Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Virtual Meeting - Zoom

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cyng Julie Fallon (Cyngor Bwrdeistrefol Sirol Conwy), Karen Evans (Cyngor Bwrdeistrefol Sirol Wrecsam), Geraint Davies (Cyngor Sir Ddinbych), Gwern ap Rhisiart (Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd) a Dewi Morgan (Pennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd)

 

Llongyfarchwyd y Cyng Dewi Jones ar ei benodiad fel Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd a croesawyd ef i’r cyfarfod.

 

Diolchwyd i Marc Berw Hughes (Cyngor Sir Ynys Môn) am ei gyfraniad a’i gefnogaeth i’r Cyd-bwyllgor dros y blynyddoedd a dymunwyd y gorau iddo yn ei swydd newydd.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol gan aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 149 KB

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd  27 Tachwedd 2024 fel rhai cywir.

 

5.

CYLLIDEB GwE 2024-2025 - Adolygiad hyd at ddiwedd Ionawr 2025 pdf eicon PDF 171 KB

I ystyried a derbyn yr adroddiad

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

·       Derbyn a chymeradwyo’r adroddiad ar adolygiad o gyllideb GwE hyd at ddiwedd Ionawr 2025.

·       Yn dilyn trafodaethau yng nghyfarfod o’r Bwrdd Trosiannol, bod adroddiad sefyllfa diwedd blwyddyn ynghyd â dadansoddiad llawn am wariant terfynol 2024/25 yn cael ei gyflwyno i’r Cydbwyllgor yng nghyfarfod mis Mai.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd yn diweddaru aelodau ar yr adolygiad ariannol diweddaraf o gyllideb refeniw GwE am y flwyddyn gyllidol 2024/25 a’r rhagolygon tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol. Eglurodd Pennaeth Cyllid Cynorthwyol - Cyfrifeg a Phensiynau (Cyngor Gwynedd), bod yr adroddiad yn seiliedig ar wybodaeth diwedd Ionawr 2025 gyda’r darlun o ran costau diswyddo a chostau rhyddhau pensiwn yn gliriach.

 

Eglurwyd bod y costau diswyddo a chostau pensiwn yn seiliedig ar y rhai uchaf posib, felly yn rhoi y senario waethaf i’r Cydbwyllgor, fel bod modd gweld beth yw’r bwlch ariannol uchaf posib. Ategwyd mai’r gobaith yw na fydd y ffigyrau mor uchel ac y bydd modd cynnig swyddi i staff sydd tu allan i’r drefn TUPE, sef y rhai sy’n trosglwyddo i’r Awdurdodau Lleol (er nad oes modd rhoi unrhyw addewid o hynny).

 

Cyfeiriwyd at dalfyriad o’r sefyllfa derfynol gyda’r rhagolygon, yn dilyn adolygiad diwedd Ionawr 2025, yn awgrymu y bydd sefyllfa ariannol am 2024/25 yn orwariant o £919k erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

 

Tynnwyd sylw at y prif faterion;

 

·        Gweithwyrerbyn hyn yn dilyn ystyried costau diswyddo a chostau pensiwn, rhagwelir gorwariant o £1.1 miliwn ar y pennawd yma. Eglurwyd bod cyllideb GwE ar gyfer y flwyddyn gyfredol ei sefydlu yn seiliedig ar nifer y staff nôl yn Chwefror 2024. Amlygwyd bod arbediad wedi ei wireddu wedi i rai aelodau staff GwE adael eu swyddi, ynghyd â derbyniad grant sydd wedi cael ei ddefnyddio i gyllido swyddi. Nodwyd bod y ffigyrau hefyd wedi ymgorffori penderfyniad y Cydbwyllgor ar 1af Awst 2024, gan gynnwys ailstrwythuro o’r Uwch Dîm Reoli.

 

Ategwyd, yn dilyn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf bod yr adolygiad ariannol yn cynnwys amcan gyfrifiad o uchafswm cost diswyddo cyfredol o oddeutu £1.7m i staff na fydd yn trosglwyddo i’r awdurdodau. Disgwylir cyfraniad Llywodraeth Cymru o £738k (£123k sydd wedi ei dderbyn fesul awdurdod) tuag at y gost.

 

Cyfeiriwyd at y rheoliadau Cyfrifeg sydd yn golygu bod angen cyfrifo am gostau pensiwn yn y flwyddyn ariannol lle mae llythyr wedi ei ryddhau i staff. Gyda bwriad i ryddhau llythyr i staff GwE ar ddechrau mis Mawrth rhaid oedd sicrhau ymrwymiad ariannol a’r costau hynny yn taro yn y flwyddyn ariannol gyfredol.

 

·        Rhent - gorwariant o bron i £90 mil. £10k ohono yn unol â’r tueddiad hanesyddol gan fod gofod mwy o faint wedi bod yn cael ei rentu yng Nghaernarfon, sydd wedi bod uwchlaw lefel y gyllideb. Yn ychwanegol i hyn, amlygwyd wrth ddirwyn GwE i ben bod costau terfynu prydlesi swyddfeydd sydd angen eu wynebu, yn bennaf ar gyfer swyddfa Yr Wyddgrug.

·        Cludiant - y darlun yn parhau i fod yn gyson gydag adolygiadau blaenorol gyda thanwariant o £34 mil ar y pennawd cludiant, gan fod costau teithio wedi lleihau o ganlyniad i ffyrdd newydd o weithio dros y blynyddoedd diwethaf.

·        Cyflenwadau a Gwasanaethau - rhagwelir tanwariant o bron i £19 mil yma  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYLLIDEB SYLFAENOL GwE 2025/2026 pdf eicon PDF 155 KB

I ystyried yr adroddiad a mabwysiadau’r gyllideb sylfaenol ar gyfer Ebrill – Mai 2025/26

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

·       Derbyn a chymeradwyo’r adroddiad.

·       Adborth o gyfarfod yr Awdurdod Lletyol gyda Dirprwy Gyfarwyddwr Addysg Llywodraeth Cymru i'w rannu gyda’r Cydbwyllgor.

·       Bod llythyr o gefnogaeth / datganiad gwleidyddol gan y Cydbwyllgor yn cael ei gyflwyno i’r Awdurdod Lletyol yn cefnogi eu pryderon o’r costau ychwanegol sydd i ddirwyn GwE i ben oherwydd oediad gan y Llywodraeth o ran defnydd Grant Addysg Awdurdod Lleol (GAALl) i gefnogi Dysgu Proffesiynol.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd yn manylu ar gyllideb i GwE ar gyfer y ddau fis hyd at ddiwedd Mai 2025, a hynny yn dilyn llithriad yn amserlen terfynu GwE i 31 Mai 2025. Nodwyd, fel a wneir ar gyfer cyllidebau unrhyw flwyddyn, bod trefn arferol o gynyddu’r cyllidebau i gynnwys cyfraddau chwyddiant angenrheidiol ac ystyriaeth o’r setliad tâl ayyb wedi ei wneud. Yn dilyn hyn, adroddwyd bod gwerth 2 fis o gyllideb wedi ei ddarparu ar gyfer penawdau perthnasol gyda rhai eithriadau.

 

Tynnwyd sylw at y penawdau canlynol:

·        Gweithwyr - costau staffio yn seiliedig ar nifer staff oedd yn gyflogedig ar y 1af o Chwefror 2025, felly 2 fis o gyllideb wedi ei ddarparu ar eu cyfer.

·        Rhent, costau teithio, rhaglenni cenedlaethol / comisiynu - gwerth 2 fis o gyllideb wedi ei ddarparu

·        Cyflenwadau a Gwasanaethau – nid oes cyllideb wedi ei gynnwys ar y pennawd Technoleg Gwybodaeth, gan mai cyfraniad i gronfa adnewyddu ydyw, felly am resymau amlwg, ni fydd cyllideb ar ei gyfer.

·        Ffioedd Archwilio - bydd rhaid i Archwilio Cymru archwilio’r cyfrifon, ac felly bydd  rhaid talu ffi iddynt gynnal yr archwiliad. Nodwyd mai’r swm llawn sydd wedi ei gynnwys, ond er na ellid rhoi sicrwydd ar hyn, y gobaith yw y bydd yn llai.

·        Costau Gwasanaethau Cefnogol Awdurdod Lletyol’ – gwerth 2 fis o gyllideb wedi ei osod ar y penawdau yma, gan eithrio Cyllid, gan y bydd gofyn statudol i baratoi set o gyfrifon llawn, er cyfnod o ddau fis yn unig fydd angen ei gyfrifo. Y gyllideb felly yn adlewyrchu y gwaith yma a’r gwaith sydd ei angen gan yr Adran Cyllid yn ystod cyfnod yr archwiliad efo Archwilio Cymru.

·        Model cenedlaethol a phrosiectau penodol - dim cyllideb wedi ei ddarparu

·        Gwasanaethau a gomisiynwyd gan yr Awdurdodau – dau fis o gyllideb wedi ei osod

 

O ganlyniad i’r rhagolygon uchod, ystyriwyd gosod cyfanswm y gyllideb gwariant yn £1.2 miliwn (12% o gyllideb 2024/25, sydd yn llai na gwerth 1 rhan o 6, sef 2 fis, sydd yn 17%). O ran ariannu’r costau yma, cyfeiriwyd at y cyfraniadau craidd a’r cyfraddau perthnasol wedi ei nodi fel cyfraniadau yr awdurdodau, gyda gwerth 2 fis wedi ei darparu.

 

Pwysleisiodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol - Cyfrifeg a Phensiynau (Cyngor Gwynedd),  mai amcan yn unig oedd y gyllideb yma, a bod disgwyliad mai dim ond y gwariant angenrheidiol fydd yn cael ei wneud hyd ddiwedd Mai. Cadarnhawyd mai yn seiliedig ar y gwir gost fydd yr hawliad yn cael ei wneud i’r Awdurdodau.

 

Yng nghyd-destun arian wrth gefn, gan fod y gronfa wrth gefn wedi cael ei defnyddio i gyllido sefyllfa ariannol 2024/25, nid yw ar gael ar gyfer 2025/26.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, cyflwynodd yr aelodau y sylwadau canlynol:

·        Yn croesawu’r gyllideb er bod angen mwy o eglurhad / sail rhesymegol dros rai o’r penderfyniadau – awgrym i’r mater gael ei drafod / herio yn y Bwrdd Trosiannol gydag adborth i gyfarfod nesaf o’r Cydbwyllgor

·        Oediad gan Lywodraeth Cymru  i  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

PARHAD GWASANAETH 01/04/2025 i 31/05/2025 pdf eicon PDF 185 KB

I ystyried yr adroddiad

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

·       Derbyn yr adroddiad a chymeradwyo trefniadau gweithredu GwE am y cyfnod 01/04/25 i 31/05/25.

·       Bod angen eglurder ynglŷn â thaliadau costau ychwanegol tu hwnt i Fai 2025. Ai'r Awdurdodau Lleol unigol neu Llywodraeth Cymru fydd yn cymryd y baich?

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad ar y cyd gan Pennaeth Gwasanaeth - Gwella Ysgolion a  Phennaeth Gwasanaeth GwE - Dysgu Proffesiynol yn nodi trefniadau gweithredu GwE am y cyfnod 01/04/2025 i 31/05/2025.  Eglurwyd bod Prif Weithredwyr y chwe Awdurdod Addysg bellach wedi cadarnhau dyddiad terfynu GwE fel 31ain o Fai yn hytrach na’r 31ain o Fawrth, 2025 sydd yn golygu bydd y Gwasanaeth yn parhau heibio i’r flwyddyn gyllidol presennol, a’r Cytundebau Comisiynu a’r Cynlluniau Busnes presennol, am gyfnod o ddau fis ychwanegol. Ategwyd bod cytundebau unigolion sydd ar secondiad neu’n gweithio ar gomisiwn i GwE yn dod i ben ar 31ain o Fawrth ac y  bydd hyn yn effeithio capasiti’r Gwasanaeth.  Nodwyd hefyd, er yn gyfnod o ddau fis, bydd yr ysgolion ond yn agored am chwe wythnos yn ystod y cyfnod yma oherwydd gwyliau’r Pasg a hanner tymor.

 

Er nad yw’n ymarferol llunio Cynllun Busnes a Chytundeb Comisiynu ar gyfer y cyfnod byr yma, adroddwyd y byddai’r Gwasanaeth yn parhau i gefnogi ysgolion yn unol â’r gofynion craidd ac y bydd yr Ymgynghorwyr Cefnogi Gwelliant yn ymateb yn hyblyg i ofynion ysgolion gan sicrhau gwasanaeth llyfn a di-dor yn ystod y cyfnod trosiannol yma. Bydd hyn yn cynnwys yr ymweliadau arferol o fonitro a sicrhau ansawdd addysgu a dysgu yn yr ysgolion. Ategwyd, pe byddai diffyg na ellid ei lenwi, bydd y Gwasanaeth yn ystyried comisiynu penaethiaid trwy gytundeb gyda’r Prif Swyddogion Addysg ac yn unol â’r hyn a gytunwyd arno yn y Cydbwyllgor ar 2 Hydref 2024.

 

Yng nghyd-destun Amserlenni Rhaglenni Dysgu Proffesiynol Cenedlaethol, nodwyd  bydd rhai carfannau hyfforddiant cenedlaethol, sydd yn gyfrifoldeb i GwE, heb eu cwblhau erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2024/25. Mewn ymateb, nodwyd bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo ar lafar i sicrhau bod unrhyw raglen dysgu proffesiynol Cenedlaethol yn parhau tan ei diwedd.

 

Yng nghyd-destun Hyfforddiant Lleol / Rhanbarthol, nodwyd bod yr amserlen wedi ei chyfyngu i delerau grant 2024/25 ac felly nid yw’n ymarferol llunio  cynnig Dysgu Proffesiynol  i ysgolion am gyfnod o ddau fis 2025/26. Bydd hyblygrwydd i staff GwE gynnal sesiynau yn ddibynnol ar yr angen ac ar y capasiti sydd ganddynt, o ystyried mai tîm cyfyngedig fydd gan GwE wedi’r Pasg.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, cyflwynodd yr aelodau y sylwadau canlynol:

·        Bod angen cydweithio gyda’r Adrannau Addysg i sicrhau na fydd costau pellach.

·        Bod Llywodraeth Cymru drwy’r Awdurdodau Lleol yn  ymrwymo i sicrhau bod cydweithwyr ar raglenni yn eu cwblhau yn llwyddiannusangen sicrhau parhad iddynt

·        Costau tu hwnt i Fai 2025 – ai’r Awdurdodau fydd yn cymryd y baich yntau Lywodraeth Cymru? Angen eglurder

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â capasiti staff nodwyd y byddai GwE yn ceisio sicrhau cefnogaeth i ysgolion gyda thrafodaethau gydag Awdurdodau unigol i drafod y sefyllfaoedd mwyaf anghenus.

 

         PENDERFYNWYD:

·        Derbyn yr adroddiad a chymeradwyo trefniadau gweithredu GwE am y cyfnod 01/04/25 i 31/05/25.

·        Bod angen eglurder ynglŷn â thaliadau costau ychwanegol tu hwnt i Fai 2025. Ai'r Awdurdodau Lleol unigol neu Llywodraeth Cymru fydd yn cymryd y baich  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Ar y pwynt yma nid oes penderfyniad yn cael ei wneud ac mae angen trafod y bwriad. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma fyddai’n gorbwyso hawliau’r unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Ar y pwynt yma nid oes penderfyniad yn cael ei wneud ac mae angen trafod y bwriad. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma fyddai’n gorbwyso hawliau’r unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

 

9.

DISWYDDIADAU GWIRFODDOL

I ystyried yr adroddiad

 

(copi i Aelodau yn unig)

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

·       Derbyn yr adroddiad.

·       Cymeradwyo’r argymhellion ar gyfer gwrthod / caniatáu ceisiadau unigol.

·       Cymeradwyo cyfarch cost y diswyddiadau gwirfoddol o’r arian sydd wedi ei gronni.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Gyfarwyddwr Corfforaethol yr Awdurdod Lletyol yn manylu ar yr ymatebion a daeth i law gan swyddogion GwE i wahoddiad a gyflwynwyd iddynt ddatgan diddordeb mewn cael eu hystyried ar gyfer derbyn telerau diswyddiad gwirfoddol yn wyneb dirwyn GwE i ben.

 

         Adroddwyd bod 17 datganiad o ddiddordeb wedi eu derbyn a rhoddwyd ystyriaeth i’r ceisiadau unigol hynny yn unol â’r meini prawf. Cyflwynwyd costau diswyddo ar gyfer pob un datganiad gydag argymhelliad a rhesymeg tu cefn i’r argymhellion unigol wedi eu nodi er gwybodaeth i’r Cydbwyllgor.

 

         O gymeradwyo’r argymhellion, byddai chwe swyddog yn cael cynnig telerau diswyddo gwirfoddoli. Pwysleisiwyd mai trefn diswyddo gwirfoddol oedd yma ac nid trefn diswyddo gorfodol.

 

         Diolchwyd am yr adroddiad

 

         Yn ystod y drafodaeth ddilynol, cyflwynodd yr aelodau y sylwadau canlynol;

·        Bod angen sicrhau nad oes camwahaniaethu a bod y broses wedi cydymffurfio gyda’r Ddeddf Cydraddoldeb

·        Angen sicrhau nad oes cyfleoedd wedi eu colli i ail-leoli swyddogion? A oes cytundeb cyfaddawd wedi ei ystyried o ystyried yr amgylchiadau?

·        A yw’r rhybydd diswyddiad yn ddigonol?

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â hawliau gwyliau blynyddol ar disgwyliad i’r swyddogion eu defnyddio cyn ymadael (i osgoi costau ychwanegol tu hwnt i fis Mai), nodwyd bod anogaeth i’r swyddogion ddefnyddio eu gwyliau cyn diwedd Mai 2025, ac y byddai angen i’r swyddogion hynny sydd yn trosglwyddo i’r Awdurdodau unigol gynnal trafodaeth ynglŷn a’u hawliau gwyliau.

 

Mewn ymateb i bryder ynglŷn â phosibilrwydd o  gŵyn / achos tribiwnlys yn codi o’r broses, pwy fydd yn delio â’r gŵyn ac os oedd arian wrth gefn a’r gyfer costau achos, nodwyd mai Gwynedd fel yr Awdurdod Lletyol fyddai’n arwain ar unrhyw achos yn erbyn y diswyddiadau.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd cymeradwyo’r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

·        Derbyn yr adroddiad.

·        Cymeradwyo’r argymhellion ar gyfer gwrthod / caniatáu ceisiadau unigol.

·        Cymeradwyo cyfarch cost y diswyddiadau gwirfoddol o’r arian sydd wedi ei gronni.