 ar gyfer datblygu cynllun busnes i fuddsoddi mewn cerbyd pwrpasol gosod marciau ffordd, gan gyflwyno bid buddsoddi i arbed. Ychwanegwyd y buasai hyn yn sicrhau fod gwaith yn cael ei gwneud yn gynt ac y buasai cyfle i gynnig gwaith i siroedd cyfagos a chodi incwm. Ychwanegwyd y buasai ei weithredu yn fewnol yn ei gwneud yn llawer haws i reoli’r sefyllfa.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-

 

Nodwyd fod y ffaith mai dim ond dau gontractwr sydd ar gael i wneud y gwaith, yn amlygu’r angen i gefnogi’r achos yma. Er hynny, mynegwyd y buasai yn ddefnyddiol gweld yr achos ariannol dros hynny yn ogystal, efallai wrth gyflwyno i’r Cabinet i weld y darlun dros y 5-10 mlynedd o ran cost staffio, cynnal a chadw ynghyd a’r incwm ychwanegol. Ymatebwyd drwy nodi fod cael y ffigyrau yn hanfodol i gyflwyno’r bid, ond heb gyrraedd y pwynt hwn eto. Mynegwyd o ran costau y buasai cost o oddeutu £200k o ran buddsoddiad i brynu’r peiriant. Eglurwyd fod sgyrsiau cychwynnol wedi cychwyn gyda’r Asiantaeth Cefnffyrdd, sydd wedi nodi cefnogaeth a gwaith os yn mynd lawr y trywydd buddsoddi. Ymhelaethwyd bod trafodaeth gychwynnol wedi bod â siroedd cyfagos. Mynegwyd fod yr elfen ariannol yn allweddol ond fod enw da’r Cyngor yn ogystal, hynny yw ymateb yn amserol a chyflym. Nodwyd fod buddsoddiad wedi ei wneud ar gyfer cam 2, a’i fod yn gam i’r cyfeiriad cywir.

 

Holwyd sut mae modd diffinio llwyddiant y gwasanaeth, oherwydd mae marciau ffyrdd yn bwysig o ran traffig a diogelwch ond mae’n angenrheidiol ar gyfer cerddwyr a beicwyr yn ogystal. Gofynnwyd sut mae’r drefn yn ystyried gwahanol ddefnyddwyr wrth flaenoriaethu marciau ffordd, a sut mae mesurau perfformiad yn ein galluogi i weld faint o waith, ynghyd a ble mae gwaith yn digwydd, a pha anghenion sydd yn cael eu diwallu. Ymatebwyd drwy nodi fod blaenoriaethu yn dod lawr i asesiad risg a bod diogelwch ffyrdd yn rhan o waith yr arolygwr ffordd, gan ystyried y ffordd i gyd gan gynnwys y marciau ffordd. Eglurwyd fod mesurau yn dod i mewn i’r drefn herio perfformiad ac y bydd enghreifftiau yn cael ei ystyried wrth adrodd.

 

Tynnwyd sylw at farciau ffordd yn dilyn ail wynebu, esboniwyd fod weithiau cyfnod o 6 wythnos neu fwy cyn maent yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

CAU FFYRDD MEWN ARGYFWNG pdf eicon PDF 239 KB

I sicrhau bod trefniadau priodol ar waith ar gyfer rheoli a chydlynu cau ffyrdd mewn amgylchiadau brys ac argyfwng.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth. 
  1. Gofyn i’r Adran Amgylchedd rannu data gan gynnwys y nifer o achosion  o gau ffyrdd o dan amgylchiadau brys neu mewn argyfwng, y dyraniad ar draws ardaloedd, a gwaith sydd yn cymryd mwy o amser na’r disgwyl. 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod cau ffyrdd mewn argyfwng yn un rhan o waith yr uned Gwaith Stryd ar ffyrdd sirol. Mynegwyd eu bod yn gyfrifol yn unol â’r ddeddfwriaeth i alluogi ymgymerwyr statudol i wneud gwaith ar y ffyrdd. Ychwanegwyd fod prosesau gwahanol i’w dilyn pan mae gwaith argyfwng yn codi o’i gymharu â gwaith wedi’i gynllunio. Nodwyd pan fo argyfwng nad oes modd ymgysylltu gan nad oes modd rhagweld ymhle a pryd gall godi ar draws rhwydwaith sir mor eang. Eglurwyd mai gwaith cyd-lynu sydd gan yr uned yn y maes, ond eu bod a’r bwriad o liniaru cymaint â bo modd yr effaith ar gymunedau ond fod angen cadw mewn cof yr angen i waith brys neu argyfwng gael ei wneud gan ymgymerwyr statudol. Mynegwyd mewn oes o gyfathrebu ei bod yn hawdd cael gwybodaeth allan pan mae argyfwng yn codi sydd yn gallu bod o gymorth ond ei bod yn gallu gweithio yn eu herbyn pan fod nifer uchel o wybodaeth yn cael ei rannu neu os yw’r cyfnod amser yn fyr sydd yn gallu creu dryswch sydd yn anodd ei dynnu yn ôl.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- 

 

Tynnwyd sylw at faterion penodol mewn ardal gyda chau ffyrdd gan nodi diffyg cyfathrebu rhwng y Chyngor a’r rhai sydd yn gwneud y gwaith. Eglurwyd fod llawer o achlysuron ble mae’r Cynghorydd wedi cysylltu â’r Cyngor i nodi fod y lon wedi cau gan nad oedd y Cyngor yn ymwybodol o’r gwaith, yn benodol gan Dŵr Cymru. Holwyd os oes modd cael gwell cydweithrediad gyda’r cwmnïau cau ffyrdd. Eglurwyd fod Dŵr Cymru wedi comisiynu cwmni o Sir Gaer i gau ffyrdd, ond nad oedd y gwaith wedi digwydd ac o ganlyniad fod y trigolion wedi ail agor y ffordd eu hunain o ganlyniad. Ychwanegwyd fod y lon wedi cau yn dilyn hyn ond nad oedd neb yn ymwybodol ac felly fod hynny wedi arwain at broblemau trafnidiaeth gyhoeddus.

 

Ymatebwyd drwy nodi eu bod yn cydymdeimlo yn llwyr ac yn deall y rhwystredigaeth a'u bod yn ymgeisio i gael perthynas iach gyda’r ymgymerwyr statudol a bod disgwyliadau iddynt rannu gwybodaeth. Er nad oedd ganddo fanylder am yr achos dan sylw, mynegwyd fod achosion yn gallu newid yn dilyn ymchwiliad a gweld hyd a lled y gwaith. Mynegwyd nad yw’r system yn berffaith ond eu bod yn awyddus i gydweithio i’w wella. Pwysleisiwyd ei fod yn hanfodol derbyn enghreifftiau, a'u bod yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda’r ymgymerwyr er mwyn gweld gwelliant. Nodwyd fod anawsterau wedi bod gan Dŵr Cymru yn dilyn penodi cwmni rheoli traffig newydd ond fod gwelliant wedi ei weld bellach. Ychwanegwyd eu bod yn dirwyo os yn cau ffordd heb rybudd.

 

Holwyd o ran trefniadau traffig, gofynnwyd pwy oedd yn anfon y mapiau ar gyfer dargyfeirio traffig. Mynegwyd fod y rhain yn ddefnyddiol iawn er mwyn ei rhannu a thrigolion. Tynnwyd sylw at enghraifft o ddargyfeiriad yn dilyn cau ffordd gan Dwr Cymru a aeth yn llawer pellach  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

BLAENRAGLEN PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU 2026/27 pdf eicon PDF 259 KB

Cyflwyno rhaglen waith ddrafft y Pwyllgor ar gyfer 2026/27 i’w mabwysiadu.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadu’r rhaglen waith ar gyfer 2026/27. 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Ymgynghorydd Craffu.

 

Esboniwyd fod gweithdy blynyddol y Pwyllgor wedi’i gynnal ar 19 Mai, ble ystyriwyd yr eitemau posib i’w craffu yn ystod 2026/27. Blaenoriaethwyd eitemau yn y gweithdy gan gadw pwrpas craffu yng Ngwynedd mewn cof, sef “Cyfrannu at yrru gwelliant mewn gwasanaethau i Bobl Gwynedd”.

 

Eglurwyd yn dilyn y gweithdy, codwyd rhai materion a phenderfynwyd rhoi ystyriaeth iddynt. Penderfynwyd symud rhai eitemau ar y rhaglen waith ddrafft ac i nodi “Gwasanaeth Profedigaeth” fel eitem wrth gefn. Pwysleisiwyd fod y blaen raglen yn rhaglen fyw sydd yn cael ei adolygu yn gyson i sicrhau fod y materion cywir yn cael sylw.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- 

 

Awgrymwyd y dylid derbyn adroddiad yn ôl ar y peilot defnyddio bagiau hesian i ailgylchu mewn rhai ardaloedd. Esboniwyd y bydd y diweddariad yma i’w gweld a’i godi wrth drafod adroddiad Herio Perfformiad yr Adran Amgylchedd.

 

Mynegwyd fod llystyfiant ochor ffordd yn broblem gyson o ran lonydd gwledig. Nodwyd ei fod yn fater i’w drafod wrth graffu perfformiad ac o bosib i gadw mewn cof ar gyfer ei graffu yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD

 

Mabwysiadu’r rhaglen waith ar gyfer   2026/27.

 

 

9.

CYFARFODYDD HERIO PERFFORMIAD pdf eicon PDF 87 KB

I enwebu cynrychiolwyr I fynychu cyfarfodydd herio perfformiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Enwebu’r aelodau canlynol i gynrychioli’r pwyllgor yng nghyfarfodydd herio perfformiad yr Adran Amgylchedd: 

 

  • Y Cynghorwyr Stephen Churchman ac Arwyn Herald Roberts (gyda’r Cynghorydd Beca Roberts wrth gefn) 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Ymgynghorydd Craffu.

 

Mynegwyd yn dilyn trafodaeth yn y Fforwm Craffu a galwad gan aelodau’r pwyllgor craffu mae bwriad i dreialu gwadd dau gynrychiolydd o bob pwyllgor craffu i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad mewnol un adran. Eglurwyd fod y Fforwm Craffu wedi argymell i gynrychiolydd o’r pwyllgor hwn fynychu cyfarfod herio perfformiad yr Adran Amgylchedd. Gofynnwyd i’r rhai sydd yn cael ei henwebu i fynychu, gadw mewn cof fod ffurflen i’w llenwi yn dilyn y cyfarfod er mwyn gallu adrodd yn ôl i’r pwyllgor.

 

Cynigwyd ac eiliwyd, y Cynghorydd Stephen Churchman ac Arwyn Herald Roberts i gynrychioli’r Pwyllgor, gyda Chynghorydd Beca Roberts wrth gefn pe bai angen yn codi. 

 

PENDERFYNWYD

Enwebu’r aelodau canlynol i gynrychioli’r pwyllgor yng nghyfarfodydd herio perfformiad yr Adran Amgylchedd:

·        Y Cynghorwyr Stephen Churchman ac Arwyn Herald Roberts (gyda’r Cynghorydd Beca Roberts wrth gefn)