Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am
absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorwyr Sasha Williams a Dyfrig Siencyn
(Arweinydd y Cyngor). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o
fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd Manon Williams (Cynrychiolydd
Rhieni / Llywodraethwyr Arfon) fuddiant personol yn eitem 7 oherwydd bod ganddi
blant sy’n mynychu ysgol gynradd yng Ngwynedd ac yn elwa o ginio ysgol am ddim. Nid
oedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu, ac ni adawodd y cyfarfod
yn ystod y drafodaeth. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys
ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 25 Ionawr, 2024 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2024 fel rhai cywir. |
|
CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - ADRODDIAD PERFFORMIAD CHWARTER 3 - 2023-24 PDF 153 KB Aelod Cabinet
– Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn Ystyried
adroddiad ar yr uchod. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau, a derbyn fod mesurau
lliniaru mewn lle i ymateb i’r risgiau. Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad
yr Arweinydd yn cyflwyno adroddiad Chwarter 3 y Cynllun Twf a Chofrestr Risg y
Portffolio ac yn gwahodd y pwyllgor i graffu perfformiad Uchelgais Gogledd
Cymru yn gweithredu’r Cynllun Twf ac i dderbyn bod mesurau lliniaru mewn lle i
ymateb i’r risgiau. Wedi i’r Pennaeth
Cynorthwyol Economi a Chymuned ddweud gair ar y cychwyn, rhoddodd yr Uwch
Swyddog Gweithredol gyflwyniad byr yn gosod y cyd-destun ac yn crynhoi’r
wybodaeth a gyflwynwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig. Eglurodd, gan ein bod yn agosáu at ddiwedd y
flwyddyn ariannol, fod yr adroddiad yn edrych yn ehangach na Chwarter 3, gan
edrych yn ôl ar y cynnydd dros y flwyddyn ddiwethaf, a hefyd edrych ymlaen at y
flwyddyn i ddod. Yna rhoddodd y Rheolwr Rhaglen
Ynni Carbon Isel drosolwg o’r Rhaglen Ynni. Ymddiheurodd yr
Uwch Swyddog Gweithredol na allai Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio
Uchelgais Gogledd Cymru fod yn bresennol yn y cyfarfod. Yna rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn
cwestiynau a chynnig sylwadau. Holwyd faint o’r
4,200 o swyddi ychwanegol y cyfeiriwyd atynt yn y cyflwyniad fydd yn dod i
Wynedd. Mewn ymateb, eglurwyd bod y
4,200 o swyddi ar draws yr holl brosiectau a rhaglenni. Nid oedd yr ateb wrth law, ond gellid
darparu’r ffigurau ar gyfer yr aelodau. Pwysleisiwyd mai nifer y swyddi i Wynedd, ac
o bosib’ Conwy ac Ynys Môn, sydd o ddiddordeb i aelodau’r pwyllgor hwn. Nodwyd bod Ward Peblig, Caernarfon ymysg y
10% tlotaf yng Nghymru a bod adroddiad diweddar Sefydliad Bevan ar Dlodi yn
Arfon yn nodi bod angen mwy o swyddi sy’n talu’n dda yn yr ardal er mwyn mynd
ati i daclo tlodi. Holwyd a oedd yna
obaith gwirioneddol bod unrhyw gynlluniau am ddod i safle Parc Bryn Cegin,
Bangor, yn enwedig gyda dyfodiad y Porthladd Rhydd i Fôn a sefydlu’r Parth
Buddsoddi Economaidd newydd yn y Dwyrain.
Nodwyd bod Môn yn gallu cynnig llawer mwy o gymhellion i fusnesau nag y
gallwn ni yng Ngwynedd eu cynnig, a holwyd sut y gallwn ninnau sicrhau
buddsoddiad yn y rhan yma o Gymru. Mewn ymateb,
nodwyd:- ·
Bod swyddogion Uchelgais Gogledd Cymru yn gweithio’n
agos iawn gyda Chyngor Ynys Môn o fewn y bartneriaeth, a bod yna berthynas
waith rhwng Arweinyddion y ddau gyngor sir drwy’r Bwrdd Uchelgais. Nodwyd fod Tîm Uchelgais Gogledd Cymru yn
derbyn diweddariadau gan Gyngor Sir Ynys Môn ar y Porthladd Rhydd. ·
Bod
Uchelgais Gogledd Cymru bellach wedi ymrwymo i Gytundeb Cyd-fenter gyda
Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflawni prosiect Parc Bryn Cegin a bod Llywodraeth
Cymru wedi penodi tîm ymgynghori i fynd â’r prosiect drwy’r cam caniatâd
cynllunio. Roedd gwaith yn mynd rhagddo
ar y costau lefel uchel ac o ddiwygio’r cynllun ar gyfer y llain a’r prif
gynllun, a chredid y byddai drafft terfynol o’r achos busnes amlinellol ar gael
erbyn mis Mai. · Bod rhaid i brosiectau’r Cynllun Twf gynnwys cynllun buddion cadarn sy’n dangos sut mae’r prosiect yn mynd i greu swyddi yn lleol a ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
ADRODDIAD CYNNYDD AR ARGYMHELLION YMCHWILIAD CRAFFU YSGOLION UWCHRADD CATEGORI 3 GWYNEDD PDF 288 KB Aelod Cabinet
– Y Cynghorydd Beca Brown Ystyried
adroddiad ar yr uchod. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gofyn i’r Adran
Addysg ddarparu data cyfrwng iaith darpariaeth yn yr ysgolion uwchradd i
aelodau’r pwyllgor. Cofnod: Croesawyd yr Aelod Cabinet Addysg a
swyddogion yr Adran Addysg i’r cyfarfod. Cyflwynwyd –
adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg yn manylu ar y camau gweithredu mewn ymateb i
argymhellion adroddiad Ymchwiliad Craffu Ysgolion Uwchradd Categori 3. Gosododd yr Aelod
Cabinet y cyd-destun gan nodi:- ·
Y dymunai ddiolch i aelodau’r Ymchwiliad am eu
gwaith ar yr adroddiad ac am ddod â’r argymhellion gerbron. ·
Y comisiynwyd Meirion Prys Jones i gydweithio gyda’r
Adran i ail-edrych ar Bolisi Iaith Gwynedd ac y byddai newidiadau cenedlaethol
yn gyrru yn y maes yma hefyd, megis yr ymdrech tuag at filiwn o siaradwyr, y
cwricwlwm newydd, y drefn gategoreiddio newydd, a p’un ai fydd honno yn dod yn
statudol ai peidio, a hefyd Bil y Gymraeg, sydd eto i gwblhau ei thaith drwy’r
Senedd. ·
Bod ganddi bob ffydd ym Meirion Prys Jones ac yn ei
awydd i gynnull ystod eang o randdeiliaid i fwydo i
mewn i’r gwaith, ac y dymunai weld y craffwyr yn rhoi
eu syniadau hwythau yn y pair pan ddaw cyfle. ·
Bod yna waith pwysig i’w wneud o amgylch
dwyieithrwydd, dysgu dwyieithog a’n disgwyliadau ni o’r dysgu hwnnw yng
Ngwynedd. Byddai hynny, yn ei dro, yn
gwneud ein safbwynt ni, fel sir, yn glir iawn i rieni, ac yn cyfarch,
gobeithio, yr hyn a nodir yn Argymhelliad 5. ·
Bod yna lawer o gydweithio da wedi bod gyda Menter
Iaith Gwynedd, Say Something
in Welsh, y Coleg Cymraeg ac unigolion fel Anni Llŷn a Tara Bandito i
greu digwyddiadau cymunedol ac mewn ysgolion. ·
Bod cynnydd mewn dau faes penodol wedi bod yn anodd
am y tro, sef yr argymhellion sy’n ymdrin yn benodol â GwE, oherwydd bod y
dirwedd cefnogi ysgolion yn cael ei hail-ddychmygu, a’r ysgolion trosiannol,
oherwydd y sefyllfa ddigynsail a heriol sydd wedi bod, ac sy’n parhau, mewn un
ysgol drosiannol. Diolchodd
Cadeirydd yr Ymchwiliad, y Cynghorydd Paul Rowlinson, i’r Aelod Cabinet am ei hymateb
i bob un o argymhellion yr Ymchwiliad, gan nodi rhai sylwadau, fel a ganlyn:- Argymhelliad 1 – Ei bod yn
bwysig bod y data cyfrwng iaith ysgolion yn cael ei gysoni a’i wirio pan fydd
yr Adran mewn sefyllfa i wneud hynny gan fod yna ansicrwydd ar hyn o bryd a
ydyw’n cael ei gasglu ar sail gyson rhwng y gwahanol ysgolion. Argymhelliad 2 – Ei bod yn
bwysig iawn gweithredu ar yr argymhelliad hwn pan fydd y Polisi Iaith Addysg
newydd ar waith ac edrychir ymlaen at weld ffrwyth gwaith Meirion Prys Jones ar
hyn. Gŵyr pawb mai Gwynedd yw’r sir
fwyaf blaenllaw o ran addysg Gymraeg, ond gan fod yna wastad beryg’ o fod yn
hunan-foddhaus ac o lithro’n ôl, mae’n bwysig bod hyn yn cael ei roi ar waith. Argymhelliad 3 – Y dymunid
diolch i’r Adran am ysgrifennu at CBAC a holwyd a dderbyniwyd unrhyw ymateb i’r
llythyr hyd yma. Argymhelliad 4 – Mai hwn yw’r
argymhelliad allweddol, a diolchwyd i’r Adran am gomisiynu Meirion Prys Jones i
gydweithio â hwy. Argymhelliad 5 – Y derbynnid bod rhaid dilyn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
PRYDAU YSGOL AM DDIM PDF 253 KB Aelod Cabinet
– Y Cynghorydd Beca Brown Ystyried
adroddiad ar yr uchod. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau. Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad
cynnydd yr Aelod Cabinet Addysg ar y prosiect prydau ysgol am ddim yn sgil
ymestyn y cynllun ar draws y sector cynradd. Gosododd yr Aelod
Cabinet y cyd-destun ac yna rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Nodwyd y dymunid diolch i Lywodraeth Cymru
am ddod â’r prosiect hwn i fodolaeth, drwy gytundeb â Phlaid Cymru, a
llongyfarchwyd Cyngor Gwynedd ar ddosbarthu’r cynllun mor gyflym i bob ysgol
yng Ngwynedd. Diolchwyd hefyd i’r
Gwasanaeth am y gwaith o addasu / uwchraddio ceginau’r ysgolion, ac yn arbennig
i holl staff y ceginau a’r cogyddion am eu gwaith caled. Nodwyd nad oedd ysgogiad i rieni plant sy’n
gymwys ar gyfer cinio ysgol am ddim gyflwyno cais i’r Awdurdod gan fod y cinio
ysgol bellach ar gael am ddim i bob plentyn beth bynnag, ac felly bod yr ysgol
neu’r sir yn colli allan yn ariannol.
Mewn ymateb, nodwyd:- ·
Bod
y pwynt yn un dilys, ond bod y cais gan rieni yn gais am fudd-daliadau yn
gyffredinol, yn cynnwys grant gwisg ysgol, adnoddau, ayyb, yn hytrach nag yn
gais am ginio ysgol yn unig. ·
O
ran y ffordd mae’r Awdurdod yn cael ei ariannu, bod yr ysgolion yn derbyn swm o
arian y pen ar gyfer dysgwyr sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim. ·
Bod
yr arolwg yr haf diwethaf wedi amlygu mai Gwynedd yw’r sir gyda’r lefel isaf o
blant yn cymhwyso am y budd-daliadau hyn. ·
Bod
Tîm o fewn yr Adran yn cysylltu â theuluoedd i sicrhau bod pawb sy’n gymwys i
gael eu cofrestru am ginio am ddim yn gwneud hynny. ·
Nad
oedd rhai rhieni yn ymwybodol o’r hawl i ginio am ddim, ond roedd mwy a mwy o
bobl yn dechrau dod i wybod amdano erbyn hyn. Nodwyd ei bod yn
bwysig pwysleisio wrth rieni bod cyflwyno cais am ginio am ddim yn agor y drws
i fanteision eraill heblaw hynny. Nodwyd ei bod yn
galonogol gweld o’r adroddiad bod rhai penaethiaid o’r farn bod ymddygiad,
ymroddiad a chyflawniad disgyblion wedi gwella yn y prynhawniau o ganlyniad i
dderbyn cinio ysgol. O ran yr her o
recriwtio staff i’r Gwasanaeth Arlwyo, holwyd a oedd y cynllun i becynnu
swyddi, er enghraifft, gweithio mewn cegin ysgol dros amser cinio a rhoi gofal
yn y pnawn, wedi dwyn ffrwyth o gwbl.
Mewn ymateb, nodwyd:- ·
Bod recriwtio’n gymhleth gan fod meysydd fel Addysg
a Gofal yn ceisio denu staff o’r un pwll o bobl. ·
Bod y posibilrwydd o greu cynllun bwriadus i becynnu
swyddi yn isel iawn yn y sefyllfa anodd sydd ohoni, ond bod elfen o hynny yn
digwydd eisoes wrth i bobl ddewis gweithio mewn mwy nag un swydd er mwyn
cynyddu eu horiau. Er hynny, roedd yn dod
yn fwy anodd dod o hyd i bobl sy’n fodlon teithio o un sefyllfa waith i’r
llall, a hynny o bosib’ heb gar. Holwyd a fwriedid dwyn pwysau gwleidyddol ar Lywodraeth Cymru i ymestyn y prosiect prydau ysgol am ddim i’r sector uwchradd. Mewn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |