Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679556

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Olaf Cai Larsen a Menna Baines, Geraint Owen (Cyfarwyddwr Corfforaethol) a Bet Huws (Swyddog Dysgu a Datblygu’r Iaith Gymraeg).

 

Diolchwyd i’r Cynghorydd Sasha Williams am ei chyfraniad i’r Pwyllgor dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Croesawyd y Cynghorydd Rhys Tudur fel Aelod newydd i’r Pwyllgor.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn ar gyfer Eitem 7 gan ei fod wedi bod yn cydweithio gyda Menter Iaith Gwynedd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Nid oedd yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu ac felly ni adawodd y cyfarfod.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw fater brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 133 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gyhaliwyd ar 30 Ionawr 2024 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 30 Ionawr 2024 fel rhai cywir.

 

5.

CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG: TÎM ARWEINYDDIAD A GWASANAETHAU CYFREITHIOL pdf eicon PDF 201 KB

I gyflwyno gwybodaeth am gyfraniad y Tîm Arweinyddiaeth a Gwasanaethau Cyfreithiol i hybu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Weithredwr a Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Pwysleisiwyd fod y Tîm Arweinyddiaeth yn sefyll yn gadarn ar ddefnydd o’r iaith Gymraeg gan beidio cyfaddawdu, gan ei fod yn gosod cynsail ar gyfer gweddill y Cyngor. Mynegwyd rhwystredigaeth nad yw cyfleusterau Cymraeg digonol yn cael ei ddefnyddio mewn cyfarfodydd a gynhelir gan Lywodraeth Cymru gan ymhelaethu bod trafodaethau yn aml yn cael eu cynnal yn y Saesneg. Cadarnhawyd bod Cyngor Gwynedd yn arwain ar sicrhau bod cyfleusterau digonol yn cael eu defnyddio mewn cyfarfodydd ac o’r herwydd, tynnwyd sylw at lythyr a yrrwyd i Weinidog yr Iaith Gymraeg yn Llywodraeth Cymru i ddatgan pryder y Tîm Arweinyddiaeth am y sefyllfa bresennol.

 

Adroddwyd bod y Tîm Arweinyddiaeth a’r Cyngor yn cydweithio gyda nifer o gyrff cenedlaethol a rhanbarthol. Sicrhawyd yr aelodau bod swyddogion yn annog y cyrff hynny i geisio efelychu polisi iaith Cyngor Gwynedd a hyrwyddo defnydd mewnol o’r Gyrmaeg. Rhannwyd enghraifft o hyn sef bod y Cyfarwyddwr Corfforaethol a’r UwchYmgynghorydd  Iaith a Chraffu yn aelodau o Grŵp Llywio a sefydlwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg er mwyn datblygu modelau polisi i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg o fewn cyrff cyhoeddus yng Nghymru. Eglurwyd bod y Grŵp, sy’n cynnwys cynrychiolaeth gan nifer o sefydliadau, yn caniatáu i swyddogion y Cyngor rannu profiadau megis datblygu polisi iaith, dulliau recriwtio, defnydd mewnol y Cyngor o’r Gymraeg, hyfforddiant ac anogaeth a gynigir i staff er mwyn datblygu eu hyder yn y Gymraeg. Ymhelaethwyd bod yna gynrychiolaeth o’r Cyngor ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn gan nodi bod y Bwrdd wedi bod yn gweithio ar brosiect yn ymwneud gyda  materion recriwtio gweithlu diweddar er mwyn denu aelodau staff Cymraeg. Soniwyd hefyd bod y Cyngor yn cydweithio gyda Menter Iaith Gwynedd er mwyn datblygu prosiectau.

 

Esboniwyd bod gan y Cyfarwyddwr Statudol (Gwasanaethau Cymdeithasol) gyfrifoldebau penodol o ran hyrwyddo defnydd o’r Iaith Gymraeg o fewn y sector gofal. Eglurwyd y disgwylir bod pob awdurdod  lleol a Bwrdd Iechyd yng Nghymru, yn penodi uwch arweinydd yn ‘bencampwr’ y Gymraeg fel rhan o raglen waith ‘Mwy Na Geiriau’, gan gadarnhau mai’r Cyfarwyddwr Statudol (Gwasanaethau Cymdeithasol) sy’n arddel y rôl honno yng Ngwynedd. Cadarnhawyd ei fod yn ofynnol yn ôl Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Llesiant (Cymru) 2014 i’r ‘pencampwr’ sicrhau defnydd rhagweithiol o’r Gymraeg fel ei fod ar gael heb i ddefnyddwyr gorfod gofyn amdano. Pwysleisiwyd mai dyma yw’r arferiad o fewn Cyngor Gwynedd ers nifer o flynyddoedd a bod y Cyfarwyddwr yn defnyddio ei rôl fel ‘pencampwr’ a Chadeirydd ‘Mwy Na Geiriau’ er mwyn cynorthwyo eraill i fod yn rhagweithiol yn y Gymraeg. Ymhelaethwyd ei fod hefyd wedi bod yn feirniad ar wobrau cenedlaethol Gofal Cymdeithasol Cymru ar y defnydd o’r iaith Gymraeg yn y sector gofal yn ddiweddar.

 

Cydnabuwyd bod y defnydd o Saesneg o fewn technoleg gwybodaeth wedi bod yn her i’r Cyngor yn y blynyddoedd diwethaf. Er hyn, ymfalchïwyd bod y mwyafrif helaeth o staff y Cyngor sy’n defnyddio cyfrifiaduron  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG: ADRAN ECONOMI A CHYMUNED pdf eicon PDF 245 KB

I gyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr Adran i’r Polisi Iaith.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan  Bennaeth Adran Economi a Chymuned a thynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Tynnwyd sylw at raglen Arfor gan nodi bod Cyngor Gwynedd yn cymryd rôl arweiniol ar Fwrdd y prosiect. Eglurwyd bod y Bwrdd yn y broses o werthusoeffaith y prosiectau ar ardaloedd a thrigolion er mwyn derbyn cyllideb i’r dyfodol. Atgoffwyd bod prosiect Arfor wedi ei ariannu hyd at ddiwedd blwyddyn ariannol 2024-25 ac felly mae’n bwysig gweithio ar geisio derbyn ymrwymiad ariannol i’r dyfodol ar hyn o bryd. Cadarnhawyd bod cydweithio pwysig yn mynd rhagddo rhwng siroedd rhanbarth Arfor sef Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.

 

Adroddwyd bod yr Adran wedi llwyddo i ddenu arian gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth Prydain, gan gadarnhau fod cronfa grant i fusnesau ar gael o’r gyllideb hon yn ychwanegol i brosiect Arfor. Eglurwyd bod telerau ac amodau a ddatblygwyd drwy brosiect Arfor wedi cael eu cynnwys ar gyfer ceisiadau busnesau am arian drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin hefyd. Eglurwyd y golyga hyn bod rhaid i gwmnïau amlygu'r defnydd o Gymraeg a wneir fel rhan o’u busnes yn ogystal â rhannu sut mae’r cwmni yn hybu’r iaith Gymraeg, wrth iddynt wneud cais am arian. O ganlyniad i hyn nodwyd bod 79 busnes o Wynedd wedi cwblhau asesiad ‘Cynnig Cymraeg’ Comisiynydd y Gymraeg yn ystod 2023/24 gydag 12 o’r cwmnïau hynny eisoes wedi derbyn yr achrediad. Cydnabuwyd na fydd yr un anogaeth ar gael pan nad oes grantiau busnes ar gael. Er hyn, pwysleisiwyd bod gwaith yn mynd rhagddo er mwyn gallu cynnig cymorth i fusnesau bychan i gyrraedd yr achrediad gan Comisiynydd y Gymraeg. Ategwyd mai’r gobaith yw y bydd cwmnïau yn cymryd y cyfle i ymgeisio am  achrediad ‘Cynnig Cymraeg’ yn wirfoddol i’r dyfodol ond nodwyd nad oes modd i’r Adran eu gorfodi. Mynegwyd siomiant mai Gwynedd yw’r unig Sir yn y gogledd sydd wedi gosod yr amod hwn ar geisiadau am grant busnes drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

 

Cadarnhawyd bod yr Adran wedi lawnsio Cynllun Gwynedd ac Eryri 2035 sef Cynllun Economi Ymweld Cynaliadwy ar gyfer yr ardal ar y cyd gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Atgoffwyd mai un o flaenoriaethau clir y cynllun yw hybu perchnogaeth leol ac i ddatblygu cyfleoedd i amlygu’r iaith Gymraeg, ein diwylliant a’n treftadaeth. Pwysleisiwyd bod gwaith yn mynd rhagddo i fonitro’r effaith mae’r cynllun yn ei gael ar y flaenoriaeth honno ar hyn o bryd. Ymhelaethwyd bod y flaenoriaeth hon wedi cael ei chynnwys fel cymal ac i’r adran gytuno i gefnogi digwyddiadau, er mwyn sicrhau bod y digwyddiad yn cyrraedd gofynion y gofynion ieithyddol a diwylliannol hynny.

 

Esboniwyd bod yr Adran wedi mabwysiadu mesurydd newydd o fewn y maes twristiaeth marchnata a digwyddiadau, sef ‘Canran o drigolion y Sir sy’n credu fod twristiaeth yn cael dylanwad cadarnhaol ar y Gymraeg a diwylliant Cymru’. Nodwyd bod y mesurydd newydd hwn yn cael ei gynnwys mewn holiadur blynyddol i drigolion Gwynedd. Eglurwyd y gobeithircasglu data o’r holiadur er mwyn mesur effaith y gwaith a wneir o fewn y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

DIWEDDARIAD AR WAITH MENTER IAITH GWYNEDD pdf eicon PDF 172 KB

I ddarparu cefndir i Aelodau’r Pwyllgor am waith a blaenoriaethau cyfredol y fenter.

Penderfyniad:

 

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Ben Swyddog Menter Iaith Gwynedd. Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod y Fenter bellach wedi ymadael a’r enw ‘Hunaniaith’ gan ail-frandio yn enw ‘Menter Iaith Gwynedd’ a bod y fenter wedi cael ei gofrestru fel Cwmni nid er elw gyda’r Tŷ Cwmnïau o dan arweiniad pedwar o gyfarwyddwyr gwirfoddol. Ymhelaethwyd mai ei brif fwriad yw cynyddu cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob rhan o’u bywydau ac ym mhob cymuned ledled Gwynedd.

 

Esboniwyd bod un aelod o staff y Fenter wedi gadael er mwyn gweithio gydag adran arall o fewn Cyngor Gwynedd. Cydnabuwyd nad yw’r swydd wag hon wedi cael ei lenwi ar hyn o bryd er mwyn esmwytho’r broses o allanoli o’r Cyngor. Nodwyd bod Cyngor Gwynedd yn cynorthwyo i gyflogi swyddog newydd o fewn ardal Meirionnydd ar gyfer 2024/25

 

Eglurwyd bydd y Fenter yn troi’n annibynnol o fis Ebrill 2025, gyda’r tri swyddog cyfredol y Fenter yn parhau i fod yn gyflogedig gan y Fenter, yn ogystal â’r swyddog newydd yn ardal Meirionnydd. Cydnabuwyd bod oediad wedi bod yn y trosglwyddiad allanoli hwn, ond eglurwyd bod hynny wedi bod yn sgil cymhlethdodau ymrwymiadau pensiwn i swyddogion. Pwysleisiwyd bod Bwrdd Prosiect yn cyfarfod yn rheolaidd gyda’r Pennaeth Cyllid a Phennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i ddatrys y trafferthion sy’n codi.

 

Adroddwyd ar ymgyrch sy’n cael ei gyflwyno ym mis Mai sy’n ffocysu ar bobl sydd wedi symud i’r ardal a dysgu’r Gymraeg, gan rannu storïau astudiaethau achos o sut mae unigolion wedi llwyddo i fagu ymdeimlad o berthyn i gymdeithasau Gwynedd. Ymhelaethwyd bod ail gynllun ar y gweill gyda chymorth ‘Gareth yr Orangutang’ er mwyn egluro hanes yr iaith Gymraeg gyda phobl ifanc a rhannu syniadau am sut i ddefnyddio technoleg yn Gymraeg, gan bwysleisio mai gwneud defnydd o’r iaith sy’n bwysig, nid poeni am unrhyw gamgymeriadau a wneir.

 

Rhoddwyd diweddarwyd bod y Fenter wedi bod yn cefnogi canolfannau trochi i gefnogi teuluoedd. Eglurwyd bod swyddogion yn darparu cyflwyniadau digidol i holl rieni mynychwyr canolfannau trochi yn dymhorol. Mewn ymateb i heriau mae’r addysgwyr yn ei gael ar ôl bod mewn canolfannau trochi ac yn dychwelyd i’r ysgol, cadarnhawyd bod y Fenter wedi comisiynu awdur i greu cynhyrchiad gyda mewnbwn y plant cyn ei berfformio i’r rhieni. Pwysleisiwyd mai’r Fenter bydd yn berchen y cynhyrchiad ac felly bydd modd ail-greu’r cynllun hwn mewn ardaloedd eraill yn ôl yr angen. Rhannwyd syniad y gallai’r Fenter ddefnyddio enghreifftiau o deuluoedd sydd wedi meithrin y Gymraeg yn dilyn y cynlluniau hyn er mwyn ysbrydoli eraill yn y dyfodol.

 

Ymfalchïwyd bod y Fenter wedi derbyn adborth cadarnhaol iawn i gig a gynhaliwyd mewn ysgolion uwchradd yn ddiweddar. Eglurwyd bod Tara Bandito yn mynd o gwmpas i wneud gweithdai lles a rhannu gwybodaeth am ferched mewn cerddoriaeth cyn perfformio gig yn y prynhawn gyda’r band Skylark. Rhannwyd adborth gan un ysgol bod disgyblion wedi bod yn gwylio ar glipiau o’r artistiaid yn annibynnol, wrth iddynt fynychu gwers rydd yn y dyddiau yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.