Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679256
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol
Cadeirydd ar gyfer 2022-2023 Penderfyniad: Ethol
y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn yn Gadeirydd y Pwyllgor Iaith ar gyfer y
flwyddyn 2022/23. Cofnod: Ethol Y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn fel Cadeirydd ar gyfer y flwyddyn 2022/23. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-Gadeirydd
ar gyfer 2022-2023 Penderfyniad: Ethol
y Cynghorydd Llio Elenid Owen yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Iaith ar gyfer y
flwyddyn 2022/23. Cofnod: Ethol Y Cynghorydd Llio Elenid Owen fel Is-Gadeirydd ar
gyfer y flwyddyn 2022/23. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriad gan Y Cynghorwyr Alan
Jones Evans, Gwynfor owen a Menna Jones (aelod
Cabinet Cefnogaeth Corfforaethol). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw fater brys. |
|
Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion
y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 7 Ebrill 2022 fel rhai
cywir. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL AR WEITHREDIAD SAFONAU'R GYMRAEG PDF 351 KB I gyflwyno’r Adroddiad Blynyddol drafft i'w gymeradwyo gan yr Aelodau Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Ymgynghorydd Iaith, a thynnwyd sylw yn
fras at y prif bwyntiau canlynol: -
Eglurodd yr Ymgynghorydd
Iaith fod yr adroddiad yma wedi cael ei greu yn sgil Adran 44 Mesur y Gymraeg
(Cymru) 2011, sydd yn ei wneud yn ofynnol i’r Cyngor yn dilyn terfyn y flwyddyn
ariannol ddiwethaf, cyn 30 Mehefin 2022. -
Nodwyd hefyd mai ei
bwrpas oedd crynhoi ac egluro sut mae’r Cyngor yn gweithredu a chydymffurfio
â’r safonau iaith. -
Mynegwyd balchder fod
ffigyrau’r adroddiad yn dangos fod 99.1% o weithlu’r Cyngor yn meddu â sgiliau
Cymraeg. Mae’r ffigwr hwn yn cynnwys unrhyw berson sydd ag unrhyw fath o
sgiliau ieithyddol Cymraeg - bod yn rhugl, yn rhannol rugl neu dim ond yn deall
ychydig ar yr iaith. -
Datganwyd fod
91% o holl staff y Cyngor yn cyrraedd dynodiad iaith eu swydd. Mae’r gallu i
weithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn bwysig iawn i’r Cyngor, ac roedd yr Ymgynghorydd
Iaith yn falch fod y ffigwr yma yn un uchel. Er hyn, derbyniwyd fod modd
cynyddu’r ffigwr hwn. Un ffordd o geisio gwneud hyn yn bresennol ydi drwy
gynnig hyfforddiant ar yr iaith Gymraeg i’r staff hynny sydd ddim yn cyrraedd
eu gofynion ieithyddol eto, er mwyn eu helpu i ddatblygu’r sgiliau. -
Soniwyd fod
909 o swyddi wedi cael eu hysbysebu ar wefan y Cyngor yn y flwyddyn ariannol
ddiwethaf a oedd yn nodi fod sgiliau’r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl. -
Eglurwyd fod nifer o
ddatblygiadau wedi cael eu cwblhau dros y flwyddyn er mwyn sicrhau fod
gwasanaethau dwyieithog yn gallu cael ei gynnig yn effeithiol: o
Mae’r timoedd Cyfieithu
a Gwasanaethau Democrataidd wedi bod yn brysur dros y flwyddyn yn datblygu
cyfleusterau er mwyn gallu cynnal cyfarfodydd aml-leoliad. Mae arbrofi wedi
cael ei gwblhau er mwyn sicrhau fod cyfarfodydd yn gallu cael eu cynnal gyda
phobl yn mynychu yn y siambrau a rhai pobl yn mynychu yn rhithiol a hynny gan
sicrhau fod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn gallu parhau yn ddi-rwystr. o
Mae treialon wedi cael
eu cynnal gydag adrannau’r Cyngor ar gyfer system hunanasesu newydd. Mae’r
system yma yn gofyn iddyn nhw gwblhau hunanasesiad er mwyn gweld i ba raddau
maen nhw yn cydymffurfio â safonau’r iaith. Mae hyn yn galluogi i’r adran
Cefnogaeth Gorfforaethol wneud Hunanasesiad Corfforaethol o gydymffurfiaeth y
Cyngor a’r safonau iaith ar gyfer ei gyflwyno i’r Comisiynydd Iaith. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau’r
pwyllgor holi cwestiynau: -
Holwyd os oes
modd edrych ar ganran o niferoedd staff y Cyngor sydd yn cyrraedd lefel
dynodiad iaith eu swydd dros dreigl amser, er mwyn gallu ei gymharu gyda’r
blynyddoedd diwethaf. -
Gofynnwyd a oedd modd
cysylltu gydag asiantaethau a chyrff eraill sydd yn cydweithio â’r Cyngor pan
fydd methiannau ieithyddol yn digwydd ar eu rhan. Holwyd hefyd os oes modd
gwneud hyn ar lefel uchel er mwyn sicrhau fod safonau ieithyddol ein
partneriaid yn ddigonol. - Mynegwyd barn fod tystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu bod safon sgiliau iaith yn cynyddu wrth i raddfeydd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
POLISI IAITH A GWEITHGAREDDAU HYBU'R GYMRAEG: ADRAN OEDOLION, IECHYD A LLESIANT PDF 442 KB Cyflwyno
gwybodaeth am gyfraniad yr Adran i’r Polisi Iaith, a sut mae’r adran yn mynd
ati i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg yn eu gwaith. Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Uwch Reolwr Busnes yr adran, a thynnwyd
sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol: -
Eglurwyd fod yr adran yn
dilyn Fframwaith Strategol Olynol o’r enw ‘Mwy na Geiriau’ sydd yn gosod
gofynion ar yr adran i sicrhau fod gofal ar gael i drigolion y Sir drwy gyfrwng
y Gymraeg heb iddyn nhw orfod gwneud cais amdano. -
Adroddwyd mai un o
heriau mwyaf yr adran yn ddiweddar yw recriwtio staff o’r newydd. Mae hyn yn
broblem genedlaethol, ac o fewn y sir mae rhai ardaloedd yn fwy anos nag eraill
i recriwtio staff. Yn ogystal â hyn, mae rhai swyddi penodol, megis
Therapyddion Galwedigaethol yn anodd eu llenwi gan fod angen sgiliau arbenigol
yn ogystal â sgiliau Cymraeg. -
Manylwyd ar
faes arbenigol iawn mae’r adran yn ymwneud ag o sef y cyflwr Dementia. Mae
ymchwiliadau bellach yn dweud ei fod yn hollbwysig i gleifion dderbyn gofal yn
yr iaith maent yn teimlo mwyaf cyfforddus yn ei ddefnyddio, gan fod hyn yn
gwella eu llesiant. Yn dilyn hyn mae’r adran yn gweithio i ddatblygu unedau
Dementia mewn tai gofal, staff cefnogol arbenigol y cyflwr a thechnoleg newydd
i gefnogi pobl sydd eisiau aros yn eu cartref eu hunain. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau’r pwyllgor
holi cwestiynau: -
Gofynnwyd a oes modd
sicrhau fod gofal drwy gyfrwng y Gymraeg ar gael i bobl sydd yn dioddef o gyflwr Dementia o fewn y
sector preifat. -
Holiwyd a
oedd yr adran wedi gorfod ystyried hysbysebu am swyddi ble nad oedd y Gymraeg
yn hanfodol er mwyn denu ymgeiswyr sydd yn meddu â’r sgiliau arbenigol
perthnasol. -
Holiwyd a oes
yna broses gan yr adran i geisio paru cleifion gyda gofalwyr sydd yn gallu
darparu gofal yn unol â dewis iaith y claf, yn enwedig o gofio nad ydy pob claf
angen gofal drwy gyfrwng y Gymraeg -
Gofynnwyd a oes yna
fwriad i gynnig gofal drwy gyfrwng y Gymraeg y tu hwnt i Wynedd ar hyn o bryd,
ac os ydi’r gyllideb ar gael er mwyn gallu darparu gofal yn effeithiol. Mewn ymateb, nododd yr Uwch
Reolwr Busnes: Bod sicrhau
gofal trwy’r Gymraeg i gleifion o fewn y sector breifat yn heriol iawn gan fod
gan bob claf yr hawl i ddewis ble maent yn derbyn eu gofal. Dyma’r rheswm pam
fod yr adran mor awyddus i’r Cyngor gynnig a darparu gofal drwy’r Gymraeg. -
Cadarnhawyd
bod pob ymdrech yn cael ei wneud i baru cleifion gyda gofalwyr sydd gyda
sgiliau ieithyddol addas. Gall hyn fod yn heriol ar brydiau, yn enwedig pan fo
claf angen gofal brys. -
Mynegwyd
bwriad i ddatblygu’r cyfleoedd all-sirol o dderbyn gofal drwy gyfrwng y Gymraeg.
Nodwyd fod y cyfleon hyn yn gyfyngedig ar hyn o bryd ond mae Gwynedd yn arwain y ffordd i annog siroedd
eraill drwy’r fforwm ‘mwy na geiriau’. - Eglurwyd bod bwriad i drio dennu gweithwyr proffesiynol e.e. Gweithwyr Cymdeithasol a Therapyddion sydd wedi symud i ffwrdd o’r ardal yn nôl i Wynedd i fyw ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
POLISI IAITH A GWEITHGAREDDAU HYBU'R GYMRAEG: ADRODDIAD GAN ADRAN PLANT A CEFNOGI POBL PDF 464 KB Cyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr Adran i’r Polisi Iaith, a sut mae’r adran yn mynd ati i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg yn eu gwaith. Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad
gan Bennaeth yr adran, a thynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol: -
Eglurwyd fod
yr adran yma, yn debyg i’r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant yn dilyn
Fframwaith Strategol Olynol ‘Mwy na Geiriau’. -
Mae’r
Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar yn cydweithio yn agos gyda CWLWM, sef 5 sefydliad
arweiniol cenedlaethol gofal plant, er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg ar draws
lleoliadau gofal plant o fewn y Sir. Mae hyn yn aml iawn yn arwain at
brosiectau newydd sydd yn cael eu hybu gan y 5 sefydliad megis podlediad newydd gan y Mudiad Meithrin gyda chymorth Nia
Parry o’r enw ‘Baby Steps Into Welsh’ sydd yn helpu plant a rhieni i ddysgu’r iaith.
Mae’r Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar hefyd yn elwa o gydweithio gyda CWLWM gan
fod Cynllun Croesi’r Bont gan y Mudiad Meithrin yn pontio dosbarthiadau
meithrin yn ieithyddol, ac mae 11 cylch o fewn y sir yn derbyn cefnogaeth o’r
fath. -
Adroddwyd fod yr adran
hefyd yn hybu’r Gymraeg yn annibynnol mewn sawl ffordd. Mae grantiau o £100 yn
cael ei gynnig i warchodwyr plant preifat di-gymraeg er mwyn prynu adnoddau
Cymraeg perthnasol. Yn ogystal â hyn, mae sawl tîm o fewn yr adran yn defnyddio
cwrs rhiantu ‘FRIENDS’ ac wedi llwyddo i gyfieithu’r
cwrs i’r Gymraeg ar gyfer rhieni’r Sir. -
Nodwyd fod dim modd cael
lleoliad gofal plant addas o fewn y sir ar gyfer pob plentyn, yn aml am resymau
diogelwch. Os na fydd lleoliad cyfrwng Cymraeg ar gael i’r plentyn, bydd yr
adran a’r Gweithwyr Cymdeithasol yn parhau i ymweld a chysylltu â’r plant yn yr
iaith Gymraeg er mwyn helpu eu datblygiad ieithyddol. -
Esboniwyd fod yr adran
yn arwain 55 o ddarparwyr Addysg Feithrin ar hyn o bryd sydd yn derbyn
cefnogaeth gan Athrawes Blynyddoedd Cynnar i gynorthwyo gydag addysgu drwy
gyfrwng y Gymraeg. Ymfalchïwyd yng Nghynllun Dechrau’n Deg, sydd yn gwasanaethu
mewn rhannau difreintiedig o fewn y Sir, ac yn darparu addysg cyfrwng Cymraeg i
blant 2 oed. Mae 12 lleoliad gofal plant Dechrau’n Deg o fewn y Sir ar hyn o
bryd. -
Amlygwyd fod
gwaith yn cael ei gwblhau i hybu’r Gymraeg ar gyfer plant hŷn hefyd megis
creu a datblygu Ap Gwobr Dug Caeredin ar gyfer plant ysgol uwchradd. -
Cadarnhawyd fod hybu’r
Gymraeg wedi cael lle blaenllaw gan yr adran yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Bu
un aelod o staff, Stephen Wood, yn llwyddiannus yng Ngwobrau Coffa Dafydd Orwig
eleni am ei lwyddiant wrth ddysgu’r Gymraeg. Yn ogystal â defnyddio’r iaith ar
lafar o fewn yr adran, mae llawr o adnoddau ysgrifenedig a fideos wedi cael eu
datblygu er mwyn hyfforddi staff ar amryw o nodweddion pwysig yr adran. Hefyd,
mae’r adran yn y broses o drosleisio adnoddau ar gyfer defnydd rhanbarthol a
chenedlaethol er mwyn darparu gwasanaeth dwyieithog effeithiol. - Trafodwyd gwaith effeithiol y Gwasanaeth Ieuenctid, a nodwyd fod sawl cynllun megis garddio, coginio a gweithdai graffiti, bellach ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg a bod adborth y plant 16-25 oed oedd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
I
gyflwyno diwygiad o Bolisi Iaith y Cyngor er mwyn i Aelodau’r Pwyllgor ei
drafod a’i gymeradwyo i symud ymlaen i gael cymerdwyaeth y Cabinet. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad
gan Bennaeth yr adran, a thynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol: -
Eglurwyd fod
yr adran yma, yn debyg i’r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant yn dilyn
Fframwaith Strategol Olynol ‘Mwy na Geiriau’. -
Mae’r
Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar yn cydweithio yn agos gyda CWLWM, sef 5 sefydliad
arweiniol cenedlaethol gofal plant, er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg ar draws
lleoliadau gofal plant o fewn y Sir. Mae hyn yn aml iawn yn arwain at
brosiectau newydd sydd yn cael eu hybu gan y 5 sefydliad megis podlediad newydd gan y Mudiad Meithrin gyda chymorth Nia
Parry o’r enw ‘Baby Steps Into Welsh’ sydd yn helpu plant a rhieni i ddysgu’r iaith.
Mae’r Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar hefyd yn elwa o gydweithio gyda CWLWM gan
fod Cynllun Croesi’r Bont gan y Mudiad Meithrin yn pontio dosbarthiadau
meithrin yn ieithyddol, ac mae 11 cylch o fewn y sir yn derbyn cefnogaeth o’r
fath. -
Adroddwyd fod yr adran
hefyd yn hybu’r Gymraeg yn annibynnol mewn sawl ffordd. Mae grantiau o £100 yn
cael ei gynnig i warchodwyr plant preifat di-gymraeg er mwyn prynu adnoddau
Cymraeg perthnasol. Yn ogystal â hyn, mae sawl tîm o fewn yr adran yn defnyddio
cwrs rhiantu ‘FRIENDS’ ac wedi llwyddo i gyfieithu’r
cwrs i’r Gymraeg ar gyfer rhieni’r Sir. -
Nodwyd fod dim modd cael
lleoliad gofal plant addas o fewn y sir ar gyfer pob plentyn, yn aml am resymau
diogelwch. Os na fydd lleoliad cyfrwng Cymraeg ar gael i’r plentyn, bydd yr
adran a’r Gweithwyr Cymdeithasol yn parhau i ymweld a chysylltu â’r plant yn yr
iaith Gymraeg er mwyn helpu eu datblygiad ieithyddol. -
Esboniwyd fod yr adran
yn arwain 55 o ddarparwyr Addysg Feithrin ar hyn o bryd sydd yn derbyn
cefnogaeth gan Athrawes Blynyddoedd Cynnar i gynorthwyo gydag addysgu drwy
gyfrwng y Gymraeg. Ymfalchïwyd yng Nghynllun Dechrau’n Deg, sydd yn gwasanaethu
mewn rhannau difreintiedig o fewn y Sir, ac yn darparu addysg cyfrwng Cymraeg i
blant 2 oed. Mae 12 lleoliad gofal plant Dechrau’n Deg o fewn y Sir ar hyn o
bryd. -
Amlygwyd fod
gwaith yn cael ei gwblhau i hybu’r Gymraeg ar gyfer plant hŷn hefyd megis
creu a datblygu Ap Gwobr Dug Caeredin ar gyfer plant ysgol uwchradd. -
Cadarnhawyd fod hybu’r
Gymraeg wedi cael lle blaenllaw gan yr adran yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Bu
un aelod o staff, Stephen Wood, yn llwyddiannus yng Ngwobrau Coffa Dafydd Orwig
eleni am ei lwyddiant wrth ddysgu’r Gymraeg. Yn ogystal â defnyddio’r iaith ar
lafar o fewn yr adran, mae llawr o adnoddau ysgrifenedig a fideos wedi cael eu
datblygu er mwyn hyfforddi staff ar amryw o nodweddion pwysig yr adran. Hefyd,
mae’r adran yn y broses o drosleisio adnoddau ar gyfer defnydd rhanbarthol a
chenedlaethol er mwyn darparu gwasanaeth dwyieithog effeithiol. - Trafodwyd gwaith effeithiol y Gwasanaeth Ieuenctid, a nodwyd fod sawl cynllun megis garddio, coginio a gweithdai graffiti, bellach ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg a bod adborth y plant 16-25 oed oedd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |