Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Council Offices, Caernarfon LL55 1SH and Virtually via Zoom. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Gwynfor Owen.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu

hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 239 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor a gynhaliwyd ar 12/12/24 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr, 2024 fel rhai cywir.

5.

CYNLLUN ECONOMI GWYNEDD pdf eicon PDF 279 KB

I adrodd ar y gwaith o lunio Cynllun Economi newydd i Wynedd, gan wahodd mewnbwn yr Aelodau ar gynnwys yr adroddiad hwn ac ar faterion pellach y credir y dylid eu hystyried wrth greu’r Cynllun.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.
  2. Bod y Pwyllgor yn craffu Cynllun Economi Gwynedd Drafft pan yn amserol yn ystod 2025/26.

 

Cofnod:

Croesawyd yr Aelod Cabinet Economi a Chymuned i’w gyfarfod cyntaf o’r pwyllgor craffu ac fe’i longyfarchwyd ar ei benodiad.  Croesawyd y Pennaeth Economi a Chymuned a’r swyddogion i’r cyfarfod hefyd.

 

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet yn gwahodd mewnbwn yr aelodau ar y cynnwys ac ar faterion pellach y credir y dylid eu hystyried wrth greu Cynllun Economi Gwynedd.

 

Nododd yr Aelod Cabinet ar y cychwyn fod yr eitem hon yn dilyn ymlaen o’r drafodaeth yng nghyfarfod y pwyllgor craffu ar 25 Ionawr 2024 ynglŷn â gweithredu’r Prosiect Datblygu Economi Gwynedd.

 

Mewn ymateb i sylwadau’r Cadeirydd ar gychwyn y cyfarfod, eglurodd y Pennaeth Economi a Chymuned:-

           Ei bod yn deg dweud, pan gyflwynwyd yr adroddiad llynedd, y disgwylid bod mewn sefyllfa reit wahanol erbyn hyn.

           Mai’r gobaith hydref diwethaf, pan gafwyd trafodaeth yn y Tîm Arweinyddiaeth, oedd y byddai dogfen wedi’i chwblhau erbyn hyn i gael ei chraffu.  Nid oedd hynny wedi digwydd, er bod llawer o waith wedi digwydd.

           Bod angen mynd yn ôl i’r Tîm Arweinyddiaeth, a chredid bod mantais cael mewnbwn y pwyllgor hwn heddiw i’r egwyddorion a’r cyfeiriad fel bod y ddogfen fydd yn cael ei chyflwyno i’r Tîm Arweinyddiaeth yn ymgorffori sylwadau’r craffwyr.

           Nad oedd drafft o’r ddogfen orffenedig yn barod heddiw gan fod yr Adran wedi ail-raglennu gwaith ers yr hydref.  Roedd hynny wedi digwydd am sawl rheswm, gan gynnwys ail-gychwyn gosod cyfeiriad newydd yn sgil penodi Aelod Cabinet newydd ac ail-gynllunio blaenoriaethau gwaith i ymdopi â blwyddyn ychwanegol o waith yn sgil penderfyniad Llywodraeth y DU i ymestyn y Gronfa Ffyniant Bro am flwyddyn ychwanegol.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun i’r adroddiad gan nodi:-

           Bod cadarnhad Llywodraeth y Deyrnas Unedig (DU) y bydd y Gronfa Ffyniant Bro yn parhau am flwyddyn bellach i 2025/26 i’w groesawu, ond y gellid bod yn sicr y bydd y tirlun ariannol yn newid unwaith eto ar ôl Ebrill, 2026.  O ganlyniad, roedd y gofyn i’r Cyngor hwn ystyried ei flaenoriaethau economaidd yn parhau.

           Y byddai sicrhau dogfen sy’n datgan ein dyhead yn glir hefyd yn arf pwysig i ddylanwadu ar y trafodaethau gan y ddwy lywodraeth o fewn Rhanbarth y Gogledd.

           Mai bwriad yr adroddiad gerbron oedd crynhoi’r negeseuon sydd i law a derbyn sylwadau ac adborth gan y craffwyr cyn symud ymlaen i gwblhau llunio Cynllun Strategol Datblygu’r Economi a’i fabwysiadu yn y flwyddyn ariannol newydd.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Mynegwyd y farn ei bod yn anodd craffu ar adroddiad cynnydd a bod yr aelodau wedi gobeithio craffu drafft o Gynllun Economi Gwynedd yn y cyfarfod hwn.  Nodwyd na ellid bod yn siŵr a fyddai yna gyfle arall i’r pwyllgor hwn graffu’r cynllun cyn iddo fynd i’r Cabinet ym mis Ebrill.  Pwysleisiwyd ei bod yn hollbwysig i Wynedd gael strategaeth lefel uchel gyda’r newidiadau tebygol yn y rhaglenni ariannu.  Er hynny, nodwyd y cydnabyddid bod yna waith da iawn wedi’i wneud mewn rhai meysydd.  Mewn ymateb, nodwyd:-

           Y cytunid ei  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

POLISI IAITH ADDYSG – Y DREFN YMGYSYLLTU pdf eicon PDF 133 KB

I cyflwyno gwybodaeth am y drefn ymgysylltu yng nghyd- destun y Polisi Iaith Addysg newydd, ac yna adrodd ar ganfyddiadau’r ymgysylltu.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.
  2. Bod y Pwyllgor yn craffu’r Polisi Iaith Addysg Drafft a’r Strategaeth i gefnogi gweithredu’r polisi yng nghyfarfod 10 Ebrill 2025.
  3. Gofyn am gopi o gofnodion perthnasol y cyfarfodydd ymgysylltu.
  4. Gwahodd aelodau’r Pwyllgor Iaith i fynychu cyfarfod y Pwyllgor ar gyfer yr eitem.

 

Cofnod:

Adroddodd yr Aelod Cabinet Addysg fod yr adroddiad hwn wedi’i gyflwyno mewn ymateb i gais gan aelodau’r Pwyllgor i dderbyn adroddiad am y drefn ymgysylltu yng nghyd-destun y Polisi Iaith Addysg newydd. Nodwyd bod yr adroddiad yn crynhoi’r drefn ymgysylltu mewn perthynas â Pholisi Iaith Addysg.

 

Gosodwyd y cyd-destun gan nodi bod Gwynedd yn awdurdod lleol â’r nifer fwyaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, a’r ganran uchaf o bobl ifanc sy’n cael addysg drwy’r Gymraeg ac yn ddwyieithog. Nodwyd bod newidiadau ieithyddol yn y sir, ynghyd â dylanwad Llywodraeth Cymru ar addysg yng Nghymru, yn ei gwneud hi’n amserol adolygu Polisi Iaith Addysg Cyngor Gwynedd, a thrafod pa elfennau sy’n gweithio’n dda a pha newidiadau neu addasiadau allai fod eu hangen.

 

Esboniwyd bod yr Adran Addysg wedi mynd ati yn yr adroddiad i egluro’r  drefn a’r broses. Nodwyd bod nifer o sesiynau ymgysylltu wedi’u cynnal gydag ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig ym mhob rhan o’r sir, a hynny mewn ardaloedd â gwahanol ganrannau siaradwyr Cymraeg. Cynhaliwyd cyfarfod ymgysylltu ar gyfer cynrychiolwyr megis Cylch yr Iaith, Cymdeithas yr Iaith, Dyfodol yr Iaith a RHAG (Cymdeithas Rhieni ac Athrawon dros Addysg Gymraeg). Nodwyd ymhellach bod cynrychiolaeth o aelodau’r Pwyllgor hwn, y Pwyllgor Iaith a Fforwm Llywodraethwyr Gwynedd hefyd wedi bod yn rhan o’r broses.

 

Mynegwyd mai’r bwriad yw creu Polisi Iaith cadarn ac addas i amgylchiadau Gwynedd, gan sicrhau bod modd adeiladu arno a’i ddatblygu yn y dyfodol. Nodwyd bod y gwir sefyllfa’n dangos bod yna lithriad yn y defnydd o’r Gymraeg ymhlith pobl ifanc yn y sir. Nodwyd ymhellach bod angen atal hynny a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg.

 

Adroddodd Meirion Prys Jones (Ymgynghorydd) bod 29 o sgyrsiau wedi’u cynnal yn ystod y broses ymgysylltu ym mis Hydref, 2024 gydag ystod eang o gynrychiolwyr o’r maes addysg a rhieni. Nodwyd, yn sylfaenol, bod 10 cwestiwn i’w gofyn yn ystod y trafodaethau, ond bod cyfranogwyr yn rhydd i fynegi barn ar unrhyw fater yn ymwneud â Pholisi Iaith Addysg Gwynedd a chyflwyno awgrymiadau ar gyfer y dyfodol. Mynegwyd bod ymateb adeiladol a phositif wedi dod i law gan bob cyfranogwr, yn enwedig gan y disgyblion eu hunain.

 

Nodwyd mai prif gasgliadau’r ymgysylltiad yw bod y Polisi Iaith yn gweithio’n dda ac yn arwain at lwyddiant. Nodwyd bod pawb yn cefnogi’r Polisi Iaith, er nad oedd neb wedi’i ddarllen yn ddiweddar, gan arwain at fwy o ‘ethos’ a theimlad fod Polisi Iaith da’n bodoli, ond heb sicrwydd llwyr ynghylch beth sydd ynddo.

 

Amlygwyd bod hyn yn arwain at ddehongliad ac at weithredu gwahanol ar y Polisi Iaith o ysgol i ysgol, yn enwedig ymhlith ysgolion uwchradd. Nodwyd fod gwahaniaeth amlwg rhwng y sector cynradd a’r uwchradd, gyda’r Polisi’n gadarn yn y cynradd ond yn fwy amrywiol yn yr uwchradd. Ymhelaethwyd bod teimlad ymhlith y sector cynradd fod y sector uwchradd yn eu siomi o ran cynnal Cymreictod plant, gan nad yw hynny’n parhau’n ddigonol pan fyddant yn cyrraedd yr uwchradd.

 

Adroddwyd mai’r prif gasgliad yw bod angen Polisi Iaith cryno, clir a chadarn, a  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

CYFUNDREFN ADDYSG DROCHI pdf eicon PDF 209 KB

I cyflwyno diweddariad am y broses werthuso yng nghyd- destun y Gwerthusiad o’r Gyfundrefn Drochi.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.
  2. Bod y Pwyllgor yn craffu Cynllun Gweithredu Argymhellion Gwella’r Gyfundrefn Addysg Drochi yng nghyfarfod 10 Ebrill 2025.

 

Cofnod:

Gosododd yr Aelod Cabinet Addysg y  cyd-destun. Nodwyd bod y Cabinet wedi penderfynu yn ei gyfarfod ar 16 Gorffennaf 2021 ei fod yn amserol i ad-drefnu’r canolfannau hyn a chreu Cyfundrefn Addysg Drochi newydd. Esboniwyd bod y Pwyllgor wedi mynegi dymuniad i graffu y gyfundrefn newydd ar ôl iddi gael cyfle i wreiddio. Eglurwyd bod yr Adran Addysg wedi penderfynu penodi tîm ymchwil o Brifysgol Bangor i werthuso’r Gyfundrefn Addysg Drochi yng Ngwynedd. Ymhelaethwyd bod y tîm hwn wedi cynnal ymweliadau ac wedi siarad â rhanddeiliaid, a bydd yn adrodd yn ôl cyn bo hir gyda’i gasgliadau.

 

Cwestiynwyd sut y dewiswyd y tri chyfranogwr ar gyfer yr astudiaeth achos, a beth oedd y meini prawf. Nodwyd, mewn ymateb, mai’r brifysgol a ddewisodd y tri. Eglurwyd bod hyn yn dibynnu ar ganiatâd rhieni a’u bod wedi’u dewis ar hap, sy’n ddull gwyddonol o ddewis cyfranogwyr mewn astudiaethau achos. Ymhelaethwyd bod y cyfranogwyr yn dod o wahanol ganolfannau trochi.

 

Mynegwyd diddordeb i gael copi o’r ddogfen asesiad effaith cydraddoldeb a luniwyd pan newidiwyd i’r gyfundrefn newydd. Mynegwyd pryder ynglŷn â gogwydd a ffocws yr adroddiad a’r penderfyniad cychwynnol i leihau o bum niwrnod trochi i bedwar. Nodwyd bod y ffocws, heb eithriad, ar yr unigolion sy’n mynd drwy’r system drochi, heb sôn am ymgynghori â rhieni, dysgwyr eraill yn yr ysgol, na’r gymdeithas ehangach nac aelodau etholedig. Mynegwyd bod y penderfyniad, yr adroddiad a’r ymchwil arfaethedig yn drwyadl neo-ryddfrydol ei ideoleg.

 

Eglurwyd, mewn ymateb, bod y gwaith ymchwil hwn yn benodol yn edrych ar y goblygiadau i blant sy’n mynd drwy’r system drochi, ond bod y pwynt ynglŷn â’r effaith ar ysgolion yn cael ei dderbyn, a sgyrsiau wedi’u cynnal gyda phenaethiaid ynglŷn â’r mater hwn. Tynnwyd sylw at y ffaith bod yr Adran Addysg yn barod i gryfhau neu newid y trefniadau mewn ymateb i argymhellion, ond eu bod yn disgwyl gweld beth fydd yr adroddiad yn ei ddweud cyn dod i unrhyw gasgliadau. Tanlinellwyd nad oedd unrhyw ymdrech wedi’i wneud i guddio dim, ac o ran ystyried adroddiadau a luniwyd dros gyfnod, mynegwyd bod mwy na digon o awydd i weld beth fu’r effaith. Nodwyd bod y pwynt ynglŷn â goblygiadau cydraddoldeb yn cael ei dderbyn, a bod ei ehangder o bosibl yn fwy na’r disgwyl mewn adroddiadau arferol.

 

Ymatebodd yr aelod  gan nodi bod disgwyl y byddai ymchwil wedi ei wneud cyn gwneud y penderfyniad i leihau dyddiadau addysg drochi. Nodwyd ei bod, o safbwynt lleygwr, yn ymddangos fel penderfyniad cyllidol.

 

Nodwyd o ystyried bod y penderfyniad i ailwampio’r canolfannau trochi wedi’i wneud er mwyn cael darpariaeth o ansawdd uchel, bod y nifer o athrawon wedi’u cwtogi o ddau athro i bob canolfan i un athro ac un cymhorthydd, a gostyngwyd y nifer o ganolfannau, gan newid o bum niwrnod trochi i bedwar. Mynegwyd nad yw’r math hwn o drochi yn ddwys os nad yw’n bum niwrnod. Nodwyd bod anhawster i athrawon wrth raglennu ar gyfer plant sy’n mynd i’r ganolfan am bedwar diwrnod o  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

BRÎFF YMCHWILIAD CRAFFU TREFNIADAU DIOGELU MEWN YSGOLION pdf eicon PDF 94 KB

I fabwysiadu brîff yr ymchwiliad ac i ethol aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

  1. Mabwysiadu’r brîff.
  2. Ethol yr aelodau canlynol i ymgymryd â gwaith yr ymchwiliad:

-        Y Cynghorwyr Dawn Lynne Jones, Cai Larsen, Gwynfor Owen, John Pughe Roberts a Dyfrig Siencyn

 

-        Aelod Cyfetholedig - Sharon Roberts (Cynrychiolydd Rhieni / Llywodraethwyr Arfon)

 

-        Aelod wrth gefn - Y Cynghorydd Richard Glyn Roberts

 

Cofnod:

Nodwyd y craffwyd ar drefniadau diogelu mewn ysgolion yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 18 Gorffennaf 2024. Cafwyd trafodaeth anffurfiol ar ôl y cyfarfod ynghylch y posibilrwydd o gynnal Grŵp Tasg a Gorffen neu Ymchwiliad Craffu i’r maes. Daethpwyd i’r casgliad y dylid cynnal trafodaeth bellach yng nghyfarfod anffurfiol y Pwyllgor ar 5 Medi 2024. Mynegwyd pryder gan yr aelodau a oedd yn bresennol ynghylch gweithredu’r trefniadau diogelu o fewn ein hysgolion. Ystyriwyd brîff drafft ar gyfer yr ymchwiliad craffu yng nghyfarfod anffurfiol y Pwyllgor ar 9 Ionawr 2025.

 

Nodwyd mai’r prif gwestiwn y bydd yr ymchwiliad yn ei gyfarch yw: “A yw trefniadau diogelu yn ysgolion y sir yn briodol ac yn cael eu gweithredu’n gyson?”. Nodwyd bod yr ymchwiliad yn bwriadu ystyried trefniadau cyfredol yr awdurdod o ran diogelu mewn ysgolion, ynghyd â threfniadau mewn sampl o ysgolion.

 

Gwahoddwyd aelodau, yng nghyfarfod anffurfiol y Pwyllgor ar 9 Ionawr 2025, i fynegi diddordeb i fod yn aelodau o’r ymchwiliad. Daethpwyd i’r casgliad y dylid anfon e-bost at holl aelodau’r Pwyllgor er mwyn gofyn iddynt nodi pa gyrff llywodraethu ysgolion maent yn aelodau ohonynt. Pwysleisiwyd yn yr e-bost y byddai’n ofynnol i aelodau sicrhau eu bod wedi cwblhau’rHyfforddiant Diogelu Plant ac Oedolion” er mwyn bod yn rhan o’r ymchwiliad.

 

Nodwyd y gall uchafswm o bump aelod fod yn rhan o’r ymchwiliad ac, yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, bod gofyn i’r aelodaeth gynnwys cynrychiolaeth o ddim llai na dau grŵp gwleidyddol gwahanol. Trafodwyd, o ystyried ei fod yn fater addysg, y byddai’n briodol i’r aelodaeth gynnwys un aelod cyfetholedig gyda phleidlais ar faterion addysg yn unig.

 

PENDERFYNWYD

1.    Mabwysiadu’r brîff.

2.    Ethol yr aelodau canlynol i ymgymryd â gwaith yr ymchwiliad:

-       Y Cynghorwyr Dawn Lynne Jones, Cai Larsen, Gwynfor Owen, John Pughe Roberts a Dyfrig Siencyn

-       Aelod Cyfetholedig - Sharon Roberts (Cynrychiolydd Rhieni / Llywodraethwyr Arfon)

-       Aelod wrth gefn - Y Cynghorydd Richard Glyn Roberts