Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679556

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Beca Brown.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Beca Brown.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

4.

COFNODION pdf eicon PDF 130 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2025 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2025 fel rhai cywir.

 

5.

ADRODDIAD YR ADRAN AMGYLCHEDD AR WEITHREDIAD Y POLISI IAITH A CHYFRANIAD TUAG AT WIREDDU STRATEGAETH IAITH GYMRAEG 2023-2033 pdf eicon PDF 159 KB

I ystyried yr adroddiad.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y drafodaeth.

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth yr Adran Amgylchedd ac yr Uwch Swyddog Gweithredol. Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Atgoffwyd bod yr adran yn cynnwys amrediad o wasanaethau rheng flaen ac yn dod i gyswllt gyda’r cyhoedd yn gyson drwy feysydd megis gwastraff ac ailgylchu, trafnidiaeth, cynllunio a gwarchod y cyhoedd. Sicrhawyd bod pob ymdrech yn cael ei wneud er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn cael eu cyflawni drwy iaith dewis y cwsmer, gan sicrhau bod gwasanaethau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Adroddwyd bod yr Adran yn arwain ar brosiect Cynllun y Cyngor o baratoi Cynllun Datblygu Lleol newydd, sy’n flaenoriaeth o fewn Cynllun y Cyngor 2023-28 (Gwynedd Werdd). Yn yr un modd, nodwyd bod y Tîm Polisi Cynllunio yn monitro’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd 2011-26 ac yn paratoi Canllawiau Cynllunio Atodol yn gyson. Pwysleisiwyd bod Polisi Cynllunio PS1, sydd yn ymwneud â’r iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig, yn ganolog i’r Cynllunio a’r Canllawiau hyn. Mynegwyd balchder bod y ddarpariaeth hon yn mynd ymhellach na’r gofynion statudol Llywodraeth Cymru ar yr iaith Gymraeg, gan rannu enghraifft bod y gofynion a’r arweiniad ar asesiadau a datganiadau’r iaith Gymraeg o fewn y maes yn fanylach na’r hyn a ddisgwylir yn genedlaethol.

 

Tynnwyd sylw mai Cyngor Gwynedd yw’r awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i gyflwyno cyfarwyddyd Erthygl 4, gan nodi ei bod yn arf i sicrhau bod tai yng Ngwynedd ar gael i drigolion a bod yr iaith Gymraeg yn cael ei gefnogi. Cydnabuwyd bod heriau yn wynebu’r cyfarwyddyd ar hyn o bryd ond ei fod yn parhau i fod yn weithredol.

 

Amlygwyd bod gan y Gwasanaeth Rheolaeth Adeiladau gyfrifoldeb am reoli enwi strydoedd ac enwi a rhifo eiddo. Sicrhawyd bod y gwasanaeth yn cymryd ymagwedd ragweithiol i amlygu arwyddocâd hanesyddol a diwylliannol enwau Cymraeg ar eiddo, er y cydnabuwyd nad oes ganddynt unrhyw bŵer i wrthod  ceisiadau oni bai bod enwau yn dyblygu neu os nad yw’r dewis enw yn briodol. Adroddwyd bod 113 o geisiadau wedi dod i law er mwyn newid neu cofrestru enwau eiddo a bod 88% o’r enwau a gofrestrwyd yn rhai Cymraeg. Ymhellach, mynegwyd balchder bod 18 perchennog eiddo wedi newid enw eu heiddo o’r Saesneg yn ôl i’r Gymraeg yn dilyn trafodaethau gyda’r Gwasanaeth. Yn debyg, cyfeiriwyd at y Gwasanaeth Cynllunio a osodwyd amod cynllunio ar 54 o fusnesau newydd a 110 o dai newydd er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu henwi yn Gymraeg.

 

Yn dilyn cais gan aelodau’r pwyllgor, darparwyd diweddariad ar becyn addysg ddwyieithog ‘Tir a Môr’ dan arweiniad tîm Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llŷn a’r Sarnau. Mynegwyd balchder bod copïau caled o’r pecyn wedi cael eu dosbarthu o bob ysgol gynradd yng Ngwynedd ers i’r Adran gyflwyno eu hadroddiad blaenorol i’r Pwyllgor hwn. Ymhelaethwyd bod y tîm Ardal Cadwraeth Arbennig hefyd yn gweithio i gynhyrchu cylchgrawn dwyieithog ‘O Dan y Don’, er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o amgylchedd morol unigryw'r ardal a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ochr yn ochr â’r Saesneg.

 

Diweddarwyd bod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

ADRODDIAD YR ADRAN GYLLID AR WEITHREDIAD Y POLISI IAITH A CHYFRANIAD TUAG AT WIREDDU STRATEGAETH IAITH GYMRAEG 2023-2033 pdf eicon PDF 199 KB

I ystyried yr adroddiad.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y drafodaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Cyllid Cynorthwyol - Cyfrifeg a Phensiynau a Phennaeth Cynorthwyol Technoleg Gwybodaeth. Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

.Atgoffwyd bod yr Adran yn gweithredu Cynllun Digidol Cyngor Gwynedd 2023/2028 drwy gwmpasu 29 prosiect er mwyn bod yn ‘Gyngor Digidol’. Tynnwyd sylw penodol at System Rheoli’r Sefydliad, sydd yn cynorthwyo’r systemau cyflogau ac adnodau dynol, sydd bellach wedi cyrraedd y drefn caffael. Ymfalchïwyd bod yr Adran wedi mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau mesurau ieithyddol wrth gynnal y drefn caffael ar gyfer y system hon. Eglurwyd bod 26 o gwestiynau o fewn y broses yn ymwneud â’r iaith Gymraeg sydd yn sylweddol uwch na threfniadau caffael safonol Gwynedd a chenedlaethol.

 

Amlygwyd bod deallusrwydd artiffisial yn ddatblygiad technolegol mawr ar hyn o bryd. Eglurwyd bod peilot yn cael ei gynnal ar hyn o bryd er mwyn asesu cryfder a chywirdeb meddalwedd ‘Copilot’ gan Microsoft, sef adnodd deallusrwydd artiffisial. Tynnwyd sylw nad oedd modd gwneud hynny yn y gorffennol gan nad oedd ar gael yn y Gymraeg.

 

Diweddarwyd bod systemau ffôn y Cyngor bellach wedi cael eu diweddaru. Esboniwyd bod systemau ffôn bellach wedi ei osod ar gyfrifiaduron aelodau staff a bod y meddalwedd sydd yn caniatáu hynny wedi cael ei osod yn ddiofyn yn y Gymraeg ar holl gyfrifiaduron corfforaethol y Cyngor yn ogystal â holl gyfrifiaduron yr ysgolion yng Ngwynedd. Mynegwyd balchder bod y system hon yn arloesol a bod y Cyngor wedi gallu gwerthu’r meddalwedd hwn ar gyfer defnydd allanol.

 

Adroddwyd bod Archwilio Cymru yn archwilio cyfrifon Cyngor Gwynedd, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, Harbyrau Gwynedd, Pensiynau a GwE, gyda chydweithrediad yr Adran gyllid sydd wedi datblygu a gweinyddu’r cyfrifon hynny. Mynegwyd balchder bod cyfarfodydd gyda swyddogion Archwilio Cymru yn parhau i gael eu cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg. Atgoffwyd bod heriau wedi codi wrth geisio cynnal trafodaethau gyda hwy yn y Gymraeg yn y gorffennol ond mynegwyd balchder bod y trafferthion hynny wedi arwain at ddatblygiad cynlluniau hyfforddi o fewn y sefydliad er mwyn sicrhau bod mwy o siaradwyr Cymraeg ar gael i gynnal archwiliadau.

 

Tynnwyd sylw at gynllun Hyfforddeion a Phrentisiaethau’r Cyngor gan gadarnhau bod yr adran wedi manteisio ar y cynllun hwn eleni drwy benodi dau hyfforddai proffesiynol yn ogystal â phedwar prentis newydd. Manylwyd bod yr unigolion hyn yn gweithio ym meysydd pensiynau, trethi a budd-dal ac yn ffynhonnell bwysig o recriwtio er mwyn diwallu anghenion yr adran wrth gynnig llwybr gyrfaol cryf. Ymfalchïwyd bod Tomos Pritchard, sydd yn brentis yn y gwasanaeth cyfrifeg, wedi derbyn gwahoddiad i gynrychioli’r cyngor ar banel yng nghynhadledd Comisiynydd y Gymraeg yng Nghaerdydd a fydd yn trafod y defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle. Ymfalchïwyd bod y cyfle hwn wedi dod i law i rannu ei brofiadau gyda phrentisiaid eraill a’r pwysigrwydd o siarad Cymraeg yn y gweithle.

 

Datganwyd bod y Gwasanaeth Pensiwn wedi cyflwyno system hunanwasanaeth newydd i’r gronfa bensiwn yn Ebrill 2024. Nodwyd mai Cronfa Bensiwn Gwynedd oedd y gronfa gyntaf yng Nghymru i uwchraddio i’r safle newydd hwn. Yn anffodus, golyga  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADRODDIAD YR ADRAN PRIFFYRDD, PEIRIANNEG AC YGC AR WEITHREDIAD Y POLISI IAITH A CHYFRANIAD TUAG AT WIREDDU STRATEGAETH IAITH GYMRAEG 2023-2033 pdf eicon PDF 320 KB

I ystyried yr adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y drafodaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth yr Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC a'r Rheolwr Datblygu Busnes. Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Nodwyd bod yr adran yn arwain ar dri phrosiect yng Nghynllun y Cyngor ar hyn o bryd, sef; Cymunedau Glân a Thaclus, Gweithredu ar risgiau llifogydd ac Ymestyn cyfleoedd chwarae a chymdeithasu ar gyfer plant a phobl ifanc y Sir.

 

Adroddwyd bod 11 o feinciau clyfar wedi cael eu gosod yng Ngwynedd eleni. Eglurwyd bod y meinciau hyn yn gallu adrodd hanes lleol cyfagos drwy gydweithio gydag unigolion adnabyddus megis Casi Wyn, Rhys Iorwerth, Guto Dafydd, Gwyneth Glyn, Manon Steffan Ros a Cedron Sion. Mynegwyd balchder bod y prosiect hwn yn arloesol gan ei fod yn ddull newydd o rannu hanes lleol drwy gyfrwng y Gymraeg. Tynnwyd sylw bod y meinciau wedi cael eu gosod ym Mangor, Caernarfon, Pwllheli, Cricieth, Tywyn a Phorthmadog.

 

Atgoffwyd bod Ymgynghoriaeth Gwynedd yn cael ei weinyddu fel endid masnachol, gan gadarnhau bod y Cynllun Busnes newydd wedi cael ei lansio ym mis Ebrill eleni, ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Sicrhawyd bod y cynllun busnes hwn yn cael ei ddatblygu a’i raeadru drwy’r iaith Gymraeg. Ymhelaethwyd bod gwella sgiliau iaith staff yn nod yn ystod y cyfnod hwn drwy ddarparu addysg a hyfforddiant Cymraeg. Rhannwyd fideo recriwtio Ymgynghoriaeth Gwynedd a fydd yn cael ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol yn fuan.

 

Cadarnhawyd bod yr adran yn cydweithio gyda busnesau lleol ac isgontractwyr yn rheolaidd gan rannu enghraifft bod Tîm Categori Amgylchedd wedi cynnal digwyddiad yn Nhŷ Gwyrddfai ym Mhenygroes gyda chydweithrediad adrannau eraill y Cyngor, Cymdeithas Tai Adra Cyf yn ogystal â chwmnïau eraill. Yn debyg, nodwyd bod yr Adran yn mynychu ffeiriau swyddi a digwyddiadau er mwyn ymgysylltu a phobl Gwynedd, drwy gynnal sgyrsiau wyneb i wyneb ar gyfleon y cwmni a’r buddion o weithio i sefydliad gyda gweithle Cymraeg.

 

Diolchwyd i’r Adran Gyllid a’r gwasanaeth Technoleg Gwybodaeth am ddatblygu system i reoli Fflyd y Cyngor drwy gyfrwng y Gymraeg gan ei fod yn cynorthwyo’r broses o archebu deunyddiau, cofnodi gwaith, rheoli gyrwyr, cynnal rhaglen cynnal a chadw a chadw manylion am gerbydau. Nodwyd bod y rhaglen hon yn Gymraeg ac wedi cael ei werthu ymlaen i awdurdodau eraill fel y nodwyd yn eitem flaenorol y cyfarfod hwn.

 

Diweddarwyd bod yr Adran yn y broses o ddiweddaru cerbydau’r fflyd i fod yn rhai trydan, gan nodi bod 88 cerbyd trydan yn rhan o’r fflyd ar hyn o bryd. Cydnabuwyd bod defnyddio cerbydau trydan yn parhau i fod yn brofiad newydd i aelodau staff y Cyngor ac felly mae fideo Cymraeg ‘Sut i ddefnyddio cerbydau trydan’ wedi cael ei ddatblygu gan yr Adran i gynorthwyo aelodau staff wrth ddefnyddio’r cerbyd a'i wefru.

 

Manylwyd bod yr Adran yn cyflogi 433 o aelodau staff a bod 265 (61.2%) wedi cyflawni eu hunanasesiad iaith. Pwysleisiwyd bod y 149 aelod arall o staff yn weithwyr rheng flaen ac mae’r rheolwyr wedi cwblhau eu hunanasesiad ar eu rhan. Cadarnhawyd mai dim ond 19 o aelodau staff sydd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.