Lleoliad: Virtual Meeting - Teams
Cyswllt: Ffion Bryn Jones
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
ymddiheuriadau am absenoldebau. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Dafydd Gibbard
(Prif Weithredwr), Iona Wyn Jones, Debbie Anne Jones
a Donna Roberts |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o
fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Unrhyw
faterion brys i’w drafod. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
I gadarnhau fod y cofnodion o’r cyfarfod
blaenorol ar 28/06/2021 yn gywir. (Copi wedi ei
atodi) Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r Fforwm a gynhaliwyd ar 28 Mehefin, 2021 fel rhai cywir. |
|
MATERION YN CODI O’R COFNODION PDF 749 KB · Balans Ysgolion - 31/03/2021 · Grantiau Ysgolion – 2021/22 · Diweddariad Gweithgor Cyllid ADY · Cyfundrefn Addysg Drochi tuag at
2032 a thu hwnt Cofnod: i. BALANSAU YSGOLION BLWYDDYN GYLLIDOL 2020/21 Cyflwynwyd y
rhan yma gan Cyfrifydd Grŵp Ysgolion. Rhannwyd
Datganiad gan Llywodraeth Cymru ar Falansau Ysgolion
Cymru yn ei gyfanrwydd. Nodwyd fod y cyfanswm o Falanasau
yn ysgolion Cymru wedi cynyddu o oddeutu £150 miliwn yn y flwyddyn Covid cyntaf. Credwyd yn gryf mai prif reswm hynny oedd gan
fod yr ysgolion wedi bod ynghau dros gyfnodau yn ystod y pandemig i ran helaeth
o’r disgyblion. Eglurwyd nad
oedd yr un ysgol mewn diffyg yng Ngwynedd ar ddiwedd y flwyddyn ariannol
diwethaf- ond fod £17 miliwn o falansau negyddol wedi
cronni drwy Gymru yn y flwyddyn ariannol diwethaf. Tynnwyd sylw at y ffaith y
byddai Gwynedd yn rhif 7 o’r 22 awdurdod yng Nghymru o’r Balansau
uchaf pe bai’r balansau negyddol yn cael eu diysytru. Dyma’r
pwyntiau a godwyd o’r drafodaeth- -
Nodwyd
fod angen cofio fod Gwynedd yr ail uchaf o’r balansau
fesul pob disgybl yn unigol a fod angen cysidro yn y farn tuag at y Balansau. Cynigwyd fod hyn o ganlyniad i gymorth athrawon
llanw a chyflenwad i gefnogi disgyblion bregus. Pryderwyd sut y byddent yn
rheoli gwahanol ffyrdd wnaiff ysgolion ddelio efo’r grantiau hwyr hyn gyda rhai
am gario mwy o falans drosodd a’i gilydd. -
Pryderwyd
fod ysgolion wedi cael eu cyfarch â llawer o grantiau hwyr eleni, a gofynnwyd
beth oedd yn ddisgwyliedig o’r ysgolion wrth eu derbyn. Eglurwyd fod y
Llywodraeth ac Estyn wedi adrodd mewn cyfarfod ADIW eu bod yn cydnabod fod y
grantiau yn creu balansau ffug. Sicrhawyd fod hyn yn
cael ei ragweld ac felly’n debygol na fyddai ysgolion yn cael eu cosbi am y
ffigyrau hyn. -
Tynnwyd
sylw at y ffaith fod y balansau wedi bod yn gymharol
uchel cyn Covid ac felly fod angen rhoi ystyriaeth i
hyn. Nodwyd fod Cyllidebau Addysg wedi cael eu gwarchod yn arw yn ystod y
pandemig a heb orfod gwynebu cwtogiadau fel gweddill
yr adrannau, ac felly fod angen gwneud rhywbeth i wella’r balansau.
Pwysleisiwyd er hyn, nad oes angen diystyru effaith y pandemig yn gyfan gwbl -
Pryderwyd
y bydd y sefyllfa ariannol yn parhau yn y blynyddoedd i ddod a fod y grantiau hwyr
yn cyfrannu at hyn. Cydnabuwyd fod y Llywodraeth yn cefnogi ysgolion efo
gwariant ychwanegol sydd wedi dod o sgil Covid, ond
fod angen ystyried oblygiadau hyn ar y balansau i’r
dyfodol. Poenwyd y bydd ysgolion yn cael eu cosbi efo’r balansau
hyn a bydd angen cyfiawnhau y gwariannau sydd i ddod i osgoi hyn. -
Eglurwyd
fod gwariant parhaol ar staffio ond nad oedd grantiau yn cael eu darparu i ysgwyddo’r gyllideb yma. -
Parhawyd
gyda’r bryder o staffio. Mynegwyd mai nawr oedd rhai o effeithiau hir dymor yn
dangos ei hun, gyda’r brif un yn pa mor fregus ydi disgyblion. Nodwyd i ateb
hyn fod angen staff ychwanegol i gefnogi’r digyblion,
ac y bydd angen sicrhau’r gyllideb yma am flynyddoedd i ddod. - Mynegwyd rhwystredigaeth dros y grantiau hwyr hyn a dymuniad ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
RÔL A CHYFANSODDIAD Y FFORWM PDF 341 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd
gan yr Uwch Gyfreithiwr. Eglurwyd
ei bod hi wedi dod yn ofyniad statudol o 2003 ymlaen i bob Awdurdod Lleol i
ffurfio Fforwm o’r fath yma i rannu a chyhoeddi penderfyniadau Cyllidebol
Ysgolion. Penderfynwyd ar fformat y Fforwm yng Ngwynedd gan y Bwrdd y cyfnod
hwnnw, neu’r Cabinet fel mae’n cael ei adnabod bellach. Eglurwyd fod rhaid cael
oleiaf 15 aelod ar y Fforwm, a rhain efo cyswllt i
ysgolion megis Penaethiaid a Llywodraethwyr. Nodwyd fod modd cael aelodau
allanol ond nad ydynt ddim mwy na 25% o’r holl aelodaeth megis- gan gynnwys
swyddogion a cyrff awdurdodol. Eglurwyd fod angen enwebiadau i benodi’r aelodau
hyn. Caniatawyd ar y pryd i gyrff bleidleisio i gael unigolion i ymuno i
arsylwi’r Fforwm. Tynnwyd sylw
fod yr aelodaeth bresennol yn dilyn patrwm cyffelyb i’r aelodaeth wreiddiol,
oni bai am newid mewn swyddi a newid yn strwythur y Cyngor. Nodwyd fod
dyletswydd i’r Fforwm adrodd i gyrff llywodraethu ysgolion. Eglurwyd mai mater
i awdurdodau lleol oedd i nodi a pennu pa mor aml sydd angen i’r Fforwm
gyfarfod, er ceir argymhelliad yn y ddogfen arferion da i’w dilyn â ffurfiwyd
yn 2010. Sylwadau a godwyd – -
Pryderwyd
fod y nodiadau yn nodi mai hyd at 4 mlynedd dylai aelodaeth unigol barhau.
Nodwyd mai argymhelliad oedd hyn yn unig a nad oedd rhaid dilyn hyn yn dynn. -
Eglurwyd
fod lle i addasu a rhannu sylwadau ynghylch â’r ddogfen grëwyd i’r eitem i’w
wneud yn addas i’r Fforwm bresennol megis ychwanegu ac addasu’r swyddogion sydd
angen bod yn bresennol i’r Fforwm. Pwysleisiwyd y byddai angen mynd â’r
awgrymiadau ar strywthur y Fforwm ymlaen at y Cyngor
i’w ystyried a’i benderfynu yn derfynol. -
Mynegwyd
na fyddai penodi dirprwyon yr arfer orau i’r Fforwm yma i gael cysondeb yn yr
aelodaeth sy’n bresennol. PENDERFYNIAD
– Derbyn y diweddariadau a’r adroddiad. |
|
CYLLIDEB 2022/23 Fe fydd Cyflwyniad llafar yn cael ei roi gan Pennaeth Cyllid. Cofnod: Cyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Gyllid, a’r Pennaeth Cyllid. Nodwyd y byddai’r
cyflwyniad o’r Gyllideb yn cael ei roi ymlaen i’r Cyngor Llawn, yn dilyn cael
ei gyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio a’r Cabinet. Eglurwyd fod cyfres o seminarau
a chyflwyniadau wedi bod drwy Ionawr i drafod ac egluro’r drefn gyda’r gyllideb
i’r aelodau. Tynnwyd sylw at y ffaith y bydd diweddariadau cyson ar y gyllideb
os y bydd unrhyw newidiadau neu addasiadau i’r ffigyrau a’r amserlen. Rhannwyd fod y setliad
arferol o grantiau Llywodraeth yn 9.4% ar gyfartaledd yng Nghymru, lle mai 8.8%
ydi o i ni yng Ngwynedd sydd yn argoeli’n dda. Eglurwyd mai’r rheswm tebygol
fod Gwynedd yn derbyn is na’r gyfartaledd ydi fod poblogaeth îs yn y Sir o’i gymharu â siroedd eraill yng Nghymru.
Nodwyd ei fod yn swm sylweddol fwy i’r hyn sydd am fod flwyddyn nesaf sef 3.5%,
a 2.4% y flwyddyn ganlynol. Eglurwyd mai 5% oedd y chwyddiant presennol, ond
fod pryder yr aiff fyny i 7% erbyn Ebrill. Amlygwyd fod y chwyddiannau hyn am
achosi costau uwch. Atgoffwyd ein bod wedi
derbyn £16 miliwn o gymorth ariannol tuag at COVID gan Llywodraeth Cymru erbyn
diwedd y flwyddyn ariannol yma. Eglurwyd fod angen gwneud cyfrifadau
i’n gwarchod at y dyfodol yn dilyn derbyn cymorth ariannol o’r fath, gan gofio
na fydd y gefnogaeth ariannol yma yn cael ei ddosbarthu y flwyddyn nesaf. Mynegwyd
neges o ddiolch ar ran y cyn Bennaeth Cyllid i aelodau’r Fforwm am yr holl
gyd-weithio dros y degawdau. Eglurwyd
mai’r hafaliad i gael cyllideb cytbwys ydi fod gwariant net yn llai na’r
arbedion yn hafal i cyfanswm grantiau llywodraeth a treth Cyngor. Nodwyd eu bod
wedi creu rhagdybiaethau synhwyrol o’r chwyddiant fydd i ddod wrth
ddamcaniaethu’r gyllideb yn y flwyddyn sydd i ddod. Parhawyd fod y
rhagdybiaethau hyn yn cynnwys cyfrifiadau chwyddiant mewn cyflogau a
chyflenwadau, effaith Covid a setliadau grantiau.
Nodwyd mai un o’r chwyddiannau mewn cyflogau ydi y cynyddiad yng nghyflogau
athrawon o 1.75% yn y pum mis sydd yn weddill yn y flwyddyn academaidd. Damcaniaethpwyd cynnydd pellach ar gyfer y cyfnod
academaidd newydd o Medi ymlaen at ddiwedd y flwyddyn economaidd yma. Eglurwyd
hefyd fod ystyriaeth i’r cynnydd mewn mewnbwn yswiriant gwladol o 1.25%. Nodwyd
fod cyfrifiad o chwyddiant o £2.6 miliwn i gyd efo’i gilydd ar draws y Cyngor
gan gynnwys costau ynni a thanwydd, gofal preswyl ayb. Nodwyd fod
addasiadau pellach wedi bod i Ddemograffi Ysgolion i
adlewyrchu’r sefyllfa bresennol. Nodwyd fod gostyngiad yn niferoedd y digsyblion yn y Cynradd, ond cynnydd yn y niferoedd o
ddisgyblion Uwchradd. Eglurwyd fod y gwariant net wedi cael gostyngiad o £57
mil o ganlyniad i’r newidiadau hyn. Atgoffwyd fod effaith tebyg wedi bod yn y
niferoedd flwyddyn diwethaf hefyd. Eglurwyd mai
canlyniad hyn oll ydi gwariant o £13.2 mil pellach i ymateb ar alw y
chwyddiant, yn ychwanegol i wariant ychwanegol o £8.1 mil ar bwysau gwasanaeth. Nodwyd fod y Cyngor wedi derbyn cyllideb i gefnogi costau COVID hyd at y flwyddyn ariannol nesaf, ond fod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
STRATEGAETH DDIGIDOL YSGOLION PDF 359 KB Cofnod: Cyflwynwyd gan y Pennaeth Cynorthwyol Technoleg Gwybodaeth. Diweddarwyd
y prosiect hyd yn hyn, ac eglurwyd nad oedd yr adroddiad yn rhoi cyfiawnhad o
faint o waith sydd wedi mynd rhagddo yn y flwyddyn diwethaf. Tynnwyd sylw at y
ffaith fod mwy o ddatblygiadau wedi bod yn yr adran Cynradd na’r Uwchradd ar
hyn o bryd. Atgoffwyd ar
Tachwedd 9 2021 eu bod wedi derbyn caniatâd i dderbyn y Strategaeth Ddigidol a
chytundeb i ddarparu hanner y gost i gael gliniaduron i CA2 Uwchradd ac i’r
athrawon, a thabledi i’r Sylfaen gan y Cabinet. Eglurwyd fod y gyllideb yma yn
ychwanegol i’r gyllideb blaenorol o £2.25 miliwn i adnewyddu’r dechnoleg y
rhwydwaith. Eglurwyd dros gyfnod o 10 mlynedd fod angen ymrwymo i wariant o
oddeutu £10 miliwn ar gyfer yr offer. Tynnwyd sylw fod dros 61% o’r gyllideb
yma am gael ei gyfrannu gan y Cyngor. Nodwyd fod
trafodaethau o’r fath wedi cael eu cynnal ym Môn cyn y Nadolig hefyd o fewn eu
Pwyllgorau gwaith. Eglurwyd mai’r brif drafodaeth sydd angen tynnu sylw ato ydi
mewnoli’r gefnogaeth. Gobeithiwyd i fewnoli’r gefnogaeth Technegol i gefnogi’r
ysgolion, ac eglurwyd fod hyn yn parhau i fod mewn trafodaeth efo’r cwmni
Cynnal gan y ddau Gyngor i drafod y gwaith ag effaith gwneud hyn ar y cwmni.
Nodwyd fod trafodaethau cyfreithiol a chyflogaeth yn cael eu cynnal i drafod
effeithiau mewnoli ar y Cyngor. Sicrhawyd y bydd cadarnhad o’r trafodaethau hyn
erbyn Ebrill 1, ynghyd a’i strategaeth gyllido. Esboniwyd y byddai rhywbeth o’r
fath yn gorfodi i’r Cyngor gyflogi staff ychwanegol. Nodwyd y bydd treial o’r
cynllun peilot yn cael ei dreialu cyn y Pasg, gyda gliniaduron yn cael eu
blaenoriaethu i staff yna ddisgyblion Uwchradd. Eglurwyd fod yr amserlen yma’n
ddibynnol ar yr amserlen gan y tîm cyfreithiol. Sylwadau a
godwyd o’r drafodaeth- -
Gofynnwyd
beth oedd y ddarpariaeth yswiriant i’r adnoddau a sut oedd hyn yn cael ei
weithredu. Atebwyd nad oedd trefniadau penodol yn ei le eto, ond fod ymchwil i
bolisïau mewn lle gyda’r polisi gorau ar hyn o bryd am fod yn £24 yr un y
flwyddyn. Disgwylid cadarnhad ar yr opsiynau polisau
gwahanol sydd ar gael gan ystyried y byddent yn derbyn y cyfarpar am 5 mlynedd
ond bod posibilrwydd y bydd rhai yn torri neu yn mynd ar goll. Cadarnhawyd y
bydd diweddariadau cyson yn cael eu rhannu. -
Holwyd
os y bydd lleoliadau diogel yn cael eu cynnig i gadw’r gliniaduron yn ddiogel.
Eglurwyd fod costau sylweddol ynghlwm â chabinet gwefru a bod angen rhoi
ystyriaeth ddwys i wir angen y ddarpariaeth. -
Poenwyd
os y bydd digyblion yn cael eu darparu efo gliniadur
newydd os bydd diffyg efo’r un dderbynir ar y
dechrau. Nodwyd y bydd gobaith i gyflenwi’r disgyblion efo gliniadur newydd os
bydd dim modd arbed y gliniadur sydd ganddynt yn barod. - Rhannwyd lawer o bryder cymdeithasol a ddeir o ganlyniad i ddisgyblion yn cario gliniaduron drud efo nhw tu allan i’r ysgol, boed yn darged i gael eu dwyn neu yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
DYRANIAD CYNNAL TIROEDD PDF 449 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd gan
Uwch Reolwr Ysgolion. Nodwyd fod angen tynnu’r cyfeiriad at y
‘Cabinet’ yn argymhelliant yr adroddiad. Eglurwyd fod
yr ysgolion wedi eu cyflwyno efo ymgynghoriad i benderfynu ar un o ddau opsiwn
dyraniad cyllideb dyrannu tiroedd – 1) ail ddyranu
arian cynnal tiroedd yn wahanol i’r drefn bresennol, ond fod y gyllideb cyfansymol yn aros yn un faint i’r adran Cynradd a’r adran
Uwchradd. 2) i’r holl arian fod yn cael ei rannu o’r un pot i’r holl sectorau
ysgolion i’w ddyrannu yn ôl yr angen. Eglurwyd fod
13 ysgol Cynradd wedi ymateb, 3 ysgol Uwchradd wedi ymateb, 1 ymateb gan ysgolion
dilynol a 0 ymateb gan ysgolion arbenigol. Nododd fod y mwyafrif yn cefnogi
cynnig o model 2. Nodwyd fod nifer o sylwadau anaddas i’r ymgynghoriad wedi eu
derbyn, ond eu bod yn cael eu hystyried at ddatblygiadau pellach i’r model.
Tynnwyd sylw fod nifer yn bryderus o sut oedd y gwaith yn cael ei ddosbarthu yn
ôl oriau o waith, ond cysurwyd fod y drefn yma’n cael ei ystyried yn unol â’r
model ddaw i law. Pryderwyd nifer am gost y cytundeb gwasanaeth, ond nodwyd nad
oedd hyn yn ystyriaeth i’r ymgynghoriad yma. Pwysleisiwyd
petai newidiadau i’r gwaith cynnal tiroedd yn ôl datblygiadau’r ysgol fod angen
i’r ysgol ddiweddaru’r adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol i wirio yr addasiad a
gwirio’r oriau o waith sydd ei angen yn unol â hynny. Sylwadau â
godwyd o’r drafodaeth- -
Gofynnwyd
faint o’r 17 wnaeth ymateb oedd yn ymateb o ysgolion oedd yn derbyn llai o
gyllideb? Nodwyd nad oedd y wybodaeth yma wedi ei gasglu. Mynegwyd y byddai’n
fuddiol derbyn y wybodaeth yma gan y byddai’n debygol i ysgolion sydd ddim yn
cael eu heffeithio neu’n derbyn mwy o arian am fod efo agwedd gwahanol i’r
modelau sy’n cael eu cynnig. -
Gofynnwyd
sut oedd dyraniad amser i drin gwellt yn cael ei benderfynu. Eglurwyd nad oedd
maint y maes yn golygu fod angen llawer o amser i’w drin, yn hytrach fod angen
ystyried yr hwylustod i’r lleoliad. -
Nodwyd
ei bod hi’n bechod i gyn lleiad o bobl ymateb i’r
arolwg ac felly nad yw’n cynrychioli’n deg. -
Trafodwyd
os oedd hi’n deg i model 2 gael ei symud yn ei flaen efo cyn lleiad o gynrychiolaeth. Penderfynwyd fod pawb wedi cael
cyfle teg i’w lenwi ac felly y dylent gario ymlaen a’r cynlluniau. PENDERFYNIAD – Derbyn y diweddariadau
a’r adroddiad. |
|
Cofnod: Cyflwynwyd yr
eitem gan Cyfrifydd Grŵp Ysgolion. Nodwyd fod y
rhaglen waith yn gorfod cadw at y prif nodweddion i’r Fforwm, ond eglurwyd y
bydd pethau yn cael eu ychwanegu yn unol â’r materion perthnasol i amser y
cyfarfod. Cadarnhawyd y bydd diweddariadau yn cael eu rhannu dros e-bost rhwng
cyfarfodydd os yn berthnasol, neu cynnal Fforwm ychwanegol be pai rhaid. Sylwadau â godwyd
o’r drafodaeth- -
Cynigwyd
fod angen cadw at un cyfarfod y tymor hyd yn oed os nad oes agenda llawn iawn
i’w drafod. Nodwyd fod gormod o gyfnod wedi mynd heibio y tro hwn ac y byddai’n
fuddiol i gael cadw cyswllt fwy rheolaidd. Mynegwyd fod cofnodion yn dyddio os
yn gadael gormod o amser fynd heibio. PENDERFYNIAD – Derbyn y diweddariadau
a’r adroddiad. |
|
DYDDIAD CYFARFOD NESAF Cofnod: Nodwyd y bydd
diwedd Mehefin neu dechrau Gorffennaf yn addas. Dechreuodd y cyfarfod am 3.30 y.h. a daeth i ben am 4.45 y.h. |