Lleoliad: Parlwr Mawr, Theatr y Ddraig, Barmouth Community Centre, Jubilee Road, Barmouth, Gwynedd. LL42 1EF
Cyswllt: Glynda O'Brien 01341 424301
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2017-18. Cofnod: Penderfynwyd: Ethol y
Cynghorydd Gethin Williams yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2017/18. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2017-18. Cofnod: Penderfynwyd: Ethol y
Cynghorydd Eryl Jones-Williams yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn
2017/18. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau
oddi wrth: Y Cynghorydd Ioan Ceredig Thomas (Aelod Cabinet - Economi), Cyng.
Louise Hughes (Cyngor Gwynedd), Mr John Johnson (Cymdeithas Pysgota Abermaw a
Bae Cerdigion, Mr Arthur F. Jones (Uwch Swyddog Harbyrau). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Derbyniwyd datganiad o
gysylltiad personol gan yr aelodau isod am y rhesymau a nodir: (a)
Cyng. Gethin Williams –
aelod o’r Ymddiriedolaeth Cymunedol (b)
Cyng. Julian Kirkham - yn perthyn i un o’r gweithredwyr fferi (c)
Mr Mike Ellis – aelod o
bwyllgor Ras y Tri Copa (d)
Mrs Wendy Ponsford – aelod
o’r Clwb Hwylio, aelod o’r Ymddiriedolaeth Cymunedol (e)
Cyng. Rob Triggs – aelod
o’r Ymddiriedolaeth Cymunedol, aelod o’r Clwb Hwylio (f)
Mr Martin Parouty –
gweithredwr masnachol yn yr harbwr, aelod o’r Clwb Hwylio ac Ymddiriedolaeth
Cymunedol (g)
Dr John Smith – aelod o’r Clwb
Hwylio, aelod o’r Ymddiriedolaeth Cymunedol Ni fu i’r Aelodau
bleidleisio ar faterion a oedd yn ymwneud â’u buddiant personol. |
|
I gadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol o Bwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2017. (Copi’n amgaeedig) Cofnod: Cyflwynwyd: Cofno Penderfynwyd: Derbyn a chymeradwyo’r cofno |
|
ADRODDIAD GAN Y SWYDDOG MORWROL A PHARCIAU GWLEDIG PDF 314 KB I ystyried adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd: Adroddiad y Swyddog Morwrol
a Pharciau Gwledig, Mr Barry Davies, yn diweddaru’r pwyllgor ar faterion
rheolaethol yr Harbwr. Cyfeiriwyd yn benodol at y canlynol:- (a)
Aelodaeth y Pwyllgor - gofynnwyd i Grŵp Mynediad
Traphont Abermaw gyflwyno cyfansoddiad a chofnodion eu Cyfarfod
Blynyddol i’r Swyddog Cefnogi Aelodau, yn unol â phenderfyniad Cabinet Cyngor
Gwynedd yn 2014. Bydd angen i’r mudiadau / sefydliadau
gyflwyno’r wybodaeth yn flynyddol. (b)
Angorfeydd a Chofrestru Cychod Abermaw – cyflwynwyd rhestr ychwanegol i’r Aelodau yn ystod y cyfarfod a chyfeirwyd at y
dau gwch a dorrwyd yn rhydd yn ddiweddar.
Pwysleiswyd nad oedd dim o’i le ar yr angorfeydd ond yn hytrach y ddolen
rhwng blaen y cwch a’r bwi a falwyd ac sydd yn gyfrifoldeb i’r perchennog. Annogir perchnogion cychod yn rheolaidd i
sicrhau eu bod yn dilyn y canllawiau priodol a bod yr angorfeydd yn addas i’r
pwrpas. Mewn ymateb i ymholiad gan
Aelod, cadarnhawyd bod staff yr Harbwr yn gwirio ac yn sicrhau bod y stropiau
yn addas. Teimlai’r Gwasanaeth Morwrol
yn rhwystredig yn wyneb y ffaith bod trefniadau mewn lle ar gyfer cyflwyno
dogfennaeth gyfredol priodol i’r Harbwr Feistr ond nad oedd ambell unigolyn yn
cydymffurfio. Awgrymwyd i’r dyfodol y
byddai angen cynnal awdit o’r oll angorfeydd ac os nad ydynt yn gymwys yn unol
â chanllawiau’r Gwasanaeth, ni fyddai opsiwn ond eu gwahardd o’r Harbwr a
chyfarwyddo i godi’r angorfeydd allan. Pwysleiswyd bwysgirwydd i sefydlu proses gadarn
i ymdrin â’r mater uchod ac awgrymwyd y byddai’n fuddiol i adolygu’r
Is-ddeddfau fel bo modd gweithredu’n fwy llym i’r dyfodol. Croesawyd gefnogaeth y Pwyllgor Ymgynghorol
i’r awgrym hwn ac anogwyd Aelodau i ledaenu’r neges i’w mudiadau o bwysigrwydd
bod angorfeydd yn cyrraedd gofynion ac yn addas i bwrpas. Mewn ymateb i ymholiad ynglyn â’r ystadegau o
gychod pwer / hwylio a’r ganran ym Meirionnydd yn lleihau o’i gymharu â
chynnydd ym Mhenllŷn, esboniodd y
Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod Pwllheli wedi ei adnabod fel man i
gynnal rasus lleol a bod yna ddiwydiant hwylio cryf yno. Ychwanegwyd bod Clwb Hwylio Meirionnydd yn
gwneud gwaith gwych hefo’r ieuenctid yn nhref Abermaw. Penderfynwyd: Cymeradwyo
bod y Gwasanaeth Morwrol yn cynnal adolygiad o’r Is-ddeddfau Harbwr er mwyn
sefydlu gweithdrefn gadarn i’w roi mewn lle ar gyfer cyflwyno dogfennaeth
priodol o addasrwydd angorfeydd. (c)
Cod Morwrol a Diogelwch Porthladdoedd Adroddodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod archwilwyr Asiantaeth Gwylwyr y Glannau (MCA), Adran Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, wedi cynnal arolwg o drefniadau a sustemau diogelwch presennol harbyrau’r Sir ac fe fyddir yn cyflwyno eu hadroddiad i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Ymgynghorol yn y gwanwyn. Ni ragwelwyd bod unrhyw broblemau yn deillio o’r arolwg a’u barn cychwynnol ydoedd bod y Gwasanaeth yn cydymffurfio gyda’r gofynion yn gyffredinol ond bod angen matrics hyfforddiant cynhwysfawr i staff. Canolbwyntiwyd yr arolwg ar harbyrau Aberdyfi, Porthmadog a Phwllheli ac ni fu ymweliad ag Abermaw oherwydd prinder amser. Nodwyd ganddynt bod angen tacluso oddi amgylch cei harbwr Aberdyfi a chyflwynwyd sylwadau ar lafar ynglyn â llêd y sianel yn Harbwr ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
MATERION I'W HYSTYRIED AR GAIS AELODAU'R PWYLLGOR YMGYNGHOROL (a) Aelod Lleol: 1. Adroddiad ar y 'barrier' 2. Dyfodol y pontwn 3 .Cais am 'ardal weithgareddau wedi ei rhaffu
i ffwrdd' 4. Cais i cynnal cystadleuath lleol i dylunio (ac adeiladu) 'caban traeth' unigryw i Bermo (yn lle
defnyddio storage
container haearn, fel yr arfer). 5. Statws adnoddau(peiriannau ayyb) y harbwr 6. Diffyg presenoldeb ar dyddiau digwyddiadau. (b) Cyngor Tref Abermaw: 1.
Taclusrwydd cyffredinol a lle storio o amgylch
yr harbwr 2.
Ffrydiau incwm 3.
Parcio ar y ffordd
ger y Compownd (c) Cyngor Cymuned Arthog 1.
Y diweddaraf am reoli
Pwynt Penrhyn 2.
Llithrfa De Penrhyn Drive (ch) Clwb Hwylio Meirionnydd: 1.
Trafod man ymdrochi agored o fewn ardal
yr harbwr 2.
Ychydig iawn o le sydd i gychod ‘Fin Keel’ 3.
Posib defnyddio matin sgwrio concrid
i unioni’r disgyniad yng ngwaelod y llithrfa. (d) Grŵp Defnyddwyr
Harbwr Abermaw: 1.
Pontŵn – trosglwyddiad cyfrifoldeb a chynnal a chadw 2.
Angorfeydd – mynd ag angorfeydd i’r lan bob gaeaf. 3.
Parth Gwahardd Cychod Pŵer / Cychod Dŵr Personol – adfer y bwiau i farcio’r parth ymdrochi i sicrhau lle mwy
diogel i ymdrochi Cofnod: (a)
Cais am ardal weithgareddau wedi ei rhaffu i ffwrdd Adroddod y Cadeirydd ei fod wedi derbyn cais
ar gyfer dynodi ardal weithgareddau wedi ei rhaffu ffwrdd yn yr harbwr ar gyfer
defnydd gweithgareddau hamdden. Penderfynwyd: Cymeradwyo i
ymchwilio i’r mater gan ofyn i’r unigolion a wnaed y cais gysylltu â’r Swyddog
Morwrol a Pharciau Gwledig i drafod eu syniadau ymhellach. (b)
Cais i gynnal cystadleuaeth lleol i ddylunio (ac
adeiladu) “caban traeth” unigryw i Abermaw Adroddod y Cadeirydd bod angen rhywbeth mwy
esthetig na’r hyn sydd yn bodoli’n barod ac a fyddai o fudd twristiaeth. Penderfynwyd: Cymeradwyo’r
syniad mewn egwyddor ac i unigolion sydd â diddordeb yn yr uchod i gysylltu
gyda’r Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig i drafod ymhellach unrhyw syniadau a
ddaw i law. (c)
Taclusrwydd cyffredinol a lle storio o amgylch yr
Harbwr Derbyniwyd cwyn gan aelod o’r cyhoedd am
gelfi pysgota ar yr harbwr ac nad oedd lle i’r plant ddal crancod. Nodwyd bwysigrwydd i’r pysgotwyr gadw celfi
pysgota yn y compownd. Penderfynwyd: Gofyn i’r
Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig drafod gyda’r pysgotwyr i sicrhau bod y
cawelli yn cael eu cadw gan adael bwlch i bobl fedru cerdded o’u hamgylch. (ch) Ffrydiau Incwm Gofynnwyd a oedd unrhyw fodd i fedru cynyddu
incwm i’r harbwr? Nodwyd bod llawer mwy
o ganŵs a caiacs i’w gweld ac a oedd yr awdurdod yn codi ffi arnynt? Mynegodd aelod bod cymaint o fynd a dod gan gychod
yn ardal yr Harbwr ac y byddai cynyddu defnydd yn y dŵr o amgylch yr
harbwr yn creu risg o ddiogelwch. Mewn ymateb, esboniodd y Swyddog Morwrol a
Pharciau Gwledig y ceisir annog gweithgareddau yn yr Harbwr ond ni chodir ffi
gan na fyddai’n gost effeithiol yn wyneb y ffaith y byddai’n costio mwy i
weinyddu’r trefniadau o gasglu’r ffioedd. Penderfynwyd: Derbyn a
nodi’r uchod. (d)
Parcio ar y ffordd ger y compownd Nodwyd y byddai’r contractwyr yn cael cynnig
cyntaf o ran parcio ar y tir uchod. Penderfynwyd: Derbyn a
nodi’r uchod. (dd) Cynnal a chadw angorfeydd
a ffurflenni adrodd yn ôl Adroddwyd y byddir yn trafod y mater uchod
gyda’r staff perthnasol ym mis Tachwedd i’w wyntyllu. Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r uchod. (e)
Y diweddaraf am reoli Pwynt Penrhyn Adrododd y Cyng. Julian Kirkham ar yr hyn
drafodwyd yng nghyfarfod Cyngor Cymuned Arthog yn ddiweddar a’u bod yn gwneud
cais i Adran Priffyrdd y Cyngor am gymorth ar gyfer:
|
|
ETHOL SYLWEDYDDION I ethol sylwedyddion i wasanaethu fel a ganlyn: a) Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi b) Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog c) Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli Cofnod: Ystyried enwebiadau ar gyfer sylwedyddion
i wasanaethu ar y pwyllgorau canlynol: (a) Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi (b) Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog (c) Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli Cyflwynwyd enwau’r
tri Aelod canlynol, ac fe fyddant yn
penderfynu rhwng ei gilydd pa gyfarfod
fyddant yn mynychu: Y Cyng. Rob Triggs Y Cyng. Julian Kirkham Mr Martin Parouty Penderfynwyd: Gofyn i’r Swyddog Cefnogi Aelodau anfon y dyddiadau iddynt fel y gallent
benderfynu a chadarnhau pwy fydd yn
mynychu’r cyfarfodydd. |
|
DYDDIAD CYFARFOD NESAF I nodi cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw ar 6 Mawrth 2017. Cofnod: Penderfynwyd: Nodi y cynhelir
y cyfarfod nesaf ar 6 Mawrth 2018. |