Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679256
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellr eu hystyried. Cofnod: |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a
gynhaliwyd 10 Hydref 2022 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion
y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 10 Hydref 2022 fel rhai
cywir. |
|
CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG: ADRAN ADDYSG PDF 507 KB I gyflwyno
gwybodaeth am gyfraniad yr adran i’r Polisi Iaith. Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Addysg
a thynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol: - Sicrhawyd bod Polisi Iaith Addysg Cyngor Gwynedd
wedi cael ei wreiddio drwy holl waith yr Adran Addysg ac ysgolion y sir. - Eglurwyd bod ymgynghoriad llawn wedi cael ei gynnal ar ddrafft o Gynllun
Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA). Ymhelaethwyd bod y CSGA yn weithredol
ers mis Medi 2022. Eglurwyd y byddai’n cael ei fonitro’n gyson gan Weinidog y
Gymraeg ac Addysg Llywodraeth Cymru a bod yr adran yn mynd i ddefnyddio’r
cynllun fel dogfen fyw er mwyn sicrhau bod sefyllfa unigryw Gwynedd yn cael ei
adlewyrchu ynddo. - Tynnwyd sylw penodol at fyd rhithiol ‘Aberwla’ fel darpariaeth arloesol
y Gyfundrefn Addysg Drochi. Bu i swyddogion Llywodraeth Cymru ymweld â’r safle
trochi newydd ym Mangor yn ddiweddar i weld y dysgwyr a oedd yn
newydd-ddyfodiaid yn defnyddio cyfarpar rhithwir er mwyn caffael y Gymraeg drwy
fynychu archfarchnad rithwir Aberwla. Canmolwyd y dull cyfoes a blaengar o godi
hyder plant i ddefnyddio’r Gymraeg mewn sefyllfaoedd gwahanol, fyddai’n eu
galluogi maes o law i ddefnyddio’u sgiliau yn y gymuned. Canmolwyd staff y
ganolfan drochi am eu gwaith arbennig ar y prosiect newydd yma. - Yng
nghyd-destun recriwtio, nodwyd fod rhai heriau recriwtio yn rhai o
wasanaethau’r Adran megis arlwyo a glanhau, a bod problemau recriwtio athrawon
ar gyfer pynciau penodol mewn ysgolion uwchradd yng Ngwynedd, ond pwysleisiwyd
fod yr heriau recriwtio athrawon yn her genedlaethol. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol: Gofynnwyd a oes gan rieni’r
hawl i fynnu bod addysg eu plant yn cael ei ddarparu drwy gyfrwng y Saesneg,
gan eithrio Cymraeg fel cyfrwng dysgu. Nodwyd y byddai hynny’n gallu bod yn
niweidiol i allu’r disgyblion rheiny i dderbyn swydd yn eu hardal leol oherwydd
diffyg yn eu sgiliau Cymraeg. -
Mewn ymateb i’r ymholiad
cadarnhaodd yr Aelod Cabinet Addysg ei bod hi’n rhannu’r pryder ond yn derbyn
bod amryw o resymau pam fod rhieni yn gofyn i’w plant gael eu haddysgu drwy
gyfrwng y Saesneg. -
Mewn ymateb i’r ymholiad
nododd y Pennaeth Addysg bod modd i ddisgyblion dderbyn rhannau o’u haddysg
drwy gyfrwng y Saesneg o dan y cwricwlwm newydd ac yn unol a’n polisi iaith ni
yma yng Ngwynedd. Mae hyn er mwyn sicrhau bod disgyblion yn hyderus ac yn
hyfedr yn defnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg. -
Ymhelaethwyd bod yr
ymholiad hwn yn codi gan rieni o dro i dro, a bod swyddogion yr Adran a holl
athrawon y Sir yn trafod gyda rhieni er y manteision o dderbyn addysg
ddwyieithog, gyda’r gobaith y byddent yn
fodlon dilyn yr arweiniad hwnnw. Nodwyd bod yr adran wedi gweld cynnydd yn
niferoedd y rhieni sy’n fwy brwdfrydig i ddysgu Cymraeg fel oedolion ar ôl
gweld cynnydd eu plant wrth ddysgu’r Gymraeg. - Cadarnhaodd y Pennaeth Addysg fod Llywodraeth Cymru wedi gosod gwaelodlin ar faint o addysg sy’n cael ei ddarparu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn wedi ei osod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG: ADRAN CEFNOGAETH GORFFORAETHOL PDF 390 KB I gyflwyno
gwybodaeth am gyfraniad yr adran i’r Polisi Iaith. Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. Cofnod: -
Cadarnhawyd
bod yr adran yn ganolog i hybu’r Gymraeg o fewn y Cyngor. -
Datganwyd bod 98.3% o weithlu’r
adran yn cyrraedd dynodiad iaith y swydd. Manylwyd bod 95.1% o holl staff yr
adran wedi cwblhau’r hunan asesiad iaith. Credir bod hyn yn dda iawn gan fod 66
aelod o staff newydd wedi cael eu penodi o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf. -
Adroddwyd bod
yr adran yn arwain ar dri o brosiectau blaenoriaeth y Cyngor. -
Cydnabuwyd
bod yr adran wedi derbyn heriau yn ddiweddar. -
Eglurwyd bod yr adran yn
gweithio er mwyn sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn cael ei ddefnyddio mewn
contractau caffael, dylanwadu ar systemau cynlluniau gweithlu a chysylltu gyda
sefydliadau allanol i Wynedd a Chymru o fewn y maes cofrestru ac arwyddo
dadleniadau troseddol er mwyn sicrhau darpariaeth ddwyieithog. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod
y drafodaeth, codwyd y materion canlynol: Gofynnwyd a yw’r
uned gyfreithiol yn rhan o’r adran. -
Mewn ymateb i’r ymholiad
cadarnhaodd Pennaeth yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol nad ydi’r gwasanaeth
cyfreithiol yn rhan o’r Adran. Canmolwyd yr
adran am eu gwaith yn ymwneud ag enwau lleoedd Cymraeg, a holwyd os oes modd
cydweithio â Google Maps er mwyn iddynt ddefnyddio’r enwau Cymraeg ar gyfer
ardaloedd y Sir. - Mewn ymateb i’r ymholiad nododd yr Ymgynghorydd Iaith nad yw’r adran
wedi llwyddo i annog Google i ddefnyddio enwau lleoedd Cymraeg eto gan fod
cwmnïau o’r fath yn cael eu gwybodaeth o nifer o wahanol ffynonellau. Er hyn,
cadarnhawyd bod yr adran yn cydweithio gydag Arolwg Ordnans (Ordnance Survey)
er mwyn iddynt ddefnyddio enwau Cymraeg ar fapiau. Mae’r gwaith hwn wedi bod yn
gadarnhaol hyd yma ond mae’n debygol bydd hyn yn brosiect parhaus er mwyn cael
cysondeb o fewn eu mapiau. Diolchwyd am yr adroddiad. PENDERFYNWYD Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a
dderbyniwyd. |
|
CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG: ADRAN TAI AC EIDDO PDF 483 KB I gyflwyno
gwybodaeth am gyfraniad yr adran i’r Polisi Iaith. Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. Cofnod: -
Eglurwyd bod yr adran yn
delio gyda nifer o wasanaethau rheng flaen megis digartrefedd, ffoaduriaid a
chyflenwad tai. Esboniwyd bod materion corfforaethol i’r adran hefyd megis
glanhau a diogelwch y swyddfeydd. Golyga hyn bod yr adran yn ymwneud â llawer
iawn o bobl ac yn falch o adrodd bod y gwasanaethau hyn i gyd yn cael eu cynnig
yn Gymraeg / yn ddwyieithog. -
Cadarnhawyd bod nifer o
bobl sy’n defnyddio gwasanaethau’r adran yn dod o wahanol gefndiroedd ac yn aml
iawn gydag anghenion penodol neu’n dioddef o straen. Teimla’r adran bod
cyfathrebu gyda defnyddwyr yn eu dewis iaith yn hanfodol ac mae’r adran yn
falch o lwyddo i wneud hynny. -
Adroddwyd bod amser ac
ymdrech wedi bod gan yr adran i gynorthwyo pobl drwy’r sefyllfa bresennol yn
Wcráin. Mae’r adran wedi llwyddo i sefydlu cannoedd o bobl yn y sir am gyfnod
er mwyn rhoi lloches iddynt. -
Mynegwyd bod 94% yn
cyrraedd lefel dynodiad iaith eu swydd, gyda’r mwyafrif helaeth o’r gweithlu
wedi cwblhau’r hunanasesiad. Rhannwyd balchder bod hyn yn gynnydd o 67% ers
Ionawr 2022. Cadarnhawyd bod 6 aelod o staff wedi mynychu hyfforddiant
ieithyddol. -
Manylwyd bod yr adran yn
credu bod y Polisi Tai Cyffredin, sy’n rhoi blaenoriaeth am dai cymdeithasol i
unigolion â chysylltiad at Wynedd yn sicrhau bod pobl leol yn gallu byw yn eu
cymunedau. Credir bod hyn yn lleihau mudo a symudedd sy’n cael ei nodi fel
bygythiad i’r Gymraeg o fewn y Cynllun Hybu’r Gymraeg. Ymhelaethwyd bod 96%
o osodiadau tai cymdeithasol wedi mynd i
bobl â chysylltiadau lleol rhwng Medi 2021-22. -
Soniwyd bod argyfwng tai
yn yr ardal ar hyn o bryd ac mai nod y Cynllun Gweithredu Tai yn sicrhau bod
pobl yn gallu aros yn eu cymunedau drwy amryw o gynlluniau megis Cynlluniau
Datblygu Tai Ein Hunain a chynlluniau prynwyr tro cyntaf. -
Rhannwyd
balchder bod systemau cyfrifiadurol yr adran ar gyfer Cynllun Opsiynau Tai. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod
y drafodaeth, codwyd y materion canlynol: Yn sgil
cymal yn yr adroddiad yn nodi gofynion statudol i hysbysebu yn Saesneg (yn
ogystal a Chymraeg) nododd rhai aelodau’r Pwyllgor y gallai hyn arwain at roi
contractwyr Cymraeg o dan anfantais. -
Mewn ymateb i’r ymholiad
cadarnhaodd Pennaeth Adran Tai ac Eiddo bod hysbysebu’n Saesneg yn ofyniad
statudol sy’n cael ei roi ar yr adran. Er hyn, pwysleisiwyd bod yr adran yn
hysbysebu yn ddwyieithog yn aml. -
Eglurwyd o fewn
Fframwaith y Cyngor bod Polisi Iaith Cyngor Gwynedd yn cael ei rannu gyda’r
cwmnïau yn dilyn derbyn pob cais am waith. Mae’r adran yn clymu’ cwmnïau i
ofynion ieithyddol Cymraeg o fewn y gwasanaeth maent yn ei ddarparu. -
Yn dilyn cais,
cytunodd Pennaeth yr Adran Tai ac Eiddo i rannu’r gofyn statudol a proffiliau
ieithyddol contractwyr yr adran gyda’r aelodau. Gofynnwyd a yw’r adran yn gallu darparu gwybodaeth am faint ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
CANLYNIADAU CYFRIFIAD 2021 - YR IAITH GYMRAEG PDF 808 KB Rhannu Gwybodaeth
o’r Cyfrifiad am niferoedd a chyfran y siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd. Penderfyniad: Cofnod: -
Eglurwyd bod
y Cyfrifiad diweddaraf wedi cael ei gynnal ar 21ain o Fawrth, 2021, gyda’r
canlyniadau manwl am yr iaith Gymraeg yn
cael eu cyhoeddi ar 6ed Rhagfyr 2022. -
Eglurwyd bod
y cwestiwn canlynol yn cael ei ofyn fel rhan o’r cyfrifiad a dyma ddefnyddiwyd
fel sail i’r data: “Ydych chi’n
gallu deall, siarad, darllen, neu ysgrifennu Cymraeg? § Deall Cymraeg Llafar § Siarad Cymraeg § Darllen Cymraeg § Ysgrifennu Cymraeg § NEU ddim un o’r uchod” -
Cadarnhawyd
bod canran siaradwyr Cymraeg (a oedd yn 3 oed neu hŷn) yng Ngwynedd wedi
gostwng o 65.4% yn 2011 i 64.4% yn 2021. Nodir bod hyn yn llai na’r gostyngiad
cyffredinol yn siaradwyr Cymraeg yng Nghymru sydd yn 1.2%. -
Adroddwyd bod
canran siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd wedi gostwng pob degawd ers 1981 ac yn yr
amser hynny mae’r canran wedi gostwng 12.2%. -
Datganwyd
mai’r grŵp oedran gyda’r nifer fwyaf o siaradwyr Cymraeg yw’r grŵp 3
i 15 oed. Er hyn, cadarnhawyd bod gostyngiad o 2.9% o siaradwyr Cymraeg yn y
grŵp oedran hwn. -
Eglurwyd bod
cyfraddau siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd yn debyg iawn i’r patrymau a welir yng
Nghymru yn gyffredinol. Nodwyd mai’r unig grŵp oedran sy’n wahanol i
batrwm cenedlaethol ydi bod cynnydd o 0.6% o siaradwyr Cymraeg rhwng 50 a 64
oed yng Ngwynedd ond gostyngiad o 0.7% sydd dros Gymru’n gyffredinol. -
Manylwyd ar yr 13 ardal
o fewn Gwynedd gan gadarnhau mai Dalgylch Caernarfon sydd â’r canran fwyaf o’r
siaradwyr Cymraeg (85.3%) a’r niferoedd lleiaf i weld yn ardal Bro Dysynni
(38.6%). Eglurwyd bod lleihad mewn nifer o siaradwyr Cymraeg i’w gweld mewn 10
ardal, gyda chynnydd mewn nifer siaradwyr yn ardaloedd Pen Llŷn, Dalgylch
Bangor a Bro Dysynni yn unig. -
Cadarnhawyd bod y pum
gymdogaeth gyda’r niferoedd uchaf o siaradwyr Cymraeg wedi ei leoli yn ardal
Arfon ac mae’r pum cymdogaeth gyda’r lleiaf o siaradwyr i’w gweld yn ardal Bangor. -
Adroddwyd mai
Llanbedrog ac Abersoch yw’r gymdogaeth gyda’r cynnydd mwyaf o siaradwyr
Cymraeg, ble mae’r gostyngiad mwyaf i’w weld yn ardal Hendre, Bangor. -
Nodwyd bod
7.1% o’r boblogaeth wedi cadarnhau eu bod yn deall Cymraeg llafar ond methu eu
siarad. Mae hyn yn uwch na chyfradd Cymru o 5.2%. Cadarnhawyd mai’r gymdogaeth
gyda’r nifer fwyaf o bobl yn deall Cymraeg llafar ond methu ei siarad oedd
cymdogaeth Marchog. -
Adnabuwyd
cymdogaeth Peblig, Caernarfon fel y gymdogaeth ble roedd y nifer fwyaf o bobl
yn gallu siarad Cymraeg ond ddim ei ddarllen na’i ysgrifennu. -
Esboniwyd bod
canlyniadau’r Cyfrifiad yn dangos bod 2.3% o boblogaeth Cymru yn siarad Cymraeg
ond methu ei ddarllen nac ei ysgrifennu. Mae’r gyfradd yma ar gyfer Gwynedd yn
5.4%. -
Pwysleisiwyd bod
gwybodaeth fanylach yn cael ei ryddhau ar lefel wardiau, a bydd gwaith yn cael
ei wneud er mwyn dadansoddi’r canlyniadau. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
COMISIYNYDD Y GYMRAEG: ADRODDIAD SICRWYDD 2021-22 PDF 827 KB Er gwybodaeth
yn unig. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan yr Ymgynghorydd Iaith a nodwyd y pwyntiau canlynol: -
Adroddwyd bod yr adroddiad yn un blynyddol sy’n cael ei gyflwyno gan y
Comisiynydd Iaith a’i bwrpas yw rhoi eu hargraff at sut mae amrywiol gyrff
cyhoeddus yn cydymffurfio â safonau ieithyddol. -
Pwysleisiwyd nad yw’r adroddiad wedi cael ei wneud yn benodol ar gyfer
Cyngor Gwynedd ond yn hytrach yn rhoi darlun cenedlaethol cyffredinol. -
Eglurwyd bod yr adroddiad yn rhoi
awgrymiad o ba feysydd fydd yn cael sylw gan y Comisiynydd yn y flwyddyn i
ddod. Gwahoddwyd yr
aelodau i gysylltu â’r Ymgynghorydd Iaith os oes unrhyw ymholiad yn codi o’r
adroddiad. |
|
LLYWODRAETH CYMRU: LLYTHYR GAN WEINIDOG Y GYMRAEG AC ADDYSG PDF 158 KB Er
gwybodaeth yn unig, ni fydd trafodaeth ar gynnwys y llythyr. Mae’r eitem hon
wedi cael ei gyfieithu i’r Saesneg gan y Cyngor. Cofnod: Cyflwynwyd yr
ohebiaeth fel rhan o raglen y pwyllgor er gwybodaeth yn unig. Ni thrafodwyd y
mater o fewn y cyfarfod. |