Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol
gan ei fod yn debygol y datgelir
gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd
bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd
ac nad oes
unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn
am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus
o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn
gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT Penderfyniad: PENDERFYNIAD Bod yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd
hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud
yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd
mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau
ar y meini prawf wrth ystyried
cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r
cyhoedd drwy sicrhau: • Bod yr unigolyn yn unigolyn addas
a phriodol • Nad yw'r unigolyn
yn fygythiad i'r cyhoedd • Bod y cyhoedd wedi'u
diogelu rhag pobl anonest • Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod pobl ddiamddiffyn
wedi'u diogelu • Bod y cyhoedd yn
gallu bod yn hyderus wrth
ddefnyddio cerbydau trwyddedig Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
collfarnau perthnasol Roedd yr Awdurdod
Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor gymeradwyo’r cais. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu
ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir
y collfarnau a’i amgylchiadau personol. Nododd fod y collfaranu
yn rai hanesyddol – mewn cyfnod pan oedd yn ifanc
a ffôl. Amlygodd bod ganddo brofiad
o weithio fel gyrrwr tacsi a‘i
fod wedi cael cynnig gwaith
gyda chwmni lleol. Ategodd ei fod wedi
gweithio gyda chwmni Cross Rail am flynyddoedd lle roedd gwiriadau manwl yn cael
eu gwneud i sicrhau ei addasrwydd i’r
swydd. Mewn ymateb
i gwestiwn ynglŷn â pham nad oedd
wedi cydnabod y collfarnau ar ei
ffurflen gais, nododd bod y gollfarn olaf wedi digwydd
yn 1987 (36 mlynedd yn ôl) ac
ystyriodd felly y byddai'r rhain bellach wedi dod
i ben. Ymddiheurodd nad oedd yn ymwybodol
bod collfarnau hanesyddol yn parhau
i gael eu hystyried wrth wneud cais
am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas
a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda
Chyngor Gwynedd. Wrth gyrraedd
eu penderfyniad, roedd yr
Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion ‘Polisi
Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
Adroddiad yr Adran
Drwyddedu ·
Datganiad DBS ·
Ffurflen gais yr ymgeisydd
·
Sylwadau llafar
yr ymgeisydd Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol Cefndir Yn mis Ionawr 1970, derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn am Ymosodiad
Cyffredin Ditiadwy yn groes i Ddeddf
Troseddau yn Erbyn y Person 1861 A.42 + A.47 a byrgleriaeth
a lladrata o annedd yn groes i Ddeddf
Dwyn 1968.9 (1)(B). Cafodd ddedfryd yn Llys
Ieuenctid Caernarfon ac fe'i hanfonwyd i Ganolfan Gadw am
dri mis. Yn mis Ebrill 1982 derbyniodd gollfarn am drin eiddo
wedi’i ddwyn, yn groes i Ddeddf
Dwyn 1968 A.22 ac achosi gwir niwed
corfforol (ABH) yn groes i Ddeddf Troseddau yn Erbyn
y Person 1861. Cafodd ddedfryd
yn Llys Ynadon
Gwyrfai a derbyniodd ddedfryd
ohiriedig o 2 flynedd. Ym mis Mai 1983 derbyniodd gollfarn am gyflawni Ymosodiad gan achosi gwir niwed corfforol (ABH) yn groes i Ddeddf Troseddau yn Erbyn y Person 1861 A.47. Derbyniodd ddirwy gyda chostau am y drosedd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT Penderfyniad: Bod yr ymgeisydd yn berson addas
a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor
Gwynedd Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud
yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd
mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau
ar y meini prawf wrth ystyried
cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r
cyhoedd drwy sicrhau: • Bod yr unigolyn yn unigolyn addas
a phriodol • Nad yw'r unigolyn
yn fygythiad i'r cyhoedd • Bod y cyhoedd wedi'u
diogelu rhag pobl anonest • Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod pobl ddiamddiffyn
wedi'u diogelu • Bod y cyhoedd yn
gallu bod yn hyderus wrth
ddefnyddio cerbydau trwyddedig Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr B am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
collfarnau perthnasol. Roedd yr Awdurdod
Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor gymeradwyo’r cais. Ategwyd mai cais i adnewyddu trwydded gyrrwr Hacni / Hurio preifat oedd
wedi ei gyflwyno
a bod yr ymgeisydd wedi datgan y pwyntiau
goryrru ar ei gais. Gwahoddwyd cynrychiolydd yr ymgeisydd
i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir y pwyntiau
cosb a dderbyniodd yr ymgeisydd am oryrru.
Nododd fod yr ymgeisydd yn y swyddfa, ond ei
fod yn sâl
gyda covid. Petai angen i’r aelodau
glywed gan yr ymgeisydd byddai modd trefnu
ystafell arall ar ei gyfer.
Adroddwyd ei fod yn derbyn
bod y ddau achos yn agos
at ei gilydd a bod yr ymgeisydd yn ymddiheuro am
hynny. Nododd bod yr ymgeisydd yn yrrwr profiadol
a bod peidio â gweithio dros y 6 wythnos ddiwethaf wedi teimlo fel
cosb - wedi colli cyflog ag yntau’n brif enillydd
y teulu. Mewn ymateb
i gwestiwn pam nad oedd yr ymgeisydd
wedi datgan ei bwyntiau cosb
yn mis Mai a Mehefin, a bod
hynny yn amod ar drwydded
unrhyw yrrwr cerbyd hacni / hurio preifat, derbyniwyd y dylai’r manylion fod wedi
eu rhannu gyda’r Uned Drwyddedu, ond bod yr ymgeisydd
hefyd wedi meddwl y byddai’n cael cais i fynychu
cwrs ymwybyddiaeth cyflymder. PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas
a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda
Chyngor Gwynedd. Wrth gyrraedd
eu penderfyniad, roedd yr
Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion ‘Polisi
Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
Adroddiad yr Adran
Drwyddedu ·
Adroddiad yr Asiantaeth Trwyddedu
Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) ·
Ffurflen gais yr ymgeisydd
·
Sylwadau llafar
cynrychiolydd yr ymgeisydd Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol Cefndir Yn Mai
2021, derbyniodd yr ymgeisydd
3 pwynt cosb (SP30) am dorri'r cyfyngiad
cyflymder statudol ar ffordd gyhoeddus
- y pwyntiau hyn yn dod i ben Mai 2024. Yn Mehefin
2021, derbyniodd yr ymgeisydd
3 pwynt cosb (SP30) am dorri'r cyfyngiad
cyflymder statudol ar ffordd gyhoeddus
- y pwyntiau hyn yn dod i ben Mehefin
2024 CYMALAU PERTHNASOL Y
POLISI Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT Penderfyniad: Bod yr ymgeisydd yn berson addas
a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor
Gwynedd Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud
yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd
mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau
ar y meini prawf wrth ystyried
cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r
cyhoedd drwy sicrhau: • Bod yr unigolyn yn unigolyn addas
a phriodol • Nad yw'r unigolyn
yn fygythiad i'r cyhoedd • Bod y cyhoedd wedi'u
diogelu rhag pobl anonest • Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod pobl ddiamddiffyn
wedi'u diogelu • Bod y cyhoedd yn
gallu bod yn hyderus wrth
ddefnyddio cerbydau trwyddedig Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr C am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
wybodaeth berthnasol. Roedd yr Awdurdod
Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor roi sylw i Bolisi'r Cyngor a Chanllawiau'r Sefydliad Trwyddedu
ar ddiogelwch ac addasrwydd yr unigolyn cyn gwneud
penderfyniad i gymeradwyo trwydded ai peidio. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu
ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir
y digwyddiadau. Amlygodd ei rwystredigaeth wrth wneud cais
drwy gamddehongli gwybodaeth oedd wedi ei dderbyn
ynghyd a methu deall y broses cofrestru, ac o orfod talu ffioedd
a chostau DBS ymlaen llaw. Ategodd bod
yr ymddygiad allan o gymeriad ac ar
y pryd roedd yn mynd drwy
gyfnod anodd yn ei fywyd
- os na allai gael gwaith byddai’n ddigartref. Nododd ei fod
wedi dysgu o’r broses a’i
fod wedi cael cynnig gwaith,
os byddai’r drwydded yn cael ei
chymeradwyo. Ei ddymuniad, i’r dyfodol oedd darparu
cludiant i’r anabl. PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas
a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda
Chyngor Gwynedd. Wrth gyrraedd
eu penderfyniad, roedd yr
Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion ‘Polisi
Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
Adroddiad yr Adran
Drwyddedu ·
Ffurflen gais yr ymgeisydd
·
Sylwadau llafar
yr ymgeisydd Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol Cefndir ·
Yn Awst 2023 ymwelodd yr ymgeisydd â swyddfeydd y
Cyngor gan siarad ag aelod o staff mewn modd amhriodol ac ymosodol. Roedd ei
ymddygiad wedi arwain at aelod profiadol o staff derbynfa’r swyddfeydd i wneud
achos i adrodd am y mater yn ffurfiol ar ffurflen HS11 i'w rheolwr llinell ac
i’r Adran Adnoddau Dynol. Cafodd fersiwn dienw o'r ffurflen ei rannu gyda'r
Rheolwr Gwasanaeth Trwyddedu; gan ei fod yn ymwneud â chais gyrrwr tacsi. · Ychydig ddyddiau ar ôl y digwyddiad, dychwelodd yr ymgeisydd i swyddfeydd y Cyngor, a daeth dau swyddog trwyddedu i’w gyfarfod gyda achos i'w gynghori mai fel ymgeisydd ar gyfer trwydded gyrrwr tacsi, bod ei ymddygiad yn fater perthnasol, ac nad oedd ymddygiad gwael tuag at swyddogion y Cyngor yn dderbyniol. Nododd yr ymgeisydd yn ei ymateb ei fod yn teimlo'n rhwystredig nad oedd y broses ymgeisio yn syml a'i fod eisiau dechrau ennill bywoliaeth. Ymatebodd y swyddog bod nifer o wiriadau'n ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |