Rhaglen a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679556

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2025/26.

Cofnod:

Penderfynwyd ethol Sian Parri (Cyngor Cymuned Tudweiliog) yn Gadeirydd ar gyfer y cyfnod 2025/26.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2025/26.

Cofnod:

Penderfynwyd ethol Y Cynghorydd Gareth Williams yn Is-gadeirydd ar gyfer y cyfnod 2025/26.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd datganiadau o ymddiheuriad gan:

 

·       Einir Wyn (Cyngor Cymuned Llanengan)

·       Y Cynghorydd Angela Russell (Pencampwr Cefn Gwlad Cyngor Gwynedd)

·       Hughie Williams (Cyngor Cymuned Buan)

·       Gillian Walker (Cyfeillion Llŷn)

·       Hedd Rhys (NFU)

·       Sianelen Pleming (Cyngor Cymuned Pistyll)

 

Croesawyd Andrew Parry i’w gyfarfod cyntaf o’r Cyd-bwyllgor Ymgynghorol hwn, wedi iddo gael ei ethol i gynrychioli Cyngor Cymuned Llanbedrog yn dilyn ymddeoliad T Victor Jones (Cyn-gadeirydd y Pwyllgor). Diolchwyd i T Victor Jones am ei gyfraniad helaeth i Gyd-bwyllgor yr AHNE dros y blynyddoedd gan ddymuno ymddeoliad hapus iddo.

 

Diolchwyd i Gillian Walker (Cyfeillion Llŷn) am ei chyfraniad i’r Cyd-bwyllgor hwn, gan nodi bydd Cyfeillion Llŷn yn ethol cynrychiolydd newydd i’w cynrychioli yn y dyfodol.

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

5.

MATERION BRYS

I ystyried unrhyw eitem sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 145 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd 2024, fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Cyd-bwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd, 2024, fel rhai cywir.

 

7.

FFERMIO BRO pdf eicon PDF 66 KB

I rannu gwybodaeth am gynllun grant amgylcheddol newydd – Ffermio Bro.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Swyddog AHNE Llŷn a chynrychiolydd Ffermio Bro.

 

Eglurwyd bod Ffermio Bro yn gynllun grant amgylcheddol newydd sydd gyda’r nod o gynorthwyo ffermwyr i warchod natur a’r amgylchedd tra hefyd yn cefnogi busnesau a chymunedau gwledig. Nodwyd eu fod wedi cael ei ddatblygu gan Llywodraeth Cymru, ar y cyd gyda’r Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, gan sicrhau mai dim ond i ardaloedd y tirweddau dynodedig hyn bydd y grant yn weithredol. Manylwyd bod hon yn gynllun sydd wedi cael ei raglennu ar gyfer y tair blynedd nesaf.

 

Adroddwyd bod y tirweddau dynodedig hyn yn derbyn cronfa ariannol er mwyn galluogi ffermwyr i wneud cais yn uniongyrchol gyda’r awdurdodau perthnasol am gymorth grant, gan fanylu bod £104,000 wedi cael ei ddyrannu i AHNE Llŷn ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Tynnwyd sylw bydd yr arian yn cael ei ddyrannu ar gyfer prosiectau sydd yn llesol i natur a bioamrywiaeth megis creu ac adfer waliau cerrig, adfer mewndiroedd, creu pyllau, gwrychoedd a chefnogi dulliau naturiol o reoli llifogydd, ymysg prosiectau eraill. Eglurwyd bod pwyslais yn cael ei roi ar glystyru a chyd-weithio gan amlygu ei fod yn rhagflaenydd i’r Rhaglen Ffermio Cynaliadwy (SFS).

 

Nodwyd bod swyddogion wedi cael eu penodi ar gyfer gweinyddu’r grant hwn yn ardaloedd AHNE Llŷn a Pharc Cenedlaethol Eryri, gan adrodd bydd ceisiadau bychan a syml yn cael eu penderfynu gan y swyddogion yn annibynnol. Pwysleisiwyd bydd ceisiadau mawr yn cael eu cysidro gan Banel. Gofynnwyd i’r Aelodau ethol cynrychiolydd o’r Cyd-bwyllgor hwn i fod yn bresennol ar Banel Grantiau Ffermio Bro a fyddai’n cyfarfod oddeutu 2 waith y flwyddyn ym Mhenrhyndeudraeth, gan nodi byddai gofyn i’r cynrychiolydd wneud ychydig o waith cefndirol i’r ceisiadau sydd wedi dod i law yn flaenorol i fynychu’r cyfarfod.

 

Atgoffwyd bod cynlluniau ar waith i godi ymwybyddiaeth o’r cynllun grant hwn mewn nifer o amrywiol ffyrdd megis drwy’r Undebau Amaethyddol, Llygad Llŷn, Sioe Nefyn a’r cyfryngau cymdeithasol gan gadarnhau bod cryn ddiddordeb wedi cael ei ddatgan hyd yma. Tynnwyd sylw bod 23 cais am arian wedi dod i law yn yr ardal ar hyn o bryd gyda’r cyfnod dynodedig i gyflwyno ceisiadau ar gyfer y flwyddyn ariannol hon bellach wedi dod i ben oherwydd ei fod yn debygol y bydd y gyllideb yn cael ei wario wrth ystyried y ceisiadau hyn. Adroddwyd bod y mwyafrif o geisiadau o fewn yr AHNE yn ymwneud ag adeiladu cloddiau a chreu mannau cysgodol er mwyn gwarchod stoc gyda rhai o’r ceisiadau yn manylu ar brosiectau ansawdd dŵr. Manylwyd bod unrhyw brosiect sydd yn cael ei ariannu o fewn y flwyddyn ariannol hon angen eu cwblhau erbyn 1 Mawrth 2026.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:

 

Mynegwyd balchder bod cymaint o geisiadau am arian wedi dod i law, gan ofyn a oes ymgeiswyr o wahanol ardaloedd o fewn AHNE Llŷn wedi datgan diddordeb. Gofynnwyd hefyd sut mae niferoedd yr ymgeiswyr yn cymharu gydag ardaloedd eraill sydd yn gymwys i’r grant. Mewn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

DIWEDDARIAD AR BROSIECTAU CYFALAF AHNE LLŶN pdf eicon PDF 81 KB

I rannu diweddariad am brosiectau cyfalaf AHNE Llŷn.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Swyddog AHNE Llŷn.

 

Adroddwyd bod y prosiectau cyfalaf hyn yn cael eu hariannu drwy gynllun grant Tirweddau Cynaliadwy Lleoedd Cynaliadwy (TCLC) Llywodraeth Cymru, gan nodi bod TCLC dim ond ar gael i dirweddau dynodedig Cymru (Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau Cenedlaethol). Eglurwyd bod y prosiectau a soniwyd amdanynt yn yr adroddiad bellach wedi dod i ben gan fod mai rhwng 2022-2025 oedd cyfnod cynllun TCLC. Fodd bynnag, sicrhawyd bodd y cynllun yn parhau ar gyfer 2025-2027.

 

Manylwyd ar y prosiectau cyfalaf ar gyfer 2022-2025 gan nodi mai themâu Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau o fewn y cyfnod hwn oedd ; ‘Bioamrywiaeth ac adfer natur’, ‘Dad-garboneiddio’, ‘Cymunedau gwydn a gwyrdd’ a ‘Thwristiaeth Gynaliadwy’. Atgoffwyd bod gan AHNE Llŷn prosiectau a oedd yn gymwys ar gyfer yr holl themâu hyn fel y soniwyd amdanynt mewn cyfarfodydd blaenorol ac yn fwy diweddar drwy newyddlen Llygad Llŷn. Ymhelaethwyd bod y prosiectau hyn yn cynnwys:

 

·       Tiroedd Comin – gwelliannau i diroedd comin Foel Gron, Horeb a Rhos Botwnnog.

·       Coed Cynhenid – plannu 5,000 o goed ar safleoedd adnabyddedig.

·       Rhywogaethau ymledol estron – mynd i’r afael â phlanhigion estron megis jac y neidiwr, rododendron a changlwm tsapaneaidd mewn sawl ardal o fewn yr AHNE, gan ganolbwyntio ar ardal Trefor yn benodol.

·       Y Ganolfan, Llithfaen - adnewyddu’r ganolfan ar y cyd gyda chyllideb sylweddol gan gronfa Ffyniant Bro, Llywodraeth y DU. Mynegwyd balchder bod y Ganolfan bellach wedi ailagor i’r cyhoedd.

·       Maes Parcio Chwarel Llanbedrog – tacluso’r ardal gan gynnwys ail-wynebu’r maes parcio, gosod meinciau picnic a torri tyfiant a phlannu coed.

Eglurwyd bod gwaith cydweithredol wedi cael ei gwblhau gyda thirweddau dynodedig eraill megis prosiectau ‘Terfynau Traddodiadol’ yn ardal Cilan ac Edern, ‘Yr Awyr Dywyll’ a ‘Pecyn Addysg Tirlun’ mewn cydweithrediad â Chyngor Penfro.

 

Cadarnhawyd bod y cynllun TCLC wedi cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru am ddwy flynedd ychwanegol. Nodwyd nad oes addasiadau i themâu’r prosiectau a gefnogir ond bod pwyslais penodol yn cael ei roi ar ‘adfer natur’ a ‘dad-garboneiddio’ yn ystod y cyfnod hwn.

 

Diweddarwyd bod prosiectau cyfalaf AHNE Llŷn ar gyfer y ddwy flynedd nesaf yn cynnwys; Plannu coed cynhenid yn yr AHNE, Gwaredu rhywogaethau ymledol estron, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Abergeirch a Dad-garboneiddio neuaddau/ canolfannau pentref.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:

 

Cytunwyd gyda’r safbwynt bod rhywogaethau ymledol estron yn amharu ar blanhigion yr AHNE gan fynegi balchder bod cynlluniau yn eu lle er mwyn parhau i fynd i’r afael a’r heriau hyn.

 

Mewn ymateb i ymholiad am atal rhywogaethau ymledol estron, cadarnhaodd Swyddog AHNE Llŷn mai delio gyda thyfiant ar dir cyhoeddus neu dir sydd yn ymylu â thir cyhoeddus yw nod yr AHNE. Nodwyd yr angen i gysylltu gyda Chyngor Gwynedd gydag unrhyw drafferthion sydd yn codi ar dir cyhoeddus.

 

Mewn ymateb i ymholiad ar y gyllideb sydd ar gael ar gyfer y prosiectau cyfalaf hyn, cadarnhaodd Swyddog AHNE Llŷn bod oddeutu £200,000 ar gael, gan sicrhau bydd gwybodaeth fanylach yn cael ei  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Y GRONFA DATBLYGU CYNALIADWY pdf eicon PDF 78 KB

I rannu gwybodaeth am sefyllfa’r Gronda Datblygu Cynaliadwy a datblyguadau syrdd ar y gweill.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Swyddog Prosiect AHNE.

 

Eglurwyd bod £100,000 wedi cael ei ddyrannu i’r Gronfa ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25 a bod y gyllideb wedi cael ei hawlio’n llawn drwy gefnogi’r prosiectau a ganlyn:

 

·       RSPB Morfa Dinlle

·       1st Mate Amgueddfa Morwrol

·       Cydio yn awen Enlli

·       Cae chwarae Llanbedrog

·       Melin Daron

·       Antur Aelhaearn

·       Menter Rabar

·       Menter y Tŵr

·       Hysbysfwrdd Tudweiliog

·       RSPB Porth Ceiriad

 

Diweddarwyd bod £95,000 wedi cael ei ddyrannu i’r Gronfa ar gyfer 2025/26. Datganwyd ei fod yn debygol iawn bydd yr arian yma yn cael ei hawlio’n llawn gan fod nifer o brosiectau eisoes wedi cael eu cefnogi, gyda chyfarfod nesaf y Panel wedi cael ei rhaglennu ar gyfer mis Gorffennaf. Manylwyd ar y prosiectau sydd wedi derbyn cefnogaeth y Panel eleni hyd yma sef:

 

·       Bws Fflecsi Llŷn

·       Cae chwarae Llanbedrog

·       Llwybrau aml ddefnydd Nefyn

·       1st Mate Amgueddfa Morwrol

·       Pŵer solar Enlli

·       Clwb rhwyfo Porthdinllaen

·       Datgarboneiddio neuadd Rhiw

·       Gardd Antur Aelhaearn

 

Mynegwyd balchder bod dyraniad o £95,000 eisoes wedi ei gadarnhau ar gyfer 2026/27. Manylwyd bod gofynion newydd Llywodraeth Cymru yn nodi’r angen i 60% o’r ceisiadau a gefnogwyd cael eu clustnodi ar gyfer prosiectau sydd yn cyd-fynd â themâu Adfer Natur  a Dad-garboneiddio. Rhagwelwyd anhawster i gyrraedd y targed hwn yn Llŷn wrth edrych ar y prosiectau sydd wedi cael eu hariannu yn y gorffennol, ond tynnwyd sylw bod prosiectau megis gosod ffenestri dwbl, insiwleiddio a phaneli solar gyfrannu at y targedau dadgarboneiddio gan sicrhau bydd y wybodaeth yma yn cael ei rannu gyda’r cyhoedd.

 

Tynnwyd sylw bod canllawiau newydd ar gyfer y Panel yn dod i rym ym mis Ebrill 2026 a fyddai’n effeithio ar aelodaeth y Panel. Sicrhawyd bydd swyddogion yn cyflwyno gwybodaeth bellach ar y mater hwn yng nghyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:

 

Cytunwyd bod y targed a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn uchel iawn. Mewn ymateb, cadarnhaodd Swyddog Prosiect AHNE bod nifer o brosiectau sydd wedi cael ei gymeradwyo eleni, megis Bws Fflecsi Llŷn a cae chwarae Llanbedrog, yn brosiect cyffelyb i’r hyn a ellir cyfrannu at y targed hwn. Tynnwyd sylw hefyd bydd system sgorio newydd yn cael ei gyflwyno er mwyn asesu os yw’r prosiectau yn cyd-fynd â’r gofynion statudol.

 

Gofynnwyd a oes modd cysylltu gyda Llywodraeth Cymru ar gyfer addasu’r targed hwn, gan nad yw’n cyd-fynd gyda gweledigaeth AHNE Llŷn wrth lunio cynllun newydd. Fodd bynnag, cadarnhaodd Swyddog Prosiect AHNE nad oes modd addasu’r targed hon gan ei fod yn un sydd yn effeithio pob Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau Cenedlaethol, gan fod gofyn i bob un ohonynt gydymffurfio ag o.

 

Gofynnwyd am dderbyn gwybodaeth am y prosiectau a gefnogwyd dros gyfnod o 5 mlynedd o fewn adroddiadau yn y dyfodol er mwyn i’r Aelodau gymharu’r prosiectau sydd wedi dod i law.

 

            PENDERFYNIAD

 

            Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

 

10.

AOLYGU CYNLLUN RHEOLI'R AHNE pdf eicon PDF 202 KB

I rannu cynnwys gwybodaeth am adolygu Cynllun Rheoli’r AHNE.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Swyddog AHNE Llŷn.

 

Atgoffwyd bod trafodaeth gychwynnol ar y Cynllun Rheoli wedi cael ei gynnal yng nghyfarfod diwethaf y Cyd-bwyllgor, a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd 2024. Diweddarwyd bod Canllaw wedi cael ei ddiweddaru a’i gyhoeddi gan Land Use Consultants ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru yn ddiweddar ar sut i baratoi ac adolygu Cynlluniau Rheoli. Pwysleisiwyd bod ymgynghori gyda trigolion a rhanddeiliaid yr AHNE yn allweddol. Nodwyd bod y canllaw hwn yn hirfaith ac bod fersiwn cryno ar waith yn y Gymraeg a’r Saesneg ond nid yw wedi cael ei gyhoeddi ar hyn o bryd.  Tynnwyd sylw bod y prif gamau a ddylid eu cyflawni wrth greu ac llunio cynllun rheoli yn cynnwys:

 

·       Asesu’r wybodaeth ddiweddaraf am nodweddion yr ardal

·       Ystyried ac ymgorffori gwybodaeth o gynlluniau a strategaethau perthnasol

·       Adolygu Nodau / Amcanion a Pholisïau’r Cynllun

·       Creu cynllun gweithredu newydd ar gyfer cyfnod y Cynllun

·       Adolygu'r Asesiad Amgylcheddol Strategol / Rheoliadau Cynefinoedd

 

Nodwyd bod Adroddiad o Gyflwr AHNE Llŷn wedi cael ei gomisiynu gan yr Uned AHNE yn 2021, gyda chopïau ohono wedi cael ei gylchredeg i aelodau’r Cyd-bwyllgor yn ddiweddar. Tynnwyd sylw at rhai o sylwadau a dderbyniwyd yn dilyn hyn megis:

 

·       Gofyn pam bod yr adroddiad yn uniaith Saesneg

·       Diffyg gwybodaeth am rai materion megis newid hinsawdd, tirlun, llesiant, llygredd a bioamrywiaeth.

·       Dim cyfeiriad at y Cynllun Rheoli Traethlin.

·       Bod gwybodaeth fwy diweddar ar gael ar rai materion erbyn hyn megis amaethyddiaeth.

·       Byddai’n defnyddiol gweld sut mae cynlluniau eraill yn cydblethu fel rhan o gynnwys y Cynllun Rheoli diwygiedig megis Y Cynllun Datblygu Lleol, Asesiad Llesiant Gwynedd a Môn a Datganiad Ardal Gogledd Orllewin.

·       Bod angen i’r Adroddiad Cyflwr gyd-fynd â’r canllaw newydd sydd wedi ei gomisiynu gan Gyfoeth Naturiol Cymru

 

Eglurwyd y bwriedir addasu a diweddaru’r Adroddiad Cyflwr er mwyn cael darlun cywir o’r ardal a’r pwysau ar yr amgylchedd. Sicrhawyd bydd fersiwn Cymraeg a Saesneg yn cael ei baratoi. Nodwyd y bwriedir i’r adroddiad diwygiedig hwn gael ei gyhoeddi erbyn Tachwedd 2025.

 

Atgoffwyd nad oes addasiadau wedi bod i’r Rhinweddau Arbennig i’r AHNE ond bod yr aelodau wedi ffurfio gweledigaeth newydd yng nghyfarfod diwethaf y Cyd-bwyllgor hwn, sef:

 

Ardal o dirlun ac arfordir hardd gyda bywyd gwyllt cynhenid a’u cynefinoedd yn ffynnu, lefel isel o lygredd amgylcheddol ac amrywiaeth o gyfleon mynediad a chyhoeddus. Adeiladau a nodweddion hanesyddol mewn cyflwr da, busnesau lleol yn llwyddo a chymunedau AHNE Llŷn yn cynnal a chryfhau'r iaith Gymraeg a’i diwylliant.

 

Diweddarwyd bod swyddogion wedi gofyn i’r aelodau am eu barn ynglŷn â beth yw’r materion llosg sydd yn berthnasol i rinweddau'r AHNE, er mwyn ystyried eu ymgorffori mewn i’r Cynllun Rheoli, gan gyflwyno crynodeb o’r sylwadau a ddaeth i law ac ymatebion y swyddogion iddynt.

 

Adroddwyd y bydd swyddogion yn addasu amcanion a pholisïau'r Cynllun Rheoli presennol er mwyn sicrhau eu bod yn gyfredol. Eglurwyd ei fod yn debygol bydd angen cyflwyno polisïau newydd o ganlyniad i sylwadau a hefyd er mwyn ymateb yn effeithiol i heriau newydd sydd wedi codi. Tynnwyd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.