Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Ffion Elain Evans E-bost: ffionelainevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Anwen J. Davies, Medwyn Hughes ac Einir Wyn Williams. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd y Cynghorwyr Eryl Jones-Williams a Gwynfor Owen fuddiant yn eitem 7 gan eu bod yn ofalwyr di-dal ar gyfer aelodau o’u teulu. Roedd yr aelodau o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu a bu iddynt adael y cyfarfod yn ystod y drafodaeth. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w
nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod diwethaf y pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar y 21ain o Fedi, fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar yr 21ain o Fedi 2023, fel rhai cywir. |
|
GWASANAETH GOFAL DYDD PDF 148 KB Ystyried yr adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: a) Derbyn
yr adroddiad gan nodi’r sylwadau. b)
Cefnogi’r bwriad i gynnal adolygiad llawn o’r
ddarpariaeth bresennol ac ystyried model amgen. c)
Gofyn i’r swyddogion sicrhau bod y model newydd
yn darparu gwasanaeth cyson ar draws y sir gan gynnwys gwasanaeth i rai sy’n
byw mewn ardaloedd gwledig. d)
Gofyn i’r adran gyflwyno adroddiad pellach ar yr
adolygiad a’r modelau posib pan yn amserol er mwyn rhoi cyfle i’r craffwyr roi
mewnbwn pellach. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan egluro nad yw’r
model traddodiadol o ddarparu Gofal Dydd wedi ei adolygu yng Ngwynedd ers
blynyddoedd lawer ac nad yw wedi ei addasu i gyfarch anghenion Deddf
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a ddaeth i rym ym mis Ebrill
2016. Eglurwyd ei bod hi’n amserol i ail-ystyried y ddarpariaeth yn enwedig o
ystyried gwaith diweddar a wnaed gan Lywodraeth Cymru a’r modd y mae’r pandemig
wedi pwysleisio pwysigrwydd cyfleon cymdeithasu a bod yn rhan o gymuned i
lesiant unigolion. Nodwyd mai’r gobaith yw y bydd yr adolygiad yn gyfle i
ystyried ffyrdd gwahanol, mwy addas a hyblyg o ddarparu cefnogaeth a
gwasanaethau. Esboniwyd bod y Cyngor wedi arfer darparu
rhaglen o weithgareddau gofal dydd traddodiadol mewn lleoliadau penodol yn y
sir ar gyfer oedolion oedd angen cefnogaeth. Roedd y canolfannau hyn yn
galluogi pobl hŷn i gymdeithasu a chymryd rhan mewn gweithgareddau penodol
gan roi cyfle i’r sawl oedd yn gofalu amdanynt o ddydd i ddydd gael ychydig o
seibiant. Eglurwyd mai bwriad yr adran yw symud i ffwrdd
o’r model traddodiadol o ddarparu gwasanaethau ynghlwm ag adeiladau a
chanolbwyntio yn hytrach ar sut y gellid cyfarch a chefnogi llesiant unigolion
a gofalwyr mewn amryw o wahanol ffyrdd. Er mwyn cyflawni hyn, nodwyd bod yr
adran yn bwriadu cynnal adolygiad ac ymgynghori gyda phobl Gwynedd am
drefniadau darpariaeth gofal dydd. Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a
ganlyn:- -
Diolchwyd am yr adroddiad a chroesawyd y
datblygiadau. Mynegwyd gwerthfawrogiad am ba mor onest yw ei gynnwys a’r modd y
mae’n cyfaddef nad yw’r ddarpariaeth bresennol yn llwyddo i gyrraedd pawb. -
Nodwyd bod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a
Llesiant (Cymru) 2014 wedi dod i rym ers saith mlynedd bellach ac felly holwyd
pam mai rŵan y mae’r adran yn bwriadu ail-ystyried y ddarpariaeth? o Mewn ymateb, eglurwyd bod yr adran wedi dechrau ar y gwaith cyn y
pandemig ond bod y gwaith wedi gorfod dod i ben oherwydd materion diogelwch.
Nodwyd ei bod hi’n amserol i ail-ystyried y mater bellach ond rhoddwyd
cydnabyddiaeth i’r ffaith y dylai’r gwaith fod wedi cael ei wneud flynyddoedd
yn ôl. o Ychwanegodd yr Aelod Cabinet
Oedolion, Iechyd a Llesiant fod pwysau enfawr wedi bod ar yr adran a bod
hynny’n cyfrannu’n uniongyrchol at yr amser mae wedi cymryd i ail-ymweld â’r
gwaith. -
Mynegwyd pryder nad yw’r ddarpariaeth yn cyrraedd
ardaloedd gwledig y sir a bod angen cymryd camau i sicrhau gwell darpariaeth ar
gyfer yr ardaloedd hyn yn y dyfodol. o Mewn ymateb, cytunwyd bod y ddarpariaeth mewn ardaloedd gwledig yn bwysig
ond na fydd posib cael canolfan ym mhob pentref. o Serch hyn, nodwyd bod gweithgareddau cymunedol yn digwydd yn y mwyafrif o
gymunedau a bod angen gweld beth sydd ar gael mewn gwahanol ardaloedd a’u
defnyddio er mwyn darparu’r gefnogaeth i unigolion. o Nodwyd mai un o’r ffydd gorau o gefnogi pobl ydi parhau i adael iddyn nhw fod yn rhan o’r gymuned, yn enwedig mewn achosion ble mai cwmnïaeth yw’r broblem ac felly ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
TREFNIADAU RHEOLI A CHYNNAL CARTREFI GOFAL PDF 136 KB Ystyried yr adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: a)
Derbyn yr adroddiad, croesawu’r cynnydd sydd wedi’i wneud ers yr
archwiliadau cyntaf a diolch i staff y cartrefi gofal am eu gwasanaeth. b)
Datgan pryder am heriau staffio cartrefi gofal a’r problemau a ddaw yn
sgil hynny megis anhawster cwblhau hyfforddiant. c)
Gofyn i’r adran berthnasol ystyried sut y gellir sicrhau bod pob cartref
yn cyrraedd lefel sicrwydd uchel yn y dyfodol. d)
Gofyn am wahoddiad i Gadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu Gofal
fynychu cyfarfodydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn y dyfodol pan fo
trafodaethau am adroddiadau archwilio mewnol cartrefi gofal. e)
Hysbysu aelodau y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio o sylwadau a
phenderfyniadau aelodau’r Pwyllgor Craffu Gofal. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan esbonio bod gan
Gyngor Gwynedd 13 cartref gofal sy’n cefnogi a gofalu am oedolion ar draws y
sir a’u bod yn cael eu harchwilio’n gyson gan ystod eang o archwilwyr mewnol ac
allanol. Nodwyd bod yr adroddiad hwn yn rhoi sylw’n benodol i archwiliadau sydd
wedi’u cynnal gan Wasanaeth Archwilio Mewnol y Cyngor a’u bod wedi archwilio
tri chartref gofal yn ystod blwyddyn ariannol 2022/23. Y cartrefi hynny oedd
cartrefi Plas Gwilym, Hafod Mawddach a Bryn Blodau. Eglurwyd mai bwriad yr
archwiliadau oedd sicrhau bod trefniadau addas mewn lle ar gyfer rheoli a
chynnal y cartrefi yn briodol ac yn unol â rheoliadau a safonau perthnasol. Eglurwyd bod yr archwiliadau wedi dod i’r
casgliad mai cyfyngedig oedd lefel sicrwydd y cartrefi dan sylw ac felly bod
angen cymryd camau er mwyn gwella cydymffurfiaeth â’r rheolaethau ac er mwyn
lliniaru’r risgiau a amlygwyd. Mewn ymateb, esboniwyd bod y gwasanaeth wedi
ymrwymo i weithredu camau ar gyfer lliniaru’r risg a amlygwyd a darparwyd
rhestr o’r camau hynny yn yr adroddiad. Nodwyd bod archwiliadau dilynol wedi’u cynnal
yn y tri chartref dan sylw ym mis Hydref 2023 er mwyn sicrhau fod y gwasanaeth /
cartref wedi gweithredu ar y camau gweithredu ymrwymwyd iddynt. Cadarnhawyd bod
gwelliant wedi’i weld ym mhob cartref ond bod camau pellach i’w cymryd er mwyn
lliniaru’r risg ymhellach. Eglurwyd bod nifer o’r materion sy’n parhau i fod
angen sylw yn ymwneud â materion staffio, megis hyfforddiant a goruchwyliaeth.
Nodwyd bod y sefyllfa’n heriol ac yn amrywio rhwng cartrefi. Cadarnhawyd y bydd
y sefyllfa a’r cartrefi unigol yn parhau i gael eu monitro er mwyn sicrhau bod
y camau gweithredu yn cael eu rhoi ar waith. Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a
ganlyn:- -
Diolchwyd am yr adroddiad a chroesawyd y
cynnydd sydd wedi’i wneud ers yr archwiliadau cyntaf. -
Diolchwyd i holl staff y cartrefi gofal am eu
gwaith a’u hymroddiad i’w cleientiaid. Nodwyd bod y ganmoliaeth gan bobl
Gwynedd i’r cartrefi yn dda iawn a bod hynny werth ei nodi. -
Tynnwyd sylw at y ffaith bod adroddiadau
archwilio mewnol cartrefi gofal yn mynd gerbron y Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio cyn y Pwyllgor Craffu Gofal a chynigiwyd y
dylai cynrychiolwyr o’r pwyllgor hwn fynychu cyfarfodydd y Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio yn y dyfodol pan fo trafodaethau am adroddiadau
archwilio mewnol cartrefi gofal. -
Mynegwyd pryder am y ffaith mai dim ond tri
chartref sy’n cael eu harolygu’n flynyddol a holwyd sut y mae sicrhau’r safon
mewn cartrefi sydd ddim yn cael eu harolygu’r flwyddyn honno? o Mewn
ymateb, eglurwyd bod Archwilio Mewnol yn dewis tri chartref ar hap bob blwyddyn
i’w archwilio a bod archwiliadau eraill yn digwydd hefyd, boed yn rhai allanol
neu’n rhai mewnol gan y gwasanaeth. o Nodwyd
bod y gwasanaeth yn ceisio dysgu o bob archwiliad a bod unrhyw sylwadau neu
awgrymiadau am welliannau yn cael eu rhoi ar waith ym mhob cartref. - Anogwyd yr aelodau i ymweld â chartrefi gofal y sir gan y byddai’r staff ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
CEFNOGAETH I OFALWYR DI-DAL PDF 322 KB Ystyried yr
adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: a)
Derbyn yr adroddiad a datgan cefnogaeth i godi ymwybyddiaeth o’r
gefnogaeth sydd ar gael i ofalwyr di-dal gan gynnwys y cynllun taliadau
uniongyrchol. b)
Gofyn am gyflwyniad a gwybodaeth pellach i aelodau am y cynllun taliadau
uniongyrchol. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan egluro bod yr adroddiad yn un ar y cyd rhwng y Gwasanaeth
Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Gwasanaeth Plant a Chefnogi Teuluoedd gan fod
cefnogi gofalwyr di-dâl yn faes pwysig a heriol sy’n berthnasol i’r ddwy adran.
Eglurwyd mai gofalwyr di-dal sy’n darparu’r mwyafrif helaeth o ofal a
chefnogaeth i unigolion bregus, anabl a sâl yn y gymdeithas ac felly bod angen
sicrhau bod cefnogaeth ddigonol ar gael ar eu cyfer. Nodwyd bod 8.9% o
boblogaeth Gwynedd yn adnabod eu hunain fel gofalwyr di-dal yn ôl cyfrifiad
2021 ond bod y ffigwr gwirioneddol yn llawer uwch na hynny. Esboniwyd bod cefnogi gofalwyr di-dal wedi’i
adnabod fel un o’r amcanion o fewn y maes blaenoriaeth ‘Gwynedd Ofalgar’ yng
nghynllun y Cyngor 2023-28. Nodwyd bod y Cyngor yn awyddus i gydweithio gyda’u
partneriaid i ddatblygu Cynllun Gofalwyr grymus ac uchelgeisiol ar gyfer
Gwynedd a bod y blaenoriaethau a’r pethau y gellid mynd i’r afael â nhw wedi’u
rhannu’n bedair thema: 1. Adnabod
a gwerthfawrogi gofalwyr di-dal 2. Darparu
gwybodaeth, cyngor a chymorth 3. Help
i fyw yn ogystal â gofalu 4. Cefnogi
gofalwyr di-dal mewn addysg ac yn y gweithle Tynnwyd
sylw at ap newydd ‘AiDi’ sydd wedi’i ddatblygu ar y
cyd â Chyngor Sir Ynys Môn er mwyn helpu gofalwyr ifanc ddarganfod gwybodaeth a
chefnogaeth. Mae’r ap yn caniatáu i ofalwyr ifanc gael gostyngiadau mewn degau
o siopau lleol ac yn eu galluogi i gysylltu’n sydyn gyda'r ysgol neu’r coleg os
ydynt yn rhedeg yn hwyr oherwydd eu cyfrifoldebau. Nodwyd bod 61 o ofalwyr
ifanc wedi ymaelodi hyd yma. Eglurwyd mai’r gobaith yw ehangu’r gefnogaeth
sydd ar gael ar i ofalwyr di-dal ar hyn o bryd gyda’r bwriad o sicrhau
cefnogaeth a chydnabyddiaeth deg ac amserol ar eu cyfer. Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a
ganlyn:- -
Diolchwyd am yr adroddiad ac am yr holl waith
a wneir gan y tîm i gefnogi gofalwyr di-dal. -
Canmolwyd holl waith caled y gofalwyr di-dal
ar draws Gwynedd. Tynnwyd sylw at bwysigrwydd y gwaith a wneir ganddynt gan ei
fod yn cyfrannu’n uniongyrchol tuag at ysgafnhau pwysau mewn meysydd eraill. -
Mynegwyd diddordeb mewn cael rhagor o
wybodaeth am daliadau uniongyrchol er mwyn i’r Cynghorwyr ddod yn ymwybodol o
sut mae’r system yn gweithio. o Mewn
ymateb, nodwyd bod taliadau uniongyrchol wedi’i weld fel mater dyrys yn y
gorffennol ond bod gymaint o botensial i’w defnyddio i dalu am ystod eang o
wahanol bethau. o Eglurwyd
fod ansicrwydd ynglŷn sut i gyflwyno’r mater ymysg y staff ac felly bod
angen gweithio ar gynyddu eu hyder a’u hymwybyddiaeth hwy. o O
ystyried hyn, cytunwyd y byddai’n fuddiol i’r Cynghorwyr dderbyn rhagor o
wybodaeth am daliadau uniongyrchol. Ategwyd bod cynyddu ymwybyddiaeth o’r
gefnogaeth sydd ar gael i ofalwyr di-dal yn gwbl allweddol ac anogwyd yr
aelodau i ledaenu’r neges. o Awgrymwyd mai cyflwyniad fyddai’r
ffordd fwyaf addas o ddarparu’r wybodaeth i’r Cynghorwyr a chynigiwyd
y byddai’n fuddiol petai’n cael ei ddarparu wyneb-yn-wyneb. - Nodwyd bod angen ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |