Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: |
|
|
MATERION BRYS Cofnod: |
|
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Cofnod: |
|
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried cais Mr A (copi i Aelodau’r
Is bwyllgor yn unig) Penderfyniad: PENDERFYNIAD Nad oedd yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni / hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud
yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd
mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau
ar y meini prawf wrth ystyried
cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r
cyhoedd drwy sicrhau: • Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol • Nad yw'r unigolyn yn
fygythiad i'r cyhoedd • Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl
anonest • Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu • Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn
hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig Cyflwynodd y Rheolwr
Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig
ar gais a dderbyniwyd gan
Mr A i adnewyddu trwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol
â’r hyn sydd
yn gysylltiedig ag addasrwydd unigolyn i fod yn yrrwr
cerbyd hacni/hurio preifat Roedd yr Awdurdod
Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor wrthod y cais. Gwahoddwyd yr ymgeisydd
i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir y tri achlysur y derbyniodd y pwyntiau cosb, a’i amgylchiadau personol. Nododd nad oedd wedi
datgelu'r pwyntiau cosb ar ei
gais oherwydd iddo ystyried mai achosion o yfed a gyrru a / neu ymddygiad troseddol
oedd rhaid ei datgan i’r
Uned Trwyddedu. Derbyniodd ddifrifoldeb y sefyllfa, petai yn colli
ei drwydded, byddai yn colli
ei waith. PENDERFYNWYD nad oedd yr ymgeisydd yn berson addas
a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda
Chyngor Gwynedd. Wrth gyrraedd
eu penderfyniad, roedd yr
Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion ‘Polisi
Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
Canllawiau Addasrwydd
Unigolyn ·
Adroddiad yr Adran
Drwyddedu ·
Ffurflen gais yr ymgeisydd ·
Adroddiad Asiantaeth
Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau ·
Sylwadau llafar
gan yr ymgeisydd Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol Cefndir Ym mis Rhagfyr 2022 derbyniodd yr ymgeisydd
3 pwynt cosb am ragori ar y terfyn cyflymder statudol ar ffordd gyhoeddus. Yn mis Tachwedd 2023 derbyniodd yr ymgeisydd
3 pwynt cosb am ragori ar y terfyn cyflymder statudol ar ffordd gyhoeddus. Yn mis Mehefin 2024 derbyniodd yr ymgeisydd
3 pwynt cosb am ragori ar y terfyn cyflymder statudol ar ffordd gyhoeddus. CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI Ystyriwyd
paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â
chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd
disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir
yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal
trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a
phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o
drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w
(h)ystyried yng nghyswllt hynny, ni chaiff y Cyngor adolygu rhinweddau'r
gollfarn honno na'r mater arall hwnnw. Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried
cais Mr B (copi i
Aelodau’r Is bwyllgor yn unig) Penderfyniad: PENDERFYNIAD Bod yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni / hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud
yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd
mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau
ar y meini prawf wrth ystyried
cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r
cyhoedd drwy sicrhau: • Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol • Nad yw'r unigolyn yn
fygythiad i'r cyhoedd • Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl
anonest • Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu • Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn
hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig Cyflwynodd y Rheolwr
Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig
ar gais a dderbyniwyd gan
Mr B i adnewyddu trwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol
â’r hyn sydd
yn gysylltiedig ag addasrwydd unigolyn i fod yn yrrwr
cerbyd hacni/hurio preifat Roedd yr Awdurdod
Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor gymeradwyo’r cais Gwahoddwyd yr ymgeisydd
i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir y pwyntiau
cosb, a’i amgylchiadau personol. Nododd nad oedd
yn defnyddio ei ffôn i dderbyn
galwad nac anfon neges, ac
mai gosod y ffôn i’w wefrio a wnaeth
wrth eistedd mewn traffig ar
y ffordd adref o’i waith. Amlygodd
ei fod yn
gyrru car ei hun ar y pryd ac
nid oedd ganddo gwsmeriaid yn y car. Ategodd ei fod
yn mwynhau ei waith fel
gyrrwr tacsi. Mewn ymateb
i gwestiwn pam nad oedd wedi
amlygu manylion y drosedd ar ei
ffurflen gais, nododd nad oedd llawer
o hyder ganddo mewn cwblhau gwaith
papur ac mai camgymeriad oedd hyn ac nid ymgais
i guddio’r gwirionedd. Ategodd, o fewn ugain mlynedd, ei fod wedi
cael un gosb o oryrru. PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson
addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd. Wrth gyrraedd
eu penderfyniad, roedd yr
Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion ‘Polisi
Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
Canllawiau Addasrwydd
Unigolyn ·
Adroddiad yr Adran
Drwyddedu ·
Ffurflen gais yr ymgeisydd ·
Adroddiad Asiantaeth
Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau ·
Sylwadau llafar
gan yr ymgeisydd Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r mater canlynol Cefndir Yn Ebrill 2025, derbyniodd
yr ymgeisydd 6 pwynt cosb a dirwy o £200 am dorri gofyniad mewn perthynas â rheoli cerbyd a defnydd o ffôn symudol yn groes
i Adran 41D o’r Ddeddf Traffig y Ffyrdd 1988. CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried
cais Mr C (copi i Aelodau’r
Is bwyllgor yn unig) Penderfyniad: Nad oedd yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar
gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni / hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud
yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd
mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau
ar y meini prawf wrth ystyried
cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r
cyhoedd drwy sicrhau: • Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol • Nad yw'r unigolyn yn
fygythiad i'r cyhoedd • Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl
anonest • Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu • Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn
hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig Cyflwynodd y Rheolwr
Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig
ar gais a dderbyniwyd gan
Mr C am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol
â’r hyn sydd
yn gysylltiedig ag addasrwydd unigolyn i fod yn yrrwr
cerbyd hacni/hurio preifat. Roedd yr Awdurdod
Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor wrthod y cais Gwahoddwyd yr ymgeisydd
i ymhelaethu ar ei gais a’i amgylchiadau
personol. Gofynnwyd iddo hefyd egluro
pam gafodd ei arestio a hynny
wedyn yn arwain at ddiddymu ei drwydded gyrrwr
tacsi yn Ionawr 2025. Mewn ymateb
i gwestiwn pam nad oedd wedi
apelio penderfyniad Cyngor
Sir Fflint i ddiddymu ei drwydded o ystyried bod ‘dim gweithrediad
pellach’ oherwydd ‘problemau tystiolaethol’ ar ol iddo
gael ei arestio,
nododd ei fod yn dioddef
straen oherwydd y digwyddiad ac nid oedd awydd ganddo
ddychwelyd i’r swydd a wynebu swyddogion y Cyngor. Erbyn hyn, nododd bod
angen swydd arno a’i fod
yn ystyried symud ardal. Mewn ymateb
i gwestiwn pam na ddatgelwyd gwybodaeth angenrheidiol ar ei ffurflen gais, nododd nad oedd
ganddo reswm dros wneud hynny
ar wahân i’r ffaith ei
fod yn anghyfforddus ac yn poeni y byddai’n golygu na
allai gael swydd yn y dyfodol. Ategodd
nad oedd wedi derbyn collfarn
ac nid oedd yn euog o drosedd. PENDERFYNWYD nad oedd yr ymgeisydd yn berson addas
a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda
Chyngor Gwynedd. Wrth gyrraedd
eu penderfyniad, roedd yr
Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion ‘Polisi
Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
Canllawiau Addasrwydd
Unigolyn ·
Adroddiad yr Adran
Drwyddedu ·
Ffurflen gais yr ymgeisydd ·
DBS yr ymgeisydd ·
Copi o drwydded
gyrru'r ymgeisydd ·
Adroddiad Asiantaeth
Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau ·
Datganid Cyngor Sir y Fflint ·
Datganiad Heddlu
Swydd Gaer ·
Sylwadau llafar
gan yr ymgeisydd Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol Cefndir Ym mis Ionawr 2025 cafodd yr ymgeisydd ei arestio am ymosodiad
rhywiol yn groes i adran
3 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003. Yn yr un mis diddymwyd
ei drwydded gan yr Awdurdod perthnasol gan nad oeddent yn
fodlon ar sail tebygolrwydd ei fod yn parhau
i fod yn
berson addas a phriodol i ddal trwydded. Yn mis Ebrill 2025 cyflwynwyd cais i Gyngor Gwynedd am drwydded tacsi / llogi preifat, ond ni fu i’r ymgeisydd ddatgelu ei ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |