Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679256

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Sasha Williams, Alan Jones Evans a Peter Thomas.

 

Cydymdeimlodd y Cadeirydd ar ran y pwyllgor gyda theulu y diweddar Gynghorydd Eirwyn Williams, a fu farw yn ddiweddar. Roedd yn gyn-gadeirydd ac aelod ffyddlon o’r pwyllgor am nifer o flynyddoedd ac wedi rhoi gwasanaeth gwerthfawr i drigolion Criccieth fel Cynghorydd Sir.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

4.

COFNODION pdf eicon PDF 236 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 27 Mehefin 2023 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 27 Mehefin 2023 fel rhai cywir.

 

5.

CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG: ADRAN AMGYLCHEDD pdf eicon PDF 331 KB

Cyflwyno Gwybodaeth am gyfraniad yr Adran i’r Polisi Iaith.

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Adran Amgylchedd a thynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Adroddwyd bod Canllaw Atodol y Polisi Cynllunio yn rhoi ystyriaeth fanwl i’r iaith Gymraeg er mwyn ei hybu yng Nghymru a thu hwnt.

 

Tynnwyd sylw at waith y swyddogion bioamrywiaeth, tiroedd a natur sy’n trefnu teithiau cerdded i ddysgwyr er mwyn addysgu am dermau newydd yn y Gymraeg o fewn y maes.

 

Adroddwyd y derbyniwyd 76 cais i newid enw eiddo  flwyddyn ddiwethaf. Cadarnhawyd bod 95% o’r eiddo hyn wedi cadw, neu bellach yn defnyddio, enw Cymraeg. Esboniwyd bod enwau’r eiddo sy’n disgyn i mewn i’r 5% arall yn anodd eu newid, megis enwau cwmnïau a busnesau. Eglurwyd bod y ddeddfwriaeth sy’n caniatáu ceisiadau i newid iaith ar enw lleoliad yn dyddio’n ôl i 1215 a bod ystyriaethau yn cael ei roi i weld os oes enwau tebyg ar adeiladau cyfagos a phriodoldeb. Cadarnhawyd nad oes modd gorfodi ymgeiswyr i roi enwau Cymraeg ar eu hadeiladau, dim ond eu hannog i ddefnyddio’r Gymraeg. Nodwyd bod ystyriaethau yn cael eu rhoi i’r angen i dynhau’r ddeddfwriaeth hon. Er hyn, sicrhawyd bod swyddogion yr adran yn llwyddiannus i annog perchnogion i ddefnyddio’r iaith Gymraeg yn y mwyafrif helaeth o achosion.

 

Nodwyd bod mwy o waith angen ei gwblhau er mwyn sicrhau nad ydi pobl yn rhoi enwau Saesneg ar eu busnesau. Derbyniwyd bod rhai rheoliadau mewn lle er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn amlwg o fewn y busnesau ond mae angen gwneud mwy o waith hyrwyddo er mwyn sicrhau fod cwmnïau yn defnyddio’r iaith. Tynnwyd sylw at y ffaith bod angen caniatâd cynllunio ar gyfer unrhyw arwydd busnes sy’n cael ei oleuo. Yn sgil hyn, mae gofynion ieithyddol yn nodi bydd rhaid i’r arwyddion hynny fod yn ddwyieithog er mwyn iddo gael ei ganiatáu.

 

Mewn ymateb i ymholiad ar enwau strydoedd a lleoliadau eraill yn Gymraeg yn unig, cadarnhaodd Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd bod hyn yn fater i Gymru gyfan ei ystyried. Pwysleisiodd yr Ymgynghorydd Iaith bod gwaith yn cael ei wneud gan y Cyngor i edrych i mewn i’r mater yma a bod trafodaethau yn cael eu cynnal i edrych pa reoliadau sy’n bosibl. Oherwydd natur genedlaethol y mater, mae’n bwysig sicrhau fod y Cyngor yn rhannu arfer dda gyda sefydliadau eraill er mwyn sicrhau fod yr iaith Gymraeg yn cael ei ddefnyddio yn y gobaith bydd rheoliadau yn cael eu ffurfio yn y dyfodol.

 

Cadarnhawyd bod 91% o staff yr adran sydd wedi cwblhau'r hunanasesiad ieithyddol, yn cyrraedd eu dynodiad swydd. Er hyn, cydnabuwyd bod 111 o aelodau staff yr adran heb gwblhau’r hunanasesiad a thybiwyd bod hyn o  ganlyniad i symud y gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu o adran arall i adran amgylchedd yn ddiweddar. Nodwyd hefyd nad yw’n hawdd i nifer o staff gwblhau’r hunanasesiad oherwydd nad ydynt yn defnyddio cyfrifiaduron yn eu swyddi rheng flaen. Pwysleisiwyd bod sicrhau fod pawb yn cwblhau’r hunanasesiad ieithyddol yn flaenoriaeth i reolwyr yr adran, a bod yr hunanasesiad ieithyddol yn cael ei gynnwys fel  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG: ADRAN GYLLID pdf eicon PDF 537 KB

Cyflwyno Gwybodaeth am gyfraniad yr Adran i’r Polisi Iaith.

 

Cyflwynwyd gan: No declarations of personal interest or relevant dispensations were received.

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Adran a thynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Atgoffwyd yr aelodau bod yr adran yn unigryw gan ei fod yn gymysgedd o wasanaethau sy’n cefnogi adrannau eraill y Cyngor yn ogystal â darparu gwasanaethau rheng flaen yn uniongyrchol i’r  cyhoedd.

 

Adroddwyd bod gan bob cyfrifiadur sy’n cael ei ddefnyddio gan y Cyngor, osodiadau sy’n sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei ddefnyddio fel iaith y cyfrifiadur yn ddiofyn. Cadarnhawyd bod cyfrifiaduron sy’n cael eu darparu i ysgolion gan Wasanaeth Dysgu Digidol, sy’n rhan o wasanaethau’r adran ers i’r Cyngor fewnoli cwmni Cynnal, hefyd gyda gosodiadau Cymraeg arnynt Eglurwyd bod pob athro wedi derbyn gliniadur ac mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau fod pob disgybl uwchradd yn derbyn gliniadur er mwyn gwneud eu gwaith addysgol.

 

Nodwyd bod yr adran wedi bod yn derbyn galwadau i geisio newid iaith eu cyfrifiaduron yn ôl i’r Saesneg wrth i’r newid hyn ddigwydd. Cadarnhawyd bod hyn yn bosib i’w wneud ond bod swyddogion yn annog pawb i barhau gyda’r systemau Cymraeg. Cadarnhawyd bod niferoedd o alwadau am y systemau cyfrifiadurol Cymraeg wedi lleihau yn fawr ers i’r newid gael ei wneud yn wreiddiol.

 

Cadarnhawyd bod Cronfa Bensiwn Gwynedd yn symud i system newydd o’r enw ‘Fy Mhensiwn ar Lein’, ble fydd pawb sy’n rhan o’r gronfa yn gallu cael mynediad iddo – boed dal yn y gwaith neu wedi ymddeol. Ymhelaethwyd bod rhyngwyneb Cymraeg wedi cael ei sefydlu ar gyfer y system hon ac fe fydd y rhyngwyneb hwnnw yn cael ei rannu gyda’r saith cronfa bensiwn arall sydd yng Ngwynedd. Esboniwyd fod y datblygiadau hyn yn digwydd yn dilyn llwyddiant stondin Cronfa Bensiwn Gwynedd ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan eleni ble roedd cyfle i unigolion diweddaru gwybodaeth, dysgu mwy am y gwasanaeth a datgelu logo newydd y Gronfa.

 

Cadarnhawyd bod yr adran wedi derbyn adroddiad beirniadol gan Gomisiynydd y Gymraeg yn ddiweddar yn dilyn llythyr a oedd wedi cael ei yrru i aelod o’r cyhoedd a oedd yn uniaith Saesneg. Esboniwyd bod y gwall hwn wedi digwydd oherwydd nam yn y templedi a ddefnyddir. Yn anffodus, nodwyd bod gwall pellach wedi cymryd lle wrth yrru ail lythyr i’r unigolyn gan fod gwallau iaith sylfaenol a chymysgedd o eiriau Saesneg a Chymraeg wedi cael eu defnyddio megis ‘Dear’ a ‘Yours Sincerely’. Pwysleisiwyd mai digwyddiad un tro oedd y sefyllfa hon a bod yr adran yn gwneud popeth yn eu gallu i sicrhau nad yw digwyddiadau o’r math hyn yn digwydd eto.

 

Eglurwyd bod 220 (98%) o aelodau staff yr adran wedi cwblhau’r hunanasesiad ieithyddol. Manylwyd bod 214 o’r aelodau hynny yn cyrraedd dynodiad iaith eu swyddi a bod cymorth yn cael ei roi i unrhyw un sydd ddim yn teimlo eu bod yn cyrraedd dynodiad iaith eu swydd, i wella eu sgiliau. Pwysleisiwyd nad oes neb yn yr adran sydd ddim yn meddu â sgiliau iaith Cymraeg o gwbl ac felly nid yw’r ffaith nad yw pawb yn cyrraedd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADRODDIAD MONITRO DRAFFT CYNLLUN HYBU 2018-2023 pdf eicon PDF 784 KB

I roi trosolwg o’r gwaith monitor ar gyfer gweithredu strategaeth Iaith y Cyngor, sef Cynllun Hybu’r Gymraeg yng Ngwynedd 2018-2023.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Ymgynghorydd Iaith a thynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Eglurwyd bod swyddogion yn edrych yn ôl ar y cynllun presennol wrth lunio Strategaeth Iaith newydd ar gyfer 2023-2033 er mwyn rhoi ystyriaeth i’w lwyddiannau ac os yw’r targedau a osodwyd wedi cael eu cyflawni. Nodwyd bod y strategaeth newydd wedi cael ei chyflwyno i’r Cabinet yn ddiweddar ac y byddai’n cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn ym mis Rhagfyr 2023.

 

Pwysleisiwyd mai drafft o’r adroddiad terfynol sydd o flaen y pwyllgor o fewn yr eitem hon oherwydd bod mwy o waith monitro i’w wneud cyn llunio adroddiad swyddogol.

 

Atgoffwyd mai prif fwriad y cynllun hybu 2018-2023 oedd cynyddu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith a cheisio hybu pobl i ddefnyddio’r Gymraeg mewn cymaint o gyd-destunau a phosibl, a hynny drwy 5 maes gwaith:

·       Iaith y teulu,

·       Iaith dysgu

·       Iaith y Gymuned

·       Iaith gwaith y gwasanaeth

·       Ymchwil a thechnoleg

 

Cydnabuwyd bod amserlen gweithredu’r cynllun diweddaraf wedi bod yn un heriol iawn. Pwysleisiwyd bod y pandemig yn 2020 wedi cael effaith fawr ar beth oedd yn bosib ei gyflawni ac roedd cyfyngiadau ar weithgareddau cymdeithasol. Esboniwyd bod y pandemig wedi cael effaith pellgyrhaeddol ar ddefnydd ieithyddol unigolion. Er hyn, mae’r pandemig wedi creu cyfle i wneud pethau newydd i gynyddu’r defnydd yn y Gymraeg.

 

Esboniwyd bod yr adroddiad yn adrodd ar bob maes gweithredu fel nodwyd uchod yn ogystal â thynnu sylw at brosiectau penodol sydd wedi cael eu creu yn sgil amcanion y Strategaeth Iaith.

 

Nodwyd bod llwyddiannau wedi bod i gefnogi teuluoedd oherwydd y gwaith hybu sy’n cael ei wneud o fewn y maes Blynyddoedd Cynnar gyda chymorth Hunaniaith. Eglurwyd bod gwaith hefyd wedi ei wneud gan yr unedau trochi iaith yn ogystal â rhith-fyd Aberwla i sicrhau fod plant yn magu hyder yn yr iaith. Adroddwyd bod prosiect arall technolegol wedi cael ei chyflwyno hefyd sef Prosiect 15. Eglurwyd mai nod y prosiect ydy hyrwyddo defnydd o’r iaith Gymraeg ymysg pobl ifanc ar y cyfryngau cymdeithasol.

 

Tynnwyd sylw at brosiect Enwau Lleoedd sydd wedi cael ei sefydlu yn y ddwy flynedd ddiwethaf mewn ymateb i amcanion cymunedol y Strategaeth.

 

Pwysleisiwyd bod cydweithio gyda phartneriaid yn bwysig iawn a thynnwyd sylw penodol at yr angen i gydweithio gyda Menter Iaith Gwynedd. Atgoffwyd yr aelodau bod y Fenter yn symud i fod y tu hwnt i’r Cyngor yn y misoedd nesaf a phwysleisiwyd bod cadw perthynas glos rhwng y Cyngor a’r Fenter Iaith yn angenrheidiol. Sicrhawyd na fydd newid yng nghefnogaeth i’r gymuned a bydd cyfarfodydd yn cael ei gynnal rhwng y Fenter a’r Cyngor, er mwyn trafod prosiectau a chynlluniau a fydd yn cael eu blaenoriaethu.

 

Cydnabuwyd bod heriau annisgwyliadwy wedi effeithio ar allu swyddogion i gyrraedd rhai amcanion o fewn y Cynllun. Nodwyd bod ymgysylltu gyda’r cyhoedd wedi bod yn heriol ar rhai adegau a bod niferoedd ymatebion wedi bod yn isel. Esboniwyd hefyd bod yr angen wedi codi i addasu blaenoriaethau yn sgil y Pandemig Covid-19 a gwersi wedi eu dysgu.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.