Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Dim i’w nodi |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w nodi |
|
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w nodi |
|
|
Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 3ydd o
Dachwedd 2025 fel rhai cywir. |
|
|
COFNODION PWYLLGOR PENSIYNAU Cyflwyno, er gwybodaeth, gofnodion y Pwyllgor Pensiynau a
gynhaliwyd 24ain o Dachwedd 2025 Cofnod: Cyflwynwyd
er gwybodaeth gofnodion Pwyllgor Pensiynau a gynhaliwyd 24ain o Dachwedd 2025. |
|
|
DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU I ystyried a nodi’r wybodaeth. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Amlygodd y Rheolwr Buddsoddi mai adroddiad ydoedd er
gwybodaeth yn nodi’r hyn a drafodwyd yn ddiweddar mewn Cyfarfod Ymgysylltu
Cadeiryddion Bwrdd Pensiwn - diweddariad ar waith Partneriaeth Pensiwn Cymru
sydd bellach yn chwarae rhan flaenllaw o’r Gronfa. Nodwyd bod Cadeiryddion y
Byrddau Pensiwn yn cyfarfod pob 6 mis gyda thrafodaethau mis Hydref yn cynnwys
diweddariad ar adolygu’r Cynllun Busnes, materion buddsoddi cyfrifol a’r
gofrestr risg. Cyfeiriwyd at fanylder gwaith y gweithredwr
dros y cyfnod ac at amodau’r farchnad oedd wedi cael eu monitro ganddynt.
Tynnwyd sylw at berfformiad y cronfeydd gan amlygu bod perfformiad wedi bod yn
gryf gydag ecwiti byd-eang a marchnadoedd incwm sefydlog yn codi yn y cyfnod. Amlygwyd bod Prosiect yr Wyddfa yn
datblygu’n gyflym er mwyn sefydlu’r cwmni buddsoddi (PPC IM Co) gyda chais
Cofrestr Gwasanaethau Ariannol (Financial Conduct Authority - FCA), wedi’i
gyflwyno a recriwtio ac ymgysylltu rheolaidd yn digwydd. Ategwyd bod swyddogion
ac aelodau’r CBLl wedi bod yn trafod sefydlu cytundebau rhwng y cwmni buddsoddi
â’r wyth Awdurdod Cyfansoddol fel cleientiaid a
chyfranddalwyr. Nodwyd y bydd cyfarfod yn cael ei drefnu i rannu
gwybodaeth benodol ar y datblygiadau a’r cytundebau perthnasol gyda’r Pwyllgor
a’r Bwrdd Pensiwn cyn i’r Pwyllgor Pensiynau eu cymeradwyo’n ffurfiol. Diolchwyd am yr adroddiad Mewn ymateb i sylw bod
Cronfa Clwyd wedi pwlio 32%, Powys 63% ac Abertawe 66% ac a’i natur dechnegol y
cronfeydd ynteu faterion gwleidyddol oedd y rhesymau dros fod yn araf yn
trosglwyddo i PPC, nodwyd bod y risg wedi
ei adnabod; y Cynghorau hyn gyda mwy o
fuddsoddiadau mewn marchnadoedd preifat a bod mesurau wedi eu rhoi mewn lle i
ymateb i’r sefyllfa gyda Swyddog Delio ag Asedau wedi ei benodi i arwain y
gwaith. Mewn ymateb i sylw bod PPC
yn parhau i gyfeirio at y prosiect fel Prosiect Snowdon Project ac nid Prosiect
yr Wyddfa / Yr Wyddfa Project, nodwyd bod y sylw wedi cael ei gyflwyno i PPC,
ac ar bob cyfle posib wedi hynny, y swyddogion wedi ceisio cyfleu’r enw cywir -
angen parhau i bwyso ar PPC i gyfeirio at Prosiect Snowdon fel Prosiect yr
Wyddfa. Gofynnodd Mr Eifion Jones
(oedd wedi arsylwi cyfarfod o’r Pwyllgor Pensiynau bore 09-02-26,) am fwy o
wybodaeth ynglŷn â’r rhybuddion o gynnig roedd PPC wedi eu derbyn gan
Gynghorau unigol. Mewn ymateb, cadarnhawyd
bod PPC wedi derbyn nifer o rybuddion o gynnig gan Gynghorau Lleol yng Nghymru,
gan gynnwys Cyngor Gwynedd (Cyngor Llawn, Hydref 2025) ar faterion buddsoddi
cyfrifol, moesegol a chynaliadwy. Nodwyd bod y cynigion wedi derbyn ystyriaeth,
ac yng ngoleuni'r gwaith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd mewn perthynas â
pholisi gwaharddiadau PPC, cytunwyd y byddai ymateb yn cael ei baratoi i bob un
o'r wyth Awdurdod Cyfansoddol ei gyhoeddi, ynghyd a rhannu polisi diwygiedig
pan fydd wedi ei gymeradwyo gan y CBLl ym mis Mawrth 2026. Sylwadau
yn codi o’r drafodaeth ddilynol ·
Er croesawu polisi gwaharddiadau,
bydd rhaid sicrhau bod y buddsoddiadau yn dod a dychweliadau da i aelodau’r
Gronfa · Bod angen gallu gwahardd rhai elfennau buddsoddi lefel ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
|
PERFFORMIAD BUDDSODDI'R GRONFA BENSIWN HYD AT 30 MEDI 2025 I ystyried
yr adroddiad a nodi’r wybodaeth Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn adrodd ar berfformiad y Gronfa dros y
chwarter dan sylw. Nodwyd bod y Gronfa wedi dychwelyd 5.6% dros y chwarter, gan
berfformio yn well na’r meincnod gyda chyfanswm yr asedau yn cynyddu o
£186miliwn i ddod a gwerth y gronfa i dros £3.5 biliwn am y tro cyntaf; bu i’r
asedau twf, incwm a diogelu perfformio yn dda dros y chwarter. Ategwyd, bod y Gronfa, dros y flwyddyn wedi dychwelyd 10.7%, a hynny ychydig tu ôl i’r
meincnod, ond nad oedd amheuaeth bod y meincnod a osodwyd yn un heriol, ond bod perfformiad Cronfa
Bensiwn Gwynedd wedi bod yn uwch na chyfartaledd cronfeydd Prydain yn hanesyddol. Tynnwyd sylw at berfformiad y rheolwyr
buddsoddi ecwiti gan egluro, bod tanberfformiad Cronfa Ecwiti Gweithredol
Cynaliadwy (Sustainable Active Equity), yn amlwg a hynny oherwydd bod stociau O
fewn y marchnadoedd ecwiti wedi gallu manteisio ar ddeallusrwydd artiffisial
sef y Magnificent 7 e.e. Apple, Microsoft a Tesla, sydd wedi perfformio yn dda.
Effaith hyn yw tan berfformiad o fewn stociau eraill e.e. stociau hirdymor o
fewn y portffolio sy’n edrych ar y
trawsnewid ynni (energy transition). Ategwyd bod bwriad gan Russell Investments
i edrych ar raniad y Gronfa a chyflwyno rheolwr buddsoddi newydd i’r portffolio
er mwyn ceisio adfer y perfformiad. Eglurwyd bod rheolwyr
incwm sefydlog wedi bod drwy gyfnod anodd gydag effaith ymosodiad Rwsia ar
Wcrain, ac effaith chwyddiant a chyfraddau llog. Ategwyd wrth i’r amodau
sefydlogi, a bod y perfformiad yn agosach at y meincnod. Yn yr un modd,
adroddwyd bod rheolwyr eiddo wedi gweld effaith covid ar ddefnydd swyddfeydd ac unedau’r stryd fawr, ond y
farchnad eiddo hefyd bellach wedi sefydlogi. Yng nghyd-destun
marchnadoedd preifat PPC a chronfeydd Partners, nodwyd mai anodd yw asesu eu
perfformiad oherwydd bod y buddsoddiad yn un mwy hir dymor ac nid oedd pryderon
wedi eu hamlygu gan Hymans Robertson. Gyda’r
prisiad teirblynyddol wedi dangos sefyllfa cyllido gryf, gweithredwyd adolygiad
o’r dyraniad asedau strategol mewn ymgynghoriad gyda Hymans Robertson a’r
Pwyllgor Pensiynau ym mis Tachwedd. O ganlyniad i’r adolygiad, bydd ymgais i
leihau risg i’r Gronfa drwy leihau'r asedau twf ( ecwiti a buddsoddi mewn
asedau incwm a giltiau) ynghyd a chyflwyno dyraniad i gyfalaf naturiol er mwyn
cyfrannu at wella targed net sero'r Gronfa. Ategwyd bod gwaith yn mynd yn ei
flaen i symud tuag at y dyraniad newydd. Diolchwyd am yr adroddiad Mewn ymateb i sylw am danberfformiad rheolwyr eiddo a'r
gwersi a ddysgwyd (e.e., mewn perfformiad, math, a lleoliad) fel na fydd eraill
yn debygol o wneud yr un buddsoddiadau, nodwyd bod y Gronfa dan sylw yn dod i
derfyn, gyda chronfeydd eiddo Cronfa Bensiwn Gwynedd yn trosglwyddo i PPC. O
weithredu hyn bydd cyfle am opsiynau buddsoddi amgen megis, er engraifft eiddo
rhyngwladol ac eiddo effaith ( e.e., buddsoddi mewn Cymdeithasau Tai). Derbyniwyd y wybodaeth |
|
|
ADOLYGU AMCANION STRATEGOL AR GYFER YMGYNGHORWYR BUDDSODDI'R GRONFA I nodi’r adroddiad cynnydd ac amcanion yr Ymgynghorwyr
Buddsoddi am y cyfnod nesaf. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn adrodd ar y cynnydd yn
erbyn amcanion ymgynghorwyr y Gronfa, Hymans Robertson a hynny i wneud yn
siŵr bod y gwaith sydd yn cael ei gyflawni ganddynt yn cyfateb ag amcanion
strategol y Gronfa. Ategwyd bod yr ymarfer yn cael ei ystyried fel llywodraethu
da. Adroddwyd bod y flwyddyn ddiwethaf wedi
bod yn flwyddyn brysur gyda’r ymgynghorwyr yn darparu arweiniad ar adolygu’r
dyraniad asedau strategol yn sgil y prisiad teirblynyddol, darparu gwybodaeth
ar gyfalaf naturiol, a chyngor ar fuddsoddiadau newydd Black Rock a
marchnadoedd preifat oedd ar gael drwy Bartneriaeth Pensiwn Cymru. Ategwyd bod
Hymans hefyd wedi cyd weithio gyda’r swyddogion wrth adolygu polisïau mewnol a
sicrhau cydymffurfiaeth gydag unrhyw reoliadau pensiwn perthnasol. Er bod Hymans yn darparu gwybodaeth a
phapurau o safon uchel, nid ydynt bob amser yn cyrraedd y swyddogion mewn modd
amserol ar gyfer cyfarfodydd a Phwyllgorau, ac felly'r adborth yma wedi ei
gyfleu iddynt yn ddiweddar. Cyfeiriwyd at yr amcanion ar gyfer 2026 gan nodi eu bod yn parhau yn
debyg i’r amcanion cyfredol, ond bod elfennau o’r gwaith ychwanegol, o
gydweithio gyda chwmni buddsoddi newydd PPC yn 2026, wedi ei gynnwys. Diolchwyd am yr adroddiad Mewn ymateb i sylw mai dim ond un
cyfeiriad oedd yn yr amcanion at risg ac os oedd y swyddogion yn hapus bod pob
risg arall wedi eu cyfarch, nodwyd bod yr un cyfeiriad yn gywir, ond bod gan y
Gronfa gofrestr risg benodol. Mewn ymateb i sylw ynglŷn â’r amcan ‘I
gyflawni dull buddsoddi sy’n adlewyrchu sefyllfa llif arian y Gronfa, ac
esblygiad tebygol, a lleihau’r risg o ddadfuddsoddi gorfodol’ ac os oedd targed
ar gyfer hynny o ystyried sefyllfa gref y Gronfa ar hyn o bryd ac felly llai o
angen i fuddsoddi, nodwyd bod swyddogion y Gronfa yn cydweithio yn agos gyda
Hymans i osod strategaeth newydd, i drafod buddsoddiadau a chreu senarios
gwahanol ar y perfformiad. Ategwyd y bydd Hymans yn cadw llygad ar y sefyllfa. Derbyniwyd y wybodaeth |
|
|
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi. Nodwyd bod cyllideb yr Uned Gweinyddu Pensiynau a’r Uned
Buddsoddi ar gyfer blwyddyn ariannol 2026-2027 wedi eu cymeradwyo gan
y Pwyllgor Pensiynau (bore
09-02-26) a bod y wybodaeth yn
cael ei rhannu
gyda’r Bwrdd fel cyfle iddynt
roi trosolwg ar y sefyllfa. Cyfeiriwyd at gyllideb
yr Uned Gweinyddu Pensiynau sydd â 25 aelod o staff cyflogedig ynghyd â chostau systemau, argraffu, ac ad-daliadau canolog. Tynnwyd sylw at y cyflenwadau a’r gwasanaethau gan amlygu bod gofyn cynyddu’r gyllideb i £185,500, a hynny yn bennaf
oherwydd cynnydd yn y costau postio,
a’r costau meddalwedd - costau na ellid eu
hosgoi yn anffodus. Yng nghyd-destun
cyllideb yr Uned Buddsoddi, nodwyd bod mwyafrif o’u dyletswyddau
yn waith Cronfa Bensiwn ond eu
bod hefyd yn gyfrifol am Reolaeth Trysorlys Cyngor Gwynedd. Yn ychwanegol,
bydd costau Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC),
rheolwyr buddsoddi ac ymgynghorwyr o dan gyfrifoldeb y Rheolwr Buddsoddi; bydd y costau hyn
yn amrywio ac yn ddibynnol ar
berfformiad buddsoddiadau a’r gwaith sydd
angen ei gyflawni gan yr ymgynghorwyr ar Bartneriaeth. Wrth drosglwyddo a buddsoddi gyda PPC IM Co bydd angen cadw llygaid
barcud ar y costau dros y cyfnod
nesaf, ac felly ystyriwyd nad oedd diben
gosod cyllideb eleni, ond yn
rhywbeth fydd angen sylw yn
y flwyddyn ariannol nesaf. Elfen arall
na ellid ei chynnwys yn
y gyllideb yw newidiadau fydd angen eu gweithredu
fel rhan o reoliadau ‘Addas i’r Dyfodol’ lle bydd
gofyn statudol i benodi Prif
Swyddog y Gronfa, unigolyn annibynnol i’r Pwyllgor, ynghyd
a chostau gofynion llywodraethu a hyfforddiant ychwanegol. Nodwyd, y bydd rhagor o wybodaeth
am yr elfennau hyn yn cael eu
rhannu gyda’r Bwrdd wrth iddynt
ddod ar gael. Diolchwyd am yr adroddiad Gofynnodd
Mr Eifion Jones, (oedd wedi arsylwi cyfarfod o’r Pwyllgor Pensiynau (bore
09-02-26) lle trafodwyd ymateb i’r rheoliadau, a’r angen i benodi Prif Swyddog y Gronfa, ac unigolyn annibynnol i’r Pwyllgor erbyn y 1af o Hydref
2026, a’r risg ynghlwm a phenodi person addas sydd yn cyfateb
i’r gofynion penodol, nodwyd bod risgiau sydd yn
cwmpasu goblygiadau ‘Addas I’r Dyfodol’ wedi
eu hychwanegu i’r gofrestr risg.
Ategwyd y bydd cymwysterau penodol hefyd i rôl
y Swyddog Annibynnol ac felly'r penodiad yma hefyd yn
un heriol ac yn risg. Bydd gwaith
ar sefydlu’r swydd ddisgrifiadau yn dechrau mor fuan â phosib. Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch addasiadau i ddyletswyddau’r
Pwyllgor ac os bydd effeithiau i ddyletswyddau’r Bwrdd, nodwyd bod newidiadau i’r Pwyllgor oherwydd eu bod yn gwneud
dipyn o waith gyda’r elfen buddsoddi,
ond y byddai dyletswyddau’r Bwrdd yn aros yr un fath. Yng nghyd-destun cynnydd o 60% mewn costau darpariaeth gwasanaeth a pham bod hyn mor uchel, nodwyd mai cynnydd
mewn costau datblygu a thrwyddedu meddalwedd oedd hyn yn bennaf,
e.e, y Dashfwrdd, creu fideo ar gyfer
yr Hunanwasanaeth, a chynnydd mewn
costau postio. |
|
|
DATGANIAD STRATEGAETH CYLLIDO I ystyried ac adolygu'r Datganiad Strategaeth Cyllido a’r
polisïau cysylltiedig. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Wrth gyflwyno’r adroddiad, nododd y Rheolwr Buddsoddi ei bod hi’n ofyn
statudol i adolygu'r Datganiad Strategaeth Cyllido pob tair
blynedd, a hynny fel arfer ar
ôl y prisiad teirblynyddol (oni bai bod newid sylweddol wedi bod yn amodau’r farchnad).
Eglurwyd mai pwrpas y ddogfen yw adlewyrchu ffactorau'r
prisiad, gan gydbwyso fforddiadwyedd y cyflogwyr gydag amcanion hylifedd hir dymor y Gronfa. Adroddwyd mai sail y ddogfen yw’r prisiad
actiwaraidd ac fe baratowyd y prisiad actiwaraidd gan ddefnyddio rhagdybiaethau y cytunwyd arnynt gyda'r actiwari. Cyflwynwyd y rhagdybiaethau hyn i'r Pwyllgor
Pensiynau i’w cymeradwyo yn Medi 2025, gyda’r cyflogwyr wedi derbyn cyflwyniad
gan yr actiwari ym mis Hydref 2025. Amlygwyd bod
y canlyniadau yn bositif iawn gyda
lefel cyllido’r Gronfa gyfan yn
166%, gyda’r cyflogwyr yn cael gostyngiad
yn eu cyfraniadau
o fis Ebrill 2026 ymlaen. Mynegwyd bod y ddogfen drafft yn cael
ei rhannu gyda holl gyflogwr
y Gronfa am ymgynghoriad cyn cael ei
mabwysiadu’n ffurfiol yng nghyfarfod o’r Pwyllgor Pensiynau
Mawrth 2026. Er yn derbyn
bod y datganiad yn faith a thechnegol, fe’i paratowyd mewn ymgynghoriad manwl gyda Hymans gyda mewnbwn gan swyddogion
y Gronfa. Cyfeiriwyd at y polisïau unigol sy’n bwydo i
mewn i’r ddogfen, sy’n golygu
petai angen addasu un o’r polisïau
yn y dyfodol, mai dim ond newid
y polisi unigol fydd ei angen
ac nid y Strategaeth yn ei chyfanrwydd. Ategwyd bod y Strategaeth
yn gyson gyda’r Strategaethau blaenorol, ond bod un newid yn 'Polisi Ar Adael y Gronfa'. Yn hanesyddol,
pe byddai’r cyflogwr yn dewis gadael
y Gronfa, byddai angen cyfrifo credyd
gadael, sef y swm sy’n ddyledus
unai i’r Gronfa, neu allan o’r Gronfa,
gyda’r cyfrifiad yma yn seiliedig
ar ddychweliadau ‘gilts’ ac
felly’n agored i symudiadau'r farchnad - y ffigwr yn gallu amrywio’n
sylweddol yn ddibynnol ar amodau’r
farchnad ar y pryd. Gyda’r
cyfrifiad hefyd yn seiliedig
ar un ffigwr ar bwynt mewn
amser, golygai hyn bod y canlyniadau’n gallu bod yn gyfnewidiol
(volatile), ac nid yw sail
y giltiau yn adlewyrchu’r gwir gan fod Cronfa Bensiwn Gwynedd wedi buddsoddi mewn amryw o asedau. O ganlyniad, awgrymodd yr actiwari y dylid newid i sail risg
sef defnyddio cyfradd disgownt sy’n seiliedig ar ddyraniad asedau'r
Gronfa, ond sydd hefyd yn
cynnwys ‘coridor’ er mwyn sicrhau nad
oes ffactorau marchnad sylweddol ar un diwrnod yn
effeithio’r prisiad. Ystyriwyd y byddai hyn yn rhoi
gwell syniad i’r cyflogwyr o beth fydd cost gadael y Gronfa, a hefyd yn rhoi
sicrwydd i’r Gronfa na fydd
cyflogwyr yn gadael ar adeg
anfanteisiol - yr addasiad
felly yn decach i bawb. Diolchwyd
am yr adroddiad Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â rhoi ystyriaeth i osod targed cyfraniad cyflogwr o weld lefel cyllido’r Gronfa gyfan yn 166%, nodwyd nad oedd targed wedi ei osod oherwydd bod maint y cyflogwyr yn amrywio ac felly yn gosod cyfyngiadau. Er hynny nodwyd bod gan ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
|
Y RHEOLYDD PENSIYNAU: AROLWG TREFN LLYWODRAETHOL GWASANAETH CYHOEDDUS 2025/26 I ystyried yr arolwg a chynnig adborth gan y Bwrdd er mwyn
cwblhau’r arolwg Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd Arolwg y Rheolydd
Pensiynau er mwyn derbyn adborth y Bwrdd am drefniadau llywodraethu Cronfa
Bensiwn Gwynedd. Eglurodd y Rheolwr Pensiynau
fod ymateb drafft ar sail ymatebion y Bwrdd i’r Arolwg blaenorol wedi eu
cyflwyno, ond bod gofyn i’r Aelodau gytuno, herio neu addasu’r ymateb i
gyd-fynd a gweithgareddau a datblygiadau yn 2025/26. Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y materion canlynol fel rhai oedd
angen sylw: ·
Angen adnabod risg syber fel un o’r
tri risg i lywodraethu a gweinyddu'r cynllun gweithredol (B4) ·
O ran nodweddion gwarchodedig
fel oedran, rhyw, ethnigrwydd ac anabledd (A11) – angen addasu’r ateb Mewn ymateb i ateb i ddatganiad (A3)
‘nad oes gan Reolwr y Cynllun a'r Bwrdd Pensiwn amser digonol i redeg y cynllun
yn iawn’, a beth felly all y Bwrdd ei wneud i gefnogi’r angen i wella’r
sefyllfa, nodwyd bod y gwaith craidd a’r gwaith taliadau yn cael eu gweithredu
yn amserol, ond bod yr elfennau llywodraethu da, hyfforddiant, a sefydlu
polisïau yn cymryd mwy o amser staff. Ategodd Aelod o’r Bwrdd nad oedd yn deg
bod y gwasanaeth yn gorfod rhedeg ar isafswm staff mewn ymateb i ofynion y
Cyngor; os yw’r staff dan bwysau mae angen ystyried hyn. Gydag addasiadau ar y
gorwel i’r strwythur, newidiadau pellach a gofynion blynyddol, bydd rhaid
ystyried cynnyddu lefelau staff fel bod modd ymateb
‘ie’ i’r cwestiwn tro nesaf. Nododd y Pennaeth Cyllid y byddai yn
fodlon ystyried adnoddau y tîm. Ategodd bod llawer o faterion i ‘fyny yn yr
awyr ar hyn o bryd’ gyda phenodiad Uwch Swyddog Cronfa Bensiwn ar y gorwel;
unwaith bydd hynny mewn lle bydd yr Uwch Swyddog yn arwain ar elfen gyllido’r
ddwy uned. Yng nghyd-destun cwestiwn B1, ‘A oes
gan eich cynllun brosesau digonol ar gyfer llywodraethu'r canlynol?’ - ateb
‘na’ i gwrthdaro buddiannau; nodwyd bod y Swyddog Monitro yn llunio cynllun
drafft ac y bydd Fframwaith Rheoli Data yn dod o dan yr un darn o waith. Diolchwyd am y gwaith Cytunwyd ar
ymatebion yr arolwg, yn ddarostyngedig i’r addasiadau uchod, ac fe’u cyflwynwyd i’r Rheolydd Pensiynau o fewn y terfyn
amser.
|