Lleoliad: Y Ganolfan (ger yr Harbwr), Porthmadog
Cyswllt: Glynda O'Brien (01341) 424301 E-bost: glyndaobrien@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbybniwyd ymddiheuriadau
oddi wrth Y Cynghorwyr John Brynmor Hughes, Angela Russell, Gethin
Williams, Owain Williams (Cyngor
Gwynedd), Mr Tudur Williams (Pennaeth Ysgol Ardudwy), Yr Heddwas
Rob Newman (Heddlu Trafnidiaeth
Prydain), Liz Saville Roberts (AS Dwyfor/Meirionnydd),
David Roberts (Parc Cenedlaethol
Eryri), Mr David Woodhouse (Twristiaeth
Aberdyfi a Thywyn), Mr Neil Hamilton (AC Canolbarth a Gorllewin Cymru). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw
aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS I ystyried unrhyw fater sydd yn
teilyngu sylw brys ym marn
y Cadeirydd. Cofnod: Nid oedd
y Cadeirydd wedi derbyn unrhyw faterion
brys. |
|
I gadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd 2016. (Copi’n amgaeedig) Cofnod: Cyflwynwyd: Cofnodion cyfarfod
y gynhadledd a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd 2016. Penderfynwyd: Derbyn a chymeradwyo’r cofnodion. |
|
ADRODDIAD GAN NETWORK RAIL I dderbyn adroddiad gan Mr Sam Hadley, Network Rail. Cofnod: Croesawyd Mr Sam Hadley, Rheolwr Materion
Cyhoeddus Llwybrau Cymru, Ms Sally Biggs a Mr James Widdowson i'r cyfarfod. (a) O ran y gwaith brys oedd i'w ymgymryd ar
Draphont Abermaw, dywedodd Ms Sally Briggs y byddai'r gwaith yn dechrau ar
12fed Mehefin tan 14eg o Orffennaf a ni fyddai yn effeithio ar y trenau gan y
byddai'r gwaith yn cael ei wneud rhwng 12.00 hanner nos a 5.00 o'r gloch y
bore. Wrth ymateb i ymholiad gan aelod
am arwyddion ym mhob pen i lwybr y Fawddach, dywedwyd y byddai'n debygol y
byddai gwylwyr ar ddyletswydd ar y safle. Nodwyd ymhellach y byddai'r gwaith brys yma
yn penderfynu pa waith arall oedd angen ei ymgymryd yn y tymor hirach a'r
gobaith oedd y byddai swyddogion yn gallu adrodd ymhellach gyda rhagor o
wybodaeth yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn. Mewn ymateb, dywedodd y Cadeirydd fod
cyfathrebu yn bwysig iawn i aelodau'r Pwyllgor a'r cyhoedd a gofynnodd os oedd
unrhyw ddatblygiadau fod yr wybodaeth yn cael ei hanfon ymlaen i'r Swyddog
Cefnogi Aelodau fel bo modd rhannu'r wybodaeth gyda'r aelodau. Sicrhawyd aelod oedd yn gwasanaethu ar Fforwm
Mynediad Eryri y byddai Llwybr y Fawddach oedd yn ffurfio rhan o lwybr yr
arfordir yn cael ei gadw yn agored. O ran dathliadau pen-blwydd 150 oed y
draphont, nodwyd y byddai cyfarfod ar wahân yn cael ei gynnal rhwng y
Cynghorydd Trevor Roberts a'r swyddogion perthnasol i drafod hyn. (b) Rhoddodd Mr James Widdowson gyflwyniad
byr ar ei waith gyda Network Rail a dywedodd mai ef oedd yn gyfrifol am y tîm
cynnal a chadw sy'n rheoli llystyfiant ger y cledrau / gordyfiant, planhigion
ymledol, ffosydd, llifogydd ac ati. (b) Llongyfarchwyd Network Rail am y gwaith a
wnaed yn torri'r gordyfiant rhwng y brif ffordd a lein y rheilffordd yn ardal
Aberdyfi ond mynegwyd pryder am ddiogelwch defnyddwyr y ffordd oherwydd y ffens
annigonol a osodwyd rhwng Halt Gogarth ac Aberdyfi. Hefyd, tynnwyd sylw’r swyddogion at
wrthrych, oedd mae'n debyg wedi dod oddi ar lori, oedd yn gorwedd ger lein y
rheilffordd ac roedd wedi bod yno dros y pythefnos diwethaf. (c) I ateb yr uchod, dywedodd Mr Widdowson
mai polisi Network Rail oedd cyfnewid unrhyw ffens gyda ffens debyg ac efallai
bod hyn wedi digwydd yn yr achos yma, ond byddai'n siarad gyda'r contractwr a
wnaeth y gwaith. (d) Atebodd y swyddogion perthnasol
gwestiynau llafar yr aelodau fel a ganlyn:
·
Cytunodd Mr Widdowson i ofyn i un o'i dîm i
edrych ar Faes Parcio Gorsaf Reilffordd Dyffryn Ardudwy o ran iechyd a
diogelwch, ac yn ôl yr aelod roedd angen ail-wynebu'r maes parcio a'i farcio
gyda mannau parcio i'r anabl. ·
Addawodd Mr Sam Hadley i fynd ar ôl yr
arwyddion dwyieithog ar y lifftiau yng Ngorsaf Machynlleth. ·
O ran problemau draenio, dywedodd Ms Sally
Biggs y byddai Network Rail yn cynnal asesiad ac fe fyddai unrhyw broblemau
draenio yn cael eu datrys yn dilyn hynny.
Roedd cwestiynau ysgrifenedig ffurfiol wedi eu cyflwyno gan Aelodau’r Pwyllgor / Cynghorau Cymuned / ac unigolion a ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
ADRODDIAD GAN TRENAU ARRIVA CYMRU CYF. I dderbyn adroddiad gan Mr Ben Davies, Trenau Arriva Cymru. Cofnod: Estynnodd y
Cadeirydd groeso i Mr Ben Davies, Trenau Arriva Cymru, i gyflwyno ei adroddiad
ar weithgareddau Trenau Arriva Cymru hyd yma. Adroddwyd fod storm
'Doris' wedi achosi trafferthion yr wythnos ddiwethaf ac roedd Trenau Arriva Cymru
yn cydweithio gyda Network Rail ar unrhyw faterion oedd heb eu datrys. Adroddwyd ymhellach y byddai Wi-Fi ar gael ar
yr holl drenau cyn y Pasg. Roedd cwestiynau ysgrifenedig ffurfiol wedi
eu cyflwyno gan Aelodau’r Pwyllgor / Cynghorau Cymuned / ac unigolion a atebwyd
fel a ganlyn: (i) Darpariaeth
cysgodfan yng Nghyffordd Dyfi - Dywedodd Mr Ben Davies fod arian ar gael i ddarparu cysgodfan arall a
bod trefniadau yn eu lle i fwrw ymlaen gyda hyn. (ii) Pam nad oes
tocyn teithio am ddim ar gyfer yr henoed drwy'r flwyddyn yn hytrach nag yn
ystod y gaeaf yn unig? - Dywedodd Mr Ben Davies, Trenau Arriva Cymru,
na fyddai capasiti eistedd digonol i fedru cynnig y consesiwn yma yn ystod
misoedd yr haf. Er hynny, roedd y mater
wedi ei drafod gyda Gweinidog Llywodraeth Cymru, yn enwedig o ran cael nifer
ddigonol o gerbydau fel rhan o'r fasnachfraint newydd. (iii) Y Gymraeg,
cyhoeddiadau dwyieithog ar y trefnau, ynganu enwau Cymraeg yn well mewn
cyhoeddiadau yn y gorsafoedd - Tra'n cytuno fod y Gymraeg
yn bwysig iawn, dywedodd Mr Davies mai'r broblem oedd y diffyg arian ac nad
oeddent yn gwybod beth oedd yn digwydd i'r trenau o ran y fasnachfraint
newydd. Er hynny, cyhoeddodd yn y
Pwyllgor iddo gael ei benodi i wasanaethu ar Grŵp Arriva yn Llundain oedd
yn gyfrifol am y cais masnachfraint.
Sicrhaodd yr aelodau y byddai yn lleisio pryderon pobl gogledd Cymru am
y Gymraeg, amserlenni ac ati gan sicrhau fod y polisi iaith yn cael ei ddatrys. Wrth ymateb i'r uchod, llongyfarchodd yr
aelodau Mr Ben Davies ar ei benodiad gan gefnogi'r angen i fynd i'r afael
gyda'r polisi iaith. Sicrhaodd y Cyng
Trevor Roberts y Pwyllgor fod y pedwar ymgeisydd wedi cael gwybod am yr angen
am wybodaeth ddwyieithog ar reilffyrdd a gorsafoedd Cymru. Yn ystod y drafodaeth ddilynol gwnaeth yr
aelodau’r sylwadau a ganlyn: ·
Bod y Gymraeg yn bwysig iawn ac y dylai'r
cyhoeddiadau yn y lifft newydd ym Machynlleth fod yn ddwyieithog. ·
O ran ynganu, dywedwyd ei bod yn llawer haws i
berson oedd yn siarad Cymraeg i ynganu enwau gorsafoedd yn Lloegr nag ydoedd i
berson oedd yn siarad Saesneg i ynganu enwau gorsafoedd yng Nghymru. Wrth ymateb i'r pwyntiau
uchod, dywedodd Mr Ben Davies fod y cyhoeddiadau yn cael eu gwneud drwy system
tecst i siarad ac nid oedd bob amser yn cael ei ddweud gan berson. Er hynny, dywedwyd ymhellach fod staff oedd
ddim yn siarad Cymraeg yn cael cyfle i ddysgu'r iaith ac yn cael eu hannog i
siarad Cymraeg. Manteisiodd aelod ar y
cyfle i dalu teyrnged ac i ddiolch i'r pedwar aelod oedd wedi gweithio'n
ddiflino yn ystod cyfnod ymgynghori Gwasanaeth Rheilffordd Cymru a'r Gororau: Y Cynghorydd Trevor Roberts
Y Cynghorydd J. Michael
Williams Mr Rhydian Mason ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
ADRODDIAD SWYDDOG PARTNERIAETH RHEILFFYRDD Y CAMBRIAN PDF 784 KB I dderbyn
adroddiad gan Mr Rhydian Mason, Swyddog Parneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian. (Copi’n
amgaeedig) Cofnod: Cyflwynwyd - Adroddiad ysgrifenedig gan Mr Rhydian Mason,
Swyddog Rheilffyrdd Partneriaeth y Cambrian oedd yn amlinellu'r gweithgareddau
wnaed ers y cyfarfod blaenorol oedd yn cynnwys; (a)
Datblygiadau gyda hyrwyddo Cynllun y Waled Oren yn genedlaethol Roedd
Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yr Adran Drafnidiaeth wedi rhoi ei gefnogaeth
i hyrwyddo Cynllun y Waled Oren yn genedlaethol ac mewn ymgynghoriad gyda Trenau
Arriva Cymru a Grŵp DU Arriva, a byddai hyn yn mynd rhagddo. (b)
Masnachfraint Rheilffyrdd a chefnogaeth Llywodraeth Cymru Roedd
wedi mynychu amryw o gyfarfodydd am y fasnachfraint reilffordd ynghyd â
chydweithwyr o'r bedair Bartneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol arall yng Nghymru
a'r Gororau. (c)
Cyhoeddiadau Cyfeiriwyd
at lyfryn newydd o deithiau cerdded byr yn ardaloedd Rheilffyrdd y Cambrian
oedd i'w gyhoeddi fyddai yn lle taflenni Llwybrau'r Cambrian. Roedd cerdded yn boblogaidd iawn a'r gobaith
oedd y byddai'r Canolfannau Croeso ym Mhorthmadog ac Abermaw yn ail-agor er
mwyn hyrwyddo digwyddiadau. (d)
Arolygon Roedd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian yn comisiynu arolygon i'w cynnal yng
ngwanwyn 2017, fel rhan o'r grant gan Lywodraeth Cymru. Roedd yr arolygon yn dilyn llwyddiant
arolygon 2013 a 2015 a olygodd well gwasanaethau ar Leiniau'r Cambrian. (e)
Ymgyrch Hyrwyddo 2017 O
ran gwaith hyrwyddo, roedd y cyfnod yma wedi bod yn bwysig iawn ac roedd arian
ychwanegol wedi ei sicrhau i baratoi gwefan newydd sbon sy'n canolbwyntio ar
ymwelwyr gyda mwy o ffilmiau byr. (f)
Storïau a Llyfrau ar y Cambrian Disgwylid
am gadarnhad o fanylion a'r arian oedd ar gael ar gyfer peilota prosiect o
gysylltu storiau a llyfrau gyda Leiniau'r Cambrian a fyddai yn hyrwyddo
teithiau i blant ysgol ar y trenau. (g)
Cynllun Busnes 2017-2018 Roedd
y cynllun busnes yn y broses o gael ei baratoi a byddai'n cael ei gyflwyno i'r
Bartneriaeth yn y cyfarfod nesaf. Byddai
copi ar gael i Aelodau'r Pwyllgor hwn drwy'r Swyddog Cefnogi Aelodau. Mewn
ymateb i gwestiwn gan aelod am amserlen Arfordir y Cambrian ar ffurf cerdyn
bach oedd yn boblogaidd iawn gyda phobl leol ac ymwelwyr, dywedodd Mr Mason eu
bod yn dal i gael eu cynhyrchu ond roedd hi yn anodd eu dosbarthu i'r
canolfannau croeso ac ati. Roedd y
dosbarthu wedi canolbwyntio ar Orsafoedd Rheilffordd ond os oedd Canolfan
Groeso Aberdyfi angen cyflenwad pellach dylent gysylltu â Swyddog Partneriaeth
Rheilffyrdd y Cambrian. Tynnwyd
sylw’r Pwyllgor at gyhoeddiad 'Trên Mawr yn cwrdd â'r Trên Bach' ac roedd
Rheolwr Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri, fel Cadeirydd Twristiaeth Gogledd
Cymru, yn fwy na bodlon dosbarthu unrhyw gyhoeddiadau ymhellach. Wrth
gloi, dywedodd Mr Mason y byddai yn ymddiswyddo o'i swydd yn ystod y dyddiau
nesaf ac roedd wedi sicrhau swydd newydd gyda Network Rail, fel Rheolwr
Croesfannau Rheilffordd yn gyfrifol am yr ardal o Abermaw i Bwllheli. Diolchodd i'r aelodau am eu cydweithrediad
a'u cefnogaeth yn ei swydd bresennol.
Deallodd y byddai'r Bartneriaeth yn llenwi'r swydd ac roedd yn hyderus y
byddai olynydd yn cael ei benodi/ei phenodi yn y dyfodol agos. Ar ran y Pwyllgor, llongyfarchodd y Cadeirydd Mr Mason ar ei benodiad diweddar a diolchwyd iddo am ei waith caled ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
ADRODDIAD GAN HEDDLU TRAFNIDIAETH PRYDEINIG I dderbyn
adroddiad gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
Cofnod: Roedd yr Heddwas Rob Newman, Heddlu Trafnidiaeth Prydain, wedi anfon
ymddiheuriad gan nad oedd yn
gallu dod i'r cyfarfod ond
nid oedd ganddo ddim i'w
adrodd oedd yn berthnasol i reilffordd y Cambrian gan iddi fod yn
gyfnod tawel iawn ers y cyfarfod
diwethaf ym mis Tachwedd. Penderfynwyd: Derbyn a nodi'r
uchod. |
|
CWESTIYNAU FFURFIOL PDF 278 KB I dderbyn ymateb i’r cwestiynau amgaeedig a dderbyniwyd ers y cyfarfod diwethaf. (a) Atodiad 1 –
Cwestiwn gan y Cadeirydd (b) Atodiad 2 –
Cwestiwn gan Grwp Mynediad Meirionnydd (c) Atodiad 3 –
Cwestiwn gan Gyngor Cymuned Llanystumdwy (d) Atodiad 4 –
Cwestiwn gan Gyngor Tref Penrhyndeudraeth (e) Atodiad 5 –
Cwestiwn gan Gyngor Tref Pwllheli (f) Atodiad 6 –
Cwestiwn gan Gyngor Tref Cricieth (g) Atodiad 7 (i) – Cwestiwn gan Gyngor Cymuned
Llangelynnin (h) Atodiad 7 (ii) – Cwestiwn gan
Gyngor Cymuned Llangelynnin (i) Atodiad 8 (i) – Cwestiwn gan
Gyngor Tref Porthmadog (j) Atodiad 8 (ii) – Gohebiaeth gan
Mr Hunt, Porthmadog (Copiau’n amgaeedig) Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Roedd y cwestiynau ffurfiol ysgrifenedig wedi eu trafod
fel rhan o adroddiadau'r swyddogion ac wedi eu nodi
yn rhifau 5 a 6 uchod. Penderfynwyd: Diolch am y cwestiynau
ac am yr atebion ffafriol a gafwyd gan y swyddogion. |
|
NODYN I'R DYDDIADUR Fe fydd Trafnidiaeth Cymru yn lansio ymgynghoriad
cyhoeddus ar Wasanaeth Trên Cymru â’r Gororau
cyn hir. Fel rhan o’r
broses ymgynghori, fe fyddent yn cynnal
nifer o weithdai hanner-dydd, bore i hêl
eich barn ar y Wasanaeth newydd. Mae’r dyddiadau isod, i chi nodi yn eich dyddiadur.
Bydd mwy o wybodaeth a manylion ar sut i gofrestru
yn dilyn unwaith mae’r ymgynghoriad
wedi’i lansio. Dyddiadau a lleoliadau 20 Mawrth Canolfan
Gateway Centre, Amwythig 21 Mawrth Venue
Cymru, Llandudno 28 Mawrth Coleg y Cymoedd, Nantgarw 29 Mawrth Gwesty’r Ivy Bush Hotel, Caerfyrddin
/ Carmarthen 3 Ebrill
Gwesty’r
Marine Hotel, Aberystwyth Cofnod: Byddai Trafnidiaeth
Cymru yn cyflwyno ymgynghoriad cyhoeddus ar Wasanaeth
Rheilffordd Cymru a'r Gororau yn
cynnwys Metro De Cymru a byddid yn cynnal
hanner diwrnod, gweithdai boreol i gasglu barn ar y gwasanaethau newydd ar y dyddiadau a ganlyn ac yn y lleoliadau a nodwyd: 20 Mawrth
Canolfan Gateway, Amwythig 21 Mawrth
Venue Cymru, Llandudno 28 Mawrth
Coleg y Cymoedd, Nantgarw 29 Mawrth
Gwesty’r Ivy Bush, Caerfyrddin
3 Ebrill
Gwesty’r Marine, Aberyswyth Diolchodd y Cadeirydd
i’r aelodau am eu cefnogaeth a’u
cydweithrediad yn ystod y blynyddoedd diwethaf a'i gyfnod
fel Cadeirydd y Pwyllgor hwn a hefyd dymunodd
yn dda i'r
aelodau oedd yn wynebu etholiad
llywodraeth leol ar y 4 Mai 2017. |