Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ffion Elain Evans 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Menna Baines, Anwen J. Davies a Linda Ann Jones.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd yr aelodau canlynol fod ganddynt fuddiant mewn perthynas â’r eitem a nodir:

 

·        Y Cynghorydd Elwyn Jones yn eitem 5 gan fod aelodau o’i deulu yn ddigartref. Roedd yr Aelod o’r farn nad oedd yn fuddiant oedd yn rhagfarnu ac ni adawodd y cyfarfod.

·        Y Cynghorydd Gwynfor Owen yn eitem 8 ar y rhaglen oherwydd bod gan ei fab awtistiaeth. Roedd yr Aelod o’r farn nad oedd yn fuddiant oedd yn rhagfarnu ac ni adawodd y cyfarfod.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 280 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 22ain o Fehefin 2023, fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar yr 22ain o Fehefin 2023, fel rhai cywir.

 

5.

POLISI GOSOD TAI A RHESTR AROS TAI pdf eicon PDF 309 KB

I ystyried yr adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

a)     Derbyn a nodi’r adroddiad.

b)     Gofyn i’r swyddogion adrodd yn ôl i’r Pwyllgor maes o law ar unrhyw oblygiadau posibl i’r polisi yn dilyn asesu cynnwys Papur Gwyn Llywodraeth Cymru.

c)     Gofyn i’r swyddogion ystyried a oes lle i’r Pwyllgor gyfrannu at ymateb Cyngor Gwynedd i’r ymgynghoriad sy’n dilyn cyhoeddi’r Papur Gwyn.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan egluro mai diweddariad pellach ar y Polisi Gosod Tai a oedd dan sylw a bod y polisi eisoes wedi bod gerbron y Pwyllgor Craffu Gofal yn y gorffennol. Esboniwyd bod newidiadau wedi’u gwneud i bolisi’r Cyngor yng nghyd-destun sut y pennir i ba fandiau y caiff ceisiadau tai eu rhoi a bod y polisi presennol wedi bod mewn gweithrediad ers bron i dair blynedd bellach. Nodwyd bod y polisi wedi llwyddo i uchafu’r nifer o dai sy’n cael eu gosod i drigolion Gwynedd o 90% i 96.7% a bod hyn yn ganran uchel iawn, yn enwedig o ystyried nad oes modd ystyried cyswllt lleol fel maen prawf blaenoriaeth hanfodol ym mhob cais.

 

Esboniwyd bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi Papur Gwyn ym mis Hydref 2023 fyddai’n adolygu’r ddeddfwriaeth a’n gwneud newidiadau sylfaenol i’r ffordd yr ymdrinnir gyda digartrefedd ei ddelio gydag yng Nghymru. Oherwydd y cysylltiad rhwng digartrefedd ac eiddo cymdeithasol, sgil-effaith edrych ar adolygu’r ddeddfwriaeth ar ddigartrefedd yw bod angen ail-edrych ar sut mae eiddo cymdeithasol yn cael ei osod ac unrhyw sgil-effeithiau sy’n deillio o’r broses honno.

 

Nodwyd bod yr Adran Tai yn disgwyl yn eiddgar i weld y Papur Gwyn er mwyn cael dealltwriaeth o gyfeiriad y Llywodraeth. Eglurwyd bod ganddynt syniad eithaf da gan eu bod wedi bod mewn cyfarfodydd a thrafodaethau cyson gyda’r Llywodraeth dros y misoedd diwethaf ac wedi cael cyfle i nodi eu barn a’u teimladau am y newidiadau posib. Nodwyd felly eu bod yn gobeithio na fydd unrhyw beth rhy ysgytwol wedi’i gynnwys yn y Papur Gwyn ond y bydd angen ychydig o amser ar yr adran i werthuso ei gynnwys ac unrhyw effaith y gallai gael ar bolisïau’r Cyngor. Eglurwyd ei bod hi’n debygol bod cryn waith yn wynebu’r adran unwaith y caiff y Papur Gwyn ei gyhoeddi.

 

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- 

 

-        Diolchwyd am yr adroddiad gan nodi balchder dros lwyddiant y polisi hyd yma.

 

-        Codwyd cwestiynau am ddiffiniad y cysylltiad lleol a mynegwyd pryder y gallai’r Cyngor ddweud eu bod yn llwyddiannus wrth ddarparu tŷ i rywun o Aberdyfi ym Methesda. Gofynnwyd am eglurhad o sut y gellir sicrhau bod pobl fregus yn gallu aros yn eu cymunedau.

o   Mewn ymateb eglurwyd er bod gan bob awdurdod elfen o hyblygrwydd pan mae’n dod i Bolisi Gosod Tai, bod rhaid rhoi blaenoriaeth statudol i 5 categori o bobl ac felly bod yr elfen cysylltiad lleol yn gorfod bod yn eilradd i’r categorïau statudol hynny.

o   Nodwyd bod Cyngor Gwynedd wedi ychwanegu haen cysylltiad cymuned sy’n mynd ymhellach na chysylltiad lleol. Mewn sefyllfa pan fo ymgeiswyr yn yr un band blaenoriaeth eglurwyd y byddai pobl sydd gyda chysylltiad cymunedol yn cael blaenoriaeth dros y rhaid nad oedd gyda’r cysylltiad cymuned.

o   Esboniwyd bod 54% o’r gosodiadau diweddar wedi eu gwneud i ymgeiswyr oedd gyda chysylltiad cymunedol. Er bod y ffigwr yn ymddangos yn isel ar yr olwg gyntaf, eglurwyd bod diffyg llety addas mewn rhai cymunedau, er enghraifft dim fflatiau i  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

SEFYDLU SIOP UN STOP AR GYFER YMHOLIADAU TAI pdf eicon PDF 242 KB

I ystyried yr adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

a)     Derbyn a nodi’r adroddiad.

b)     Derbyn adroddiad cynnydd ymhen blwyddyn.

c)     Gofyn i’r Aelod Cabinet a swyddogion yr Adran Tai gysylltu gyda’r cymdeithasau tai i weld a oes modd iddynt ddod i gyfarfod o’r Pwyllgor Craffu a threfnu ffyrdd o hwyluso cyfathrebiad rhwng y cynghorwyr a’r cymdeithasau tai.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan egluro mai bwriad y Siop un Stop yw gweithredu fel drws blaen ar gyfer holl ymholiadau’r gwasanaeth tai a hwyluso’r broses ar gyfer y cwsmer. Esboniwyd bod adroddiad ar hyn wedi bod gerbron y Pwyllgor yn y gorffennol ond bod y gwaith wedi datblygu’n sylweddol ers cyflwyno’r adroddiad honno.

 

I ddechrau, eglurwyd bod sesiynau ymgysylltu wedi’u cynnal gyda phartneriaid allweddol, gan gynnwys y cymdeithasau tai a’r mudiadau trydydd sector, dros y 18 mis diwethaf er mwyn adnabod cyfleodd i gryfhau’r trefniadau presennol ac unrhyw effaith posibl ar natur y cyswllt y byddai unigolion yn ei gael gyda’r mudiadau. Cynhaliwyd trafodaethau hefyd gyda holl wasanaethau’r adran er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r cyswllt gyda thrigolion yng nghyd-destun yr ymholiadau y byddai’r Siop un Stop yn eu cefnogi.

 

Nodwyd bod ymgynghoriad cychwynnol gyda’r cyhoedd wedi’i gynnal yn Ionawr 2023 er mwyn derbyn adborth ar brofiadau cyffredinol trigolion Gwynedd sydd wedi cysylltu gyda’r gwasanaeth tai. Nodwyd bod 154 o ymatebion wedi’u derbyn a bod y mwyafrif o’r rhain wedi bod yn gadarnhaol. Rhoddwyd cydnabyddiaeth i’r ffaith bod yr ymgynghoriad wedi amlygu dyhead clir gan y cyhoedd i allu llenwi ffurflen gais ar-lein ar gyfer ceisiadau’r gofrestr tai cymdeithasol gyda dros 70% o ymatebion yn nodi y byddai hyn yn ddatblygiad positif. Nodwyd bod hyn eisoes wedi’i adnabod fel blaenoriaeth i’r adran ond nad oes cynhwysedd o fewn y system bresennol i alluogi pobl i wneud ceisiadau ar-lein. Amlygodd yr ymgynghoriad hefyd bod rhai aelodau o’r cyhoedd yn credu bod angen gwella’r cyfathrebu rhwng y Cyngor a’r cwsmer ac felly byddai gwell presenoldeb ar-lein er mwyn derbyn gwybodaeth heb orfod codi’r ffon neu e-bostio yn fuddiol.

 

Datblygiad allweddol arall a nodwyd yw penodi arweinydd ar gyfer y Siop un Stop ym mis Chwefror 2022 sydd wedi galluogi’r adran i ymchwilio sut y gellid gosod strwythur priodol i weithrediad y siop. Yn sgil hyn, penderfynwyd ymgorffori’r Uned Tîm Opsiynau Tai i mewn i’r Siop un Stop gan mai dyma’r maes gwaith a oedd yn derbyn y mwyafrif o ymholiadau gan y cyhoedd. Eglurwyd bod strwythur y tîm bellach bron yn gyflawn wrth i ddirprwy arweinydd gael ei benodi ym mis Mai 2023.

 

Nodwyd bod yr adran wedi ymchwilio mewn i system newydd a fyddai’n eu galluogi i gadw gwybodaeth gynhwysfawr a chyfredol mewn un lle Eglurwyd y byddai’r system sydd wedi’i dewis yn moderneiddio’r gwasanaeth a gynigir i’r cyhoedd a bod y gwaith rhaglenedig sy’n mynd yn ei flaen yn cynnwys trefniadau i sefydlu’r system, cyfnod treialu a dyddiadau ar gyfer hyfforddiant perthnasol. Esboniwyd hefyd bod yr adran wedi penderfynu defnyddio’r system fewnol FFOS ar gyfer gwaith derbyn galwadau a gwaith gweinyddol dydd-i-ddydd y siop gan ei fod yn gysylltiedig gyda gwefan y Cyngor a chyfrifon y wefan yn barod.

 

Yn ychwanegol, nodwyd bod y Cyngor wedi penderfynu sefydlu Un Pwynt Mynediad (SPOA) ar gyfer rhai o brosiectau a gwasanaethau sy’n cael eu hariannu gan y Grant Cymorth Tai. Eglurwyd y byddai’r drefn newydd yn symleiddio’r broses i unigolion sy’n cael  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

LLETY CEFNOGOL CYFFREDINOL GAN GYNNWYS GWASANAETHAU ANABLEDDAU DYSGU, IECHYD MEDDWL A CHEFNOGAETH I FERCHED pdf eicon PDF 528 KB

I ystyried yr adroddiad

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

a)     Derbyn a nodi’r adroddiad ar sefyllfa llety cefnogol i unigolion ag anableddau dysgu yng Ngwynedd yn unig gan nad oes cyfeiriad at iechyd meddwl a chefnogaeth i ferched yn yr adroddiad.

b)     Gofyn i’r swyddogion rannu gwybodaeth gydag aelodau’r pwyllgor am lety cefnogol sy’n cael ei ddarparu gan y gwasanaeth iechyd meddwl ac ar gyfer cefnogaeth i ferched.

 

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant yr adroddiad er mwyn darparu cyd-destun a diweddariad ar y sefyllfa yng nghyd-destun llety a chefnogaeth i unigolion ag anableddau dysgu. Diolchodd i’r Uwch Reolwr Anableddau Dysgu ac i’r tîm cyfan am eu gwaith gan ddatgan ei bod hi’n anodd cyfleu drwy eiriau pa mor bwysig yw’r gwaith yma.

 

Eglurwyd bod Cynllun Gweithredol Strategol Anabledd Dysgu 2022 i 2026 Llywodraeth Cymru yn amlinellu’r agenda ar gyfer gwasanaethau i unigolion ag anableddau dysgu a bod yr adran yn cydweithio gyda phartneriaid er mwyn cynllunio a datblygu modelau llety a chefnogaeth sy’n addas i gwrdd â’r anghenion hyn. Nodwyd bod 70 o bobl yn disgwyl am lety ar hyn o bryd a bod y rhain yn cael eu rhoi mewn tri chategori: yr unigolion sydd ag angen blaenoriaeth sef llety o fewn y flwyddyn nesaf; yr unigolion sydd angen llety o fewn y ddwy flynedd nesaf a’r unigolion sydd angen cynllunio ar eu cyfer dros y blynyddoedd nesaf. Nodwyd bod yr adran yn cydweithio gyda'r Adran Tai a’r cymdeithasau tai a bod y cysylltiad hwn yn hollbwysig. Eglurwyd bod gwaith newydd ei gwblhau ar dŷ newydd yn Y Groeslon a fyddai’n gallu darparu cefnogaeth ar gyfer tri unigolyn ac mai’r gobaith yw gallu cartrefu pobl erbyn mis Tachwedd.

 

Esboniwyd bod y Cyngor yn meddu ar ddarlun eithaf llawn o’r sefyllfa yn y sir a’u bod yn cwblhau asesiadau parhaus o deuluoedd/unigolion sy’n dod trwy'r system a bod paratoi tuag at y dyfodol yn rhan o becyn pawb. Cadarnhawyd hefyd bod y Tîm Anabledd Dysgu a Thîm Derwen yn cwrdd yn gyson i drin a thrafod sefyllfaoedd unigolion sydd mewn oed trosglwyddo, hynny yw oddeutu 6 mis bob ochr i 18 mlwydd oed, er mwyn paratoi a chydweithio ar gyfer y plant hynny sy’n troi yn oedolion.

 

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-

 

-        Diolchwyd am yr adroddiad a chroesawyd y datblygiadau.

-        Nodwyd nad oedd cynnwys yr adroddiad yn cyfateb i deitl yr eitem ar yr agenda a bod yr eitem ar yr agenda yn llawer ehangach na’r hyn a roddwyd yn yr adroddiad.

o   Mewn ymateb, nodwyd bod hyn yn sylw digon teg gan gadarnhau bod yr elfennau eraill yn rhan o’r darlun er nad oes cyfeiriad atynt yn yr adroddiad.

o   Eglurwyd bod yr elfen o ran cefnogaeth i ferched yn dueddol o orgyffwrdd gyda meysydd sydd o dan gyfrifoldeb yr Adran Tai ac efallai bod hyn yn enghraifft o faes lle gellir cryfhau’r cydweithrediad rhwng yr adrannau.

 

-        Mynegwyd pryder bod diffiniad anabledd dysgu yn rhy gul a bod tueddiad i ganolbwyntio ar y diffiniad yn unig, heb ystyried y modd y mae’r anghenion yn debyg iawn i anghenion iechyd meddwl. Nodwyd y byddai gwell cydweithrediad rhwng y gwasanaeth anabledd dysgu a’r gwasanaeth iechyd meddwl yn fuddiol iawn yn hytrach na gosod y materion mewn blociau ar wahân.

 

-        Nodwyd bod corff sy’n gyfatebol i Arolygaeth Gofal Cymru yn arolygu gwasanaethau o’r math hwn yn Yr Alban ond  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

BRIFF DRAFFT GRWP TASG A GORFFEN CYNLLUN AWTISTIAETH pdf eicon PDF 260 KB

I ystyried mabwysiadu’r briff ac ethol aelodau i ymgymryd â gwaith y grŵp tasg a gorffen.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

a)     Mabwysiadu’r briff ac ychwanegu y bydd y grŵp yn edrych ar y Cynllun Awtistiaeth yn ei gyfanrwydd.

b)     Ethol y Cynghorydd Jina Gwyrfai i fod yn rhan o’r Grŵp Tasg a Gorffen Cynllun Awtistiaeth.

c)     Ymgysylltu gydag holl aelodau’r Pwyllgor Craffu Gofal drwy e-bost er mwyn derbyn dau enw arall i fod yn rhan o’r grŵp tasg a gorffen.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd y briff drafft gan fod aelodau’r Pwyllgor Craffu Gofal wedi penderfynu yn eu cyfarfod ym mis Ebrill nad oeddynt wedi derbyn gwybodaeth ddigonol am Gynllun Awtistiaeth Gwynedd. Oherwydd hyn, roeddynt yn awyddus i fynd i fwy o fanylder am y gwasanaeth sy’n cael ei gynnig ac felly penderfynwyd sefydlu Grŵp Tasg a Gorffen.

                                                                                       

Penderfynwyd y byddai’r Grŵp Tasg a Gorffen yn cynnwys aelodau o’r Pwyllgor Craffu Gofal a’r Pwyllgor Craffu Addysg & Economi, yn ogystal â chynrychiolaeth o’r Adran Plant, Adran Oedolion, Adran Addysg a’r Bwrdd Iechyd. Gofynnwyd am dri chynrychiolydd o’r Pwyllgor Craffu Gofal i ymgymryd â gwaith y grŵp tasg a gorffen.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-

 

-        Nodwyd bod y briff yn gyffredinol iawn ac er bod penderfyniad y pwyllgor mis Ebrill yn cyfeirio at drafodaeth o weithrediad y cynllun yn ei gyfanrwydd gyda’r tîm newydd, nad oedd cyfeiriad o hynny yn y briff.

o   Mewn ymateb, eglurwyd mai camgymeriad oedd hynny ac y dylai’r geiriad gyd-fynd gyda geiriad yr hyn a benderfynwyd yn y pwyllgor.

 

-        Cynigwyd bod y Grŵp Tasg a Gorffen yn edrych ar y Cynllun Awtistiaeth yn ei gyfanrwydd yn gyntaf ac efallai y byddai modd gweithredu neu edrych yn fanylach ar faterion penodol yn dilyn argymhellion y grŵp. Penderfynwyd y byddai hyn yn ffordd deg o roi cyfle i’r tîm newydd wneud gwahaniaeth a gweithredu eu rhaglen waith.

 

-        Nodwyd y byddai rhagor o gynrychiolaeth o’r adran oedolion yn fuddiol gan fod mwy nag un tîm yn delio gyda’r mater a dadleuwyd ei bod hi’n hanfodol bod y Cydlynydd Prosiect Gwasanaethau Awtistiaeth yn rhan o’r drafodaeth.

 

 

Eglurwyd na fyddai’r Grŵp Tasg a Gorffen yn un hir, oddeutu 2-3 gyfarfod ar y mwyaf. Rhoddodd y Cynghorydd Jina Gwyrfai ei henw ymlaen i fod yn aelod o’r Grŵp Tasg a Gorffen. Oherwydd nad oedd holl aelodau’r Pwyllgor yn bresennol yn y cyfarfod, penderfynwyd y byddai e-bost yn cael ei anfon i aelodau’r Pwyllgor Craffu Gofal i ofyn pwy arall sydd gan ddiddordeb i fod yn rhan o’r grŵp. Os na fyddai enwau’n dod i law, yna byddai’r gwahoddiad yn cael ei ymestyn i weddill aelodau’r Cyngor. Nodwyd y byddai’r gynrychiolaeth o’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi yn cael ei gadarnhau yng nghyfarfod y pwyllgor ar y 9fed o Dachwedd.

 

 

PENDERFYNWYD

 

a)     Mabwysiadu’r briff ac ychwanegu y bydd y grŵp yn edrych ar y Cynllun Awtistiaeth yn ei gyfanrwydd.

b)     Ethol y Cynghorydd Jina Gwyrfai i fod yn rhan o’r Grŵp Tasg a Gorffen Cynllun Awtistiaeth.

c)     Ymgysylltu gyda holl aelodau’r Pwyllgor Craffu Gofal drwy e-bost er mwyn derbyn dau enw arall i fod yn rhan o’r grŵp tasg a gorffen.