Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679556

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorwyr Meryl Roberts (Is-gadeirydd) Alan Jones-Evans, Hefin Underwood a Gwynfor Owen.

 

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

4.

COFNODION pdf eicon PDF 134 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 13 Hydref 2025 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 13 Hydref 2025 fel rhai cywir.

 

5.

ADRODDIAD YR ADRAN ADDYSG AR WEITHREDIAD Y POLISI IAITH A CHYFRANIAD TUAG AT WIREDDU STRATEGAETH IAITH GYMRAEG 2023-2033 pdf eicon PDF 329 KB

I ystyried yr adroddiad.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y drafodaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Cyfundrefn Addysg Drochi ac Pennaeth Cynorthwyol Gwasanaethau Addysg. Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Eglurwyd bod yr adroddiad hwn yn grynodeb o adroddiad Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA) Gwynedd a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2025, gyda diweddariadau pellach.

 

Tynnwyd sylw at Bolisi Iaith Addysg Gwynedd gan gadarnhau bod Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 yn gosod dyletswydd statudol ar y Llywodraeth, Awdurdodau Lleol ac ysgolion i gynllunio er mwyn cynyddu’r ddarpariaeth addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.  Eglurwyd nad yw’r ddeddf yn dod i’w lawn rym hyd oddeutu 2030. Nodwyd mai bwriad yr Adran Addysg a’r Cyngor yw i fod yn rhagweithiol er mwyn sicrhau bod gofynion y ddeddfwriaeth yn cael ei gyfarch.

 

Esboniwyd bod ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal ar ddrafft o Bolisi Iaith Addysg Gwynedd, yn dilyn ymgynghoriad cynhwysfawr gan Meirion Prys Jones yn ystod 2024/25. Manylwyd bod sesiynau ymgysylltu wedi cael eu cynnal gyda Penaethiaid ysgolion, disgyblion, rhieni, fforymau iaith, mudiadau iaith, cynrychiolwyr o’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi a cynrychiolwyr o Gomisiynydd y Gymraeg er mwyn llywio datblygiad y Polisi. Cadarnhawyd bod drafft o’r Polisi hwnnw wedi cael ei gyflwyno i’r Cabinet yn ei gyfarfod ar 16 Rhagfyr 2025. Nodwyd y cymeradwywyd y Polisi drafft hwn fel Polisi enghreifftiol a chymeradwywyd yr ymgysylltiad cyhoeddus. Tynnwyd sylw bod y cyfnod o ymgysylltu cyhoeddus wedi cychwyn ers mis Ionawr 2026 gan nodi bydd yn dod i ben ar 25 Chwefror 2026. Ymhelaethwyd y bwriedir cyflwyno adroddiad pellach i’r Cabinet er mwyn cyflwyno adborth o’r ymgynghoriad cyhoeddus a gofyn am benderfyniad os y dylid mabwysiadau’r Polisi Iaith Addysg Gwynedd ar ei newydd wedd cyn ei rannu i Gyrff Llywodraethol, cyn mis Medi 2026.

 

Mynegwyd balchder bod oddeutu 99% o athrawon ysgolion cynradd ac oddeutu 89% o athrawon ysgol uwchradd yn teimlo’n hyderus i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Fodd bynnag, nodwyd bod y Cyngor wedi bod yn cydweithio gyda Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin i sicrhau bod staff yr ysgolion trosiannol (Ysgol Friars – Bangor, Ysgol Ein Harglwyddes – Bangor ac Ysgol Uwchradd Tywyn) yn derbyn cefnogaeth ychwanegol er mwyn cynorthwyo athrawon i deimlo’n hyderus i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg drwy dderbyn cefnogaeth gan diwtor unwaith bob pythefnos. Mynegwyd balchder bod 17 o staff a disgyblion Ysgol Uwchradd Tywyn eisoes wedi manteisio ar y ddarpariaeth hon gan gadarnhau bod gwaith yn cael ei wneud er mwyn sefydlu swydd Tiwtor Dysgu Cymraeg ar gyfer y safle i’r dyfodol.

 

Adroddwyd bod gwaith yn cael ei gyflawni er mwyn edrych ar ddefnydd cymdeithasol o’r Gymraeg ymysg pobl ifanc. Nodwyd bod y Cyngor yn derbyn Grant y Gymraeg yn flynyddol gan y Llywodraeth a’i fod yn cael ei ddefnyddio er mwyn hybu gweithgareddau cyfrwng y Gymraeg y tu hwnt i’r dosbarthiadau a thu hwnt i oriau’r ysgol. Manylwyd ar gwaith y Gwasanaeth Ieuenctid gan bwysleisio ei fod yn allweddol yn y maes hwn. Tynnwyd sylw at ddigwyddiadau sydd yn cymryd lle mewn cydweithrediad â’r Siarter Iaith a Grant y Gymraeg.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

ADRODDIAD YR ADRAN TAI AC EIDDO AR WEITHREDIAD Y POLISI IAITH A CHYFRANIAD TUAG AT WIREDDU STRATEGAETH IAITH GYMRAEG 2023-2033 pdf eicon PDF 234 KB

I ystyried yr adroddiad.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y drafodaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Adran Tai ac Eiddo ac yr Uwch Swyddog Gweithredol. Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Adroddwyd bod dros 11,300 o unigolion lleol wedi derbyn cymorth a chefnogaeth drwy wahanol ffyrdd yn sgil Cynllun Gweithredu Tai yr Adran. Nodwyd bod y cymorth hyn yn cynnwys grant, eithriad treth Cyngor er mwyn adnewyddu tŷ gwag, benthyciad drwy Cynllun Prynu Cartref, llety a chefnogaeth drwy cynlluniau digartref neu grant i wneud addasiadau i dai unigolion anabl fel bod modd iddynt barhau i fyw adref yn annibynnol.

 

Tynnwyd sylw at y Cynllun Cartrefi Gwag sydd yn mynd i’r afael â dod a thai gwag yn ôl i ddefnydd drwy gefnogi perchnogion i ddod a thai i safon byw derbyniol tra hefyd yn cadw trigolion yn eu cymunedau. Nodwyd bod 128 o grantiau wedi eu rhoi i brynwyr sydd gyda chysylltiad lleol i’r tai gan bwysleisio mai’r cyfanswm o dai sydd wedi dod yn ôl i ddefnydd yw 321. Pwysleisiwyd bod nifer fawr o bobl sydd yn manteisio o’r cynllun hwn yn brynwyr tro cyntaf lleol ac mae’r Cynllun yn caniatáu iddynt aros yn eu cymunedau.

 

Eglurwyd bod asesiad effaith ar nodweddion cydraddoldeb, y Gymraeg a’r ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol yn cael ei gyflawni ar y Cynllun Gweithredu Tai. Ymfalchiwyd bod y Cynllun yn cael effaith bositif ar bob nodwedd cydraddoldeb a’r iaith Gymraeg gan ei fod yn cynyddu nifer ac ystod o dai o fewn y Sir ar gyfer anghenion gwahanol gymunedau. Ymhelaethwyd bod y Cynllun yn cael effaith bositif ar yr iaith Gymraeg gan ei fod yn cynorthwyo canran uchel o drigolion Gwynedd, sydd wedi eu prisio allan o’r farchnad dai, gael mynediad at gartrefi fforddiadwy, bencythiadau, grantiau neu ryddhad trethi. Adroddwyd bod data a gasglwyd gan asiantaethau tai yn cadarnhau bod cyfartaledd o 95% o breswylwyr stadau cymdeithasol newydd yn gallu’r Gymraeg. Ymhelaethwyd bod y stadau hyn yn cynnwys 26% yn fwy o siaradwyr Cymraeg na’r ward etholiadol ble y’i lleolwyd ynddi, a 31% yn uwch na chanran siaradwyr Cymraeg o fewn y Sir.

 

Cyfeiriwyd at gynlluniau sydd yn mynd i’r afael â cynyddu’r cyflenwad o dai i bobl leol ac hefyd i gynorthwyo unigolion i ymdrin gydag argyfwng costau ynni a thlodi tanwydd.

 

Edrychwyd ymlaen at flwyddyn ariannol 2026/27 gan nodi bod yr Adran yn dymuno diweddaru asesiad effaith iaith Gymraeg y Polisi Gosod Tai Cyffredin, yn sgil deddfwriaeth newydd a ddaw i rym yn y maes Digartrefedd, yn unol ag amserlen Llywodraeth Cymru i gyhoeddi’r ddeddfwriaeth honno. Eglurwyd hefyd bod yr adran yn bwriadu parhau i gymryd pob cyfle i gynorthwyo pobl leol Gwynedd i gael mynediad at dai fforddiadwy a pharhau i dderbyn data am allu ieithyddol tenantiaid newydd ar stadau tai cymdeithasol.

 

Mynegwyd balchder bod porth ar-lein newydd yn cael ei gwblhau gan gwmni allanol er mwyn rhoi mynediad i unigolion at ffurflenni cais am eiddo cymdeithasol neu diweddariadau ar gais byw, ar-lein am y tro cyntaf erioed. Pwysleisiwyd bydd y porth hwn yn gyfleus i unrhyw un sydd yn dymuno llenwi  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADRODDIAD YR ADRAN GWASANAETHAU CORFFORAETHOL AR WEITHREDIAD Y POLISI IAITH A CHYFRANIAD TUAG AT WIREDDU STRATEGAETH IAITH GYMRAEG 2023-2033 pdf eicon PDF 376 KB

I ystyried yr adroddiad.

Penderfyniad:

  • Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y drafodaeth.
  • Gofyn i Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol a’r Gymraeg i lythyru gyda’r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol ar ran y Pwyllgor, i ddatgan anfodlonrwydd nad oes modd cofrestru yn Gymraeg a gofyn iddynt roi camau mewn lle er mwyn newid hyn.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaeth Democratiaeth ac Iaith yn absenoldeb Pennaeth yr Adran. Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Atgoffwyd bod yr Adran yn cyfrannu at waith datblygu polisïau, strategaethau a phrosiectau sy’n hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ym meysydd gwaith, gwasanaethau, cymunedau a datblygiad gweithlu fel rhan o Strategaeth Iaith Gymraeg 2023-2033.

 

Nodwyd bod yr adran wedi intergreidio’r Gymraeg i bolisïau allweddol ac yn parhau i wneud hynny. Cadarnhawyd bod pwyslais yn cael ei roi i sicrhau bod gwasanaethau i’r cyhoedd a staff ar gael yn ddwyieithog, gyda’r Gymraeg yn cael ei flaenoriaethu mewn systemau ffôn, gwefannau, cyfryngau cymdeithasol, hyfforddiant a chyfathrebu mewnol. Ymhelaethwyd bod ymchwil yn darparu tystiolaeth i lywio penderfyniadau, ac bod prosiectau penodol yn hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg ymhlith pobl ifanc, busnesau a chymunedau.

 

Ymfalchïwyd bod datblygu sgiliau iaith y gweithlu yn flaenoriaeth i’r Adran, gan nodi bod cynlluniau hyfforddi, cefnogaeth i brentisiaid a phrosiectau dysgu Cymraeg i’r gweithlu, gyda chefnogaeth bellach yn cael ei ddarparu i’r unigolion sy’n gweithio o fewn y maes gofal. Cadarnhawyd bod mentrau ar waith sy’n canolbwyntio ar gynyddu hyder staff i ddefnyddio’r Gymraeg. Tynnwyd sylw bod yr adroddiad yn tystiolaethu lefel sgiliau iaith uchel yr Adran Gwasanaethau Corfforaethol.

 

Cydnabuwyd bod heriau a rhwystrau yn wynebu’r Adran wrth ddarparu a hyrwyddo gwasanaethau cyfrwng Cymraeg. Cyfeiriwyd at rai heriau penodol megis diffyg darpariaeth Gymraeg gan rai partneriaid allweddol gan fel yr heddlu a WLGA, systemau caffael a thendrau cenedlaethol sydd ddim yn cefnogi’r Gymraeg yn ddigonol a thechnoleg cyfryngau cymdeithasol. Tynnwyd sylw penodol at rwystr o fewn y maes cofrestru genedigaethau a marwolaethau, gan nodi bod cyfyngiadau deddfwriaethol yn cyfyngu ar y gallu o gwblhau cofrestrad yn uniaith Gymraeg.

 

Nodwyd bod gan yr Adran fwriad o fewn y flwyddyn nesaf, i ddatblygu canllaw asesu effaith ar y Gymraeg i staff ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau mawr. Nodwyd hefyd bod cynlluniau eraill yn cynnwys hyrwyddo hyfforddiant Technoleg Gymraeg a chodi ymwybyddiaeth staff o’r offer sydd ar gael i’w cynorthwyo. Pwysleisiwyd bod y gwaith ym maes hyfforddiant iaith yn parhau a bod yr Adran hefyd yn parhau i gydweithio gyda Swyddfa Gofrestru Gyffredinol er mwyn gwella’r ddarpariaeth Gymraeg a gynigir.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- 

 

Tynnwyd sylw bod systemau Galw Gwynedd yn gofyn i ddefnyddwyr gwasanaeth os ydynt eisiau parhau i ddefnyddio gwasanaeth Gymraeg ar sawl achlysur, er bod y defnyddiwr eisoes wedi nodi ei iaith ddewisol. Mewn ymateb i’r ymholiad, nododd yr Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu nad oedd y Swyddogion yn ymwybodol bod y cwestiwn hwn yn cael ei holi, gan gadarnhau byddent yn cynnal trafodaethau gyda’r gwasanaeth er mwyn sicrhau na fydd hyn yn digwydd i’r dyfodol.

 

Mewn ymateb i ymholiad a oedd asesiadau symudedd cwsmeriaid ar gyfer derbyn Bathodynnau Glas yn cael eu cwblhau yn y Gymraeg hyd nes bod y cwsmer yn gofyn am asesiad Saesneg, cadarnhaodd yr Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu bod y Gymraeg yn cael ei ddefnyddio yn gyntaf hed nes mae’r cwsmeriaid yn nodi mai eu iaith dewisol  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.