Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y
Cynghorydd Alwyn Gruffydd ac Anest
Gray Frazer (Eglwys yng Nghymru). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd y canlynol fuddiant personol yn
eitem 5 ar y rhaglen am y rhesymau a nodir:- ·
Y
Cynghorydd Selwyn Griffiths oherwydd bod ei ferch-yng-nghyfraith yn arwain yr
Adran TRACC. ·
Karen
Vaughan Jones oherwydd ei bod yn rhiant i blentyn yn Ysgol Edern. Nid oedd yr aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau oedd yn rhagfarnu ac
ni adawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem. Datganodd y canlynol fuddiant personol yn
eitem 6 ar y rhaglen am y rhesymau a nodir:- ·
Y
Cynghorydd Dewi Roberts oherwydd bod ei ferch yn gweithio i Grŵp
Llandrillo Menai. ·
Karen
Vaughan Jones oherwydd ei bod yn gweithio i Grŵp Llandrillo Menai. Nid oedd yr aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau oedd yn rhagfarnu ac
ni adawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd
yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 5 Tachwedd, 2020 fel rhai cywir
(ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 5 Tachwedd, 2020 fel rhai cywir. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL YR ADRAN ADDYSG 2018-19 A 2019-20; YMATEB YR ADRAN ADDYSG A GWE I'R PANDEMIG COVID-19, Y GAGENDOR LLES A CHYRHAEDDIAD A DYSGU CYFUNOL Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad, gan
nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod. Cofnod: Croesawyd yr Aelod Cabinet Addysg a
swyddogion yr Adran Addysg a GwE i’r cyfarfod. PENDERFYNWYD
derbyn yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a
gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod. |
|
Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Cemlyn Williams Ystyried
adroddiad ar yr uchod (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet
Addysg yn:- ·
Manylu
ar berfformiad blynyddoedd addysgu 2018-19 a 2019-20; ·
Crynhoi
ymateb yr Adran Addysg i’r Pandemig Covid-19; ·
Amlinellu
Blaenoriaethau’r Adran Addysg ar gyfer blwyddyn addysgu 2020-21. Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun, gan
ddiolch i’r penaethiaid ac i staff yr ysgolion am eu holl waith caled a’u
hymrwymiad yn ystod cyfnod y pandemig, fu’n bosib’ gyda chefnogaeth yr Adran
Addysg, GwE, y llywodraethwyr a’r rhieni.
Ychwanegodd ei bod yn bwysig nodi, yng nghyd-destun lles, bod yna
gydweithio agos wedi bod gydag Adran Plant y Cyngor yn ogystal, heb anghofio
hefyd am y ffordd yr oedd y mwyafrif o blant a phobl ifanc wedi dygymod â’r
sefyllfa. Ategodd y Pennaeth Addysg y sylwadau hyn
drwy nodi bod y cyfnod wedi bod yn her fel na welwyd o’r blaen, ac y bu’n rhaid
i’r Adran a’r ysgolion ymateb yn dra gwahanol i sicrhau parhad addysg i’r
plant, tra ar yr un pryd yn sicrhau bod sylw priodol yn cael ei roi i les y
dysgwyr a’r staff yn yr ysgolion. Nododd
ymhellach:- ·
Bod llythyr Prif Arolygydd Estyn at Brif Weithredwr
Cyngor Gwynedd (a anfonwyd ar wahân at aelodau’r pwyllgor) yn amlygu barn
gadarnhaol Estyn ynglŷn ag ymateb yr Adran wrth iddynt gefnogi ysgolion ac
unedau cyfeirio yn ystod y cyfnod clo cyntaf, a hefyd o fis Medi ymlaen. Ychwanegodd fod ymateb yr ysgolion, gyda
chefnogaeth yr Adran a GwE, yn amlwg yn y llythyr, a diolchodd o waelod calon i
bawb am y ffordd y bu iddynt ymdopi â’r newidiadau er mwyn parhau gydag addysg
a lles plant. ·
Bod
y cyfnod Covid wedi ceisio gosod cyfyngiadau ar addysg, ond bod y plant a’r
bobl ifanc a’u gwydnwch a’u brwdfrydedd tuag at barhad addysg wedi profi nad yw
addysg yn adnabod unrhyw ffiniau. ·
Bod
y cyfnod hefyd wedi gweld cryfhau pellach o ran y cydweithio rhanbarthol sydd
wedi digwydd mewn sawl maes ar draws chwe awdurdod y Gogledd, a gyda GwE yn
ogystal. ·
Y
ceisiwyd ar bob achlysur i symleiddio arweiniad Llywodraeth Cymru i’r ysgolion
fel ei fod yn briodol yng nghyd-destun asesiadau risg, mesurau lliniaru yn sgil
Covid, ayb. ·
Y
cynhaliwyd cyfarfodydd cyson gyda’r undebau hefyd, yn lleol ac yn rhanbarthol,
i’w diweddaru ar ein cynlluniau, a chafwyd cydsyniad a chefnogaeth yr undebau
i’r gwaith o gefnogi, nid yn unig y dysgwyr, ond y gweithlu addysg hefyd. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chyflwyno sylwadau. Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- ·
Ategwyd
diolchiadau’r Aelod Cabinet a’r Pennaeth Addysg i benaethiaid, staff a
llywodraethwyr yr ysgolion am ymateb mor arwrol i’r her enfawr oedd yn eu
hwynebu. ·
Croesawyd
y ffaith bod cynifer o chromebooks wedi’u dosbarthu i deuluoedd oedd heb
fynediad at dechnoleg. ·
Nodwyd
ei bod yn galonogol gweld faint o waith oedd wedi digwydd, a’i bod yn amlwg o
lythyr Estyn a chyflwyniad ac adroddiad y Pennaeth Addysg bod ein gwaith
partneriaethol yn cael ei gydnabod fel cryfder. · Nodwyd bod llythyr Estyn hefyd yn amlygu bod gwaith Gwynedd yn flaengar ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5a |
|
RHAGLEN WAITH GWE A CHEFNOGAETH I YSGOLION YN YSTOD PANDEMIG COVID-19 Ystyried adroddiad
ar yr uchod (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad Arweinwyr Craidd GwE
yn manylu ar sut roedd y consortiwm rhanbarthol, mewn partneriaeth â’r
Awdurdodau Lleol, wedi datblygu ac addasu er mwyn cefnogi ysgolion yn ystod y
Pandemig Covid-19. Derbyniodd yr aelodau gyflwyniad sleidiau manwl
gan swyddogion GwE. Manylwyd ar:- ·
Gynnwys
y prif adroddiad ·
Y
gwaith i gefnogi’r Gymraeg ·
Yr
adnoddau ar Ganolfan Cefnogaeth GwE ·
Adnoddau
dysgu ac addysgu o bell ·
Dysgu
digidol ·
Dysgu
cyfunol ·
Dysgu
Carlam ·
Llyfrgell adnoddau ysgol i ysgol ·
Cyfleoedd
dysgu proffesiynol ·
Yr
hyn ddigwyddodd o ran y sectorau cynradd, uwchradd ac arbennig yn lleol ·
Y
camau nesaf Diolchodd y Cadeirydd i bawb am yr adroddiad
cynhwysfawr, oedd yn cyflwyno llawer o wybodaeth am waith GwE i gefnogi’r
ysgolion oedd wedi gorfod addasu’n llwyr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chyflwyno sylwadau. Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- ·
Nodwyd
bod yr adroddiad wedi rhoi darlun clir i’r aelodau o waith diweddar GwE o ran
cefnogi ysgolion, ac argymhellwyd y dylid pasio’r adroddiad ymlaen i holl
aelodau’r Cyngor. Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau,
nodwyd:- ·
Y derbynnid bod yna agweddau cefnogi a monitro i waith
GwE. Cynhaliwyd trafodaethau gyda’r
penaethiaid o ran eu darpariaeth, ond yn amlwg roedd wedi bod yn fwy o her i
arfarnu ansawdd yr hyn oedd wedi bod yn digwydd, oherwydd yr amgylchiadau. Byddai’r rhaglen waith ar gyfer y ddau dymor
nesaf yn rhoi sylw i hynny, a gobeithid gwneud hynny ar y cyd â’r ysgolion, fel
y gellid asesu ansawdd y ddarpariaeth a chynnig cefnogaeth sydd wedi’i deilwrio
ar eu cyfer. Roedd hyn wedi’i gytuno ar
y cyd rhwng y chwe chyfarwyddwr yn y Gogledd o ran y ffordd ymlaen. ·
Y
cytunid bod y sefyllfa’n hynod rwystredig i rai rheini, yn enwedig os nad ydynt
yn y byd addysg. Gwelwyd enghreifftiau
arbennig o effeithiol o ganllawiau i rieni gan ysgolion, ac roedd GwE hefyd
wedi ceisio cefnogi hynny drwy lunio darpariaeth a chanllawiau cyffredinol i’r
ysgolion fedru eu defnyddio a’u haddasu yn ôl eu dymuniad. |
|
YMGYSYLLTU ANFFURFIOL ADDYSG OL-16 Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Cemlyn Williams Ystyried
adroddiad ar yr uchod (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad, gan
nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod. Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet
Addysg yn manylu ar y broses ymgysylltu anffurfiol gyda rhan-ddeiliaid ar
Addysg Ôl-16 yn Arfon. Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun drwy
egluro mai ei fwriad oedd bod y drafodaeth yn cael ei hagor yn gyhoeddus. Os bu cyhuddiad yn y gorffennol ynglŷn â
phenderfyniadau wedi’u gwneud ymlaen llaw, roedd yn awyddus bod y Cyngor yn
mynd allan gyda llechen lan, a bod y cyfarfodydd yn dryloyw, agored,
gwrthrychol ac efallai’n arloesol hefyd.
Roedd yn croesawu’r ffaith bod y drafodaeth yn cychwyn yn Arfon, ac
roedd yn croesawu’r syniadau oedd yn dod i law.
Roedd rhai ysgolion wedi ymuno mwy yn y drafodaeth nag eraill, ac roedd
cyfrifoldeb i sicrhau bod pob ysgol yn cymryd rhan. Cyfeiriodd yn benodol at fewnbwn aeddfed
disgyblion Ysgol Tryfan ac Ysgol Brynrefail i un cyfarfod, oedd wedi gadael
cryn argraff arno. Ychwanegodd y bu’r
ddarpariaeth yn fratiog yn hanesyddol, a bod cyfle nawr i geisio cael cysondeb
ar draws y sir, a sicrhau’r ddarpariaeth orau er lles y disgyblion. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chyflwyno sylwadau. Nodwyd bod pryder y
gallai unrhyw newid wanhau’r Gymraeg, a bod awydd i wella dysgu drwy Gymraeg
oherwydd y diffygion presennol. Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau,
nodwyd:- ·
Mai cais y Cabinet oedd i’r gwasanaeth edrych ar y
ddarpariaeth yn Arfon yn y lle cyntaf.
Pwysleisiwyd bod dymuniad i adeiladu ar y cryfderau amlwg oedd yn y
gyfundrefn ôl-16, a bod ffocws y drafodaeth ar hyn o bryd ar ysgolion
Arfon. Roedd y cyfarfodydd anffurfiol
wedi bod yn ddiddorol iawn, a’r trafodaethau wedi bod yn aeddfed ar lawer o
opsiynau, yn amrywio o fân newidiadau i’r gyfundrefn bresennol i ganolfan
chweched dosbarth ar gyfer yr holl ddisgyblion.
Pwysleisiwyd nad oedd gan yr Adran gynlluniau pendant ar hyn o bryd, a
bod angen dadansoddi’r ymatebion cyn adrodd i’r Cabinet. Ychwanegwyd bod y dystiolaeth yn dangos yn
glir nad yw’r safonau yn gyson ar draws ysgolion Arfon. Roedd yna wahaniaethau yn bodoli o fewn
ysgolion unigol hefyd, e.e. ambell bwnc neu faes ddim yn perfformio cystal mewn
ambell ysgol, ac roedd dymuniad i gryfhau hynny. Yn fwriadol, ar gais y Cabinet, ni chynigwyd
opsiynau, gan mai’r nod oedd gweld beth oedd y cyhoedd yn feddwl oedd yr
opsiynau gorau. Derbyniwyd rhai cynigion
da, ac roedd yr Adran wrthi’n prosesu’r ymatebion cyn mynd yn ôl i’r Cabinet
gyda nifer o syniadau oedd yn haeddu trafodaeth bellach. ·
Nodwyd
mai ansawdd yr addysg oedd y brif flaenoriaeth a amlygwyd yn y sesiynau, ynghyd
â phwysigrwydd sicrhau bod y profiad hwnnw ar gael i bob dysgwr. Themâu eraill amlwg oedd y Gymraeg a
darpariaeth addysg Gymraeg a dwyieithog.
Hefyd, yn sgil y cyfnod yma, bu cryn drafod ynghylch technoleg. Mynegwyd y farn gyffredinol mai dysgu wyneb
yn wyneb yw’r profiad addysgol gorau y gall unrhyw ddysgwr ei gael, ond bod yr
elfen dysgu digidol yn gallu cefnogi’r cyswllt wyneb yn wyneb hwnnw. · Er bod gennym gyfundrefn gadarn o ran y Gymraeg yng Ngwynedd, bod canfyddiad ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
DATBLYGU EGWYDDORION TWRISTIAETH GYNALIADWY A TRETH TWRISTIAETH Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Gareth Thomas Ystyried
adroddiad ar yr uchod (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad, gan
nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod. Cofnod: Croesawyd Arweinydd y Cyngor, yr Aelod
Cabinet Economi a Chymuned a’r swyddogion i’r cyfarfod. Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet
Economi a Chymuned yn gwahodd y pwyllgor i graffu’r camau a gymerwyd hyd yma i
lunio’r egwyddorion economi ymweld drafft a’r camau y bwriedid eu cymryd i
lunio Cynllun Economi Ymweld Cynaliadwy Gwynedd 2030. Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun drwy
nodi bod yr economi ymweld yn rhan bwysig o economi’r sir, gyda nifer fawr yn
cael eu cyflogi yn y diwydiant yn uniongyrchol, ac yn anuniongyrchol. Fodd bynnag, wrth i Covid daro’r diwydiant,
daeth yn amlwg bod rhaid i’r Cyngor ail-ymweld â’i egwyddorion yn y maes. Roedd newid sylweddol wedi bod yn y ffordd
rydym yn edrych ar yr economi ymweld. Yn
flaenorol, roedd pawb yn meddwl am yr ymwelydd yn ganolog i unrhyw economi
ymweld, ond bellach, daethpwyd i’r farn mai trigolion Gwynedd ddylai fod yn
ganolog i unrhyw egwyddorion o gwmpas yr economi ymweld, a rhoddwyd lle
blaenllaw i hyn yn natblygiad yr egwyddorion.
Os oedd pobl Gwynedd yn gweld y budd a bod y diwydiant ymweld yn
dderbyniol ganddynt, roedd hynny’n bwydo drwodd i brofiad yr ymwelwyr. Nodwyd y trefnwyd gweithdy ar gyfer holl
gynghorwyr Gwynedd ar 2 Mawrth, 2021 er mwyn cyflwyno’r egwyddorion drafft,
gyda bwriad o’u cyflwyno i’r Cabinet cyn diwedd Mawrth i’w mabwysiadu ar ffurf
drafft i ymgynghori arnynt gyda phobl Gwynedd. Cytunodd yr Arweinydd fod datblygu’r
egwyddorion hyn yn newid cyfeiriad sylweddol iawn i’r Cyngor. Gwelwyd llynedd beth oedd twristiaeth
‘anghynaliadwy’, a dyma’r math o dwristiaeth oedd yn niweidio’r amgylchedd, ac
yn cael drwg-effaith ar y cymunedau.
‘Roedd datgan ein bod yn gosod cyfeiriad newydd yn bwysig iawn. Credid bod y diwydiant hefyd yn gweld yr
angen i fod yn adlewyrchu ein cymdeithas yn llawer gwell, ac roedd yr
egwyddorion yn sylfaen i’r math o gefnogaeth a chyfeiriad roedd y Cyngor yn ei
roi i’r diwydiant. Roedd cyfarfodydd
gyda’r diwydiant wedi dangos bod twristiaeth yn ddiwydiant pwysig iawn i’n pobl
ni, er bod canfyddiad ei fod ym mherchnogaeth eraill. Roedd y pandemig wedi dangos bod ardaloedd
gwledig fel Gwynedd bron iawn yn llwyr ddibynnol ar dwristiaeth bellach, ac
roedd hynny’n ysgogiad i barhau â’r gwaith o geisio creu economi llawer mwy
amrywiol. Er bod £1.3 biliwn yn dod i
Wynedd drwy’r diwydiant, roedd incwm aelwydydd Gwynedd ymhlith yr isaf yn y
wlad, ac roedd angen datblygu diwydiant lletygarwch sy’n rhoi gyrfa dda, a
chyflogaeth dda. Roedd enghreifftiau o
hynny’n bodoli eisoes, ac roedd angen gweithio i wella ansawdd y diwydiant yng
Nghymru. Yna cyfeiriodd yr Arweinydd at lythyr ymateb y Parc Cenedlaethol i benderfyniad y Cyngor i ymchwilio ar frys i’r posibilrwydd o godi tâl ar ymwelwyr sy’n ymweld â rhannau o’r parc. Nododd fod y llythyr yn datgan y byddai’n llwyr amhosib’ codi tâl am fynd i ben yr Wyddfa ar sawl cyfrif, ond nad oedd hynny’n ein rhwystro rhag edrych ar ffyrdd eraill o greu incwm. Roedd cynllun y Parc i greu system drafnidiaeth yn ardaloedd yr Wyddfa ac Ogwen ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |