Rhaglen a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Dim i’w nodi

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 127 KB

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 3ydd o Dachwedd 2025 fel rhai cywir.

 

5.

COFNODION PWYLLGOR PENSIYNAU pdf eicon PDF 146 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, gofnodion y Pwyllgor Pensiynau a gynhaliwyd 24ain o Dachwedd 2025

Cofnod:

Cyflwynwyd er gwybodaeth gofnodion Pwyllgor Pensiynau a gynhaliwyd 24ain o Dachwedd 2025.

 

6.

DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU pdf eicon PDF 91 KB

I ystyried a nodi’r wybodaeth. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Amlygodd y Rheolwr Buddsoddi mai adroddiad ydoedd er gwybodaeth yn nodi’r hyn a drafodwyd yn ddiweddar mewn Cyfarfod Ymgysylltu Cadeiryddion Bwrdd Pensiwn - diweddariad ar waith Partneriaeth Pensiwn Cymru sydd bellach yn chwarae rhan flaenllaw o’r Gronfa. Nodwyd bod Cadeiryddion y Byrddau Pensiwn yn cyfarfod pob 6 mis gyda thrafodaethau mis Hydref yn cynnwys diweddariad ar adolygu’r Cynllun Busnes, materion buddsoddi cyfrifol a’r gofrestr risg.

 

Cyfeiriwyd at fanylder gwaith y gweithredwr dros y cyfnod ac at amodau’r farchnad oedd wedi cael eu monitro ganddynt. Tynnwyd sylw at berfformiad y cronfeydd gan amlygu bod perfformiad wedi bod yn gryf gydag ecwiti byd-eang a marchnadoedd incwm sefydlog yn codi yn y cyfnod.

 

Amlygwyd bod Prosiect yr Wyddfa yn datblygu’n gyflym er mwyn sefydlu’r cwmni buddsoddi (PPC IM Co) gyda chais Cofrestr Gwasanaethau Ariannol (Financial Conduct Authority - FCA), wedi’i gyflwyno a recriwtio ac ymgysylltu rheolaidd yn digwydd. Ategwyd bod swyddogion ac aelodau’r CBLl wedi bod yn trafod sefydlu cytundebau rhwng y cwmni buddsoddi â’r wyth Awdurdod Cyfansoddol fel cleientiaid a  chyfranddalwyr. Nodwyd y bydd cyfarfod yn cael ei drefnu i rannu gwybodaeth benodol ar y datblygiadau a’r cytundebau perthnasol gyda’r Pwyllgor a’r Bwrdd Pensiwn cyn i’r Pwyllgor Pensiynau eu cymeradwyo’n ffurfiol.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i sylw bod Cronfa Clwyd wedi pwlio 32%, Powys 63% ac Abertawe 66% ac a’i natur dechnegol y cronfeydd ynteu faterion gwleidyddol oedd y rhesymau dros fod yn araf yn trosglwyddo i PPC,  nodwyd bod y risg wedi ei adnabod;  y Cynghorau hyn gyda mwy o fuddsoddiadau mewn marchnadoedd preifat a bod mesurau wedi eu rhoi mewn lle i ymateb i’r sefyllfa gyda Swyddog Delio ag Asedau wedi ei benodi i arwain y gwaith. 

 

Mewn ymateb i sylw bod PPC yn parhau i gyfeirio at y prosiect fel Prosiect Snowdon Project ac nid Prosiect yr Wyddfa / Yr Wyddfa Project, nodwyd bod y sylw wedi cael ei gyflwyno i PPC, ac ar bob cyfle posib wedi hynny, y swyddogion wedi ceisio cyfleu’r enw cywir - angen parhau i bwyso ar PPC i gyfeirio at Prosiect Snowdon fel Prosiect yr Wyddfa.

 

Gofynnodd Mr Eifion Jones (oedd wedi arsylwi cyfarfod o’r Pwyllgor Pensiynau bore 09-02-26,) am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r rhybuddion o gynnig roedd PPC wedi eu derbyn gan Gynghorau unigol. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod PPC wedi derbyn nifer o rybuddion o gynnig gan Gynghorau Lleol yng Nghymru, gan gynnwys Cyngor Gwynedd (Cyngor Llawn, Hydref 2025) ar faterion buddsoddi cyfrifol, moesegol a chynaliadwy. Nodwyd bod y cynigion wedi derbyn ystyriaeth, ac yng ngoleuni'r gwaith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd mewn perthynas â pholisi gwaharddiadau PPC, cytunwyd y byddai ymateb yn cael ei baratoi i bob un o'r wyth Awdurdod Cyfansoddol ei gyhoeddi, ynghyd a rhannu polisi diwygiedig pan fydd wedi ei gymeradwyo gan y CBLl ym mis Mawrth 2026.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol

·        Er croesawu polisi gwaharddiadau, bydd rhaid sicrhau bod y buddsoddiadau yn dod a dychweliadau da i aelodau’r Gronfa

·        Bod angen gallu gwahardd rhai elfennau buddsoddi lefel  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

PERFFORMIAD BUDDSODDI'R GRONFA BENSIWN HYD AT 30 MEDI 2025 pdf eicon PDF 280 KB

I ystyried yr adroddiad a nodi’r wybodaeth

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn adrodd ar berfformiad y Gronfa dros y chwarter dan sylw. Nodwyd bod y Gronfa wedi dychwelyd 5.6% dros y chwarter, gan berfformio yn well na’r meincnod gyda chyfanswm yr asedau yn cynyddu o £186miliwn i ddod a gwerth y gronfa i dros £3.5 biliwn am y tro cyntaf; bu i’r asedau twf, incwm a diogelu perfformio yn dda dros y chwarter.

 

Ategwyd, bod y Gronfa, dros y flwyddyn wedi dychwelyd 10.7%, a hynny ychydig tu ôl i’r meincnod, ond nad oedd amheuaeth bod y meincnod a osodwyd  yn un heriol, ond bod perfformiad Cronfa Bensiwn Gwynedd wedi bod yn uwch na chyfartaledd cronfeydd Prydain yn hanesyddol.

 

Tynnwyd sylw at berfformiad y rheolwyr buddsoddi ecwiti gan egluro, bod tanberfformiad Cronfa Ecwiti Gweithredol Cynaliadwy (Sustainable Active Equity), yn amlwg a hynny oherwydd bod stociau O fewn y marchnadoedd ecwiti wedi gallu manteisio ar ddeallusrwydd artiffisial sef y Magnificent 7 e.e. Apple, Microsoft a Tesla, sydd wedi perfformio yn dda. Effaith hyn yw tan berfformiad o fewn stociau eraill e.e. stociau hirdymor o fewn y portffolio sy’n  edrych ar y trawsnewid ynni (energy transition). Ategwyd bod bwriad gan Russell Investments i edrych ar raniad y Gronfa a chyflwyno rheolwr buddsoddi newydd i’r portffolio er mwyn ceisio adfer y perfformiad.

 

Eglurwyd bod rheolwyr incwm sefydlog wedi bod drwy gyfnod anodd gydag effaith ymosodiad Rwsia ar Wcrain, ac effaith chwyddiant a chyfraddau llog. Ategwyd wrth i’r amodau sefydlogi, a bod y perfformiad yn agosach at y meincnod. Yn yr un modd, adroddwyd bod rheolwyr eiddo wedi gweld effaith covid ar ddefnydd  swyddfeydd ac unedau’r stryd fawr, ond y farchnad eiddo hefyd bellach wedi sefydlogi.

Yng nghyd-destun marchnadoedd preifat PPC a chronfeydd Partners, nodwyd mai anodd yw asesu eu perfformiad oherwydd bod y buddsoddiad yn un mwy hir dymor ac nid oedd pryderon wedi eu hamlygu  gan Hymans Robertson.

Gyda’r prisiad teirblynyddol wedi dangos sefyllfa cyllido gryf, gweithredwyd adolygiad o’r dyraniad asedau strategol mewn ymgynghoriad gyda Hymans Robertson a’r Pwyllgor Pensiynau ym mis Tachwedd. O ganlyniad i’r adolygiad, bydd ymgais i leihau risg i’r Gronfa drwy leihau'r asedau twf ( ecwiti a buddsoddi mewn asedau incwm a giltiau) ynghyd a chyflwyno dyraniad i gyfalaf naturiol er mwyn cyfrannu at wella targed net sero'r Gronfa. Ategwyd bod gwaith yn mynd yn ei flaen i symud tuag at y dyraniad newydd.

Diolchwyd am yr adroddiad

Mewn ymateb i sylw am danberfformiad rheolwyr eiddo a'r gwersi a ddysgwyd (e.e., mewn perfformiad, math, a lleoliad) fel na fydd eraill yn debygol o wneud yr un buddsoddiadau, nodwyd bod y Gronfa dan sylw yn dod i derfyn, gyda chronfeydd eiddo Cronfa Bensiwn Gwynedd yn trosglwyddo i PPC. O weithredu hyn bydd cyfle am opsiynau buddsoddi amgen megis, er engraifft eiddo rhyngwladol ac eiddo effaith ( e.e., buddsoddi mewn Cymdeithasau Tai).

Derbyniwyd y wybodaeth

 

8.

ADOLYGU AMCANION STRATEGOL AR GYFER YMGYNGHORWYR BUDDSODDI'R GRONFA pdf eicon PDF 91 KB

I nodi’r adroddiad cynnydd ac amcanion yr Ymgynghorwyr Buddsoddi am y cyfnod nesaf.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn adrodd ar y cynnydd yn erbyn amcanion ymgynghorwyr y Gronfa, Hymans Robertson a hynny i wneud yn siŵr bod y gwaith sydd yn cael ei gyflawni ganddynt yn cyfateb ag amcanion strategol y Gronfa. Ategwyd bod yr ymarfer yn cael ei ystyried fel llywodraethu da.

 

Adroddwyd bod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn flwyddyn brysur gyda’r ymgynghorwyr yn darparu arweiniad ar adolygu’r dyraniad asedau strategol yn sgil y prisiad teirblynyddol, darparu gwybodaeth ar gyfalaf naturiol, a chyngor ar fuddsoddiadau newydd Black Rock a marchnadoedd preifat oedd ar gael drwy Bartneriaeth Pensiwn Cymru. Ategwyd bod Hymans hefyd wedi cyd weithio gyda’r swyddogion wrth adolygu polisïau mewnol a sicrhau cydymffurfiaeth gydag unrhyw reoliadau pensiwn perthnasol.

 

Er bod Hymans yn darparu gwybodaeth a phapurau o safon uchel, nid ydynt bob amser yn cyrraedd y swyddogion mewn modd amserol ar gyfer cyfarfodydd a Phwyllgorau, ac felly'r adborth yma wedi ei gyfleu iddynt yn ddiweddar.

 

Cyfeiriwyd at yr amcanion ar gyfer 2026 gan nodi eu bod yn parhau yn debyg i’r amcanion cyfredol, ond bod elfennau o’r gwaith ychwanegol, o gydweithio gyda chwmni buddsoddi newydd PPC yn 2026, wedi ei gynnwys.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i sylw mai dim ond un cyfeiriad oedd yn yr amcanion at risg ac os oedd y swyddogion yn hapus bod pob risg arall wedi eu cyfarch, nodwyd bod yr un cyfeiriad yn gywir, ond bod gan y Gronfa gofrestr risg benodol.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â’r amcan ‘I gyflawni dull buddsoddi sy’n adlewyrchu sefyllfa llif arian y Gronfa, ac esblygiad tebygol, a lleihau’r risg o ddadfuddsoddi gorfodol’ ac os oedd targed ar gyfer hynny o ystyried sefyllfa gref y Gronfa ar hyn o bryd ac felly llai o angen i fuddsoddi, nodwyd bod swyddogion y Gronfa yn cydweithio yn agos gyda Hymans i osod strategaeth newydd, i drafod buddsoddiadau a chreu senarios gwahanol ar y perfformiad. Ategwyd y bydd Hymans yn cadw llygad ar y sefyllfa.

 

Derbyniwyd y wybodaeth

9.

CYLLIDEB 2026/27 pdf eicon PDF 142 KB

I nodi cyllideb yr Uned Gweinyddu Pensiynau a’r Uned Buddsoddi ar gyfer y flwyddyn ariannol 2026/27.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi. Nodwyd bod cyllideb yr Uned Gweinyddu Pensiynau a’r Uned Buddsoddi ar gyfer blwyddyn ariannol 2026-2027 wedi eu cymeradwyo gan y Pwyllgor Pensiynau (bore 09-02-26) a bod y wybodaeth yn cael ei rhannu gyda’r Bwrdd fel cyfle iddynt roi trosolwg ar y sefyllfa.

 

Cyfeiriwyd at gyllideb yr Uned Gweinyddu Pensiynau sydd â 25 aelod o staff cyflogedig ynghyd â chostau systemau, argraffu, ac ad-daliadau canolog. Tynnwyd sylw at y cyflenwadau a’r gwasanaethau gan amlygu bod gofyn cynyddu’r gyllideb i £185,500, a hynny yn bennaf oherwydd cynnydd yn y costau postio, a’r costau meddalwedd - costau na ellid eu hosgoi yn anffodus. 

 

Yng nghyd-destun cyllideb yr Uned Buddsoddi, nodwyd bod mwyafrif o’u dyletswyddau yn waith Cronfa Bensiwn ond eu bod hefyd yn gyfrifol am Reolaeth Trysorlys Cyngor Gwynedd. Yn ychwanegol, bydd costau Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC), rheolwyr buddsoddi ac ymgynghorwyr o dan gyfrifoldeb y Rheolwr Buddsoddi; bydd y costau hyn yn amrywio ac yn ddibynnol ar berfformiad buddsoddiadau a’r gwaith sydd angen ei gyflawni gan yr ymgynghorwyr ar Bartneriaeth. Wrth drosglwyddo a buddsoddi gyda PPC IM Co bydd angen cadw llygaid barcud ar y costau dros y cyfnod nesaf, ac felly ystyriwyd nad oedd diben gosod cyllideb eleni, ond yn rhywbeth fydd angen sylw yn y flwyddyn ariannol nesaf.

 

Elfen arall na ellid ei chynnwys yn y gyllideb yw newidiadau fydd angen eu gweithredu fel rhan o reoliadau ‘Addas i’r Dyfodollle bydd gofyn statudol i benodi Prif Swyddog y Gronfa, unigolyn annibynnol i’r Pwyllgor, ynghyd a chostau gofynion llywodraethu a hyfforddiant ychwanegol. Nodwyd, y bydd rhagor o wybodaeth am yr elfennau hyn yn cael eu rhannu gyda’r Bwrdd wrth iddynt ddod ar gael.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Gofynnodd Mr Eifion Jones, (oedd wedi arsylwi cyfarfod o’r Pwyllgor Pensiynau (bore 09-02-26) lle trafodwyd ymateb i’r rheoliadau, a’r angen i benodi Prif Swyddog y Gronfa, ac unigolyn annibynnol i’r Pwyllgor erbyn y 1af o Hydref 2026, a’r risg ynghlwm a phenodi person addas sydd yn cyfateb i’r gofynion penodol, nodwyd bod risgiau sydd yn cwmpasu goblygiadau ‘Addas I’r Dyfodolwedi eu hychwanegu i’r gofrestr risg. Ategwyd y bydd cymwysterau penodol hefyd i rôl y Swyddog Annibynnol ac felly'r penodiad yma hefyd yn un heriol ac yn risg. Bydd gwaith ar sefydlu’r swydd ddisgrifiadau yn dechrau mor fuan â phosib.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch addasiadau i ddyletswyddau’r Pwyllgor ac os bydd effeithiau i ddyletswyddau’r Bwrdd, nodwyd bod newidiadau i’r Pwyllgor oherwydd eu bod yn gwneud dipyn o waith gyda’r elfen buddsoddi, ond y byddai dyletswyddau’r Bwrdd yn aros yr un fath.

 

Yng nghyd-destun cynnydd o 60% mewn costau darpariaeth gwasanaeth a pham bod hyn mor uchel, nodwyd mai cynnydd mewn costau datblygu a thrwyddedu meddalwedd oedd hyn yn bennaf, e.e, y Dashfwrdd, creu fideo ar gyfer yr Hunanwasanaeth, a chynnydd mewn costau postio.

 

Mewn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

DATGANIAD STRATEGAETH CYLLIDO pdf eicon PDF 104 KB

I ystyried ac adolygu'r Datganiad Strategaeth Cyllido a’r polisïau cysylltiedig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Wrth gyflwyno’r adroddiad, nododd y Rheolwr Buddsoddi ei bod hi’n ofyn statudol i adolygu'r Datganiad Strategaeth Cyllido pob tair blynedd, a hynny fel arfer ar ôl y prisiad teirblynyddol (oni bai bod newid sylweddol wedi bod yn amodau’r farchnad). Eglurwyd mai pwrpas y ddogfen yw adlewyrchu ffactorau'r prisiad, gan gydbwyso fforddiadwyedd y cyflogwyr gydag amcanion hylifedd hir dymor y Gronfa.

 

Adroddwyd mai sail y ddogfen yw’r prisiad actiwaraidd ac fe baratowyd y prisiad actiwaraidd gan ddefnyddio rhagdybiaethau y cytunwyd arnynt gyda'r actiwari. Cyflwynwyd y rhagdybiaethau hyn i'r Pwyllgor Pensiynau i’w cymeradwyo yn Medi 2025, gyda’r cyflogwyr wedi derbyn cyflwyniad gan yr actiwari ym mis Hydref 2025. Amlygwyd bod y canlyniadau yn bositif iawn gyda lefel cyllido’r Gronfa gyfan yn 166%, gyda’r cyflogwyr yn cael gostyngiad yn eu cyfraniadau o fis Ebrill 2026 ymlaen.

 

Mynegwyd bod y ddogfen drafft yn cael ei rhannu gyda holl gyflogwr y Gronfa am ymgynghoriad cyn cael ei mabwysiadu’n ffurfiol yng nghyfarfod o’r Pwyllgor Pensiynau Mawrth 2026. Er yn derbyn bod y datganiad yn faith a thechnegol, fe’i paratowyd mewn ymgynghoriad manwl gyda Hymans gyda mewnbwn gan swyddogion y Gronfa. Cyfeiriwyd at y polisïau unigol sy’n bwydo i mewn i’r ddogfen, sy’n golygu petai angen addasu un o’r polisïau yn y dyfodol, mai dim ond newid y polisi unigol fydd ei angen ac nid y Strategaeth yn ei chyfanrwydd.

 

Ategwyd bod y Strategaeth yn gyson gyda’r Strategaethau blaenorol, ond bod un newid yn 'Polisi Ar Adael y Gronfa'. Yn hanesyddol, pe byddai’r cyflogwr yn dewis gadael y Gronfa, byddai angen cyfrifo credyd gadael, sef y swm sy’n ddyledus unai i’r Gronfa, neu allan o’r Gronfa, gyda’r cyfrifiad yma yn seiliedig ar ddychweliadau ‘gilts’ ac felly’n agored i symudiadau'r farchnad - y ffigwr yn gallu amrywio’n sylweddol yn ddibynnol ar amodau’r farchnad ar y pryd. Gyda’r cyfrifiad hefyd yn seiliedig ar un ffigwr ar bwynt mewn amser, golygai hyn bod y canlyniadau’n gallu bod yn gyfnewidiol (volatile), ac nid yw sail y giltiau yn adlewyrchu’r gwir gan fod Cronfa Bensiwn Gwynedd wedi buddsoddi mewn amryw o asedau. O ganlyniad, awgrymodd yr actiwari y dylid newid i sail risg sef defnyddio cyfradd disgownt sy’n seiliedig ar ddyraniad asedau'r Gronfa, ond sydd hefyd yn cynnwyscoridor’ er mwyn sicrhau nad oes ffactorau marchnad sylweddol ar un diwrnod yn effeithio’r prisiad. Ystyriwyd y byddai hyn yn rhoi gwell syniad i’r cyflogwyr o beth fydd cost gadael y Gronfa, a hefyd yn rhoi sicrwydd i’r Gronfa na fydd cyflogwyr yn gadael ar adeg anfanteisiol - yr addasiad felly yn decach i bawb.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â rhoi ystyriaeth i osod targed cyfraniad cyflogwr o weld lefel cyllido’r Gronfa gyfan yn 166%, nodwyd nad oedd targed wedi ei osod oherwydd bod maint y cyflogwyr yn amrywio ac felly yn gosod cyfyngiadau. Er hynny nodwyd bod gan  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Y RHEOLYDD PENSIYNAU: AROLWG TREFN LLYWODRAETHOL GWASANAETH CYHOEDDUS 2025/26 pdf eicon PDF 84 KB

I ystyried yr arolwg a chynnig adborth gan y Bwrdd er mwyn cwblhau’r arolwg

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd Arolwg y Rheolydd Pensiynau er mwyn derbyn adborth y Bwrdd am drefniadau llywodraethu Cronfa Bensiwn Gwynedd.

 

Eglurodd y Rheolwr Pensiynau fod ymateb drafft ar sail ymatebion y Bwrdd i’r Arolwg blaenorol wedi eu cyflwyno, ond bod gofyn i’r Aelodau gytuno, herio neu addasu’r ymateb i gyd-fynd a gweithgareddau a datblygiadau yn 2025/26.

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y materion canlynol fel rhai oedd angen sylw:

·        Angen adnabod risg syber fel un o’r tri risg i lywodraethu a gweinyddu'r cynllun gweithredol (B4)

·        O ran nodweddion gwarchodedig fel oedran, rhyw, ethnigrwydd ac anabledd (A11) – angen addasu’r ateb

 

Mewn ymateb i ateb i ddatganiad (A3) ‘nad oes gan Reolwr y Cynllun a'r Bwrdd Pensiwn amser digonol i redeg y cynllun yn iawn’, a beth felly all y Bwrdd ei wneud i gefnogi’r angen i wella’r sefyllfa, nodwyd bod y gwaith craidd a’r gwaith taliadau yn cael eu gweithredu yn amserol, ond bod yr elfennau llywodraethu da, hyfforddiant, a sefydlu polisïau yn cymryd mwy o amser staff. Ategodd Aelod o’r Bwrdd nad oedd yn deg bod y gwasanaeth yn gorfod rhedeg ar isafswm staff mewn ymateb i ofynion y Cyngor; os yw’r staff dan bwysau mae angen ystyried hyn. Gydag addasiadau ar y gorwel i’r strwythur, newidiadau pellach a gofynion blynyddol, bydd rhaid ystyried cynnyddu lefelau staff fel bod modd ymateb ‘ie’ i’r cwestiwn tro nesaf.

 

Nododd y Pennaeth Cyllid y byddai yn fodlon ystyried adnoddau y tîm. Ategodd bod llawer o faterion i ‘fyny yn yr awyr ar hyn o bryd’ gyda phenodiad Uwch Swyddog Cronfa Bensiwn ar y gorwel; unwaith bydd hynny mewn lle bydd yr Uwch Swyddog yn arwain ar elfen gyllido’r ddwy uned.

 

Yng nghyd-destun cwestiwn B1, ‘A oes gan eich cynllun brosesau digonol ar gyfer llywodraethu'r canlynol?’ - ateb ‘na’ i gwrthdaro buddiannau; nodwyd bod y Swyddog Monitro yn llunio cynllun drafft ac y bydd Fframwaith Rheoli Data yn dod o dan yr un darn o waith.

 

Diolchwyd am y gwaith

 

Cytunwyd ar ymatebion yr arolwg, yn ddarostyngedig i’r addasiadau uchod, ac fe’u cyflwynwyd i’r Rheolydd Pensiynau o fewn y terfyn amser.