Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679556

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2026-2027.

Penderfyniad:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Meryl Roberts yn Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer 2026/27.

 

Cofnod:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Meryl Roberts yn Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer 2026/27.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2026-2027.

Penderfyniad:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn yn Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer 2026/27.

 

Cofnod:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn yn Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer 2026/27.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Menna Baines.

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys y marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

6.

COFNODION pdf eicon PDF 153 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 20 Ebrill 2026 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 20 Ebrill 2026 fel rhai cywir.

 

7.

ADRODDIAD ADRAN OEDOLION, IECHYD A LLESIANT AC ADRAN PLANT A CHEFNOGI TEULUOEDD AR WEITHREDIAD Y POLISI IAITH A CHYFRANIAD TUAG AT WIREDDU STRATEGAETH IAITH GYMRAEG 2023-2033 pdf eicon PDF 342 KB

I ystyried yr adroddiad.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y drafodaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad Bennaeth Adran Oedolion ac Arweinydd Tim Cefnogi Gweithlu y Tim Arweinyddiaeth. Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Ymfalchïwyd bod yr Adrannau yn ymrwymo ac yn dyfalbarhau i hyrwyddo’r Gymraeg fel iaith fyw a gweithredol ym mhob agwedd o’u gwaith. Manylwyd bod strategaeth ‘Mwy na Geiriau’ (Fframwaith Strategol ar gyfer Gwasanaethau Cymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol) yn ganolog i waith yr Adrannau, er mwyn sicrhau bod cynnig gwasanaethau yn Gymraeg yn rhagweithiol yn cael ei wireddu yn ymarferol ar draws y gwasanaethau.

 

Adroddwyd bod yr Adrannau yn cynnig adnoddau allweddol i gefnogi’r Gymraeg. Tynnwyd sylw penodol at system casglu data newydd PERCCI (Person-Centred Community Care Inventory). Eglurwyd ei fod yn holiadur sydd wedi ei lunio ar gyfer unigolion sydd â phrofiad o dderbyn gofal, gan gadarnhau bod fersiwn Cymraeg ar gael ac y byddai’n cael ei rannu gyda defnyddwyr gwasanaeth yn fuan.

 

Cyfeiriwyd at ap ‘Helpu’n Hun’, a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Manylwyd ei fod yn feddalwedd sy’n darparu gwasanaeth therapydd galwedigaethol rhithiol er mwyn galluogi unigolion a theuluoedd i dderbyn cyngor ar y ffyrdd y gallent geisio cynorthwyo eu hunain o ddydd i ddydd.

 

Diweddarwyd bod offer Teleofal newydd wedi cael ei gyflwyno, gan gadarnhau bod y dechnoleg bellach yn Gymraeg. Atgoffwyd bod y gwasanaeth yn fodd i unigolion alw am gymorth ar unrhyw amser, drwy gyffwrdd ar fotwm neu drwy actifadu cyfres o synwyryddion sydd wedi cael eu gosod yn y cartref.

 

Cadarnhawyd bod ‘Beam Notes’ wedi cael ei dreialu o fewn y gwasanaethau yn ddiweddar. Nodwyd ei fod yn feddalwedd symudol sydd yn gwrando ar sgyrsiau gan lunio cofnodion a chrynhoad o’r sgwrs. Nodwyd bod adborth o’r treial yn nodi ei fod yn lwyddiannus gan fod ansawdd y ddogfennaeth yn safonol. Ymhelaethwyd bod y feddalwedd yn cael ei rannu yn ehangach ar draws yr Adrannau erbyn hyn er mwyn lleihau baich a phwysau gweinyddol.

 

Mynegwyd balchder bod yr Adran Oedolion wedi cyflwyno adnodd i gefnogi gweithwyr gofal rheng flaen o fewn cartrefi gofal er mwyn darparu gwersi Cymraeg, gloywi iaith a chodi hyder. Adroddwyd bod yr adnodd hwn ar gael hyd ddiwedd Mawrth 2027 ond gobeithiwyd bydd modd parhau gyda’r trefniadau i’r dyfodol. Yn debyg, eglurwyd bod yr Adran yn cydweithio gyda Phrifysgol Bangor ar brosiect ARFer, i edrych ar sut mae modd dylanwadu ar arferion ieithyddol timau’r gweithlu, a bod cynllun cyfeillio yn digwydd ymysg staff er mwyn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg a chynyddu hyder.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- 

 

Mynegwyd balchder bod darpariaeth gwasanaeth Dechrau’n Deg o fewn yr Adran Blant a Chefnogi Teuluoedd wedi ei ehangu yn ddiweddar. Mewn ymateb i ymholiad am leoliadau sydd yn cynnig y gwasanaeth hwnnw yn ddwyieithog yn hytrach na Cymraeg yn unig, eglurodd y Swyddog Gweithredol, bod dau lleoliad yn cyfathrebu yn Saesneg mewn rhai achosion tra mae’r teuluoedd yn ymgyfarwyddo gyda’r gwasanaeth. Cadarnhawyd bod hyn yn angenrheidiol gan nad yw’r teuluoedd o reidrwydd yn meddu â sgiliau’r Gymraeg. Fodd bynnag, sicrhawyd bod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y GYMRAEG pdf eicon PDF 93 KB

Cyflwyno’r Adroddiad Blynyddol drafft i’r Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y drafodaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol a’r Gymraeg, ac yr Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu. Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Mynegwyd balchder bod cynnydd yn niferoedd staff y Cyngor sydd yn meddu ar sgiliau Cymraeg a bod cynnydd hefyd i’w weld yn niferoedd unigolion sydd yn mynychu hyfforddiant er mwyn datblygu eu sgiliau iaith.

 

Atgoffwyd mai gweledigaeth y Cabinet a’r Cyngor yn ei gyfanrwydd yw cynyddu cyfleoedd i drigolion Gwynedd i weld a defnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd. Tynnwyd sylw at adran newydd o’r Adroddiad Blynyddol sydd yn rhannu enghreifftiau o sut mae pob Adran yn mynd ati i wneud hyn yn effeithiol.

 

Cadarnhawyd bod pob Adran o fewn y Cyngor yn cydymffurfio’n llawn â safonau’r Gymraeg ac yn cyfrannu i’r strategaeth iaith.

 

Amlygwyd bod Tîm y Gymraeg wedi bod yn cydweithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg, ARFOR, Rhwydwaith, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn ac eraill er mwyn cyd-ddysgu a rhoi platfform i’r gwaith da sydd yn digwydd drwy’r Gymraeg yng Ngwynedd.

 

Cyfeiriwyd at nifer o brosiectau cyffroes sydd ar waith dros y flwyddyn nesaf megis Polisi Iaith Addysg, Bwrdd Rhaglen y Gymraeg a’r Siarter Twf: Y Gymraeg yn y Gweithle.

 

Tynnwyd sylw at gywiriad i’r adroddiad (Tudalen 17 o’r Adroddiad Blynyddol), ynglŷn â data ar niferoedd aelodau staff sy’n cyrraedd Dynodiadau Iaith eu swydd a throsolwg o lefelau iaith y staff. Pwysleisiwyd bod y ffigyrau sydd wedi cael eu cynnwys o fewn yr adroddiad yn gywir ond cydnabuwyd nad oedd y canrannau. Cadarnhawyd y wybodaeth fel a ganlyn ar gyfer 2025/26:

 

·        Staff sy’n cyrraedd Dynodiadau Iaith eu swydd – 3269 (91.6%)

·        Staff nad ydynt yn cyrraedd Dynodiadau Iaith eu swydd – 299 (8.4%)

·        Staff sy’n meddu ar sgiliau yn y Gymraeg (o unrhyw fath) – 3271 (99.3%)

·        Staff heb unrhyw sgiliau yn y Gymraeg – 22 (0.7%)

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- 

 

Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd yr Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu y bydd modd ychwanegu data ar gyfer cyfnod o 4 mlynedd o fewn yr adroddiad ar faterion megis defnydd iaith a niferoedd staff sydd yn cyrraedd Dynodiad Iaith eu swyddi, er mwyn amlygu unrhyw batrymau neu dueddiadau.

 

Mewn ymateb i ymholiad, pwysleisiodd yr Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu nad oedd y ffaith bod 8.4% o staff y Cyngor yn cyrraedd Dynodiad Iaith eu swydd yn cael unrhyw effaith ar wasanaethau rheng flaen. Nodwyd bod y mwyafrif o’r  aelodau staff sydd ddim yn cyrraedd y Dynodiad Iaith yn weithwyr gofal neu staff ategol mewn ysgolion. Ychwanegodd y Swyddog Dysgu a Datblygu’r Iaith Gymraeg bod unigolion yn derbyn cymorth ieithyddol yn fuan yn dilyn eu penodiad. Amlygwyd bod nifer o unigolion sydd ddim yn cyrraedd y Dynodiad Iaith eisoes yn meddu â sgiliau’r Gymraeg ac yn agos iawn i gyrraedd y safon ddisgwyliedig, gan gadarnhau bod yr anogaeth a chefnogaeth ar gael iddynt wneud hynny o fewn eu swydd. Cadarnhawyd mai cynyddu hyder staff i ddefnyddio’r Gymraeg yw’r ffactor sydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf fel  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

CANLYNIADAU AROLWG PEILOT MESUR DEFNYDD O'R GYMRAEG MEWN MANNAU CYHOEDDUS SY'N DARPARU GWASANAETHAU AR RAN CYNGOR GWYNEDD pdf eicon PDF 110 KB

I gyflwyno canlyniadau yr arolwg.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y drafodaeth.
  2. Cefnogi trefniadau i gynnal gwaith ymchwil i’r dyfodol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu. Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Eglurwyd bod yr astudiaeth yn cyflwyno dull arloesol o fesur ac arsylwi defnydd y Gymraeg mewn mannau cyhoeddus dan do, mewn lleoliadau sydd yn darparu gwasanaethau Cyngor Gwynedd a Byw’n Iach i drigolion.

 

Diolchwyd i Dr Rhian Hughes a Dr Cynog Prys o Brifysgol Bangor am eu cymorth wrth gyflawni’r arolwg. Nodwyd bod methodoleg arolygon stryd a ddefnyddiwyd yng Ngwlad y Basg wedi’i addasu er mwyn casglu data mewn amrywiaeth o leoliadau gwasanaeth megis derbynfeydd Siop Gwynedd, llyfrgelloedd, canolfannau hamdden a chanolfannau alwadau ar draws tri lleoliad gwahanol yn y Sir.

 

Adroddwyd mai nod y gwaith oedd sefydlu gwaelodlin gadarn, annibynnol a gwrthrychol ar gyfer monitro defnydd iaith dros amser tra hefyd yn ymateb i’r diffyg presennol o ddata meintiol dibynadwy yn y maes hwn.

 

Amlygwyd bod canlyniadau’r arolwg yn dangos:

·        Bod y Gymraeg yn parhau’n iaith gymunedol gref mewn sawl ardal.

·        Bod defnydd yn lleihau gyda chynnydd mewn oedran:

o   90.3% o’r grŵp 2-15 oed

o   69.8% o’r grŵp 16-24 oed

o   68.9% o’r grŵp 25-64 oed

o   58.3% o’r grŵp 65 oed a throsodd

·        Bod cyd-destun sefyllfaoedd, os yn fater ffurfiol neu anffurfiol, yn cael dylanwad sylweddol ar ddewis iaith. Ymhelaethwyd bod defnydd is o’r Gymraeg i’w weld mewn sefyllfaoedd ffurfiol, sy’n awgrymu presenoldeb diglosia o fewn ein cymunedau. Eglurwyd bod diglosia yn digwydd pan fo dau fath o iaith yn bodoli ochr yn ochr mewn cymdeithas, gyda'r naill yn cael ei defnyddio mewn cyd-destunau swyddogol, addysgol, neu ffurfiol (fel dogfennau swyddogol), a'r llall yn cael ei ddefnyddio mewn cyd-destunau mwy anffurfiol (fel mewn sgwrs rhwng ffrindiau neu yn y cartref).

 

Diweddarwyd y gobeithir cynnal yr arolwg eto, er mwyn derbyn data cyson ble gellir ei ddefnyddio i dargedu lleoliadau ar gyfer ymyraethau ble mae’r angen yn codi.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- 

 

Mewn ymateb i bryder nad yw canlyniadau’r arolwg yn adlewyrchu gwir ddefnydd y Gymraeg o fewn cymunedau, pwysleisiodd yr Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu mai ciplun o ddefnydd iaith a geir o fewn yr arolwg. Pwysleisiwyd bod yr holl ffeithiau yn gywir ac mai tri lleoliad yn unig oedd wedi ei ddewis ar gyfer y peilot gan eu bod yn ardaloedd ble mae swyddfa a gwasanaethau’r Cyngor yno.

 

Mewn ymateb i ymholiad, damcaniaethwyd bod y ganran o ddefnydd Cymraeg o fewn grwpiau oedran yn lleihau wrth i bobl fynd yn hyn oherwydd effeithiau mewnfudo ac allfudo o’r ardal. Cysidrwyd bod y ffaith bod canrannau uchel iawn i’w weld yn yr oedrannau iau yn adlewyrchu llwyddiannau’r Adran Addysg i ddarparu gwasanaethau cyfrwng y Gymraeg yn effeithiol. Ystyriwyd bod dyfodiad technoleg yn cyflwyno her newydd gan fod angen sicrhau bod holl feddalweddau yn caniatáu i unigolion dderbyn gwasanaethau yn Gymraeg. Pwysleisiwyd bydd yr her hon yn derbyn sylw gan yr Uned iaith, pan fydd gwefan newydd Cyngor Gwynedd yn weithredol o fewn y misoedd nesaf, ac yn derbyn ystyriaeth barhaus i’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.