Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679556

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Menna Baines (Cadeirydd), Elfed Wyn ap Elwyn, Llio Elenid Owen a Menna Trenholme (Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol), Dafydd Williams (Pennaeth Adran Amgylchedd) a Dewi Morgan (Pennaeth Cyllid).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan y Cynghorydd Rhys Tudur, gan ei fod yn aelod o Weithgor Polisi Cynllunio Gwynedd. Nodwyd nad oedd yn fuddiant sy’n rhagfarnu ac ni adawodd y cyfarfod ar gyfer yr eitem.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

4.

COFNODION pdf eicon PDF 141 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnod y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 25 Mehefin 2024 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 25 Mehefin 2024 fel rhai cywir.

 

5.

CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG - ADRAN AMGYLCHEDD pdf eicon PDF 171 KB

I gyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr Adran Amgylchedd i’r Strategaeth Iaith.

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Cynorthwyol yr Adran Amgylchedd a thynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Nodwyd bod natur rheng flaen yr Adran yn arwain at gyswllt dyddiol gyda’r cyhoedd a Chynghorwyr ac felly mae pob ymdrech yn cael ei wneud i hyrwyddo’r iaith o ddydd i ddydd, drwy waith a gweithredoedd y staff.

 

Cadarnhawyd bod polisïau’r Adran yn hyrwyddo a chefnogi’r Gymraeg gan fod ystyriaeth o’r iaith Gymraeg yn ganolog i ddatblygiad Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Ymhelaethwyd bod Polisi Cynllunio penodol mewn lle ar gyfer delio gyda materion ieithyddol gan nodi bod y Canllaw Cynllunio Atodol yn darparu arweiniad manwl pellach ar sut ddylai’r Gymraeg gael ei hystyried drwy gydol datblygiadau o bob math. Tynnwyd sylw bod y broses o ddatblygu Cynllun Datblygu Lleol newydd yn mynd rhagddo ar hyn o bryd fel un o flaenoriaethau Cynllun y Cyngor. Pwysleisiwyd bod y Gymraeg yn ganolog i ddatblygu’r Cynllun hwn.

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod y Cabinet wedi cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 ar draws ardal Awdurdod Cynllunio Gwynedd (gan nodi nad yw hyn yn cynnwys ardaloedd sydd o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri). Adroddwyd bod angen caniatâd cynllunio i newid prif fan preswyl yn ail gartref neu lety gwyliau tymor byr ers i’r Cyfarwyddyd ddod yn weithredol ar 1 Medi 2024. Esboniwyd mai’r amcan yw cael gwell rheolaeth o’r stoc dai o fewn y Sir, gan gwrdd a diwallu anghenion tai trigolion Gwynedd. Ymhelaethwyd bod y Cyfarwyddyd yn fodd i gynorthwyo'r nod o gefnogi a hyrwyddo’r iaith Gymraeg.

 

Adroddwyd bod cryn dipyn o gynnydd wedi bod mewn ystadegau sgiliau iaith yr Adran yn y flwyddyn ddiwethaf, drwy’r holiadur hunanasesu. Nodwyd bod nifer uchel o staff yn weithwyr rheng flaen, megis y gwasanaethau Gwastraff ac Ailgylchu, ble nad oes ganddynt fynediad rhwydd i safle mewnrwyd y staff. O ganlyniad i hyn cwblhawyd yr holiaduron hunanasesu gydag arweinwyr tîm er mwyn deall anghenion ieithyddol y gweithlu. Tynnwyd sylw bod 81.4% o staff yr Adran wedi cwblhau’r holiadur a bod 83.6% o’r gweithwyr hynny yn cyrraedd dynodiadau iaith eu swyddi. Cydnabuwyd bod yr Adran angen parhau i ddatblygu’r maes hwn ond hyderwyd y gwelir cynnydd i’r dyfodol wrth i’r gwaith barhau.

 

Clodforwyd ymdrechion staff i ddysgu’r iaith a gwella eu sgiliau ieithyddol.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- 

 

Tynnwyd sylw at ystadegyn o fewn yr adroddiad sy’n nodi bod 3 cais cynllunio wedi eu gwrthod yn rhannol oherwydd materion ieithyddol amrywiol a bod 13 cais cynllunio wedi derbyn caniatâd gydag amod ar gyfer mesurau lliniaru ieithyddol. Gofynnwyd am fwy o wybodaeth am ba resymau ieithyddol gall ceisiadau cynlluniau gael eu gwrthod a pha fesurau lliniaru ieithyddol all yr Adran ei osod ar geisiadau llwyddiannus. Mewn ymateb, cadarnhaodd Pennaeth Cynorthwyol yr Adran nad oedd modd rhannu manylion penodol am achosion. Er hyn, ystyriwyd byddai ceisiadau cynlluniau yn cael eu gwrthod oherwydd diffyg tystiolaeth am effaith y datblygiad ar yr iaith Gymraeg. Ymhelaethwyd y gall yr adran osod amodau lliniaru ieithyddol sy’n ymwneud â’r defnydd o enwau ac arwyddion  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG - ADRAN GYLLID pdf eicon PDF 214 KB

I gyflwyno gwybodaeth am gyfraniad yr Adran Gyllid i hybu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol (Cyfrifeg a Phensiynau) a Phennaeth Cynorthwyol Technoleg Gwybodaeth. Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Atgoffwyd yr aelodau o’r Cynllun Digidol a fabwysiadwyd gan y Cabinet ym mis Tachwedd 2023. Nodwyd bod yr iaith Gymraeg yn elfen ganolog i’r Cynllun ac yn cydnabod yr angen i gael darpariaeth Gymraeg ar gyfer unrhyw feddalwedd sy’n wynebu’r cyhoedd. Ymhelaethwyd bod pob ymdrech yn cael ei wneud er mwyn sicrhau darpariaeth Gymraeg ym mhob agwedd arall o waith y Cyngor hefyd. Cyfeiriwyd at yr Asesiad Addasrwydd Digidol sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw gynnyrch sydd yn cael ei ddatblygu neu ei brynu gan y Cyngor, gan sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn elfen bwysig o’r gofynion hynny.

 

Manylwyd bod yr Adran wedi canfod pecyn meddalwedd Gymraeg ar gyfer safle  hunanwasanaeth Treth y Cyngor newydd, gan nodi nad oedd darpariaeth Gymraeg i gael yn y pecyn safonol. Eglurwyd bod hyn yn galluogi’r Cyngor i ddarparu’r safle yn ddwyieithog i’r cyhoedd pan fydd yn weithredol.

 

Pwysleisiwyd bod nifer helaeth o staff yr adran yn cyrraedd dynodiadau iaith eu swyddi. Ymhelaethwyd bod 2 aelod o staff yn derbyn hyfforddiant Cymraeg ychwanegol, gan gynnwys cwrs yn Nant Gwrtheyrn yn ddiweddar. Sicrhawyd bod gan bob aelod o staff rhyw fath o sgiliau Cymraeg o fewn yr Adran ac felly pwysleisiwyd bod pob gohebiaeth fewnol  o fewn yr Adran yn cael ei rannu yn uniaith Gymraeg.

 

Cadarnhawyd bod yr Adran yn cydweithio gydag Archwilio Cymru ar hyn o bryd. Ymhelaethwyd bod yr Adran wedi cynhyrchu 6 pecyn o gyfrifon terfynol 2023/24 ar gyfer Cyngor Gwynedd, Uchelgais Gogledd Cymru, GwE ac Harbyrau Gwynedd. Eglurwyd bod Archwilio Cymru yn cynnal archwiliadau allanol manwl ar yr holl gyfrifon. Mynegwyd balchder bod Archwilio Cymru wedi penodi mwy o archwilwyr Cymraeg yn dilyn ymgyrch recriwtio diweddar, gan olygu bod cyfarfodydd yn cael eu cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Mynegwyd balchder bod yr Adran wedi llwyddo i ddenu hyfforddeion ar gyfer meysydd Cyllid a Thechnoleg Gwybodaeth a'u bod yn datblygu eu gyrfa drwy’r cyfrwng y Gymraeg.

 

Eglurwyd bod yr uned pensiynau wedi bod yn cydweithio gyda chwmni allanol er mwyn datblygu datganiadau fideo personol blynyddol Cymraeg. Ymhelaethwyd y golyga hyn bod person rhithiol o fewn y fideo yn tywys unigolion drwy ddatganiad blynyddol eu pensiwn, drwy gyfrwng y Gymraeg. Cydnabuwyd bod hyn wedi bod yn waith heriol i’r uned.

 

Nodwyd bod system hunanwasanaeth dwyieithog newydd i’r gronfa bensiwn wedi ei lansio ym mis Ebrill eleni. Mynegwyd balchder mai Cronfa Bensiwn Gwynedd oedd y gronfa gyntaf yng Nghymru i uwchraddio’r safle newydd gyda chymorth cwmni allanol. Cadarnhawyd bod y gwaith hwn yn lledaenu dros Gymru gan fod Cronfa Bensiwn Powys bellach yn ei ddefnyddio a bod cynlluniau pellach i gronfeydd pensiwn eraill ar draws Cymru uwchraddio i’w ddefnyddio.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- 

 

Esboniwyd yn yr adroddiad bod pob gliniadur sy’n cael ei ddarparu gan y Cyngor yn cael ei ddarparu gyda’r llwyfan weithredu wedi ei sefydlu yn y Gymraeg. Gofynnwyd a  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG - ADRAN PRIFFYRDD, PEIRIANNEG AC YGC pdf eicon PDF 304 KB

I gyflwyno gwybodaeth am weithrediad y Polisi Iaith a gweithgareddau hybu’r Gymraeg.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC a'r Rheolwr Datblygu Busnes. Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Adroddwyd bod natur rheng flaen i waith yr Adran a bod gweithwyr yn dod i gyswllt yn aml gyda’r cyhoedd. Pwysleisiwyd  disgwylir i’r mwyafrif o staff allu siarad Cymraeg i lefel derbyniol er mwyn gallu delio’n uniongyrchol gydag ymholiadau a darparu profiad gwell i gwsmeriaid o’r herwydd.

 

Darparwyd rhestr o wahanol hyfforddiant sydd wedi cael ei ddarparu er mwyn cynorthwyo staff i ddatblygu a meithrin ei sgiliau. Mynegwyd balchder hefyd bod yr Adran wedi llwyddo i ddenu prentisiaethau i feysydd peirianneg sifil, trydanwr a thechnegydd fflyd. Pwysleisiwyd bod yr iaith Gymraeg yn ganolog i’w datblygiad o fewn yr Adran.

 

Mynegwyd balchder bod 96.6% o staff yr Adran yn cyrraedd dynodiadau iaith eu swyddi. Nodwyd bod hyn yn gryn dipyn o gynnydd ers i’r Adran adrodd i’r Pwyllgor Iaith yn flaenorol a bod gwaith cyson wedi bod o fewn yr Adran er mwyn sicrhau bod gweithwyr yn cael y cyfle i gwblhau’r holiadur hunanwerthusiad. Ymhelaethwyd bod gwaith yn parhau o fewn pob gwasanaeth ar draws yr Adran er mwyn annog defnydd o’r iaith a magu hyder mewn sgiliau ieithyddol.

 

Nodwyd bod tri pheiriannydd o wasanaeth YGC yn aelodau ar fwrdd Technegwyr Myfyrwyr Graddedigion Sefydliad y Peirianwyr Sifil Gogledd Cymru. Ymhelaethwyd bod un o’r aelodau yn cadeirio’r grŵp gan adrodd ar faterion technegol i grwpiau eraill ar draws y Deyrnas Unedig yn gyson.

 

Cadarnhawyd bod cydweithio yn digwydd gyda’r Tîm Categori Amgylchedd a Thîm Cymorth Busnes y Cyngor er mwyn mynychu digwyddiadau ar draws y Sir. Eglurwyd mai’r nod y digwyddiadau yw codi ymwybyddiaeth am gyfleoedd ar gyfer isgontractwyr lleol i gofrestru ar restr Isgontractwyr y Cyngor neu i ddarparu gwasanaeth drwy fframweithiau’r Cyngor. Ymhelaethwyd bod gwybodaeth yn cael ei rannu fel rhan o Fwletin Cefnogi Busnes y Cyngor sydd yn cael ei rannu yn wythnosau. Gobeithiwyd cynnal digwyddiadau pellach gydag Adra, Adrannau’r Cyngor a mwy o fusnesau yn y dyfodol.

 

Adroddwyd bod yr adran wedi derbyn adborth cadarnhaol yn ystod Sioe Môn eleni yn ogystal â digwyddiadau gyrfaoedd. Nodwyd bod y rhain yn cynnwys sylwadau am wasanaeth sydd yn cael ei gyflwyno i drigolion yn ogystal â gwaith yr adran i hyrwyddo’r Gymraeg.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- 

Nodwyd bod yr Adran wedi derbyn nifer o gwynion am faterion megis arwyddion uniaith Saesneg. Gofynnwyd pa gamau mae’r Adran yn ei gymryd er mwyn lleihau niferoedd cwynion i’r dyfodol. Mewn ymateb, cydnabuwyd bod hyn wedi bod yn her yn ystod y flwyddyn ddiwethaf oherwydd bod yr Adran yn cydweithio gyda chontractwyr allanol arbenigol. Pwysleisiwyd bod cytundebau, erbyn hyn, yn pwysleisio’r angen i gyflwyno holl arwyddion ar gyfer safleoedd yn ddwyieithog a bod modd cyflwyno sancsiynau os yw’r amodau’r polisïau yn cael eu torri. Cadarnhawyd nad oes trafferthion wedi codi ers i’r newid hwn gael ei gyflwyno a bod yr Adran yn awyddus i adeiladu ar y gweithdrefnau hyn i’r dyfodol, gan ei fod yn anorfod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

SESIYNAU YMGYSYLLTU I DRAFOD POLISI IAITH ADDYSG GWYNEDD pdf eicon PDF 119 KB

I ethol 5 cynrychilydd o’r Pwyllgor Iaith i fynychu’r Sesiwn Ymgysylltu.

Penderfyniad:

Penderfynwyd ethol y Cynghorwyr Menna Baines, Meryl Roberts, Elfed Wyn ap Elwyn, Alan Jones Evans ac Olaf Cai Larsen i fynychu sesiwn ymgysylltu i drafod Polisi Iaith Addysg presennol y Cyngor ar brynhawn y 4ydd o Ragfyr 2024.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Cyfundrefn Addysg Drochi Gwynedd a thynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Eglurwyd bod yr adran Addysg yn cynnal cyfres o sesiynau ar hyn o bryd er mwyn trafod y Polisi Iaith Addysg bresennol. Nodwyd bod y sesiynau yn gyfle i drafod syniadau ac awgrymiadau sy’n ymwneud â’r polisi. Ymhelaethwyd ei fod hefyd yn gyfle i  ystyried a oes angen diwygio’r Polisi Iaith Addysg bresennol yn dilyn canlyniadau Cyfrifiad 2021 yn ogystal â nifer o ddatblygiadau polisi ym maes iaith ac addysg yn genedlaethol.

 

Cadarnhawyd bod yr Adran wedi comisiynu Meirion Prys Jones (ymgynghorydd iaith llawrydd) i fod yn hwylusydd yn ystod yr holl sesiynau.

 

Adroddwyd bod rhai o’r sesiynau wedi cael eu cynnal eisoes ar draws Gwynedd, er mwyn derbyn mewnbwn gan benaethiaid ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig.

 

Nodwyd bod Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi eisoes wedi ethol 5 aelod i fynychu’r cyfarfod ymgysylltu sef y Cynghorwyr Elwyn Jones, Jina Gwyrfai, Beth Lawton, Rhys Tudur a Richard Glyn Roberts.

 

Gofynnwyd i’r Pwyllgor Iaith ethol 5 cynrychiolydd ychwanegol er mwyn ymuno yn y cyfarfod ymgysylltu a gynhelir ar 4ydd Rhagfyr 2024.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- 

 

Cadarnhawyd bod y Cynghorwyr Menna Baines ac Elfed Wyn ap Elwyn wedi nodi eu dyhead i fynychu’r cyfarfod ymgysylltu, wrth gyflwyno eu hymddiheuriadau o’r cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Iaith.

 

Mynegwyd diddordeb i fynychu’r cyfarfod ymgysylltu gan y Cynghorwyr Cai Larsen, Alan Jones Evans a Meryl Roberts.

 

PENDERFYNWYD

 

Ethol y Cynghorwyr Menna Baines, Meryl Roberts, Elfed Wyn ap Elwyn, Alan Jones Evans ac Olaf Cai Larsen i fynychu sesiwn ymgysylltu i drafod Polisi Iaith Addysg presennol y Cyngor ar brynhawn y 4ydd o Ragfyr 2024.