Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

4.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Cofnod:

5.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

I ystyried cais Mr A

 

(copi i Aelodau’r Is bwyllgor yn unig)

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Nad oedd yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni / hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

       Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

       Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

       Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

       Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

       Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

       Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig

 

Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A i adnewyddu trwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r hyn sydd yn gysylltiedig ag addasrwydd unigolyn i fod yn yrrwr cerbyd hacni/hurio preifat

 

Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor wrthod y cais.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir y tri achlysur y derbyniodd y pwyntiau cosb, a’i amgylchiadau personol. Nododd nad oedd wedi datgelu'r pwyntiau cosb ar ei gais oherwydd iddo ystyried mai achosion o yfed a gyrru a / neu ymddygiad troseddol oedd rhaid ei datgan i’r Uned Trwyddedu. Derbyniodd ddifrifoldeb y sefyllfa, petai yn colli ei drwydded, byddai yn colli ei waith.

 

PENDERFYNWYD nad oedd yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

·      GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·      Canllawiau Addasrwydd Unigolyn

·      Adroddiad yr Adran Drwyddedu

·      Ffurflen gais yr ymgeisydd

·      Adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

·      Sylwadau llafar gan yr ymgeisydd

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Cefndir

 

Ym mis Rhagfyr 2022 derbyniodd yr ymgeisydd 3 pwynt cosb am ragori ar y terfyn cyflymder statudol ar ffordd gyhoeddus.

 

Yn mis Tachwedd 2023 derbyniodd yr ymgeisydd 3 pwynt cosb am ragori ar y terfyn cyflymder statudol ar ffordd gyhoeddus.

 

Yn mis Mehefin 2024 derbyniodd yr ymgeisydd 3 pwynt cosb am ragori ar y terfyn cyflymder statudol ar ffordd gyhoeddus.

 

CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI

 

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng nghyswllt hynny, ni chaiff y Cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.

 

Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau)  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

I ystyried cais Mr B

 

(copi i Aelodau’r Is bwyllgor yn unig)

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni / hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

       Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

       Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

       Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

       Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

       Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

       Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig

 

Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr B i adnewyddu trwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r hyn sydd yn gysylltiedig ag addasrwydd unigolyn i fod yn yrrwr cerbyd hacni/hurio preifat

 

Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor gymeradwyo’r cais

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir y pwyntiau cosb, a’i amgylchiadau personol. Nododd nad oedd yn defnyddio ei ffôn i dderbyn galwad nac anfon neges, ac mai gosod y ffôn i’w wefrio a wnaeth wrth eistedd mewn traffig ar y ffordd adref o’i waith. Amlygodd ei fod yn gyrru car ei hun ar y pryd ac nid oedd ganddo gwsmeriaid yn y car. Ategodd ei fod yn mwynhau ei waith fel gyrrwr tacsi.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pam nad oedd wedi amlygu manylion y drosedd ar ei ffurflen gais, nododd nad oedd llawer o hyder ganddo mewn cwblhau gwaith papur ac mai camgymeriad oedd hyn ac nid ymgais i guddio’r gwirionedd. Ategodd, o fewn ugain mlynedd, ei fod wedi cael un gosb o oryrru.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

·      GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·      Canllawiau Addasrwydd Unigolyn

·      Adroddiad yr Adran Drwyddedu

·      Ffurflen gais yr ymgeisydd

·      Adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

·      Sylwadau llafar gan yr ymgeisydd

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r mater canlynol

 

Cefndir

 

Yn Ebrill 2025, derbyniodd yr ymgeisydd 6 pwynt cosb a dirwy o £200 am dorri gofyniad mewn perthynas â rheoli cerbyd a defnydd o ffôn symudol yn groes i Adran 41D o’r Ddeddf Traffig y Ffyrdd 1988.

 

CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI

 

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

I ystyried cais Mr C

 

(copi i Aelodau’r Is bwyllgor yn unig)

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Nad oedd yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni / hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

       Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

       Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

       Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

       Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

       Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

       Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig

 

Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr C am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r hyn sydd yn gysylltiedig ag addasrwydd unigolyn i fod yn yrrwr cerbyd hacni/hurio preifat.

 

Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor wrthod y cais

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei gais a’i amgylchiadau personol. Gofynnwyd iddo hefyd egluro pam gafodd ei arestio a hynny wedyn yn arwain at ddiddymu ei drwydded gyrrwr tacsi yn Ionawr 2025.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pam nad oedd wedi apelio penderfyniad Cyngor Sir Fflint i ddiddymu ei drwydded o ystyried boddim gweithrediad pellachoherwyddproblemau tystiolaetholar ol iddo gael ei arestio, nododd ei fod yn dioddef straen oherwydd y digwyddiad ac nid oedd awydd ganddo ddychwelyd i’r swydd a wynebu swyddogion y Cyngor. Erbyn hyn, nododd bod angen swydd arno a’i fod yn ystyried symud ardal.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pam na ddatgelwyd gwybodaeth angenrheidiol ar ei ffurflen gais, nododd nad oedd ganddo reswm dros wneud hynny ar wahân i’r ffaith ei fod yn anghyfforddus ac yn poeni y byddai’n golygu na allai gael swydd yn y dyfodol. Ategodd nad oedd wedi derbyn collfarn ac nid oedd yn euog o drosedd.

 

PENDERFYNWYD nad oedd yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

·      GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·      Canllawiau Addasrwydd Unigolyn

·      Adroddiad yr Adran Drwyddedu

·      Ffurflen gais yr ymgeisydd

·      DBS yr ymgeisydd

·      Copi o drwydded gyrru'r ymgeisydd

·      Adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

·      Datganid Cyngor Sir y Fflint

·      Datganiad Heddlu Swydd Gaer

·      Sylwadau llafar gan yr ymgeisydd

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Cefndir

 

Ym mis Ionawr 2025 cafodd yr ymgeisydd ei arestio am ymosodiad rhywiol yn groes i adran 3 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003. Yn yr un mis diddymwyd ei drwydded gan yr Awdurdod perthnasol gan nad oeddent yn fodlon ar sail tebygolrwydd ei fod yn parhau i fod yn berson addas a phriodol i ddal trwydded.

 

Yn mis Ebrill 2025 cyflwynwyd cais i Gyngor Gwynedd am drwydded tacsi / llogi preifat, ond ni fu i’r ymgeisydd ddatgelu ei  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.