Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679256

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorwyr Elfed Williams a Sasha Williams.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

3.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

4.

COFNODION pdf eicon PDF 315 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfodydd o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 31 Ionawr 2023 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 19 Ionawr 2023 fel rhai cywir.

 

5.

CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG: TIM ARWEINYDDIAETH A GWASANAETHAU CYFREITHIOL pdf eicon PDF 441 KB

Cyflwyno gwybodaetham gyfraniad y Tîm Arweinyddiaeth a Gwasanaethau Cyfreithiol i hybu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg.

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol a Phennaeth y Gwasanaeth Cyfreithiol a thynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

-      Atgoffwyd bod y Tîm Arweinyddiaeth yn cefnogi Prif Weithredwr y Cyngor.

-      Cadarnhawyd bod meddalwedd Microsoft bellach yn cael ei osod yn ddiofyn ar holl ddyfeisiau’r Cyngor. Nodwyd bod y niferoedd o ddyfeisiau sydd wedi eu cadw ar feddalwedd Cymraeg wedi codi i 63% o’i gymharu â 47% y llynedd. Er hyn, pwysleisiwyd bod gwaith parhaus yn cael ei wneud er mwyn annog staff i ddefnyddio’r feddalwedd Gymraeg ar eu dyfeisiau a’u cefnogi i feithrin hyder yn eu sgiliau cyfrifiadurol Cymraeg.

-      Adroddwyd bod Fforwm Iaith newydd yn cael ei sefydlu gyda chyfarfod cyntaf y Fforwm yn cael ei gynnal ym mis Mehefin. Manylwyd bod Arweinydd y Cyngor, Aelod Cabinet Cefnogaeth Corfforaethol a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol yn aelodau o’r fforwm.

-      Ystyriwyd mai un o brif rolau’r  Tîm Arweinyddiaeth yw dylanwadu ar y defnydd o’r Gymraeg mewn sefydliadau allanol. Nodiwyd bod y Swyddfa Gartref yn recriwtio siaradwyr Cymraeg ar hyn o bryd oherwydd bu i’r Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr Statudol a Phennaeth yr Adran Blant, wrthod croesawu arolygwyr Cyfiawnder Ieuenctid di-gymraeg. Ymhelaethwyd bod swyddogion Cyngor Sir Ynys Môn hefyd wedi gwneud safiad mewn ymgais i gael arolygwyr sy’n gallu’r Gymraeg. Ymhellach, nodwyd bod nifer o Gynghorau Sir eraill ar draws y wlad wedi gwneud safiad o’r fath gan nodi na fyddent yn derbyn unrhyw arolygiad nes bydd y Swyddfa Gartref wedi llwyddo i recriwtio arolygwyr sy’n gallu’r Gymraeg.

-      Cydnabuwyd bod trafferthion recriwtio wedi bod yn heriol dros y flwyddyn ddiwethaf a bod y gwasanaeth cyfreithiol wedi bod yn dibynnu ar wasanaeth locwm i ddarparu gwasanaethau mewn sawl maes. Cydnabuwyd bod hyn wedi cael peth effaith ar ddefnydd y Gymraeg o fewn y gwasanaeth gan ei fod yn eithriad bod cyfreithwyr locwm yn medru’r Gymraeg. Pwysleisiwyd bod y sefyllfa recriwtio yn gwella gan fod y gwasanaeth bellach yn gallu penodi mwy o staff  heb gyfaddawdu ar ofynion ieithyddol Cymraeg oherwydd bod yr unigolion sydd wedi eu penodi eisoes yn cyfarch gofynion ieithyddol y Cyngor.

-      Eglurwyd bod Gwynedd yn arwain ar sawl prif bartneriaethau rhanbarthol gan gynnwys GwE, Bwrdd Uchelgais a Chydbwyllgor Corfforedig Rhanbarth y Gogledd.  Mae gan y gwasanaeth cyfreithiol rôl allweddol yn eu cynnal. Credir bod presenoldeb swyddogion Gwynedd o fewn y partneriaethau yma yn sicrhau defnydd y Gymraeg mewn meysydd technegol yn naturiol. Adlewyrchir hyn yng ngwaith y partneriaethau.

-      Trafodwyd bod Cyngor Gwynedd ar fin prynu meddalwedd newydd ar y cyd gyda chynghorau dwyreiniol Gogledd Cymru. Cadarnhawyd  bod gallu’r system i addasu a chofnodi gwybodaeth drwy’r Gymraeg a Saesneg yn ofyn craidd i dderbyn y feddalwedd, yn unol â gofynion ieithyddol Cyngor Gwynedd.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:

 

-      Trafodwyd bod trafferthion yn gallu codi wrth gydweithio gydag asiantaethau eraill pan nad oes cyfeithu ar y pryd  ar gael mewn cyfarfodydd neu ddogfennaeth. Ystyriwyd os oes polisi mewn grym mewn sefyllfaoedd o’r fath er  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG - ADRAN ECONOMI A CHYMUNED pdf eicon PDF 444 KB

Cyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr Adran i’r Polisi Iaith.

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Adran Economi a Chymuned a thynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

-      Cadarnhawyd bod Gwynedd yn parhau i arwain ar gynllun ARFOR gyda Chyngor Sir Ynys Môn. Eglurwyd bod  cais llwyddiannus wedi  ei wneud gyda Llywodraeth Cymru er mwyn cadarnhau bod y prosiect hwn yn parhau hyn o leiaf 2025 er mwyn ariannu prosiectau i hyrwyddo’r Gymraeg.

-      Adroddwyd bod gan yr adran gronfa grant er mwyn  cefnogi busnesau a chymunedau. Mae hyn yn ychwanegol i grantiau Llywodraeth Cymru ac mae’r Cyngor yn gallu gosod telerau ieithyddol fel amodau i dderbyn y cymorth ariannol.

-      Soniwyd bod cryn dipyn o drafodaeth wedi bod ynghylch sut i hyrwyddo’r Gymraeg drwy’r Economi Ymweld ac yn sgil hynny, mae’r adran wedi comisiynu Prifysgol Bangor i gydweithio gyda’r Cyngor i osod gwaelodlin a mesuryddion effaith ymwelwyr i’r ardal ar yr iaith.

-      Eglurwyd bod adborth calonogol wedi’i dderbyn gan unigolion sy’n defnyddio cyfleusterau’r amgueddfeydd, celfyddydau a llyfrgelloedd. Eglurwyd bod nifer o weithgareddau’n cael eu cynnal mewn awyrgylch llai ffurfiol er mwyn caniatau i unigolion fagu hyder yn eu defnydd o’r iaith. Manylwyd bod dysgwyr Cymraeg yn fwy hyderus i gyfrannu mewn sgyrsiau mewn awyrgylch o’r fath.

-      Esboniwyd bod yr adran wedi derbyn £18miliwn gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Ffyniant Bro, Llewyrch a Llechi fel rhan o’r rhaglenni adfywio. Ymhelaethwyd nad oes amodau ieithyddol wedi eu gosod gan y llywodraeth wrth i’r Cyngor ddyrannu’r arian ymhellach. Er hyn, mae’r adran yn ceisio gosod sail er mwyn sicrhau bod gofynion ieithyddol yn cael eu gosod ar unrhyw gais am arian er mwyn sicrhau bod yr iaith yn cael ei ystyried fel rhan o’r rhaglen adfywio.

-      Cyfeiriwyd at un o rwystrau’r adran i ddatblygu sgiliau ieithyddol y gwasanaeth morwrol. Eglurwyd bod yr adran yn cyflogi 27-30 o wardeniaid traethau dros gyfnod yr haf er mwyn diogelu’r cyhoedd. Oherwydd natur tymhorol eu swydd, nid yw’r adran yn gallu cydweithio gyda’r unigolion hyn o flwyddyn i flwyddyn i wella eu gallu gyda’r Gymraeg, ac mae hyn yn rwystr mae’r adran yn ceisio ei ddatrys. Er hyn, manylwyd bod 94.5% o staff yr adran yn cyrraedd dynodiad ieithyddol eu swydd allan o’r 80.5% o holl staff yr adran oedd wedi cwblhau’r hunan asesiad.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:

 

-      Croesawyd bod yr adran yn cydweithio gyda canolfannau Cymraeg i oedolion a nodwyd y gobaith  y bydd hyn yn drefniant fydd yn  parhau i’r dyfodol.

-      Mewn ymateb i’r sylwadau, cadarnhaodd Pennaeth Adran Economi a Chymuned nad oedd addysg oedolion yn waith sydd fel arfer yn weithredol o fewn yr adran. Manylwyd bod y gwaith cydweithio hwn yn digwydd drwy grant mewn cydweithrediad gyda Choleg Llandrillo Menai er mwyn sicrhau bod pecynnau addysg ar gael i bawb- bod drwy golegau neu lyfrgelloedd.

-      Mewn ymateb i ymholiad am gydweithio gydag amgueddfeydd annibynnol, cadarnhaodd Pennaeth Adran Economi bod hyn yn digwydd fel rhan o waith yr adran, ond fod peth effaith  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

DIWEDDARIAD AR WAITH HUNANIAITH - MENTER IAITH GWYNEDD pdf eicon PDF 163 KB

Cyflwynir yr adroddiad hwn er mwyn rhoi cefndir i aelodau’r Pwyllgor am waith a blaenoriaethau cyfredol y fenter.

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Pen Swyddog Hunaniaith (Menter Iaith Gwynedd) a thynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

-      Cadarnhawyd bod grŵp arweiniol gwirfoddol wedi  ei sefydlu er mwyn cwblhau’r gwaith o newid y fenter i fod yn un annibynnol o’r Cyngor. Esboniwyd bod cwmni newydd – nid er elw, sef Menter Iaith Gwynedd wrthi’n cael ei sefydlu gan y grŵp gwirfoddol. Ymhelaethwyd mai’r nod yw trosglwyddo staff i'r endid newydd erbyn diwedd y flwyddyn ariannol bresennol.

-      Eglurwyd bod cynrychiolaeth dda o wahanol oedrannau, rhyw ac ardaloedd  ar y grŵp.

-      Adroddwyd bydd lansiad meddal i’r fenter newydd ar faes Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym mis Awst

-      Nodwyd bod llwyddiant i ddenu cyllid ychwanegol  drwy'r gronfa Llywodraeth Cymru  ‘ Haf o Hwyl’ o fewn y flwyddyn ddiwethaf wedi caniatáu Hunaniaith i drefnu 23 digwyddiad i 341 o blant a phobl ifanc ar draws y sir.

-      Adroddwyd bod cydweithio da yn digwydd gydag adrannau’r cyngor megis yr Adran Addysg er mwyn sicrhau bod dealltwriaeth a mewnbwn gan deuluoedd cyfan ar ddigwyddiadau canolfannau trochi, gwybodaeth am iaith a diwylliant Gwynedd a chyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg.  Cyfeiriwyd hefyd at gydweithio gyda Menter Iaith Môn er mwyn denu cyllid gan Adran Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd er mwyn annog mwy o fusnesau i wneud defnydd o’r Gymraeg o ddydd i ddydd.

-      Atgoffwyd yr aelodau mai prif nod y fenter yw adnabod bylchau o ran cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg  mewn ardaloedd a chydweithio gyda chymunedau i ganfod datrysiadau hir dymor iddynt. Rhannwyd enghraifft o hyn drwy fanylu ar wersi ioga Cymraeg ym Mangor yn dilyn canfyddiadau o’r angen iddynt gael eu cynnal o fewn yr ardal.

-      Nodwyd bod tri aelod o staff yn cefnogi Pen Swyddog Hunaniaith. Prif ffocws eu gwaith yw  annog a chefnogi cymunedau i ddatblygu prosiectau i hybu defnydd o’r Gymraeg, , a fydd yn gynaliadwy yn y tymor hir . Ymhelaethwyd mai prif ffocws y fenter yw edrych ar ardaloedd yn bennaf, yn hytrach na phrosiectau unigol. Cadarnhawyd mai’r ardaloedd sydd wedi eu blaenoriaethu am y flwyddyn nesaf, yw Bangor, Ogwen, Penllyn a’r Felinheli. Manylwyd hefyd bod y fenter yn mynd i ganolbwyntio ar ardal Pen Llŷn oherwydd bod yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal o fewn yr ardal hon eleni.

-      Trafodwyd rhai o flaenoriaethau’r fenter am y flwyddyn i ddod, gan ganolbwyntio ar sicrhau bod ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol yn annog mwy o bobl i siarad Cymraeg yn yr ardal a hefyd i weithio gyda phlant a theuluoedd Cymraeg i sicrhau bod yr iaith yn cael ei siarad ymysg ei gilydd o ddydd i ddydd.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:

 

-      Mewn ymateb i ymholiadau ar effaith yr iaith Gymraeg yn sgil ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, cadarnhaodd Pen swyddog Hunaniaith bod trefnwyr yr eisteddfod yn edrych ar nifer o opsiynau gwahanol ar gyfer cynulleidfaoedd penodol er mwyn hyrwyddo’r iaith. Rhannwyd nifer o  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

ADRODDIAD CANMOLIAETH A CHWYNION pdf eicon PDF 365 KB

Cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am gwynion ac enghreifftiau o lwyddiannau’r Uned wrth hybu defnydd o’r Gymraeg yng ngwasanaethau’r Cyngor.

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu. Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

-      Atgoffwyd yr aelodau bod yr adroddiad hwn yn rhannu enghreifftiau o lwyddiannau a chwynion sy’n gysylltiedig â hyrwyddo’r Gymraeg o fewn gwasanaethau’r Cyngor.

-      Manylwyd bod pedwar cwyn wedi cael euderbyn yn gysylltiedig â chydymffurfiaeth safonau’r Gymraeg. Ymhelaethwyd nad yw’r Cyngor wedi derbyn dyfarniad terfynol dau o’r cwynion hynny.  Esboniwyd nad oedd yn briodol cynnal trafodaeth ar y cwynion hynny gan ei bod yn rhai byw ac maent wedi eu cynnwys yn yr adroddiad er gwybodaeth i’r aelodau yn unig.

-      Rhannwyd manylion am bedwar cwyn a dderbyniwyd mewn cysylltiad â pholisi iaith y Cyngor.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y mater canlynol:

 

-      Llongyfarchwyd y Cyngor am eu llwyddiant a nodwyd mai nifer isel iawn o gwynion sydd wedi cael eu derbyn.

 

PENDERFYNWYD

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.