Lleoliad: Parlwr Mawr, Theatr y Ddraig, Barmouth Community Centre, Jubilee Road, Barmouth, Gwynedd. LL42 1EF
Cyswllt: Glynda O'Brien 01341 424301
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan Y Cynghorwyr Louise Hughes, Mandy Williams-Davies (Aelod Cabinet Economi), Y Cyng. David Richardson (Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi), Y Cyng. R. A. Williams (BRIG), Mr Llyr Jones, Uwch Reolwr Economi a Chymuned. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Derbyniwyd
datganiad o gysylltiad personol gan yr
aelodau isod am y rhesymau a nodir: (i)
Y
Cyng. Gethin Glyn Williams oherwydd
ei fod yn
aelod o’r Clwb Hwylio (ii)
Y
Cyng. Julian Kirkham oherwydd
ei fod yn
perthyn i un o weithredwyr yr ysgraff |
|
I dderbyn cofnodion cyfarfod blaenorol o Bwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw a gynhaliwyd ar 15 Hydref 205. Cofnod: Cyflwynwyd: Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw gynhaliwyd ar y 15 Hydref 2015. Penderfynwyd: Derbyn
a chymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir.
2.1 Materion yn Codi o’r cofnodion: (a)
Gaeafau Cychod Mewn
ymateb i ymholiad ynglŷn â gaeafu cychod ar
ran o’r maes parcio, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yn dilyn trafodaeth
gyda Mr Colin Jones, Rheolwr Parcio a Diogelwch bod yr egwyddor yn dderbyniol
ond bod angen trafodaethau ar sut i weinyddu’r
trefniadau, cyfrifoldeb am
y cychod, a.y.b. Bu trafodaethau ynglŷn â chost ar ffurf “bond” rhwng £300-£500 fel blaendal ar gyfer
unrhyw lanhau byddai angen ar
ôl symud y cychod. Fel ffordd ymlaen,
awgrymodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig i Aelodau ofyn i’w cymdeithasau
os oes diddordeb
yn y ddarpariaeth uchod ac iddynt gofnodi eu diddordeb
gyda’r Harbwr Feistr ac yna gellir
ymrwymo i’r cynllun erbyn gaeaf
nesaf. Penderfynwyd: Gofyn
i’r cymdeithasau gysylltu â’r Harbwr
Feistr os oes unrhyw ddiddordeb
gan unigolion i aeafu cychod
ar ran o’r maes parcio, fel
bo modd cwblhau’r
trefniadau angenrheidiol ymhellach. (b)
Mynediad i
Gadeiriau Olwyn ar y Promenâd Yn
deillio o’r drafodaeth ynglŷn â chyflwyno cais am grant i Gronfa’r Loteri
ar gyfer darparu mwy o fannau
mynediad i gadeiriau olwyn ar y promenad, rhoddwyd diweddariad gan y Cynghorydd Eryl
Jones-Williams nad oedd Grŵp Mynediad Meirionnydd wedi cyflwyno ceisiadau
eu hunain ddim ond fel
rhan o fudiadau eraill. Yn ychwanegol, ar hyn o bryd,
roedd y Grŵp Mynediad yn brin
o Ysgrifennydd a Thrysorydd. Teimlwyd hefyd pe byddai’r
Cyngor Tref yn sefydlu Grŵp
Mynediad Abermaw, byddai hyn yn
darnio'r grŵp ehangach sef Grŵp
Mynediad Meirionnydd. I ychwanegu at y broblem roedd y Cyngor wedi cael
gwared a swydd Swyddog Anabledd. Deallir mai oddeutu 4 man o’r “Black Patch” i Westy’r Arbour sydd yn anghyraeddadwy
i gadair olwyn. Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r uchod. (c)
Lansio o Bwynt Penrhyn Mewn
ymateb i bryder ynglŷn â goruchwyliaeth lansio o Bwynt Penrhyn, esboniodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig nad oedd
gan y Gwasanaeth y capasiti i anfon
staff i Bwynt Penrhyn ac mewn cydweithrediad a’r gymuned leol bod arwyddion wedi eu gosod yn
yr ardal. O safbwynt potensial i gael
gwirfoddolwyr i gynorthwyo, ni ragwelwyd unrhyw broblem pe byddai
3 / 4 unigolyn yn fodlon cynorthwyo o dan adain yr
Harbwr Feistr, yn ddibynnol ar
gymwysterau o safbwynt telerau yswiriant. Byddai’n fuddiol hefyd pe byddai
gweithredwyr yr ysgraff yn gallu
hysbysu’r Harbwr Feistr os ydynt
yn gweld cychod yn lansio
heb gofrestru. Pwysleisiodd y Swyddog Morwrol a
Pharciau Gwledig bod trefn ffurfiol i’w ddilyn sef
bod yn ofynnol i unigolion gwblhau
ffurflenni PG1 (manylion yr unigolion) a PG2 (asesiad risg). Penderfynwyd: Gofyn i’r Aelodau wneud ymholiadau gyda’u cymdeithasau er canfod gwirfoddolwyr i gynorthwyo’r Harbwr Feistr gyda lansiadau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 3. |
|
ADRODDIAD GAN Y SWYDDOG MORWROL A PHARCIAU GWLEDIG PDF 208 KB I ystyried adroddiad gan y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd: Adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig, Mr Barry Davies ar weithgareddau harbwr Abermaw gyda chyfeiriad penodol at y canlynol:- (A) Cod Diogelwch Harbyrau Atgoffwyd
Aelodau nad oedd y Cod Diogelwch yn statudol
a byddir yn gwerthfawrogi unrhyw sylwadau sydd gan
Aelodau ar faterion iechyd a diogelwch. Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r uchod. (B) Mordwyo ac Angorfeydd Adroddwyd: (i)
Bod
y Gwasanaeth wedi buddsoddi yn sylweddol
yn y cymhorthion a oedd yn cynnwys
goleuadau, cadwyni, a.y.b. ac o ganlyniad bod pob un ar ei
safle priodol ar hyn o bryd. (ii)
Bod
angen gosod goleuadau ar rhai
cymhorthyddion ond nid oedd y Gwasanaeth
yn orbryderus gan fod gwyliau’r
Pasg yn gynnar
eleni ac na fyddai efallai lawer o gychod ar y dŵr. Fodd bynnag sicrhawyd y byddai’r Uwch Swyddog
Harbyrau a’r Harbwr Feistr yn
eu gosod cyn gynted ag y bo modd. (iii)
Y
byddir yn ystyried buddsoddiad flwyddyn nesaf i osod bwi
starbord ger y morglawdd fel bo
modd i gychod
ymwelwyr fordwyo i’r Harbwr yn
rhwydd (iv)
Derbyniwyd archwiliad gan Ty’r Drindod
ynghyd ag awdit trylwyr ac o ganlyniad pwysleisiwyd i’r trefniadau gweinyddol fod i fyny
i safon (v)
Cytunwyd i beidio gwneud buddsoddiad
yn y bwiau traeth heblaw'r porth wrth ymyl
pont droed y rheilffordd (vi)
Bod
y Gwasanaeth wedi cysylltu hefo perchnogion
angorfeydd ac allan o’r nifer o gwsmeriaid
presennol derbyniwyd 60 o geisiadau hyd yma
sydd yn lleihad
o’i gymharu a’r blynyddoedd blaenorol. Fodd bynnag, nodwyd
bod y trend morwrol yn lleihau ymhob harbwr (vii)
Pwysleisiwyd na fyddir yn caniatáu
cychod angori yn yr harbwr
oni bai bod y gwaith gweinyddol ysgrifenedig yn gyflawn a chywir sy’n cynnwys dogfennaeth
yswiriant, tystysgrif angorfa, a.y.b. (viii)
Fe
fyddir yn gofyn i’r contractwr
lleol dynnu’r angorfeydd sydd ddim mewn defnydd
ac ni fydd unigolion yn cael
hawlio lleoliadau penodol Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r uchod. (C) Materion Harbwr Adroddwyd: (i)
Bod
oddeutu £8,000 wedi ei fuddsoddi i
atgyweirio'r pontŵn llynedd ac erbyn hyn wedi bod yn
rhan o gyfrifoldeb y Gwasanaeth Harbwr ac ni wyddys pa mor
hir y gellir ei gynnal a’i
gadw o ystyried yr hinsawdd ariannol
sydd ohoni a chyn lleied o incwm
yn dod ohono. Pwysleiswyd mai at ddefnydd ymwelwyr yn unig
ydoedd bwriad y pontwn ac y byddai’r Harbwr Feistr yn
monitro’r defnydd. Nodwyd ymhellach y byddir yn trefnu i
roi'r bysedd yn ol ar
y pontwn yn fuan. Mewn ymateb
i ymholiadau gan Aelodau unigol, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig: ·
Bod
yn rhaid cael rheolaeth ar gychod lleol
sy’n angori ar y pontwn · O safbwynt cwch yr Harbwr wedi ei angori ar y pontwn, bod llawer o waith atgyweirio ar y cwch ac fe fyddai’n rhaid ystyried ffyrdd amgen o gyrraedd at y cwch megis trefniadau fel sy’n bodoli yn Aberdyfi sydd wedi angori gyda chwch gweini ar gael i fynd ati ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |
|
MATERION I'W HYSTYRIED AR GAIS AELODAU'R PWYLLGOR YMGYNGHOROL PDF 70 KB I dderbyn adroddiadau
llafar gan y swyddogion perthnasol ar y materion canlynol: (a)
Marciau Mordwyol (b)
Ystyried cael arwyddion i rybuddio y newid yn y dyfnder ger
y Clwb Hwylio (c)
Cais i ddosbarthu cofnodion ynghynt er mwyn i gynrychiolwyr
fedru briffio’r grwpiau maent yn
gynrychioli (d) Polyn peryglus yng ngwaelod y llithrfa yn Harbwr
Aberamffra (e) Tywod?
Beth ellir ei wneud? Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a)
Marciau Mordwyo Adroddwyd
bod yr uchod wedi ei drafod
fel rhan o adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig. (b)
I ystyried
cael arwyddion i rybuddio’r cyhoedd
o’r newid yn nyfnder y Sianel
ger y Clwb Hwylio Cyfeiriwyd
at y ddau lun oedd ynghlwm i’r
rhaglen yn dangos cwympiad o 5-6 troedfedd yn y sianel ac fe nodwyd
pryder ynglŷn â diogelwch y cyhoedd o ganlyniad i hyn. Penderfynwyd: Gofyn
i’r Harbwr Feistr osod arwyddion
“Glannau Serth” (Steep
Banks) yn ogystal â hysbysebu morwyr o fannau diogel i
lansio cychod. (c)
Cais i ddosbarthu cofnodion ynghynt er mwyn
i gynrychiolwyr fedru briffio’r grwpiau maent yn
cynrychioli Adroddodd
y Swyddog Cefnogi Aelodau y
ceisir gosod y cofnodion ar wefan
y Cyngor o fewn 15 diwrnod gwaith i ddyddiad y cyfarfod
ond bod hyn yn ddibynnol ar
lwyth gwaith. Yn y cyfamser roedd wedi anfon linc
o’r safle lle gosodir y rhaglenni/cofnodion i Cyng.
Rob Triggs fel bo modd iddo
anfon y linc ymlaen i’r unigolion
perthnasol. Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r uchod. (ch) Polyn peryglus yng ngwaelod
y llithrfa yn Harbwr Aberamffra Gwnaed
cais gan gynrychiolydd y Clwb Hwylio i dynnu’r
polyn peryglus yn Harbwr Aberamffra. Deallir
mai gweddillion hen long ydoedd ac y byddai’n ofynnol i gael
4 aelod o staff i’w dorri. Roedd gwahaniaeth barn ymysg yr Aelodau o’i dynnu ai
peidio gan nad oedd yn
creu perygl o safbwynt mordwyo ond fel cyfaddawd
gellid gosod bwi ar y safle. Yn
dilyn pleidlais ar y mater: Penderfynwyd: I beidio
tynnu’r polyn yn Harbwr Aberamffra. (d)
Tywod – beth ellir ei wneud? Adroddwyd
gan gynrychiolydd y Clwb Hwylio bod tywod sylweddol i fyny ochr
gogleddol o’r compownd ac ni welwyd cymaint â hyn yno o’r
blaen ac y byddai’n creu trafferthion i gael y cychod
allan. Eglurodd
y Cadeirydd y byddai’n rhaid bod yn rhagweithiol
drwy gysylltu â Mr Colin Jones, Rheolwr
Parcio a Diogelwch Ffyrdd sydd yn
gyfrifol am y maes parcio. Fodd bynnag
hyderir y gellir datrys y broblem yn yr hir
dymor. Penderfynwyd: Derbyn a nodi’r uchod. |
|
DYDDIAD CYFARFOD NESAF I nodi y cynhelir cyfarfod nesaf o Bwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw ar 8 Tachwedd 2016. Cofnod: Penderfynwyd: Nodi
y cynhelir nesaf y Pwyllgor Ymgynghorol ar ddydd Mawrth,
8 Tachwedd 2016. |