Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorwyr Sasha Williams a Dyfrig Siencyn (Arweinydd y Cyngor).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd Manon Williams (Cynrychiolydd Rhieni / Llywodraethwyr Arfon) fuddiant personol yn eitem 7 oherwydd bod ganddi blant sy’n mynychu ysgol gynradd yng Ngwynedd ac yn elwa o ginio ysgol am ddim.

 

Nid oedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu, ac ni adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 271 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 25 Ionawr, 2024 fel rhai cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2024 fel rhai cywir.

 

5.

CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - ADRODDIAD PERFFORMIAD CHWARTER 3 - 2023-24 pdf eicon PDF 153 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau, a derbyn fod mesurau lliniaru mewn lle i ymateb i’r risgiau.

 

Cofnod:

Croesawyd y Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned a swyddogion Uchelgais Gogledd Cymru i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd – adroddiad yr Arweinydd yn cyflwyno adroddiad Chwarter 3 y Cynllun Twf a Chofrestr Risg y Portffolio ac yn gwahodd y pwyllgor i graffu perfformiad Uchelgais Gogledd Cymru yn gweithredu’r Cynllun Twf ac i dderbyn bod mesurau lliniaru mewn lle i ymateb i’r risgiau.

 

Wedi i’r Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned ddweud gair ar y cychwyn, rhoddodd yr Uwch Swyddog Gweithredol gyflwyniad byr yn gosod y cyd-destun ac yn crynhoi’r wybodaeth a gyflwynwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.  Eglurodd, gan ein bod yn agosáu at ddiwedd y flwyddyn ariannol, fod yr adroddiad yn edrych yn ehangach na Chwarter 3, gan edrych yn ôl ar y cynnydd dros y flwyddyn ddiwethaf, a hefyd edrych ymlaen at y flwyddyn i ddod.  Yna rhoddodd y Rheolwr Rhaglen Ynni Carbon Isel drosolwg o’r Rhaglen Ynni.

 

Ymddiheurodd yr Uwch Swyddog Gweithredol na allai Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio Uchelgais Gogledd Cymru fod yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Yna rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Holwyd faint o’r 4,200 o swyddi ychwanegol y cyfeiriwyd atynt yn y cyflwyniad fydd yn dod i Wynedd.  Mewn ymateb, eglurwyd bod y 4,200 o swyddi ar draws yr holl brosiectau a rhaglenni.  Nid oedd yr ateb wrth law, ond gellid darparu’r ffigurau ar gyfer yr aelodau.

 

Pwysleisiwyd mai nifer y swyddi i Wynedd, ac o bosib’ Conwy ac Ynys Môn, sydd o ddiddordeb i aelodau’r pwyllgor hwn.  Nodwyd bod Ward Peblig, Caernarfon ymysg y 10% tlotaf yng Nghymru a bod adroddiad diweddar Sefydliad Bevan ar Dlodi yn Arfon yn nodi bod angen mwy o swyddi sy’n talu’n dda yn yr ardal er mwyn mynd ati i daclo tlodi.  Holwyd a oedd yna obaith gwirioneddol bod unrhyw gynlluniau am ddod i safle Parc Bryn Cegin, Bangor, yn enwedig gyda dyfodiad y Porthladd Rhydd i Fôn a sefydlu’r Parth Buddsoddi Economaidd newydd yn y Dwyrain.  Nodwyd bod Môn yn gallu cynnig llawer mwy o gymhellion i fusnesau nag y gallwn ni yng Ngwynedd eu cynnig, a holwyd sut y gallwn ninnau sicrhau buddsoddiad yn y rhan yma o Gymru.

 

Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod swyddogion Uchelgais Gogledd Cymru yn gweithio’n agos iawn gyda Chyngor Ynys Môn o fewn y bartneriaeth, a bod yna berthynas waith rhwng Arweinyddion y ddau gyngor sir drwy’r Bwrdd Uchelgais.  Nodwyd fod Tîm Uchelgais Gogledd Cymru yn derbyn diweddariadau gan Gyngor Sir Ynys Môn ar y Porthladd Rhydd.

·         Bod Uchelgais Gogledd Cymru bellach wedi ymrwymo i Gytundeb Cyd-fenter gyda Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflawni prosiect Parc Bryn Cegin a bod Llywodraeth Cymru wedi penodi tîm ymgynghori i fynd â’r prosiect drwy’r cam caniatâd cynllunio.  Roedd gwaith yn mynd rhagddo ar y costau lefel uchel ac o ddiwygio’r cynllun ar gyfer y llain a’r prif gynllun, a chredid y byddai drafft terfynol o’r achos busnes amlinellol ar gael erbyn mis Mai.

·         Bod rhaid i brosiectau’r Cynllun Twf gynnwys cynllun buddion cadarn sy’n dangos sut mae’r prosiect yn mynd i greu swyddi yn lleol a  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

ADRODDIAD CYNNYDD AR ARGYMHELLION YMCHWILIAD CRAFFU YSGOLION UWCHRADD CATEGORI 3 GWYNEDD pdf eicon PDF 288 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Beca Brown

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gofyn i’r Adran Addysg ddarparu data cyfrwng iaith darpariaeth yn yr ysgolion uwchradd i aelodau’r pwyllgor.

 

Cofnod:

Croesawyd yr Aelod Cabinet Addysg a swyddogion yr Adran Addysg i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg yn manylu ar y camau gweithredu mewn ymateb i argymhellion adroddiad Ymchwiliad Craffu Ysgolion Uwchradd Categori 3.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun gan nodi:-

·         Y dymunai ddiolch i aelodau’r Ymchwiliad am eu gwaith ar yr adroddiad ac am ddod â’r argymhellion gerbron.

·         Y comisiynwyd Meirion Prys Jones i gydweithio gyda’r Adran i ail-edrych ar Bolisi Iaith Gwynedd ac y byddai newidiadau cenedlaethol yn gyrru yn y maes yma hefyd, megis yr ymdrech tuag at filiwn o siaradwyr, y cwricwlwm newydd, y drefn gategoreiddio newydd, a p’un ai fydd honno yn dod yn statudol ai peidio, a hefyd Bil y Gymraeg, sydd eto i gwblhau ei thaith drwy’r Senedd.

·         Bod ganddi bob ffydd ym Meirion Prys Jones ac yn ei awydd i gynnull ystod eang o randdeiliaid i fwydo i mewn i’r gwaith, ac y dymunai weld y craffwyr yn rhoi eu syniadau hwythau yn y pair pan ddaw cyfle.

·         Bod yna waith pwysig i’w wneud o amgylch dwyieithrwydd, dysgu dwyieithog a’n disgwyliadau ni o’r dysgu hwnnw yng Ngwynedd.  Byddai hynny, yn ei dro, yn gwneud ein safbwynt ni, fel sir, yn glir iawn i rieni, ac yn cyfarch, gobeithio, yr hyn a nodir yn Argymhelliad 5.

·         Bod yna lawer o gydweithio da wedi bod gyda Menter Iaith Gwynedd, Say Something in Welsh, y Coleg Cymraeg ac unigolion fel Anni Llŷn a Tara Bandito i greu digwyddiadau cymunedol ac mewn ysgolion.

·         Bod cynnydd mewn dau faes penodol wedi bod yn anodd am y tro, sef yr argymhellion sy’n ymdrin yn benodol â GwE, oherwydd bod y dirwedd cefnogi ysgolion yn cael ei hail-ddychmygu, a’r ysgolion trosiannol, oherwydd y sefyllfa ddigynsail a heriol sydd wedi bod, ac sy’n parhau, mewn un ysgol drosiannol.

 

Diolchodd Cadeirydd yr Ymchwiliad, y Cynghorydd Paul Rowlinson, i’r Aelod Cabinet am ei hymateb i bob un o argymhellion yr Ymchwiliad, gan nodi rhai sylwadau, fel a ganlyn:-

 

Argymhelliad 1 – Ei bod yn bwysig bod y data cyfrwng iaith ysgolion yn cael ei gysoni a’i wirio pan fydd yr Adran mewn sefyllfa i wneud hynny gan fod yna ansicrwydd ar hyn o bryd a ydyw’n cael ei gasglu ar sail gyson rhwng y gwahanol ysgolion.

 

Argymhelliad 2 – Ei bod yn bwysig iawn gweithredu ar yr argymhelliad hwn pan fydd y Polisi Iaith Addysg newydd ar waith ac edrychir ymlaen at weld ffrwyth gwaith Meirion Prys Jones ar hyn.  Gŵyr pawb mai Gwynedd yw’r sir fwyaf blaenllaw o ran addysg Gymraeg, ond gan fod yna wastad beryg’ o fod yn hunan-foddhaus ac o lithro’n ôl, mae’n bwysig bod hyn yn cael ei roi ar waith.

 

Argymhelliad 3 – Y dymunid diolch i’r Adran am ysgrifennu at CBAC a holwyd a dderbyniwyd unrhyw ymateb i’r llythyr hyd yma.

 

Argymhelliad 4 – Mai hwn yw’r argymhelliad allweddol, a diolchwyd i’r Adran am gomisiynu Meirion Prys Jones i gydweithio â hwy.

 

Argymhelliad 5 – Y derbynnid bod rhaid dilyn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

PRYDAU YSGOL AM DDIM pdf eicon PDF 253 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Beca Brown

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad cynnydd yr Aelod Cabinet Addysg ar y prosiect prydau ysgol am ddim yn sgil ymestyn y cynllun ar draws y sector cynradd.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun ac yna rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Nodwyd y dymunid diolch i Lywodraeth Cymru am ddod â’r prosiect hwn i fodolaeth, drwy gytundeb â Phlaid Cymru, a llongyfarchwyd Cyngor Gwynedd ar ddosbarthu’r cynllun mor gyflym i bob ysgol yng Ngwynedd.  Diolchwyd hefyd i’r Gwasanaeth am y gwaith o addasu / uwchraddio ceginau’r ysgolion, ac yn arbennig i holl staff y ceginau a’r cogyddion am eu gwaith caled.

 

Nodwyd nad oedd ysgogiad i rieni plant sy’n gymwys ar gyfer cinio ysgol am ddim gyflwyno cais i’r Awdurdod gan fod y cinio ysgol bellach ar gael am ddim i bob plentyn beth bynnag, ac felly bod yr ysgol neu’r sir yn colli allan yn ariannol.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod y pwynt yn un dilys, ond bod y cais gan rieni yn gais am fudd-daliadau yn gyffredinol, yn cynnwys grant gwisg ysgol, adnoddau, ayyb, yn hytrach nag yn gais am ginio ysgol yn unig.

·         O ran y ffordd mae’r Awdurdod yn cael ei ariannu, bod yr ysgolion yn derbyn swm o arian y pen ar gyfer dysgwyr sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim.

·         Bod yr arolwg yr haf diwethaf wedi amlygu mai Gwynedd yw’r sir gyda’r lefel isaf o blant yn cymhwyso am y budd-daliadau hyn.

·         Bod Tîm o fewn yr Adran yn cysylltu â theuluoedd i sicrhau bod pawb sy’n gymwys i gael eu cofrestru am ginio am ddim yn gwneud hynny.

·         Nad oedd rhai rhieni yn ymwybodol o’r hawl i ginio am ddim, ond roedd mwy a mwy o bobl yn dechrau dod i wybod amdano erbyn hyn.

 

Nodwyd ei bod yn bwysig pwysleisio wrth rieni bod cyflwyno cais am ginio am ddim yn agor y drws i fanteision eraill heblaw hynny.

 

Nodwyd ei bod yn galonogol gweld o’r adroddiad bod rhai penaethiaid o’r farn bod ymddygiad, ymroddiad a chyflawniad disgyblion wedi gwella yn y prynhawniau o ganlyniad i dderbyn cinio ysgol.

 

O ran yr her o recriwtio staff i’r Gwasanaeth Arlwyo, holwyd a oedd y cynllun i becynnu swyddi, er enghraifft, gweithio mewn cegin ysgol dros amser cinio a rhoi gofal yn y pnawn, wedi dwyn ffrwyth o gwbl.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod recriwtio’n gymhleth gan fod meysydd fel Addysg a Gofal yn ceisio denu staff o’r un pwll o bobl.

·         Bod y posibilrwydd o greu cynllun bwriadus i becynnu swyddi yn isel iawn yn y sefyllfa anodd sydd ohoni, ond bod elfen o hynny yn digwydd eisoes wrth i bobl ddewis gweithio mewn mwy nag un swydd er mwyn cynyddu eu horiau.  Er hynny, roedd yn dod yn fwy anodd dod o hyd i bobl sy’n fodlon teithio o un sefyllfa waith i’r llall, a hynny o bosib’ heb gar.

 

Holwyd a fwriedid dwyn pwysau gwleidyddol ar Lywodraeth Cymru i ymestyn y prosiect prydau ysgol am ddim i’r sector uwchradd. Mewn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.