Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol
Cadeirydd ar gyfer 2024-2025. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd Cai Larsen yn Gadeirydd y pwyllgor hwn am
2024/25. Cofnod: PENDERFYNWYD
ethol y Cynghorydd Cai Larsen yn Gadeirydd y pwyllgor hwn am 2024/25. Diolchodd y
Cadeirydd i’w ragflaenydd yn y gadair, y Cynghorydd Elwyn Jones, a hefyd i’r
Cynghorydd Paul Rowlinson, y cyn Is-gadeirydd. Croesawyd dau
aelod newydd ar y pwyllgor, Y Cynghorwyr John Pughe a Sian Williams, a
diolchwyd i’r Cynghorydd Paul Rowlinson a Sasha Williams am eu gwasanaeth. Croesawyd
Sharon Roberts, cynrychiolydd newydd Rhieni / Llywodraethwyr Arfon ar y
pwyllgor, a diolchwyd i’w rhagflaenydd, Manon Williams, am ei gwasanaeth. Anfonwyd
dymuniadau gorau’r pwyllgor i’r Cynghorydd Beth Lawton yn dilyn llawdriniaeth
ddiweddar. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2024-2025. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Gohirio’r eitem hon hyd y cyfarfod nesaf. Cofnod: Gan na chafwyd enwebiad ar gyfer yr Is-gadair, gohiriwyd yr
eitem tan y cyfarfod nesaf. PENDERFYNWYD gohirio’r eitem hon
hyd y cyfarfod nesaf. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am
absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorwyr Iwan Huws, Beth Lawton, Llio Elenid
Owen a Sian Williams; Karen Vaughan Jones (Cynrychiolydd Rhieni /
Llywodraethwyr Dwyfor) a Gwilym Jones (NASUWT). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o
fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd y Cadeirydd fuddiant
personol yn eitem 9 (Trefniadau Diogelu mewn Ysgolion) ar ran pob aelod sy’n
llywodraethwr ysgol. Nid oedd yn
fuddiant sy’n rhagfarnu ac ni adawodd yr aelodau'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth
ar yr eitem. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys
ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w
nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 21 Mawrth, 2024 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 21 Mawrth, 2024 fel rhai cywir. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL GWE 2023-24 PDF 222 KB Cyflwyno adroddiad blynyddol GwE ar gyfer 2023-24. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau. Cofnod: Croesawyd Arwyn Thomas (Rheolwr Gyfarwyddwr GwE) ac Alwyn Jones
(Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Safonau) GwE) i’r cyfarfod. Cyflwynodd Rheolwr
Gyfarwyddwr GwE ychydig eiriau rhagarweiniol, gan ddiolch i Gyngor Gwynedd, a
hefyd y pwyllgor hwn, am y gefnogaeth a roddwyd i GwE a’i staff ar hyd y
blynyddoedd. Cyflwynodd
Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Safonau) GwE grynodeb o gynnwys yr Adroddiad Blynyddol
ac yna rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Diolchwyd i GwE am
baratoi adroddiad cryno eleni. Awgrymwyd bod y
tueddiadau cenedlaethol yn gwrth-ddweud yr hyn a nodir yn yr adroddiad
hwn. H.y. er bod Maes Allweddol 2
(Gwella Dysgu ac Addysgu) yn nodi bod ansawdd yr addysgu’n gyffredinol gadarn
ar draws y sectorau, roedd adroddiad arall ar raglen y cyfarfod hwn yn datgan
bod cyhoeddiadau diweddar, gan gynnwys adroddiadau Estyn, PISA a’r adroddiad
cenedlaethol personol ar yr asesiadau, wedi nodi bod angen gwella ansawdd dysgu
a deilliannau o fewn ysgolion ac ar draws ysgolion, ayb. Mewn ymateb, nodwyd bod lefelau o dystiolaeth
sy’n gwrth-ddweud ei gilydd yn anochel hyd oni fydd cyfeiriad y Llywodraeth o
ran y Fframwaith Atebolrwydd yng Nghymru wedi’i amlygu. Nodwyd ei bod yn ymddangos bod Maes
Allweddol 5 (Cefnogaeth a Her i Ysgolion sy’n Achosi Consyrn) yn pwysleisio ar
ganlyniadau academaidd bron yn ddieithriad, a holwyd beth fyddai’n digwydd
petai yna gonsyrn ar faterion eraill, e.e. Anghenion Dysgu Ychwanegol neu
arweinyddiaeth yr ysgol yn gyffredinol.
Mewn ymateb, nodwyd mai ansawdd yr arweinyddiaeth sy’n greiddiol i hyn i
gyd a bod ei sgil-effaith yn treiddio drwodd wedyn i ansawdd yr addysgu a’r
ddarpariaeth mae’r plant yn gael, gan effeithio ar safonau’r plant yn y pen
draw. Holwyd sut bod yr
13 blaenoriaeth gwella yn Adroddiad Blynyddol 2022/23 wedi gostwng i 5 erbyn
hyn. Mewn ymateb, nodwyd bod yr holl
agweddau wedi’u crynhoi i’r 5 blaenoriaeth yn yr adroddiad hwn. Croesawyd
gonestrwydd yr adroddiad, megis y sylw ‘Mae ansawdd uwch arweinyddiaeth yn
gyffredinol gadarn ond erys rhai heriau mewn ardaloedd penodol’ ac ‘Erys
anghysondeb yn ansawdd gweithredu ar draws yr awdurdod ...’. Croesawyd y ffaith
bod 8 athro o Wynedd wedi ennill Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer
Prifathrawiaeth (CPCP) eleni, ond awgrymwyd y byddai wedi bod yn fuddiol nodi
sut roedd y ffigwr yn cymharu â’r 3 blynedd flaenorol. Mewn ymateb, nodwyd bod y ffigwr yn weddol
gyson yng Ngwynedd, ac y bydd yn ddiddorol gweld yn y cyfnod nesaf faint fydd
yn dewis defnyddio’r cymhwyster i arwain yn eu milltir sgwâr. PENDERFYNWYD
derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau. |
|
ADOLYGIAD HAEN GANOL PDF 299 KB Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Beca Brown Ystyried
adroddiad ar yr uchod. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau. Cofnod: Croesawyd Y Cynghorydd Beca Brown (Aelod Cabinet Addysg) a Gwern ap
Rhisiart (Pennaeth Addysg) i’r cyfarfod. Cyflwynwyd –
adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg yn gwahodd mewnbwn y pwyllgor i’r newidiadau
arfaethedig yn y modd y caiff y gwasanaeth gwella i ysgolion ei ddarparu i’r
dyfodol. Gosododd yr Aelod
Cabinet y cyd-destun. Diolchodd i staff
GwE am eu holl waith a’u cefnogaeth dros y blynyddoedd, gan nodi bod eu mewnbwn
a’u cyngor arbenigol wedi’i werthfawrogi’n fawr gan yr ysgolion. Ymhelaethodd y
Pennaeth Addysg ar gynnwys yr adroddiad ac yna rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig
sylwadau. Nodwyd bod canllawiau drafft Llywodraeth
Cymru ‘Model cydweithredol rhwng ysgolion, ALlau,
a’r llywodraeth genedlaethol’ yn nodi y dylai cyrff llywodraethu ‘Ystyried
eu trefniadau eu hunain ar gyfer gweithio gyda chyrff llywodraethu eraill er
mwyn cefnogi cydgyfrifoldeb a gwelliant cydweithredol’, a holwyd a oedd
bwriad i ail-sefydlu’r corff Llywodraethwyr Gwynedd, oedd yn weithredol cyn
Cofid. Mewn ymateb, nodwyd: ·
Bod
bwriad i adfer y Fforwm ar gyfer llywodraethwyr, a hynny ar ffurf hybrid, gan
hefyd edrych ar gyfleoedd i wneud y corff yn fwy torfol. ·
Bod
Fforwm Plant a Phobl Ifanc yn cael ei sefydlu ar hyn o bryd a’i bod yn naturiol
mynd i’r afael â llywodraethiant ysgol hefyd, er mwyn
cael llais pawb o ran symud yr agweddau hyn yn eu blaenau. Mynegwyd pryder y gallai ymestyn ar y
cydweithio rhwng ysgolion olygu bod y gwersi a ddarperir ar y cyd yn mynd yn
fwyfwy Saesneg, o gofio bod dwy ysgol uwchradd yn y sir yn gweithredu fwy na
heb fel ysgolion Saesneg. Holwyd a oedd
gan y Cyngor ganllawiau o ran cydweithio er sicrhau nad oes llithriad yn y
ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Mewn
ymateb, eglurwyd nad oedd y model newydd yn awgrymu symud plant o un ysgol i’r
llall i gael gwersi, ond yn hytrach yn cyfeirio at arweinyddion ysgolion yn
cydweithio ac yn cefnogi ei gilydd. Awgrymwyd bod y trefniadau arfaethedig yn
ymddangos yn hynod heriol. Nodwyd bod
yna bob math o broblemau unigol ymhob un ysgol a’i bod yn bwysig cael ysgolion
tebyg i helpu’i gilydd, yn hytrach na gweithredu ar sail clystyrau
daearyddol. Nodwyd hefyd bod penaethiaid
dan eu sang yn barod, a bod disgwyl iddynt gymryd rôl ychwanegol yn helpu
ysgolion eraill (er yn gwneud hynny’n answyddogol eisoes) yn mynd i roi llawer
o bwysau ychwanegol arnynt, yn enwedig mewn ysgolion bychain. Mewn ymateb, nodwyd:- ·
Bod
rhoi hyn oll ar waith yn ysgolion Gwynedd yn mynd i fod yn heriol iawn am nifer
o resymau, gan gynnwys y ffaith bod gan Wynedd gymaint o unedau ysgolion, a
llawer o’r unedau ysgolion hynny yn ysgolion bach, a nifer fechan iawn o
benaethiaid digyswllt. ·
Bod
yr heriau’n amlygu’r hyn mae GwE wedi llwyddo i’w wneud dros y blynyddoedd, sef
mynd i mewn i’r ysgolion a theilwrio’r arweiniad ar gyfer ysgolion unigol,
waeth beth eu maint. · Y pwysleisir dro ar ôl tro yn y trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru bod ein cyd-destun yng Ngwynedd yn gwneud hyn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
TREFNIADAU DIOGELU MEWN YSGOLION PDF 150 KB Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Beca Brown Ystyried
adroddiad ar yr uchod. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
Cofnod: Croesawyd Dylan Owen (Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol) a
Llion Williams (Pennaeth Cynorthwyol: Llesiant a Chydraddoldeb) i’r cyfarfod. Cyflwynwyd – adroddiad
yr Aelod Cabinet Addysg mewn ymateb i gais gan yr aelodau i dderbyn gwybodaeth
am drefniadau diogelu mewn ysgolion, ynghyd â’r arweiniad a’r gefnogaeth a
roddir yn y maes hwn gan yr Adran Addysg er mwyn rhoi sicrwydd i aelodau’r
pwyllgor o briodoldeb y trefniadau. Gosododd yr Aelod
Cabinet Addysg y cyd-destun a chyflwynodd y Pennaeth Addysg ychydig eiriau ar y
cychwyn hefyd. Yna rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn
cwestiynau a chynnig sylwadau. Nodwyd nad oedd
gwiriad DBS yn profi bod rhywun yn berson diogel, ond yn hytrach yn datgan nad
oedd person wedi’i ganfod yn euog o drosedd hyd yma. Mewn ymateb, nodwyd:- ·
Y cytunid â’r sylw, ac yn ogystal â’r DBS, bod y
Cyngor hwn yn gofyn am 2 dystlythyr cyn penodi i unrhyw swydd. ·
Mai ond
0.07% o’r staff sydd heb DBS erbyn hyn, a bod yna resymau penodol am hynny,
e.e. salwch hirdymor, person wedi’i atal o’r gwaith neu bobl ar restrau llanw
sydd ddim yn dymuno gweithio i Wynedd mwyach. ·
Bod ymdrechion yn mynd rhagddynt bron yn ddyddiol i
gyrraedd at y targed o 100%. ·
Bod y Grŵp Gweithredol Diogelu yn monitro faint
o bobl sydd wedi cael DBS, ac os yw’r canrannau’n is na’r disgwyl, yn gofyn
beth yw’r eglurhad a’r cyfiawnhad dros hynny. Holwyd faint o
waith monitro sy’n digwydd er sicrhau bod y person diogelu dynodedig mewn ysgol
yn cwblhau pob hyfforddiant angenrheidiol.
Mewn ymateb, nodwyd:- ·
Bod hyfforddiant yn cael ei ddarparu gan yr Awdurdod
ar ffurf grwpiau bychain, fel bod pobl yn cael cyfle i ofyn cwestiynau na
fyddent, efallai, yn eu gofyn mewn grwpiau mwy. ·
Bod natur yr hyfforddiant bellach yn fwy hwyliog a
rhyngweithiol, a bod yr adborth o’r sesiynau blynyddol hyn yn gadarnhaol iawn. ·
O ran monitro, bod cyfrifoldeb ar gyrff llywodraethu
i fod â pherson â throsolwg ar amddiffyn plant ar y corff, a byddai disgwyl i’r
person hwnnw gyfarfod gyda’r person diogelu dynodedig i drafod y sefyllfa yn yr
ysgol o ran diogelu plant. ·
Y darperid hyfforddiant ar gyfer llywodraethwyr
hefyd o ran eu rôl monitro a chefnogi’r person diogelu dynodedig o fewn yr
ysgol. ·
Bod Gwynedd yn un o’r ychydig awdurdodau yng Nghymru
sy’n cynnal ymholiadau gwirio ansawdd, lle mae’r swyddog dynodedig yn y sir yn
mynd i ysgol ac yn cynnal ymchwiliad manwl sydd wedyn yn bwydo i mewn i
drosolwg awdurdod. Drwy wneud hynny,
gellir gweld oes yna bethau sydd ddim yn cael eu gwneud yn iawn, beth ydyn nhw
ac a oes angen mireinio’r hyfforddiant i allu gwella’r arweiniad a roddir i
bersonau dynodedig. ·
Bod y Grŵp Gweithredol Diogelu yn monitro faint
o bobl sydd wedi derbyn hyfforddiant diogelu, ayb, ac yn adrodd yn rheolaidd
i’r Panel Strategol Diogelu. Nodwyd y gobeithid nad oedd modd i aelod staff fod yn llywodraethwr dynodedig. Mewn ymateb, nodwyd na ddymunid i hynny ddigwydd, a phe gwelid ei fod yn digwydd, y byddai’n rhaid ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
CYNLLUN ECONOMI YMWELD CYNALIADWY GWYNEDD AC ERYRI 2035 PDF 273 KB Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Nia Jeffreys Ystyried
adroddiad ar yr uchod. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cofnod: Croesawyd Y Cynghorydd Nia Jeffreys (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet
Dros Faterion Gweithredol Economi), Roland Evans (Pennaeth Cynorthwyol –
Diwylliant) ac Angela Jones (Pennaeth Partneriaethau – Parc Cenedlaethol Eryri)
i’r cyfarfod. Cyflwynwyd –
adroddiad yr Arweinydd a’r Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Dros Faterion
Gweithredol Economi yn cyflwyno diweddariad ar Gynllun Economi Ymweld
Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri 2035 ac yn gwahodd y pwyllgor i graffu’r cynnydd, y
Cynllun Gweithredu a’r Mesuryddion Gosododd yr Aelod
Cabinet y cyd-destun ac yna rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Diolchwyd i’r
Aelod Cabinet am ddangos gwir ddiddordeb yn y maes a mynychu cyfarfodydd lleol
yn gysylltiedig â’r pwnc, sy’n amlygu pa mor hawdd yw’r cysylltiad sydd o fewn
y Cyngor i fedru gwireddu cynllun o’r fath. Nodwyd bod yr
adroddiad yn dweud bod ymgynghori helaeth wedi ei gynnal wrth ddatblygu’r
Cynllun, ond ac eithrio’r gweithdai a gynhaliwyd ar y cychwyn, ni chredid bod
unrhyw ymgynghori arall wedi digwydd gyda chynghorwyr sir, o leiaf. Holwyd pa ymgynghori sydd wedi digwydd yn
ardal y Parc Cenedlaethol, a gyda phwy?
Mewn ymateb, nodwyd:- ·
Bod yr ymgynghori wedi digwydd yn eang rhwng
pawb. Cynhaliwyd sawl sesiwn rhwng y
Cyngor a’r Parc gyda’r cynghorwyr i gyd ar draws yr ardal, yn cynnwys yr ardal
wledig o Gonwy sydd yn y Parc. ·
Bod y bartneriaeth sydd wedi’i chreu yn disodli’r
hen Grŵp Rheoli Cyrchfan oedd yn bodoli cynt a’i bod yn cael ei chynnal
gan y Cyngor, gyda’r Parc yn bwydo i mewn i hynny hefyd. ·
Bod y Grŵp sydd wedi’i sefydlu bellach, sy’n
cynrychioli busnesau a chymunedau, yn grŵp arloesol ac yn wir
gynrychioli’r holl ardal. Gan hynny, am
y tro cyntaf, cafwyd darlun llawn o’r holl brosiectau a’r gweithgareddau sy’n
digwydd ar draws yr ardal gyfan. ·
Yn ogystal â’r ymgynghori ffurfiol, anfonwyd 4 nodyn
briffio at bob cyngor cymuned a’r cynghorwyr i gyd ar draws yr ardal hefyd, a
bwriedid anfon nodyn briffio pellach at bawb yn fuan yn rhoi diweddariad ar
bopeth sydd wedi digwydd dros y misoedd diwethaf. ·
Bod bwriad hefyd i gynnal cynhadledd flynyddol sy’n
dod â phawb sydd â diddordeb yn y pwnc at ei gilydd, ac roedd hyn eto’n ffordd reit newydd ac eang o gael mewnbwn gan yr holl
ardal. Mewn ymateb, nodwyd y derbynnid bod yna
ymgynghori wedi digwydd ar y cychwyn, ond y credid bod angen ymgynghori parhaus
ar gynllun o’r fath. Nododd yr aelod
hefyd mai dyma’r tro cyntaf iddo glywed am y nodyn briffio, ac nid oedd yn
ymwybodol ei fod wedi ei dderbyn. Nododd
hefyd, gan nad oes gofyn statudol i’r Parc ymgynghori â chynghorwyr sir, eu bod
yn cael eu gadael allan gan amlaf, a galwodd ar y Parc i ymgynghori’n llawer gwell
â chynghorwyr sir ar faterion sy’n digwydd o fewn y Parc. Gofynnwyd i’r swyddogion ymhelaethu ar rôl y
grwpiau ymgynghori lleol Ardal Ni. Mewn
ymateb, nodwyd:- · Bod y grwpiau Ardal Ni yn fforwm eithaf newydd gan y Cyngor ar gyfer ymgysylltu â chymunedau i weld beth yw ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
BLAENRAGLEN PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG AC ECONOMI 2024/25 PDF 253 KB Cyflwyno
rhaglen waith ddrafft y Pwyllgor ar gyfer 2024/25 i’w mabwysiadwy. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mabwysiadu’r rhaglen waith ar gyfer 2024-25. Cofnod: Cyflwynwyd – blaenraglen y pwyllgor ar gyfer 2024/25. PENDERFYNWYD
mabwysiadu’r rhaglen waith ar gyfer 2024-25. |
|
CYFARFOD HERIO PERFFORMIAD CYLLID PDF 95 KB I enwebu
cynrychiolydd i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad yr Adran Gyllid. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Enwebu’r Cynghorydd Cai Larsen i gynrychioli’r Pwyllgor
Craffu Addysg ac Economi yng Nghyfarfodydd Herio Perfformiad yr Adran Gyllid. Cofnod: Cyflwynwyd –
adroddiad yr Ymgynghorydd Craffu yn gwahodd y pwyllgor i enwebu aelod i
gynrychioli’r pwyllgor yng nghyfarfodydd Herio Perfformiad yr Adran Gyllid yn
lle’r Cynghorydd Paul Rowlinson sydd bellach wedi ymddiswyddo o’r pwyllgor yn
dilyn ei benodiad yn Aelod Cabinet Cyllid. PENDERFYNWYD
enwebu’r Cynghorydd Cai Larsen i gynrychioli’r
Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi yng Nghyfarfodydd Herio Perfformiad yr Adran
Gyllid. |