Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Dim i’w nodi

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Cofnod:

 

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.  Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod.  O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu.

 

5.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

       Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

       Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

       Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

       Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

       Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

       Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r collfarnau perthnasol

 

Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor gymeradwyo’r cais.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir y collfarnau a’i amgylchiadau personol. Nododd fod y collfaranu yn rai hanesyddolmewn cyfnod pan oedd yn ifanc a ffôl. Amlygodd bod ganddo brofiad o weithio fel gyrrwr tacsi a‘i fod wedi cael cynnig gwaith gyda chwmni lleol. Ategodd ei fod wedi gweithio gyda chwmni Cross Rail am flynyddoedd lle roedd gwiriadau manwl yn cael eu gwneud i sicrhau ei addasrwydd i’r swydd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â pham nad oedd wedi cydnabod y collfarnau ar ei ffurflen gais, nododd bod y gollfarn olaf wedi digwydd yn 1987 (36 mlynedd yn ôl) ac ystyriodd felly y byddai'r rhain bellach wedi dod i ben. Ymddiheurodd nad oedd yn ymwybodol bod collfarnau hanesyddol yn parhau i gael eu hystyried wrth wneud cais am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

·      GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·      Adroddiad yr Adran Drwyddedu

·      Datganiad DBS

·      Ffurflen gais yr ymgeisydd

·      Sylwadau llafar yr ymgeisydd

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Cefndir

 

Yn mis Ionawr 1970, derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn am Ymosodiad Cyffredin Ditiadwy yn groes i Ddeddf Troseddau yn Erbyn y Person 1861 A.42 + A.47 a byrgleriaeth a lladrata o annedd yn groes i Ddeddf Dwyn 1968.9 (1)(B). Cafodd ddedfryd yn Llys Ieuenctid Caernarfon ac fe'i hanfonwyd i Ganolfan Gadw am dri mis. 

 

Yn mis Ebrill 1982 derbyniodd gollfarn am drin eiddo wedi’i ddwyn, yn groes i Ddeddf Dwyn 1968 A.22 ac achosi gwir niwed corfforol (ABH) yn groes i Ddeddf Troseddau yn Erbyn y Person 1861. Cafodd ddedfryd yn Llys Ynadon Gwyrfai a derbyniodd ddedfryd ohiriedig o 2 flynedd.

 

Ym mis Mai 1983 derbyniodd gollfarn am gyflawni Ymosodiad gan achosi gwir niwed corfforol (ABH) yn groes i Ddeddf Troseddau yn Erbyn y Person 1861 A.47. Derbyniodd ddirwy gyda chostau am y drosedd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

       Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

       Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

       Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

       Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

       Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

       Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr B am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r collfarnau perthnasol.

 

Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor gymeradwyo’r cais. Ategwyd mai cais i adnewyddu trwydded gyrrwr Hacni / Hurio preifat oedd wedi ei gyflwyno a bod yr ymgeisydd wedi datgan y pwyntiau goryrru ar ei gais.

 

Gwahoddwyd cynrychiolydd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir y pwyntiau cosb a dderbyniodd yr ymgeisydd am oryrru. Nododd fod yr ymgeisydd yn y swyddfa, ond ei fod yn sâl gyda covid. Petai angen i’r aelodau glywed gan yr ymgeisydd byddai modd trefnu ystafell arall ar ei gyfer. Adroddwyd ei fod yn derbyn bod y ddau achos yn agos at ei gilydd a bod yr ymgeisydd yn ymddiheuro am hynny. Nododd bod yr ymgeisydd yn yrrwr profiadol a bod peidio â gweithio dros y 6 wythnos ddiwethaf wedi teimlo fel cosb - wedi colli cyflog ag yntau’n brif enillydd y teulu.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pam nad oedd yr ymgeisydd wedi datgan ei bwyntiau cosb yn mis Mai a Mehefin, a bod hynny yn amod ar drwydded unrhyw yrrwr cerbyd hacni / hurio preifat, derbyniwyd y dylai’r manylion fod wedi eu rhannu gyda’r Uned Drwyddedu, ond bod yr ymgeisydd hefyd wedi meddwl y byddai’n cael cais i fynychu cwrs   ymwybyddiaeth cyflymder.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

·      GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·      Adroddiad yr Adran Drwyddedu

·      Adroddiad yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA)

·      Ffurflen gais yr ymgeisydd

·      Sylwadau llafar cynrychiolydd yr ymgeisydd

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Cefndir

 

Yn Mai 2021, derbyniodd yr ymgeisydd 3 pwynt cosb (SP30) am dorri'r cyfyngiad cyflymder statudol ar ffordd gyhoeddus - y pwyntiau hyn yn dod i ben Mai 2024. 

 

Yn Mehefin 2021, derbyniodd yr ymgeisydd 3 pwynt cosb (SP30) am dorri'r cyfyngiad cyflymder statudol ar ffordd gyhoeddus - y pwyntiau hyn yn dod i ben Mehefin 2024

 

CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI

 

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

       Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

       Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

       Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

       Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

       Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

       Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr C am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r wybodaeth berthnasol.

 

Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor roi sylw i Bolisi'r Cyngor a Chanllawiau'r Sefydliad Trwyddedu ar ddiogelwch ac addasrwydd yr unigolyn cyn gwneud penderfyniad i gymeradwyo trwydded ai peidio.  

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir y digwyddiadau. Amlygodd ei rwystredigaeth wrth wneud cais drwy gamddehongli gwybodaeth oedd wedi ei dderbyn ynghyd a methu deall y broses cofrestru, ac o orfod talu ffioedd a chostau DBS ymlaen llaw. Ategodd bod yr ymddygiad allan o gymeriad ac ar y pryd roedd yn mynd drwy gyfnod anodd yn ei fywyd - os na allai gael gwaith byddai’n ddigartref. Nododd ei fod wedi dysgu o’r broses a’i fod wedi cael cynnig gwaith, os byddai’r drwydded yn cael ei chymeradwyo. Ei ddymuniad, i’r dyfodol oedd darparu cludiant i’r anabl.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

·      GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·      Adroddiad yr Adran Drwyddedu

·      Ffurflen gais yr ymgeisydd

·      Sylwadau llafar yr ymgeisydd

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Cefndir

 

·         Yn Awst 2023 ymwelodd yr ymgeisydd â swyddfeydd y Cyngor gan siarad ag aelod o staff mewn modd amhriodol ac ymosodol. Roedd ei ymddygiad wedi arwain at aelod profiadol o staff derbynfa’r swyddfeydd i wneud achos i adrodd am y mater yn ffurfiol ar ffurflen HS11 i'w rheolwr llinell ac i’r Adran Adnoddau Dynol. Cafodd fersiwn dienw o'r ffurflen ei rannu gyda'r Rheolwr Gwasanaeth Trwyddedu; gan ei fod yn ymwneud â chais gyrrwr tacsi.

·         Ychydig ddyddiau ar ôl y digwyddiad, dychwelodd yr ymgeisydd i swyddfeydd y Cyngor, a daeth dau swyddog trwyddedu i’w gyfarfod gyda achos i'w gynghori mai fel ymgeisydd ar gyfer trwydded gyrrwr tacsi, bod ei ymddygiad yn fater perthnasol, ac nad oedd ymddygiad gwael tuag at swyddogion y Cyngor yn dderbyniol. Nododd yr ymgeisydd yn ei ymateb ei fod yn teimlo'n rhwystredig nad oedd y broses ymgeisio yn syml a'i fod eisiau dechrau ennill bywoliaeth. Ymatebodd y swyddog bod nifer o wiriadau'n  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.