Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb COFNODION: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol COFNODION: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw
aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. COFNODION: Dim i’w nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd
allan o’r
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau
canlynol gan ei fod yn
debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir
ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn
berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn
cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i
breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd
cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma
fyddai’n gorbwyso hawliau’r unigolion yma . O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid
cadw’r wybodaeth yn eithriedig. COFNODION: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu |
|
Ceisiadau COFNODION: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniadau yn cael ei
gwneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd
mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau
ar y meini prawf wrth ystyried
cais yr ymgeisydd
gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau: • Bod yr unigolyn yn unigolyn
addas a phriodol • Nad yw'r unigolyn yn fygythiad
i'r cyhoedd • Bod y cyhoedd
wedi'u diogelu rhag pobl anonest • Bod plant a phobl
ifanc wedi'u diogelu • Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu • Bod y cyhoedd
yn gallu bod yn hyderus
wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried cais
Mr A (copi arwahan i aelodau’r
Is Bwyllgor yn unig) Penderfyniad: Bod yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd
hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd. COFNODION: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru
cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol
â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau
a chollfarnau perthnasol. Amlygwyd nad oedd
yr ymgeisydd wedi datgan fod
ganddo gollfarnau blaenorol ar ei
gais ac awgrymwyd iddo ymhelaethu ar hyn. Roedd
yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell
i’r Is-bwyllgor ganiatáu y cais. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei
gais gan roi gwybodaeth am gefndir y collfarnau a’i amgylchiadau personol. Eglurodd bod ganddo gywilydd
o’i ymddygiad pan yn ifanc. Wedi
cyfnod yn y carchar eglurodd ei fod yn
benderfynol o droi ei fywyd o gwmpas
a bu iddo fynd i’r coleg, dilyn
gyrfa lwyddiannus a sefydlu busnes. PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson
addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd. Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer
Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
ffurflen gais yr ymgeisydd ·
adroddiad yr Adran
Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS ·
adroddiad yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau ·
sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd ·
Canllawiau'r Asiantaeth
Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion
canlynol Yn Awst 1994 cafwyd yr ymgeisydd yn
euog gan Lys Ieuenctid Bangor ar un cyhuddiad o ymosod gan achosi gwir
niwed difrifol (ABH), yn groes i
a47 Deddf Troseddau Corfforol 1861. Derbyniodd ryddhad amodol 12 mis, gorchymyn i dalu iawndal
o £20.00 a gorchymyn ‘bind over’. Ym Medi 1998 cafwyd yr ymgeisydd yn
euog gan Lys Ynadon Bangor ar ddau gyhuddiad. Un am ymosod gan achosi
gwir niwed corfforol (ABH) yn groes i a47 o Ddeddf Troseddau Corfforol 1861, ac un o achosi gwir niwed corfforol
difrifol (GBH) yn groes i adran
20 o’r un Ddeddf. Derbyniodd 3 mis o garchar, ar gyfer
y drosedd GBH a dedfryd 3 mis o garchar dilynol
am y drosedd ABH Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad
oes rheidrwydd i berson sydd
â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag
cael trwydded, ond bydd disgwyl
iddo fod yn rhydd rhag
unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn
y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn
addas a phriodol i ddal trwydded.
Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i
brofi ei fod yn berson
addas a phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd
wedi'i gael yn euog o drosedd(au)
neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried
yng nghyswllt hynny, ni chaiff
y cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r mater arall hwnnw. Ystyriwyd paragraff
4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn,
p’run ai ydynt wedi eu
treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio. Mae paragraff ... view the full COFNODION text for item 5a |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried cais
Mr B (copi arwahan i aelodau’r
Is Bwyllgor yn unig) Penderfyniad: Bod yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd
hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd. COFNODION: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr B am drwydded gyrru
cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol
â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau
a chollfarnau perthnasol. Roedd yr Awdurdod
Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor ganiatáu y cais. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei
gais gan roi gwybodaeth am gefndir y collfarnau a’i amgylchiadau personol. Eglurodd bod collfarnau 2001 i gyd o ganlyniad i beidio derbyn cyngor
proffesiynol i geisio arbed asedau busnes
ei deulu. Rhoddodd eglurhad llawn o’r sefyllfa
ynghyd a gwybodaeth am y troseddau traffig. Nododd ei fod yn
gweithio gyda phobl gydag anableddau
dysgu a’i fwriad oedd cynnig
gwasanaeth cludiant iddynt gan geisio cymhwyster priodol i wneud hynny PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson
addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd. Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer
Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
ffurflen gais yr ymgeisydd ·
adroddiad yr Adran
Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS ·
adroddiad yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau ·
sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd ·
Canllawiau'r Asiantaeth
Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion
canlynol Yn 1988 cafodd
yr ymgeisydd ei wahardd rhag
gyrru am 28 diwrnod yn dilyn
digwyddiad o yrru 107mya ar draffordd yr
M6. Yn Mai 2001 cafwyd yr ymgeisydd yn
euog gan Lys y Goron yr Wyddgrug ar
gyfres o 10 cyhuddiad. Un cyhuddiad o fod yn fethdalwr yn
cymryd rhan mewn neu yn
ymwneud â hyrwyddo neu reoli cwmni
yn groes i a11 o’r Ddeddf Anghymwyso
Cyfarwyddwyr Cwmni 1986. Dau gyhuddiad o fod yn rhan
o neu barhau â busnes gyda’r bwriad
o dwyllo credydwyr yn groes i a458 o’r un Ddeddf. Saith cyhuddiad o gael gafael ar
eiddo drwy dwyll yn groes
i a15 o’r Ddeddf Dwyn 1968. Derbyniodd 2 flynedd o garchar ar un o’r cyhuddiadau
o gael gafael ar eiddo drwy
dwyll ynghyd a dedfrydau o garchar yn cyd-redeg ar
y cyhuddiadau eraill.Yn
ogystal cafodd ei wahardd am
5 mlynedd rhag bod yn gyfarwyddwr
ar gwmni. Yn Medi 2015 derbyniodd SP30 am oryrru, (57mya mewn ardal 50mya ar hyd ffordd
ddeuol yr A55) – derbyniodd 3 pwynt cosb ar ei
drwydded yrru. Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng nghyswllt ... view the full COFNODION text for item 5b |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried cais Mr C (copi arwahan i aelodau’r Is
Bwyllgor yn unig) Penderfyniad: Bod yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd
hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd. COFNODION: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr C am drwydded gyrru
cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol
â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau
a chollfarnau perthnasol. Amlygwyd nad oedd
yr ymgeisydd wedi datgan fod
collfarn flaenorol ar ei gais ac
awgrymwyd iddo ymhelaethu ar hyn.
Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r
Is-bwyllgor ganiatáu y cais. Gwahoddwyd cynrychiolydd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar gais yr ymgeisydd
gan roi gwybodaeth am gefndir y gollfarn a’i amgylchiadau personol. Eglurwyd bod yr ymgeisydd
wedi datgan y gollfarn flaenorol ar lafar, ond
heb ei chynnwys
ar y ffurflen gais (cadarnhaodd y swyddog trwyddedu bod hyn
yn gywir). PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson
addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd. Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer
Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
ffurflen gais yr ymgeisydd ·
adroddiad yr Adran
Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS ·
sylwadau ar lafar gan gynrychiolydd yr ymgeisydd ·
Canllawiau'r Asiantaeth
Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion
canlynol Yn Ionawr
2016 cafwyd yr ymgeisydd yn euog
gan Lys Ynadon Môn o achosi
digwyddiad peryglus ar
/ dros ffordd yn groes i a22 Ddeddf Traffig y Ffyrdd 1988. Derbyniodd ddirwy o £155.00, gorchymyn i dalu costau o £85 a chostau ychwanegol o £20. Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd
i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd
rhag cael trwydded, ond bydd
disgwyl iddo fod yn rhydd
rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir
yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn
unigolyn addas a phriodol i ddal
trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd
i brofi ei
fod yn berson
addas a phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd
wedi'i gael yn euog o drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng nghyswllt hynny,
ni chaiff y cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r mater arall hwnnw. Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn
Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn,
p’run ai ydynt wedi eu
treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio Mae rhan 12 o’r Polisi yn ymwneud â chollfarnau moduro gyda pharagraff 12.2 yn rhestru troseddau traffig difrifol at ddibenion y Polisi. Mae rhan 13 yn ymwneud a mân droseddau traffig ac yn cyfeirio yn bennaf at droseddau sydd heb eu rhestru ym mharagraff 12.2 o’r Polisi gyda pharagraff 13.1 yn diffinio ‘mân drosedd traffig’ fel trosedd sydd yn derbyn rhwng 1 a 3 pwynt cosb. Ystyriwyd paragraff 13.2 sydd yn nodi pan fydd ymgeisydd gydag un gollfarn am fân drosedd gyrru ni fydd hyn fel arfer yn arwain at ... view the full COFNODION text for item 5c |