Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sioned Mai Jones  01286 679665

Nodyn: **NEWID LLEOLIAD - CYFARFOD RHITHIOL** 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorwyr Anwen Davies, Elwyn Jones a Linda Ann Jones.

 

Dymunwyd gwellhad buan i aelodau sy’n wael ar hyn o bryd.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd y Cynghorydd Gwynfor Owen fuddiant personol yn eitem 7 oherwydd bod ei fab yn awtistig.

 

Roedd o’r farn bod y buddiant yn rhagfarnu, a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

3.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eitemau sydd yn fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 174 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 1af o Chwefror, 2024 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 1 Chwefror, 2024 fel rhai cywir.

 

5.

GWEITHDREFN CWYNION, YMHOLIADAU A DIOLCHIADAU AR GYFER 2022-23 - ADRAN PLANT A CHEFNOGI TEULUOEDD AC ADRAN OEDOLION, IECHYD A LLESIANT pdf eicon PDF 422 KB

Paratoi Adroddiad Blynyddol ar weithrediad y Weithdrefn Sylwadau a Chwynion a’i gyflwyno i’r Cabinet a’r Pwyllgor Craffu er mwyn craffu a monitro’r trefniadau ar gyfer delio’n effeithiol â chwynion a dderbyniwyd gan ddefnyddwyr gwasanaeth a’u cynrychiolwyr.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi ei bod yn braf gweld y diolchiadau, a bod y pwyllgor yn craffu Adroddiad Blynyddol y Weithdrefn Cwynion, Ymholiadau a Diolchiadau ar gyfer 2023-24 pan fydd yn barod yn y misoedd nesaf.

 

Cofnod:

Croesawyd yr Aelod Cabinet Plant a Theuluoedd, yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r swyddogion i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd - Adroddiad Blynyddol ar y Weithdrefn Cwynion, Ymholiadau a Diolchiadau’r Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd ac Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant ar gyfer 2022-23.  Gwahoddwyd y pwyllgor i graffu’r trefniadau ar gyfer delio’n effeithiol â chwynion a dderbyniwyd gan ddefnyddwyr gwasanaeth a’u cynrychiolwyr.

 

Gosododd y ddau Aelod Cabinet y cyd-destun gan ddiolch i staff y ddwy adran am eu hymroddiad wrth ymateb i gwynion a diolchiadau gan y cyhoedd a defnyddwyr gwasanaeth.  Yna rhoddodd y Swyddog Gofal Cwsmer – Oedolion Iechyd a Llesiant drosolwg o gynnwys yr adroddiad.

 

Yna rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Gofynnwyd am roi gwybod i’r aelodau os oes tueddiad o rywbeth yn mynd o’i le, yn hytrach na bod yr aelodau yn clywed am y cwynion hynny ar y cyfryngau, neu gan aelodau o’r cyhoedd.  Mewn ymateb, nodwyd :-

 

·         Y dymunid osgoi sefyllfaoedd o’r fath ac y ceisid sicrhau bod y cyswllt â Thîm y Wasg y Cyngor yn gweithio mor hwylus â phosib’ o safbwynt rhoi gwybod iddynt am unrhyw beth sy’n debygol o godi.

·         Yn amlwg, bod enghreifftiau yn codi weithiau lle nad oedd hynny wedi digwydd, a bod wastad lle i wella.

 

Nodwyd ei bod yn gysur gweld bod yna weithdrefn glir ar gyfer cyflwyno cŵyn ac ar gyfer delio â chŵyn, ond awgrymwyd bod dweud wrth bobl na ellir derbyn eu cŵyn ar y pryd oherwydd bod ymchwiliad arall ar y gweill yn achosi mwy o bryder i’r bobl hynny, sydd eisoes wedi cyrraedd pen eu tennyn.  Holwyd beth oedd y trefniadau ar gyfer ail-gyflwyno cŵyn o’r fath wedi i ymchwiliad arall ddod i ben.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Na ellid yn gyfreithiol ymateb i gŵyn os oes ymchwiliad, e.e. ymchwiliad Heddlu, ar y gweill oherwydd y gallai hynny ragfarnu unrhyw ymchwiliad arall.

·         Bod y person sy’n cyflwyno cŵyn yn derbyn taflen yn egluro nad oes modd ymchwilio i gŵyn yn syth mewn rhai achosion ac yn eu gwahodd i ail-gyflwyno’r gŵyn unwaith y bydd unrhyw ymchwiliad arall wedi dod i ben.

·         Mewn rhai achosion, e.e. ymchwiliad o dan y drefn Diogelu, bod modd darganfod bod y broses wedi dod i ben a chynnig i’r achwynydd ail-gyflwyno ei gŵyn.  Weithiau hefyd, gallai proses oedd wedi cychwyn eisoes fod yn ddigonol i ddatrys mater fel nad oedd angen ail-godi cŵyn.

 

Nodwyd mai’r ddau ganfyddiad sy’n dod allan o’r adroddiad eleni yw bod disgwyliadau teuluoedd o’r gwasanaeth yn hynod o uchel a bod angen cyfathrebu clir a chyson.  Holwyd a oedd modd rheoli disgwyliadau drwy roi gwybod i deuluoedd o’r cychwyn nad oes modd i’r Cyngor gynnig popeth iddynt.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Y credid bod hyn yn berthnasol i’r Adran Plant oherwydd ymyrraeth y Gwasanaeth ym mywydau teuluoedd ar faterion diogelu ynghyd â chymhlethdod y prosesau.

·         O ran materion diogelu, derbynnid cwynion bod gwarcheidwaeth plant yn ôl yn y teuluoedd, ac  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

GWASANAETH EGWYL FER (TÎM INTEGREDIG DERWEN) pdf eicon PDF 238 KB

Er mwyn cael sicrwydd bod darpariaeth addas ar gael i bawb sydd angen y gwasanaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan ddiolch i bawb sy’n gweithio yn y Gwasanaeth Egwyl Fer, a mynegi gobaith y bydd y cyllid ar gael i barhau i gynnig y gwasanaeth i bawb sydd ei angen fel mae amser yn mynd yn ei flaen.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Plant a Theuluoedd ar y gwasanaeth Egwyl Fer (Tîm Integredig Derwen).  Gwahoddwyd y pwyllgor i graffu cynnwys yr adroddiad er mwyn cael sicrwydd bod darpariaeth addas ar gael i bawb sydd angen y gwasanaeth.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun gan ddiolch i’r holl staff am eu gwaith diflino a’u brwdfrydedd a’u cariad wrth weithio hefo’r plant mwyaf bregus yng Ngwynedd.  Ymhelaethodd y Pennaeth Cynorthwyol Adnoddau - Plant a Chefnogi Teuluoedd ar gynnwys yr adroddiad ac yna rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Nodwyd bod yr adroddiad a’r cyflwyniad yn amlygu’r galw anferthol am y gwasanaeth egwyl fer, a’i bod yn amlwg bod yna waith gwych iawn a hanfodol yn mynd yn ei flaen.

 

Tynnwyd sylw at yr angen am wasanaeth egwyl fer ar gyfer oedolion yn ogystal, ond eglurwyd bod yr eitem hon yn trafod y ddarpariaeth ar gyfer plant yn unig. 

 

Mynegwyd pryder o ddeall fod nifer y gwirfoddolwyr wedi gostwng o 20 cyn y cyfnod Cofid i 3 erbyn hyn.  Holwyd beth sy’n cael ei wneud i geisio recriwtio rhagor o wirfoddolwyr, a gofynnwyd oedd modd defnyddio’r gwirfoddolwyr presennol mewn ymdrech i geisio denu rhagor.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Gan na fu’n bosib’ parhau â’r cynllun egwyl fer dros y cyfnodau clo, y collwyd nifer o wirfoddolwyr wrth i bobl symud yn eu blaenau.

·         Bod y Swyddog Egwyl Fer yn cyfarfod yn rheolaidd â Phrifysgol Bangor, sef y prif gysylltiad o ran yr ymgyrchoedd recriwtio.

·         Y cytunid â’r sylw ynglŷn â defnyddio gwirfoddolwyr presennol, ond na ellid gwneud mwy nag amlygu bod y cyfleoedd yn bodoli a bod mor rhagweithiol â phosib’ o safbwynt ymateb i unrhyw ymholiadau.

·         Bod 5 darpar wirfoddolwr yn mynd drwy’r broses DBS ar hyn o bryd a mawr obeithid y byddai’r unigolion hyn ar gael i’r gwasanaeth yn fuan er mwyn gwneud gwahaniaeth.

·         O bosib’ bod yr argyfwng costau byw yn effeithio ar awydd pobl i roi eu hunain ymlaen i wirfoddoli, ond yn sicr byddai’r Gwasanaeth yn dyfalbarhau i geisio cynyddu’r nifer.

 

Holwyd pa wasanaeth a gynigir i deuluoedd plant ag anghenion llai dwys ynghyd â beth yw’r rhagolygon ar gyfer y dyfodol o ystyried bod y galw yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn.  Gofynnwyd hefyd a ellir bod yn hyderus y byddwn yn gallu cwrdd â’r anghenion dwys, heb son am yr anghenion eraill, yn wyneb sefyllfa gyllidol y Cyngor ar gyfer y blynyddoedd nesaf.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Bod y cwestiynau yn adlewyrchu’r heriau mae’r Gwasanaeth yn eu hwynebu ac yn amlwg yn eu trafod o ran datblygiad, ayb, a sut i addasu’r gwasanaeth i gyfarch yr anghenion sy’n codi.

·         Bod y ddarpariaeth bresennol yn cyfarch amrywiaeth o anghenion, ac nid yr anghenion uwch yn unig, gyda’r anghenion uwch yn tueddu i fod yn egwyl fer yn Hafan y Sêr a mwy o oriau cefnogol efallai na’r anghenion is.

·         Bod amrywiaeth o anghenion yn cael eu darparu yn yr oriau cefnogol a bod ceisio dadansoddi rhywfaint o hynny yn ddarn o  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

GRŴP TASG A GORFFEN CYNLLUN AWTISTIAETH pdf eicon PDF 235 KB

I gyflwyno canfyddiadau ac argymhellion y Grŵp Tasg a Gorffen.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

a)    Derbyn canfyddiadau’r Grŵp Tasg a Gorffen.

b)    Gofyn i’r gwasanaeth:-

·         gynnal awdit o sefyllfa hyfforddiant staff proffesiynol sy’n gweithio yn y maes fel cam cyntaf.

·         Yna ystyried gosod targed ar gyfer cyflawni hyfforddiant gan anelu i’w cynnwys ar y rhaglen hyfforddiant craidd fel a ganlyn:-

a)     staff sy’n gweithio neu’n dod i gyswllt gyda phobl ag awtistiaeth (fesul adran a chan gynnwys ysgolion) a

b)     hyfforddiant codi ymwybyddiaeth ymhlith holl staff y Cyngor.

·      adeiladu ar yr hyfforddiant i staff mewn ysgolion a meddygfeydd ynghylch cyfeirio at y Tîm Niwro-ddatblygiadol mewn achosion nad ydynt yn gymwys.

·      annog yr holl Gynghorwyr i ddilyn yr e-fodiwl hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth a mynychu dyddiau agored ar draws y Sir sy’n galluogi pawb i gael profiad ar y bws awtistiaeth.

c)    Argymell fod y Pwyllgor Craffu, ar y cyd â’r Aelod Cabinet Plant a Theuluoedd, yn cysylltu gyda’r Aelod Cabinet Tai ac Eiddo i sicrhau mewnbwn gan y Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol i ddatblygiad unrhyw ysgol newydd neu addasiadau i unrhyw ysgol i’r dyfodol er mwyn ei gwneud yn addas i unigolion gydag awtistiaeth e.e. gofod tawel, gallu lleihau’r golau ayyb.  Byddai’n fuddiol sefydlu’r egwyddor o sicrhau mewnbwn gan y Tîm Awtistiaeth (Adran Plant ac Oedolion) ar gyfer unrhyw ddatblygiad newydd neu addasiad i unrhyw adeilad arall gan y Cyngor.

ch) Yn sgil pryder fod y cynllun yn cael ei ariannu trwy grant yn gyfredol, bod y Pwyllgor Craffu Gofal yn gofyn am ddiweddariad ymhen 12 mis pellach o weithredu i sicrhau fod cynnydd yn parhau i ddigwydd, gan ofyn am fewnbwn Addysg ac Iechyd unwaith eto.

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad Cadeirydd y Grŵp Tasg a Gorffen Cynllun Awtistiaeth, y Cynghorydd Elwyn Jones, yn gwahodd y pwyllgor i graffu canfyddiadau ac argymhellion y Grŵp Tasg a Gorffen.

 

Yn absenoldeb y Cynghorydd Elwyn Jones o’r cyfarfod, cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaeth Democratiaeth ac Iaith.  Nodwyd bod Cadeirydd y Grŵp Tasg a Gorffen yn dymuno:-

 

·         Diolch i’r holl swyddogion, nid yn unig am eu gwaith yn paratoi cyn cyfarfod y grŵp tasg, ond hefyd am eu cyfraniad yn ystod y cyfarfod a’u hatebion clir a gonest.

·         Diolch i’w gyd-gynghorwyr am y gwaith o baratoi cyn y cyfarfod a chyflwyno cwestiynau mor dda yn ystod y cyfarfod, a’i fod o’r farn bod yna sicrhau dealltwriaeth glir wedi dod yn sgil y cwestiynu a’r ymatebion cadarn.

·         Pwysleisio bod gan bob un o’r aelodau hefyd rôl allweddol i ymgymryd â’r hyfforddiant sydd ar gael yn y maes awtistiaeth.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Nododd aelod o’r Grŵp Tasg a Gorffen:-

 

·         Fod profiad personol a mewnwelediad proffesiynol y Cynghorwyr Dawn Jones a Gwynfor Owen wedi llywio trafodaethau’r Grŵp, a diolchodd iddynt am eu cyfraniadau gwerthfawr.

·         Y bu’n fraint cydweithio a gweld y gwaith sy’n mynd i mewn i’r maes awtistiaeth ac y cafwyd tryloywder clir a thrafodaeth onest gyda’r swyddogion.

·         Y dymunai dynnu sylw’n benodol at argymhelliad 3, sy’n ymwneud â sicrhau bod datblygiad unrhyw ysgol newydd neu addasiadau i unrhyw ysgol i’r dyfodol yn addas i unigolion gydag awtistiaeth, ac argymhelliad 4, sy’n galw am ddiweddariad i’r pwyllgor ymhen 12 mis pellach o weithredu i sicrhau fod cynnydd yn parhau i ddigwydd.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol:-

 

·         Bod hwn yn adroddiad ardderchog a’i fod yn falch bod y Grŵp wedi mynd i’r afael â’r pwnc hynod bwysig yma.

·         Bod y maes awtistiaeth yn faes sy’n cynyddu o ran y niferoedd o bobl sydd angen cymorth ac yn faes sy’n cynyddu o ran cymhlethdod hefyd.

·         Mai un o’r ffactorau heriol yw mai grant sy’n talu am ganran sylweddol o’r Tîm Awtistiaeth newydd, a gan nad oes sicrwydd y bydd Llywodraeth Cymru yn diogelu’r arian yma i’r dyfodol, bod angen diogelu’r Cyngor a’r bobl sy’n derbyn y gwasanaethau drwy edrych ar hynny.

·         Yn sicr bod angen cymryd cyngor wrth gynllunio unrhyw adeilad newydd neu addasiad i unrhyw un o adeiladau’r Cyngor neu ysgolion er mwyn sicrhau eu bod yn addas i unigolion gydag awtistiaeth, ond y byddai’n awgrymu diwygio geiriad argymhelliad 3 fel a ganlyn er mwyn adlewyrchu’r ffaith bod gan yr Adran Addysg eu tîm eu hunain sydd â’r arbenigedd penodol o ran adeiladau ysgolion, a hefyd i amlygu’r cyfrifoldebau yn glir:-

 

Argymell fod y Pwyllgor Craffu, ar y cyd â’r Aelod Cabinet Plant a Theuluoedd, yn cysylltu gyda’r Aelod Cabinet Tai ac Eiddo i sicrhau mewnbwn gan y Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol i ddatblygiad unrhyw ysgol newydd neu addasiadau i unrhyw ysgol i’r dyfodol er mwyn ei gwneud yn addas i unigolion gydag awtistiaeth e.e. gofod tawel, gallu lleihau’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.