Lleoliad: Cyfarfod Aml-leoliad - Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon / Rhithiol ar Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
CADEIRYDD Penodi Cadeirydd
ar gyfer 2023/24. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penodi y Cynghorydd Elwyn Jones yn Gadeirydd y pwyllgor hwn
am 2023/24. Cofnod: PENDERFYNWYD
penodi y Cynghorydd Elwyn Jones yn Gadeirydd y pwyllgor hwn am 2023/24. |
|
IS-GADEIRYDD Penodi
Is-gadeirydd ar gyfer 2023/24. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penodi y Cynghorydd Paul Rowlinson yn Is-gadeirydd y pwyllgor
hwn am 2023/24. Cofnod: Cynigiwyd dau enw
ar gyfer yr Is-gadeiryddiaeth, sef y Cynghorwyr Paul Rowlinson a Richard Glyn
Roberts, ond gofynnodd y Cynghorydd Richard Glyn Roberts i’w enw gael ei dynnu
nôl gan na fyddai ganddo amser digonol i ymgymryd â’r rôl. Tynnodd y cynigydd
ei chynnig yn ôl. PENDERFYNWYD
penodi y Cynghorydd Paul Rowlinson yn Is-gadeirydd y pwyllgor hwn am 2023/24. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am
absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriad gan Colette Owen (Yr
Eglwys Gatholig). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o
fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau
o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys
ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y
cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 23 Mawrth, 2023 fel rhai
cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 23 Mawrth, 2023 fel rhai cywir. |
|
GWASANAETH CYNLLUNIO ARGYFWNG RHANBARTHOL PDF 435 KB Aelod
Cabinet – Y Cynghorydd Menna Trenholme Ystyried
adroddiad ar yr uchod. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet
Cefnogaeth Gorfforaethol yn gwahodd y pwyllgor i graffu’r trefniadau ar waith
mewn perthynas â Chynllunio Argyfwng o fewn y Cyngor, ac yn benodol:- ·
Sut
mae’r gwasanaeth rhanbarthol yn cyfrannu at wydnwch a diogelwch cymunedau yng
Ngwynedd? ·
Beth
yw rhaglen waith y gwasanaeth ar hyn o bryd? ·
Beth
yw’r strwythur o fewn Cyngor Gwynedd i ymateb i sefyllfa frys neu argyfwng? Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun, ac
yna rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Holwyd a oedd yna gynllun argyfwng llygredd
yr arfordir penodol i Wynedd, gan ei bod yn hollbwysig bod y sir ei hun yn rhan
allweddol o unrhyw gynllun adfer yn dilyn achos o lygredd. Mewn ymateb, nodwyd:- ·
Bod
yna gynllun drafft a arferai gael ei ddefnyddio ar gyfer Gwynedd flynyddoedd yn
ôl, a bod adolygu’r Cynllun Gweithredu’r Arfordir yn un o flaenoriaethau’r
Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng eleni. ·
Bod
y Gwasanaeth yn edrych ar yr ymarfer gorau ar draws Lloegr a Chymru gyda’r nod
o greu templed sy’n addas ar gyfer Gwynedd. Mynegwyd pryder bod patrwm yng Ngwynedd o
beidio glanhau cyrsiau dŵr nac o garthu o gwmpas pontydd, a nodwyd y
dymunid gweld pwysau yn cael ei roi ar Gyfoeth Naturiol Cymru i ymgymryd â
gwaith cynnal a chadw rheolaidd. Nodwyd
mai problem adnoddau oddi fewn i Gyfoeth Naturiol Cymru oedd hyn yn ei hanfod,
ond roedd yn hanfodol bod y gwaith yn cael ei gyflawni gan fod problemau
bychain yn mynd yn broblemau mawr, os nad oes lle i’r dŵr fynd. Mewn ymateb, nodwyd:- ·
Bod
yna gyfrifoldebau penodol yn perthyn i’r Adran Priffyrdd, Peirianneg ac
Ymgynghoriaeth Gwynedd yn y cyd-destun hwn. ·
Y
credid bod y Strategaeth Llifogydd, fydd yn cael ei gyflwyno yn yr Hydref, yn
rhoi llawer o bwyslais ar gydweithio â Chyfoeth Naturiol Cymru. Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd bod Sir
y Fflint yn cyfrannu llai na’u siâr yn ôl poblogaeth at y Gwasanaeth
Rhanbarthol oherwydd eu bod yn lletya’r cynllun. Nodwyd yr angen i gywiro’r cyfeiriadau at ‘Fforwm
Gwydnwch Gogledd Cymru’ a ‘Fforwm Cydnerth Gogledd Cymru’ yn
yr adroddiad i ddarllen ‘Fforwm Lleol Cymru Gydnerth y Gogledd’. Nodwyd mai un o’r risgiau sy’n cael ei
adnabod yn yr adroddiad yw’r Pandemig Cofid-19, a holwyd pa mor gydnerth oedd
ein paratoadau ar gyfer argyfwng o’r fath; pa mor effeithiol oedd ein hymateb
yng Ngwynedd ac ar draws y Gogledd, a pha gamau sy’n cael eu cymryd i ddysgu
o’r profiad ac i wella ein hymateb yn y dyfodol o ran cydnerthedd. Mewn ymateb, nodwyd:- ·
Mae’n
debyg ei bod yn wir i ddweud bod Gwynedd mor barod ar gyfer y pandemig ag
unrhyw sir arall, ac na fyddai neb wedi rhagweld y math o argyfwng a gododd yn
ystod y cyfnod hynny. · Bod yna gynllun rhanbarthol i ymateb i bandemig, a chynhaliwyd ymarfer rhanbarthol ychydig fisoedd cyn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
CANOL TREFI GWYNEDD PDF 403 KB Aelod Cabinet
– Y Cynghorydd Nia Jeffreys Ystyried
adroddiad ar yr uchod. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau, a chael diweddariad
ar y mater ymhen tua blwyddyn. Cofnod: Croesawyd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Economi, y Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned a’r
Rheolwr Rhaglenni Adfywio i’r cyfarfod. Cyflwynwyd adroddiad y Dirprwy Arweinydd ac
Aelod Cabinet Economi yn gwahodd y pwyllgor i ystyried y canlynol yng
nghyd-destun y ffaith mai elfen o’r prosiect “Adfywio cymunedau a chanol tref”
yng Nghynllun y Cyngor 2023-28 yw paratoi cynlluniau gweithredu Canol
Tref/Dinas ar gyfer trefi unigol:- ·
Y
trefniadau ar gyfer paratoi cynlluniau gweithredu ·
Pwy
sydd yn cael ei gynnwys wrth eu datblygu? ·
Sut
y bwriedir mesur effaith y cynlluniau gweithredu? Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun, ac
ymhelaethodd y Rheolwr Rhaglenni Adfywio ar gynnwys yr adroddiad. Yna rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn
cwestiynau a chynnig sylwadau. Gofynnwyd beth oedd y trefniadau ar gyfer
monitro bod yr holl gynlluniau aml-haenog a thrawsadrannol hyn yn gweithio’n
effeithiol ac yn amserol, a holwyd a oedd gan y Cyngor gapasiti digonol ar
gyfer ymgymryd â’r gwaith? Mewn ymateb,
nodwyd:- ·
Y
bu’r Cyngor yn gweithio drwy fforwm trawsadrannol dros y 2-3 blynedd ddiwethaf
yn dod â materion canol tref at ei gilydd, a dyna’r bwriad o ran y cynllun hwn,
fel bod yna fewnbwn a chynrychiolaeth gan wahanol adrannau. ·
Bod
yr hyn fyddai’n cael ei fonitro yn ddibynnol iawn ar gynlluniau gweithredu
unigol o fewn canol trefi, a chredid bod lle ymhob canol tref yng Ngwynedd i
naill ai ddatblygu neu ddiweddaru cynllun canol tref er mwyn adnabod y
blaenoriaethau, a monitro’r cynnydd yn erbyn y blaenoriaethau hynny. ·
Yn
ystod blwyddyn gyntaf y cynllun, y gwelwyd yr angen i gryfhau’r data a gedwir
ar gyfer ardaloedd canol trefi. Roedd
peth data hanesyddol ar gael, ond credid bod lle i osod data ychydig cryfach ar
gyfer trefi unigol, yn hytrach nag yn sirol, fel bod hynny’n fodd o fonitro’r
tueddiadau. Holwyd beth fyddai’n digwydd petai
cynlluniau’n llithro. Mewn ymateb,
nodwyd bod y ffrwd gwaith yma wedi’i adnabod fel un o flaenoriaethau Cynllun y
Cyngor ac y byddai’n rhan bwysig o drefniadau rheoli perfformiad yr Adran dros
y 5 mlynedd nesaf. Holwyd pa mor hyderus oeddem fod yna gyllid
digonol ar gael o’r rhaglen Trawsnewid Trefi i wireddu’r hyn y ceisir ei
gyflawni, sy’n eithaf uchelgeisiol? Mewn
ymateb, nodwyd:- ·
Ein
bod ym mlwyddyn 2 o’r rhaglen 3 blynedd Trawsnewid Trefi ar hyn o bryd, a
byddai’n rhaid cynllunio ymlaen ar y sail y bydd yna raglen adfywio ddilynol. ·
Bod
arian Llywodraeth Prydain, sef yr arian Ffyniant Bro a Ffyniant Cyffredin, wedi
profi i fod yn arian sylweddol uwch na’r hyn sydd gan y rhaglen Trawsnewid
Trefi i’w gynnig, ond y gwelwyd dros y 2 flynedd ddiwethaf o raglenni
Llywodraeth Prydain fod angen i gynlluniau fod bron yn barod i gychwyn er mwyn
bod yn gymwys am yr arian. ·
Bod
angen rhagbaratoi’r cynlluniau a cheisio rhagdybio beth sy’n mynd i ddigwydd o
ran rhaglenni presennol Llywodraeth Prydain, gan gymryd bod y ffocws yn mynd i
barhau ar ganol trefi. · Bod Gwynedd, ar y cyd â sefydliadau eraill, megis Hwb Caernarfon, wedi cychwyn gweithredu rhaglen Trefi Smart Llywodraeth Cymru ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
BLAENRAGLEN PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG AC ECONOMI 2023/24 PDF 579 KB Cyflwyno blaenraglen
ddrafft y Pwyllgor ar gyfer 2023/24 i’w mabwysiadu. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mabwysiadu rhaglen waith y pwyllgor ar gyfer 2023/24. Cofnod: Cyflwynwyd - blaenraglen y
pwyllgor ar gyfer 2023/24. Cytunwyd
i:- ·
Adnabod eitemau dros gyfnod o 18
mis, er mwyn hwyluso paratoi ar gyfer cyfarfodydd cyntaf 2024/25; ·
Rhaglennu diweddariad ar yr eitem Canol Trefi Gwynedd o
gwmpas yr adeg hon y flwyddyn nesaf; ·
Ychwanegu Anghenion Dysgu Ychwanegol
yn y prif lif ac ysgolion arbennig fel eitem bosib’ ar y flaenraglen. Gofynnwyd i’r Ymgynghorydd
Craffu drafod y flaenraglen gyda’r Cadeirydd a chyflwyno’r flaenraglen
ddiwygiedig i’r cyfarfod nesaf, neu cyn hynny drwy e-bost i’r aelodau. Yna
cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau mewn perthynas â threfniadau’r
cyfarfodydd:- Awgrymwyd bod y pwyllgor
hwn yn cael ei ddominyddu gan eitemau addysg, a holwyd a fyddai’n bosib’
sefydlu trefn o gael un cyfarfod i graffu materion addysg, a chyfarfod dilynol
i graffu materion mwy economaidd. Mewn
ymateb, nodwyd:- ·
Y ceisid lledaenu’r materion ar
draws y flwyddyn gyfan fel nad yw’r holl bwysau yn disgyn ar un adran ar gyfnod
penodol. ·
Y gellid rhoi’r eitemau economi yn
gyntaf ar y rhaglen, ond bod yr aelodau cyfetholedig yn mynychu ar gyfer yr
eitemau addysg yn benodol, er bod croeso iddynt aros drwy gydol y cyfarfod. Awgrymwyd
nad oedd presenoldeb yr aelodau cyfetholedig ar gyfer yr eitemau addysg yn unig
yn ddigon o reswm i roi’r eitemau economi / corfforaethol yn olaf ar y rhaglen
bob tro, a bod angen sefydlu trefn am-yn-ail, gan roi gwybod i’r aelodau
cyfetholedig pan mae’r drafodaeth ar y materion addysg ar fin cychwyn. Nododd aelod ei bod yn
cofio cais yn cael ei wneud i wahanu materion addysg ac economi, a bod hynny
wedi ei wneud yn dwt yn y blaenraglen, ond bod angen rhoi ystyriaeth i gael
cydbwysedd o ran trefn yr eitemau ar raglenni cyfarfodydd Pwyllgor. Ymhelaethodd y byddai’n well ganddi weld dau
bwyllgor craffu cwbl ar wahân, y naill ar gyfer craffu materion addysg, a’r
llall ar gyfer craffu materion economi / corfforaethol, oherwydd y llwyth
gwaith. Awgrymodd aelod arall y dylai
materion economi gael eu craffu gan y Pwyllgor Cymunedau gan fod yna lawer o
orgyffwrdd rhwng y ddau faes, a bod llwyth gwaith y pwyllgor hwnnw yn
ysgafnach. Mewn
ymateb i’r sylwadau, nodwyd:- ·
Yn sgil yr adolygiad o
effeithiolrwydd craffu yng Ngwynedd, a chyfweliadau gyda rhai aelodau, y
disgwylid adroddiad drafft gan Archwilio Cymru yn fuan. ·
Y rhoddwyd addewid adeg yr etholiad
llynedd, pan sefydlwyd y drefn bresennol o rannu cyfrifoldebau rhwng y 3
phwyllgor craffu, y byddai’r drefn honno’n cael ei hadolygu ymhen 18 mis. ·
Bod bwriad, felly, yn yr Hydref, i
adolygu’r drefn bresennol, ynghyd â’r hyn fydd yn cael ei argymell yn adroddiad
Archwilio Cymru, a byddai gan yr aelodau fewnbwn i unrhyw newidiadau fyddai’n
deillio o hynny. Nododd aelod nad oedd yn ymwybodol bod cyfle wedi bod i’r aelodau roi sylwadau i Archwilio Cymru, gan ddatgan y byddai’n falch petai cyfle eto i’r cynghorwyr roi sylwadau yn unigol. Mewn ymateb, nodwyd y bwriedid ymgynghori â’r craffwyr o ran yr adolygiad mewnol o’r drefn graffu, a byddai’r aelodau yn cael eu hysbysu o’r trefniadau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
CYFARFODYDD HERIO PERFFORMIAD CEFNOGAETH GORFFORAETHOL A CHYFREITHIOL PDF 200 KB Enwebu
cynrychiolydd i fynychu Cyfarfodydd Herio Perfformiad yr Adran Cefnogaeth
Gorfforaethol a’r Gwasanaeth Cyfreithiol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnod: Cyflwynwyd
– adroddiad yr Ymgynghorydd Craffu yn gwahodd y pwyllgor i enwebu cynrychiolydd
i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol a’r
Gwasanaeth Cyfreithiol, yn lle’r Cynghorydd Paul Rowlinson, oedd bellach wedi’i
enwebu i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad yr Adran Gyllid. PENDERFYNWYD enwebu’r
Cynghorydd Cai Larsen i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad yr Adran
Cefnogaeth Gorfforaethol a’r Gwasanaeth Cyfreithiol. |