Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679556
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn ymddiheuriadau
am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Olaf Cai Larsen a Menna Baines,
Geraint Owen (Cyfarwyddwr Corfforaethol) a Bet Huws (Swyddog Dysgu a Datblygu’r
Iaith Gymraeg). Diolchwyd i’r Cynghorydd Sasha Williams am ei
chyfraniad i’r Pwyllgor dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Croesawyd y Cynghorydd
Rhys Tudur fel Aelod newydd i’r Pwyllgor. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan y
Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn ar gyfer Eitem 7 gan ei fod wedi bod yn cydweithio
gyda Menter Iaith Gwynedd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Nid oedd yn fuddiant a
oedd yn rhagfarnu ac felly ni adawodd y cyfarfod. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw fater brys. |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a
gyhaliwyd ar 30 Ionawr 2024 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 30 Ionawr 2024 fel rhai cywir. |
|
CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG: TÎM ARWEINYDDIAD A GWASANAETHAU CYFREITHIOL PDF 201 KB I gyflwyno
gwybodaeth am gyfraniad y Tîm Arweinyddiaeth a Gwasanaethau Cyfreithiol i hybu
a hyrwyddo’r iaith Gymraeg. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Weithredwr a
Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau
canlynol: Pwysleisiwyd fod y Tîm Arweinyddiaeth yn sefyll yn
gadarn ar ddefnydd o’r iaith Gymraeg gan beidio cyfaddawdu, gan ei fod yn gosod
cynsail ar gyfer gweddill y Cyngor. Mynegwyd rhwystredigaeth nad yw
cyfleusterau Cymraeg digonol yn cael ei ddefnyddio mewn cyfarfodydd a gynhelir
gan Lywodraeth Cymru gan ymhelaethu bod trafodaethau yn aml yn cael eu cynnal
yn y Saesneg. Cadarnhawyd bod Cyngor Gwynedd yn arwain ar sicrhau bod
cyfleusterau digonol yn cael eu defnyddio mewn cyfarfodydd ac o’r herwydd,
tynnwyd sylw at lythyr a yrrwyd i Weinidog yr Iaith Gymraeg yn Llywodraeth
Cymru i ddatgan pryder y Tîm Arweinyddiaeth am y sefyllfa bresennol. Adroddwyd bod y Tîm Arweinyddiaeth a’r Cyngor yn
cydweithio gyda nifer o gyrff cenedlaethol a rhanbarthol. Sicrhawyd yr aelodau
bod swyddogion yn annog y cyrff hynny i geisio efelychu polisi iaith Cyngor
Gwynedd a hyrwyddo defnydd mewnol o’r Gyrmaeg.
Rhannwyd enghraifft o hyn sef bod y Cyfarwyddwr Corfforaethol a’r UwchYmgynghorydd
Iaith a Chraffu yn aelodau o Grŵp Llywio a sefydlwyd gan
Gomisiynydd y Gymraeg er mwyn datblygu modelau polisi i gynyddu’r defnydd o’r
Gymraeg o fewn cyrff cyhoeddus yng Nghymru. Eglurwyd bod y Grŵp, sy’n
cynnwys cynrychiolaeth gan nifer o sefydliadau, yn caniatáu i swyddogion y
Cyngor rannu profiadau megis datblygu polisi iaith, dulliau recriwtio, defnydd
mewnol y Cyngor o’r Gymraeg, hyfforddiant ac anogaeth a gynigir i staff er mwyn
datblygu eu hyder yn y Gymraeg. Ymhelaethwyd bod yna gynrychiolaeth o’r Cyngor
ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn gan nodi bod y Bwrdd wedi
bod yn gweithio ar brosiect yn ymwneud gyda
materion recriwtio gweithlu diweddar er mwyn denu aelodau staff Cymraeg.
Soniwyd hefyd bod y Cyngor yn cydweithio gyda Menter Iaith Gwynedd er mwyn
datblygu prosiectau. Esboniwyd bod gan y Cyfarwyddwr Statudol
(Gwasanaethau Cymdeithasol) gyfrifoldebau penodol o ran hyrwyddo defnydd o’r
Iaith Gymraeg o fewn y sector gofal. Eglurwyd y disgwylir bod pob awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd yng Nghymru, yn penodi
uwch arweinydd yn ‘bencampwr’ y Gymraeg fel rhan o raglen waith ‘Mwy Na
Geiriau’, gan gadarnhau mai’r Cyfarwyddwr Statudol (Gwasanaethau Cymdeithasol)
sy’n arddel y rôl honno yng Ngwynedd. Cadarnhawyd ei fod yn ofynnol yn ôl Deddf
Gwasanaethau Cymdeithasol Llesiant (Cymru) 2014 i’r ‘pencampwr’ sicrhau defnydd
rhagweithiol o’r Gymraeg fel ei fod ar gael heb i ddefnyddwyr gorfod gofyn
amdano. Pwysleisiwyd mai dyma yw’r arferiad o fewn Cyngor Gwynedd ers nifer o
flynyddoedd a bod y Cyfarwyddwr yn defnyddio ei rôl fel ‘pencampwr’ a
Chadeirydd ‘Mwy Na Geiriau’ er mwyn cynorthwyo eraill i fod yn rhagweithiol yn
y Gymraeg. Ymhelaethwyd ei fod hefyd wedi bod yn feirniad ar wobrau
cenedlaethol Gofal Cymdeithasol Cymru ar y defnydd o’r iaith Gymraeg yn y
sector gofal yn ddiweddar. Cydnabuwyd bod y defnydd o Saesneg o fewn technoleg gwybodaeth wedi bod yn her i’r Cyngor yn y blynyddoedd diwethaf. Er hyn, ymfalchïwyd bod y mwyafrif helaeth o staff y Cyngor sy’n defnyddio cyfrifiaduron ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG: ADRAN ECONOMI A CHYMUNED PDF 245 KB I gyflwyno
gwybodaeth am gyfraniad yr Adran i’r Polisi Iaith. Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Adran Economi a Chymuned a thynnwyd
sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol: Tynnwyd sylw at raglen Arfor
gan nodi bod Cyngor Gwynedd yn cymryd rôl arweiniol ar Fwrdd y prosiect.
Eglurwyd bod y Bwrdd yn y broses o werthusoeffaith y
prosiectau ar ardaloedd a thrigolion er mwyn derbyn cyllideb i’r dyfodol.
Atgoffwyd bod prosiect Arfor wedi ei ariannu hyd at
ddiwedd blwyddyn ariannol 2024-25 ac felly mae’n bwysig gweithio ar geisio
derbyn ymrwymiad ariannol i’r dyfodol ar hyn o bryd. Cadarnhawyd bod cydweithio
pwysig yn mynd rhagddo rhwng siroedd rhanbarth Arfor
sef Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin. Adroddwyd bod yr Adran wedi llwyddo i ddenu arian
gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth Prydain, gan gadarnhau fod cronfa
grant i fusnesau ar gael o’r gyllideb hon yn ychwanegol i brosiect Arfor. Eglurwyd bod telerau ac amodau a ddatblygwyd drwy
brosiect Arfor wedi cael eu cynnwys ar gyfer
ceisiadau busnesau am arian drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin hefyd. Eglurwyd y
golyga hyn bod rhaid i gwmnïau amlygu'r defnydd o Gymraeg a wneir fel rhan o’u
busnes yn ogystal â rhannu sut mae’r cwmni yn hybu’r iaith Gymraeg, wrth iddynt
wneud cais am arian. O ganlyniad i hyn nodwyd bod 79 busnes o Wynedd wedi
cwblhau asesiad ‘Cynnig Cymraeg’ Comisiynydd y Gymraeg yn ystod 2023/24 gydag
12 o’r cwmnïau hynny eisoes wedi derbyn yr achrediad. Cydnabuwyd na fydd yr un
anogaeth ar gael pan nad oes grantiau busnes ar gael. Er hyn, pwysleisiwyd bod
gwaith yn mynd rhagddo er mwyn gallu cynnig cymorth i fusnesau bychan i
gyrraedd yr achrediad gan Comisiynydd y Gymraeg. Ategwyd mai’r gobaith yw y
bydd cwmnïau yn cymryd y cyfle i ymgeisio am
achrediad ‘Cynnig Cymraeg’ yn wirfoddol i’r dyfodol ond nodwyd nad oes
modd i’r Adran eu gorfodi. Mynegwyd siomiant mai Gwynedd yw’r unig Sir yn y
gogledd sydd wedi gosod yr amod hwn ar geisiadau am grant busnes drwy’r Gronfa
Ffyniant Gyffredin. Cadarnhawyd bod yr Adran wedi lawnsio Cynllun
Gwynedd ac Eryri 2035 sef Cynllun Economi Ymweld Cynaliadwy ar gyfer yr ardal
ar y cyd gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Atgoffwyd mai un o
flaenoriaethau clir y cynllun yw hybu perchnogaeth leol ac i ddatblygu
cyfleoedd i amlygu’r iaith Gymraeg, ein diwylliant a’n treftadaeth.
Pwysleisiwyd bod gwaith yn mynd rhagddo i fonitro’r effaith mae’r cynllun yn ei
gael ar y flaenoriaeth honno ar hyn o bryd. Ymhelaethwyd bod y flaenoriaeth hon
wedi cael ei chynnwys fel cymal ac i’r adran gytuno i gefnogi digwyddiadau, er mwyn
sicrhau bod y digwyddiad yn cyrraedd gofynion y gofynion ieithyddol a
diwylliannol hynny. Esboniwyd bod yr Adran wedi mabwysiadu mesurydd newydd o fewn y maes twristiaeth marchnata a digwyddiadau, sef ‘Canran o drigolion y Sir sy’n credu fod twristiaeth yn cael dylanwad cadarnhaol ar y Gymraeg a diwylliant Cymru’. Nodwyd bod y mesurydd newydd hwn yn cael ei gynnwys mewn holiadur blynyddol i drigolion Gwynedd. Eglurwyd y gobeithircasglu data o’r holiadur er mwyn mesur effaith y gwaith a wneir o fewn y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
DIWEDDARIAD AR WAITH MENTER IAITH GWYNEDD PDF 172 KB I ddarparu
cefndir i Aelodau’r Pwyllgor am waith a blaenoriaethau cyfredol y fenter. Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Ben Swyddog Menter Iaith Gwynedd. Tynnwyd sylw’n fras at y
prif bwyntiau canlynol: Atgoffwyd yr
Aelodau bod y Fenter bellach wedi ymadael a’r enw ‘Hunaniaith’
gan ail-frandio yn enw ‘Menter Iaith Gwynedd’ a bod y fenter wedi cael ei
gofrestru fel Cwmni nid er elw gyda’r Tŷ Cwmnïau o dan arweiniad pedwar o
gyfarwyddwyr gwirfoddol. Ymhelaethwyd mai ei brif fwriad yw cynyddu cyfleoedd i
bobl ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob rhan o’u bywydau ac ym mhob cymuned ledled
Gwynedd. Esboniwyd
bod un aelod o staff y Fenter wedi gadael er mwyn gweithio gydag adran arall o
fewn Cyngor Gwynedd. Cydnabuwyd nad yw’r swydd wag hon wedi cael ei lenwi ar
hyn o bryd er mwyn esmwytho’r broses o allanoli o’r Cyngor. Nodwyd bod Cyngor
Gwynedd yn cynorthwyo i gyflogi swyddog newydd o fewn ardal Meirionnydd ar
gyfer 2024/25 Eglurwyd
bydd y Fenter yn troi’n annibynnol o fis Ebrill 2025, gyda’r tri swyddog
cyfredol y Fenter yn parhau i fod yn gyflogedig gan y Fenter, yn ogystal â’r
swyddog newydd yn ardal Meirionnydd. Cydnabuwyd bod oediad wedi bod yn y
trosglwyddiad allanoli hwn, ond eglurwyd bod hynny wedi bod yn sgil
cymhlethdodau ymrwymiadau pensiwn i swyddogion. Pwysleisiwyd bod Bwrdd Prosiect
yn cyfarfod yn rheolaidd gyda’r Pennaeth Cyllid a Phennaeth Gwasanaethau
Cyfreithiol i ddatrys y trafferthion sy’n codi. Adroddwyd ar
ymgyrch sy’n cael ei gyflwyno ym mis Mai sy’n ffocysu ar bobl sydd wedi symud
i’r ardal a dysgu’r Gymraeg, gan rannu storïau astudiaethau achos o sut mae
unigolion wedi llwyddo i fagu ymdeimlad o berthyn i gymdeithasau Gwynedd.
Ymhelaethwyd bod ail gynllun ar y gweill gyda chymorth ‘Gareth yr Orangutang’ er mwyn egluro hanes yr iaith Gymraeg gyda
phobl ifanc a rhannu syniadau am sut i ddefnyddio technoleg yn Gymraeg, gan
bwysleisio mai gwneud defnydd o’r iaith sy’n bwysig, nid poeni am unrhyw
gamgymeriadau a wneir. Rhoddwyd
diweddarwyd bod y Fenter wedi bod yn cefnogi canolfannau trochi i gefnogi
teuluoedd. Eglurwyd bod swyddogion yn darparu cyflwyniadau digidol i holl rieni
mynychwyr canolfannau trochi yn dymhorol. Mewn ymateb i heriau mae’r addysgwyr
yn ei gael ar ôl bod mewn canolfannau trochi ac yn dychwelyd i’r ysgol,
cadarnhawyd bod y Fenter wedi comisiynu awdur i greu cynhyrchiad gyda mewnbwn y
plant cyn ei berfformio i’r rhieni. Pwysleisiwyd mai’r Fenter bydd yn berchen y
cynhyrchiad ac felly bydd modd ail-greu’r cynllun hwn mewn ardaloedd eraill yn
ôl yr angen. Rhannwyd syniad y gallai’r Fenter ddefnyddio enghreifftiau o
deuluoedd sydd wedi meithrin y Gymraeg yn dilyn y cynlluniau hyn er mwyn
ysbrydoli eraill yn y dyfodol. Ymfalchïwyd bod y Fenter wedi derbyn adborth cadarnhaol iawn i gig a gynhaliwyd mewn ysgolion uwchradd yn ddiweddar. Eglurwyd bod Tara Bandito yn mynd o gwmpas i wneud gweithdai lles a rhannu gwybodaeth am ferched mewn cerddoriaeth cyn perfformio gig yn y prynhawn gyda’r band Skylark. Rhannwyd adborth gan un ysgol bod disgyblion wedi bod yn gwylio ar glipiau o’r artistiaid yn annibynnol, wrth iddynt fynychu gwers rydd yn y dyddiau yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |