Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Jasmine Jones 01286 679667
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Gwilym Iwan Huws a Gwilym Jones (NASUWT). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Eitem 5 • Datganodd y
Cynghorydd Dawn Lynne Jones fuddiant personol am ei bod yn ymwneud â Chlwb Pobl
Ifanc Porthi Dre. Nid oedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu, ac ni
adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth. Eitem 6 •
Datganodd y Cynghorydd Gwynfor Owen fuddiant personol
oherwydd ei fod yn llywodraethwr yn Ysgol Hafod Lon. •
Datganodd y Cynghorydd Dawn Lynne Jones fuddiant personol
oherwydd bod ganddi wyrion sy’n mynychu Ysgol Pendalar, ac oherwydd natur ei
swydd yn cefnogi pobl ifanc gyda CDU. Nid oedd yr aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau sy’n rhagfarnu, ac ni
adawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth. •
Datganodd Bethan Adams (Ymgynghorydd Craffu) fuddiant
personol oherwydd bod ganddi nai yn mynychu ysgol prif lif yng Ngwynedd sy’n
derbyn darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol. Roedd y swyddog o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu a gadawodd y
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem. Eitem 7 •
Datganodd Gweno Glyn Williams
(Cynrychiolydd Rhieni / Llywodraethwyr Dwyfor) fuddiant personol oherwydd bod
ganddi berthynas agos â chydawdur y polisi drafft. •
Datganodd Colette Owen (Yr Eglwys Gatholig) fuddiant
personol oherwydd ei bod yn gynghorydd addysg i Esgobaeth Wrecsam. Nid oedd yr aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau sy’n rhagfarnu, ac ni
adawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor a gynhaliwyd ar 13/02/25 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 13 Chwefror, 2025 fel rhai cywir. |
|
GWASANAETH IEUENCTID I roi arweiniad ar
gyfeiriad gwaith y
Gwasanaeth Ieuenctid yn y dyfodol i drafod os ydyw dal yn cyfarch anghenion
pobl ifanc Gwynedd ac yn cyflawni ei hamcanion yn dilyn yr ailstrwythuro yn
2018. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD
-
Bod angen sicrhau cysondeb darpariaeth ar draws y Sir. -
Adnabod ffyrdd o ymgysylltu’n ehangach gyda phobl ifanc
ac yn arbennig grwpiau penodol o bobl ifanc. -
Bod angen ymgysylltu â Chynghorau Tref a Chymuned
gyda’r bwriad i gynyddu’r nifer o glybiau cymunedol. -
Bod angen parhau i weithio gyda phartneriaid i
sicrhau’r ddarpariaeth orau, er enghraifft yr Urdd, Ffermwyr Ifanc.
Cofnod: Cyflwynodd
yr Aelod Cabinet Addysg yr adroddiad gan nodi bod y Gwasanaeth Ieuenctid wedi
bod ar daith sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, gyda’r ddarpariaeth wedi’i
hailfodelu’n sylweddol yn 2018. Eglurwyd bod argyfwng COVID wedi cael effaith
sylweddol ar anghenion pobl ifanc ac wedi cael dylanwad amlwg ar y gwasanaeth,
fel pob gwasanaeth arall. Mynegwyd balchder bod y gwasanaeth yn derbyn y sylw
priodol gan y Pwyllgor yma. Pwysleisiwyd rôl allweddol y Gwasanaeth Ieuenctid
yng ngwaith cefnogi pobl ifanc Gwynedd. Mynegwyd
barn nad ydynt yn manteisio digon ar y gwaith mae’r gwasanaeth ieuenctid yn ei
wneud, nac ar yr effaith a’r ardrawiad cadarnhaol y gall gwaith ieuenctid ei
gael ar fywydau pobl ifanc. Cyfeiriwyd at Gynhadledd Gwaith Ieuenctid Cymru yng
Nghaerdydd, lle roedd gan Wasanaeth Ieuenctid Gwynedd bresenoldeb amlwg, a
chafwyd cyfle i rannu arferion da. Nodwyd bod nosweithiau gwobrwyo wedi’u
cynnal gan y gwasanaeth ym Mangor i gydnabod llwyddiannau pobl ifanc ar draws y
sir. Mynegwyd
bod pobl ifanc Gwynedd yn arbennig, er gwaethaf y bai a roddir arnynt yn aml.
Pwysleisiwyd nad yw'r heriau a wynebir gan rai pobl ifanc yn adlewyrchiad o
fethiant, ond yn dangos yr angen am gymorth, ac mai dyma’r flaenoriaeth i’r
Adran Addysg. Tynnwyd
sylw at bwysigrwydd clywed lleisiau pobl ifanc ac eglurwyd bod y Gwasanaeth
Ieuenctid yn ymgynghori'n helaeth â nhw. Nodwyd bod sefydlu Fforwm Ieuenctid
Gwynedd yn gam cadarnhaol, gyda swyddog penodol yn arwain ar y gwaith i sicrhau
bod lleisiau pobl ifanc yn rhan o waith ehangach y Cyngor. Cyfeiriwyd at Atodiad 2
i’r adroddiad ‘Canfyddiadau Holiadur Pobl Ifanc 2025’. Nodwyd bod 25% o bobl
ifanc yn anghyfarwydd â'r gwasanaeth, gan amlygu’r angen am fwy o waith codi
ymwybyddiaeth. Amlygwyd bod y prif resymau dros gymryd rhan yn y gwasanaethau
ieuenctid yn cynnwys cael mwynhau a threulio amser gyda ffrindiau. Nodwyd bod
dim ond 17% yn nodi diffyg diddordeb fel rheswm dros beidio cymryd rhan, sy’n
awgrymu awydd clir gan bobl ifanc i ymgysylltu. Eglurwyd
bod 75% o'r bobl ifanc a holwyd yn teimlo bod gan y gwasanaeth rôl bwysig yn y
gymuned, a chyfran debyg yn gweld rôl i’r gwasanaeth mewn ysgolion. Nodwyd nad
yw’n glir a ddylai’r gwasanaeth fod yn gymunedol yn unig neu hefyd yn rhan o’r
ddarpariaeth ysgolion, ond bod y data'n dangos awydd i’w gael yn y ddau le. Yn
ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- Holwyd
sut y gellid sicrhau bod y Gwasanaeth Ieuenctid yn weladwy yn y gymuned yn
ogystal ag yn yr ysgol, gan ofyn sut y gellid estyn allan yn fwy effeithiol at
bobl ifanc yn y gymuned er mwyn sicrhau bod lleisiau pawb yn cael eu clywed.
Mynegwyd pryder mai canran gymharol fach o bobl ifanc oedd wedi ymateb i’r
holiadur, gan godi’r cwestiwn ynghylch sut y gellid cyrraedd y gweddill. Mewn
ymateb, nodwyd: ·
Bod dymuniad i weld cyfran uwch o bobl ifanc yn ymateb i’r holiadur, er
mwyn adlewyrchu barn gynrychioliadol ar draws y sir. · Bod y gwaith penodol sy’n digwydd ar hyn o bryd o ran ymgysylltu ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL YN Y PRIF LIF AC YSGOLION ARBENNIG I graffu’r ddarpariaeth addysg Anghenion Dysgu Ychwanegol ac i sicrhau mewnbwn
a dealltwriaeth y Pwyllgor Craffu o’r cynnydd
a wnaed i sicrhau bod Gwynedd yn barod ar gyfer
y Ddeddf ADY a Chynhwysiad newydd. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad
gan yr Aelod Cabinet Addysg wrth nodi ei fod wedi’i lunio yn dilyn cais gan y
Pwyllgor Addysg ac Economi i dderbyn diweddariad ar faterion sy’n ymwneud ag
Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) mewn ysgolion prif lif ac ysgolion arbennig.
Eglurwyd bod yr adroddiad yn amlinellu’r anawsterau sy’n wynebu ysgolion yng
Ngwynedd o ganlyniad i newid yn y galw am wasanaeth, yr hinsawdd ariannol
bresennol ac effaith toriadau. Mynegwyd
bod y sefyllfa’n anodd, ond bod cyfleoedd i’r adran wella, ac awydd glir i
wneud y gorau dros blant a phobl ifanc y sir. Pwysleisiwyd bod y maes hwn yn
peri pryder i rai o’r aelodau ac yn faes dyrys sy’n haeddu sylw. Tynnwyd
sylw at effaith flynyddoedd o lymder ac arbedion ariannol ar allu’r Cyngor i
ddarparu gwasanaethau effeithiol, gan bwysleisio bod yr effaith honno’n
cyrraedd pob cornel o’r gymuned. Mynegwyd parodrwydd i wrando, trafod ac
ystyried beth y gellid ei wneud yn wahanol yn y dyfodol er mwyn cefnogi plant,
pobl ifanc a’u teuluoedd yn well. Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- Holwyd
pwy sydd yn gyfrifol am bennu’r meini prawf mynediad i ysgolion arbennig. Mewn
ymateb, eglurwyd mai cyfrifoldeb yr awdurdod ydy sicrhau lleoliad plentyn mewn
ysgol arbennig, gan nodi bod disgrifiadau o’r anghenion a ddisgwylir mewn
ysgolion arbennig wedi’u diffinio, a bod ceisiadau’n cael eu hasesu yn erbyn y
rhain. Pwysleisiwyd bod y penderfyniad terfynol bob amser gyda’r awdurdod. Holwyd ymhellach pa
ganllawiau a meini prawf a ddefnyddiwyd wrth bennu’r disgwyliadau hyn. Mewn
ymateb, eglurwyd bod y meini prawf yn gysylltiedig â’r cwricwlwm a’r
ddarpariaeth sydd ei hangen ar y plentyn. Nodwyd bod y Ddeddf ADY yn
pwysleisio'r angen i ystyried addysg brif lif yn gyntaf, cyn troi at
ddarpariaeth mewn ysgolion arbennig os nad yw anghenion y plentyn yn cael eu
diwallu yn y brif lif. Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch adolygu’r meini prawf,
nodwyd: · Bod adolygiadau wedi’u
cynnal yn 2017 ac eto yn 2020. · Bod gwaith yn parhau ar
ddogfen sy’n crynhoi’r meini prawf mewn ffordd symlach, gyda bwriad i'w rannu
gyda’r ysgolion arbennig yn fuan. · Bod categorïau anghenion ar
ffurf ‘bandiau’ wedi’u sefydlu, o fand un (anghenion mwyaf dwys) i fand pedwar,
a bod yr asesiadau’n digwydd yn unol â’r bandiau hyn. · Bod y drafodaeth bellach yn
canolbwyntio ar egluro’r meini prawf i rieni ac ysgolion a diffinio’r
dystiolaeth sy’n cael ei defnyddio i asesu’r bandiau. Holwyd pwy sydd yn
ymwneud â llunio’r meini prawf. Mewn ymateb, nodwyd bod y panel yn cynnwys
gwasanaethau ADY yr awdurdod, seicolegwyr addysgol, athrawon arbenigol o dimau
amrywiol a phenaethiaid yr ysgolion arbennig. Cadarnhawyd nad yw unrhyw
asiantaeth allanol ar hyn o bryd yn rhan o’r broses, ond bod trafodaethau’n
digwydd gyda’r bwrdd rhanbarthol, a bod y gobaith y byddai penaethiaid ysgolion
prif lif yn rhan o’r panel wrth symud ymlaen. Nodwyd nad oedd y bwrdd iechyd yn
aelod o’r panel cymedroli, ond bod trafodaethau gyda’r bwrdd iechyd wedi
dechrau gan ei fod yn arfer a welir mewn siroedd eraill. Cyfeiriwyd at gynnydd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
POLISI IAITH ADDYSG I gyflwyno drafft o’r polisi diwygiedig. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad
gan yr Aelod Cabinet Addysg wrth bwysleisio mai polisi drafft yw’r ddogfen a
bod hyn yn nodi dechrau’r daith o’i datblygu. Nodwyd bod y polisi presennol
wedi bod yn ei le ers 1984, ac mai tystiolaeth o’i lwyddiant yw’r ffaith ei fod
wedi goroesi am gyfnod mor hir. Eglurwyd bod y ddogfen newydd yn cynrychioli
esblygiad y polisi presennol, gan adeiladu ar lwyddiannau’r gorffennol i greu
polisi sy’n addas ar gyfer anghenion Gwynedd heddiw. Nodwyd ei fod yn amser
erbyn hyn i adolygu’r polisi a chynnig newidiadau, gyda’r bwriad o gryfhau
sefyllfa’r Gymraeg ymhellach. Mynegwyd
barn fod y model newydd yn mynd i gryfhau’r Gymraeg a’i wneud yn fwy amlwg o
fewn ein hysgolion. Nodwyd bod hynny hefyd yn gosod her i’r ysgolion ond bod y
adran addysg yn barod i gefnogi’r ysgolion i wireddu’r uchelgais hwn. Eglurwyd
nad oedd unrhyw fwriad i ddibrisio pwysigrwydd y Saesneg, ond yn hytrach i
sicrhau bod gan y disgyblion sgiliau cadarn yn y ddwy iaith, a’u bod yn gadael
yr ysgol yn gwbl ddwyieithog. Tynnwyd sylw at y ffaith mai dyna sydd ei angen
i’r dyfodol: unigolion sy’n gallu byw a gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg a’r
Saesneg. Yn ystod y drafodaeth,
cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- Mynegwyd
y farn mai’r polisi iaith drafft yw’r ddogfen bwysicaf i ddyfodol y Gymraeg yng
Ngwynedd, gan ddisgrifio’r effaith y gallai’r polisi hwn ei chael fel un
ddigynsail ar blant y sir a’r gymuned ehangach. Canmolwyd y polisi am ei
eglurder a’i fod yn gryno, gan nodi fod y fersiwn flaenorol yn rhy hir ac
agored i gamddehongli. Mynegwyd pryderon, fodd bynnag, ynghylch nifer o
elfennau:
Pwysleisiwyd
bod angen egluro sut mae'r Saesneg yn cael ei ddysgu’n drawsgwricwlaidd a phwy
sy’n penderfynu hynny, gan fynegi pryder y gallai hyn danseilio’r defnydd cyson
o’r Gymraeg. Mynegwyd y dylai’r polisi egluro'n benodol pwy sy’n penderfynu ar
gynnwys y ddarpariaeth honno. Nodwyd hefyd nad yw'r polisi yn nodi'n glir sut y
rhennir amser dysgu rhwng y Gymraeg a'r Saesneg. Mynegwyd siom nad oedd y polisi yn anelu am Gategori 3P Llywodraeth Cymru, gan fod sawl ysgol yn y sir eisoes yn cyrraedd gofynion y categori yma. Cwestiynwyd a yw'r ffaith bod y polisi ond yn anelu at Gategori 3 yn cyfleu neges ynghylch ysgolion sy'n cyrraedd y Categori 3P, megis awgrymu eu ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |