Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sioned Mai Jones 01286 679665
Nodyn: **NEWID LLEOLIAD - CYFARFOD RHITHIOL**
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorwyr
Anwen Davies, Elwyn Jones a Linda Ann Jones. Dymunwyd gwellhad buan i aelodau sy’n wael
ar hyn o bryd. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd y
Cynghorydd Gwynfor Owen fuddiant personol yn eitem 7 oherwydd bod ei fab yn
awtistig. Roedd o’r
farn bod y buddiant yn rhagfarnu, a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth
ar yr eitem. |
|
MATERION BRYS I nodi
unrhyw eitemau sydd yn fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu
hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w
nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y
cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 1af o
Chwefror, 2024 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 1 Chwefror, 2024 fel rhai cywir. |
|
Paratoi Adroddiad Blynyddol ar
weithrediad y Weithdrefn Sylwadau a Chwynion a’i gyflwyno i’r Cabinet a’r
Pwyllgor Craffu er mwyn craffu a monitro’r trefniadau ar gyfer delio’n
effeithiol â chwynion a dderbyniwyd gan ddefnyddwyr gwasanaeth a’u
cynrychiolwyr. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan nodi
ei bod yn braf gweld y diolchiadau, a bod y pwyllgor yn craffu Adroddiad
Blynyddol y Weithdrefn Cwynion, Ymholiadau a Diolchiadau ar gyfer 2023-24 pan
fydd yn barod yn y misoedd nesaf. Cofnod: Cyflwynwyd
- Adroddiad Blynyddol ar y Weithdrefn Cwynion, Ymholiadau a Diolchiadau’r
Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd ac Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant ar gyfer
2022-23. Gwahoddwyd y pwyllgor i
graffu’r trefniadau ar gyfer delio’n effeithiol â chwynion a dderbyniwyd gan
ddefnyddwyr gwasanaeth a’u cynrychiolwyr. Gosododd y ddau
Aelod Cabinet y cyd-destun gan ddiolch i staff y ddwy adran am eu hymroddiad
wrth ymateb i gwynion a diolchiadau gan y cyhoedd a defnyddwyr gwasanaeth. Yna rhoddodd y Swyddog Gofal Cwsmer –
Oedolion Iechyd a Llesiant drosolwg o gynnwys yr adroddiad. Yna rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig
sylwadau. Gofynnwyd am roi
gwybod i’r aelodau os oes tueddiad o rywbeth yn mynd o’i le, yn hytrach na bod
yr aelodau yn clywed am y cwynion hynny ar y cyfryngau, neu gan aelodau o’r
cyhoedd. Mewn ymateb, nodwyd :- ·
Y dymunid osgoi sefyllfaoedd o’r fath ac y ceisid
sicrhau bod y cyswllt â Thîm y Wasg y Cyngor yn gweithio mor hwylus â phosib’ o
safbwynt rhoi gwybod iddynt am unrhyw beth sy’n debygol o godi. ·
Yn amlwg, bod enghreifftiau yn codi weithiau lle nad
oedd hynny wedi digwydd, a bod wastad lle i wella. Nodwyd ei bod yn gysur gweld bod yna
weithdrefn glir ar gyfer cyflwyno cŵyn ac ar gyfer delio â chŵyn, ond
awgrymwyd bod dweud wrth bobl na ellir derbyn eu cŵyn ar y pryd oherwydd
bod ymchwiliad arall ar y gweill yn achosi mwy o bryder i’r bobl hynny, sydd
eisoes wedi cyrraedd pen eu tennyn.
Holwyd beth oedd y trefniadau ar gyfer ail-gyflwyno cŵyn o’r fath
wedi i ymchwiliad arall ddod i ben. Mewn
ymateb, nodwyd:- ·
Na ellid yn gyfreithiol ymateb i gŵyn os oes
ymchwiliad, e.e. ymchwiliad Heddlu, ar y gweill oherwydd y gallai hynny
ragfarnu unrhyw ymchwiliad arall. ·
Bod y person sy’n cyflwyno cŵyn yn derbyn
taflen yn egluro nad oes modd ymchwilio i gŵyn yn syth mewn rhai achosion
ac yn eu gwahodd i ail-gyflwyno’r gŵyn unwaith y bydd unrhyw ymchwiliad
arall wedi dod i ben. ·
Mewn rhai achosion, e.e. ymchwiliad o dan y drefn
Diogelu, bod modd darganfod bod y broses wedi dod i ben a chynnig i’r achwynydd
ail-gyflwyno ei gŵyn. Weithiau
hefyd, gallai proses oedd wedi cychwyn eisoes fod yn ddigonol i ddatrys mater
fel nad oedd angen ail-godi cŵyn. Nodwyd mai’r ddau
ganfyddiad sy’n dod allan o’r adroddiad eleni yw bod disgwyliadau teuluoedd o’r
gwasanaeth yn hynod o uchel a bod angen cyfathrebu clir a chyson. Holwyd a oedd modd rheoli disgwyliadau drwy
roi gwybod i deuluoedd o’r cychwyn nad oes modd i’r Cyngor gynnig popeth iddynt. Mewn ymateb, nodwyd:- ·
Y
credid bod hyn yn berthnasol i’r Adran Plant oherwydd ymyrraeth y Gwasanaeth ym
mywydau teuluoedd ar faterion diogelu ynghyd â chymhlethdod y prosesau. · O ran materion diogelu, derbynnid cwynion bod gwarcheidwaeth plant yn ôl yn y teuluoedd, ac ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
GWASANAETH EGWYL FER (TÎM INTEGREDIG DERWEN) PDF 238 KB Er mwyn cael sicrwydd bod darpariaeth addas ar gael i bawb sydd angen y
gwasanaeth. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn
yr adroddiad gan ddiolch i bawb sy’n gweithio yn y Gwasanaeth Egwyl Fer, a
mynegi gobaith y bydd y cyllid ar gael i barhau i gynnig y gwasanaeth i bawb
sydd ei angen fel mae amser yn mynd yn ei flaen. Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad
yr Aelod Cabinet Plant a Theuluoedd ar y gwasanaeth Egwyl Fer (Tîm Integredig
Derwen). Gwahoddwyd y pwyllgor i graffu
cynnwys yr adroddiad er mwyn cael sicrwydd bod darpariaeth addas ar gael i bawb
sydd angen y gwasanaeth. Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun gan
ddiolch i’r holl staff am eu gwaith diflino a’u brwdfrydedd a’u cariad wrth
weithio hefo’r plant mwyaf bregus yng Ngwynedd.
Ymhelaethodd y Pennaeth Cynorthwyol Adnoddau - Plant a Chefnogi Teuluoedd
ar gynnwys yr adroddiad ac yna rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau. Nodwyd bod yr adroddiad a’r cyflwyniad yn
amlygu’r galw anferthol am y gwasanaeth egwyl fer, a’i bod yn amlwg bod yna
waith gwych iawn a hanfodol yn mynd yn ei flaen. Tynnwyd sylw at yr angen am wasanaeth egwyl
fer ar gyfer oedolion yn ogystal, ond eglurwyd bod yr eitem hon yn trafod y
ddarpariaeth ar gyfer plant yn unig. Mynegwyd pryder o ddeall fod nifer y
gwirfoddolwyr wedi gostwng o 20 cyn y cyfnod Cofid i 3 erbyn hyn. Holwyd beth sy’n cael ei wneud i geisio
recriwtio rhagor o wirfoddolwyr, a gofynnwyd oedd modd defnyddio’r
gwirfoddolwyr presennol mewn ymdrech i geisio denu rhagor. Mewn ymateb, nodwyd:- ·
Gan
na fu’n bosib’ parhau â’r cynllun egwyl fer dros y cyfnodau clo, y collwyd
nifer o wirfoddolwyr wrth i bobl symud yn eu blaenau. ·
Bod
y Swyddog Egwyl Fer yn cyfarfod yn rheolaidd â Phrifysgol Bangor, sef y prif
gysylltiad o ran yr ymgyrchoedd recriwtio. ·
Y
cytunid â’r sylw ynglŷn â defnyddio gwirfoddolwyr presennol, ond na ellid
gwneud mwy nag amlygu bod y cyfleoedd yn bodoli a bod mor rhagweithiol â
phosib’ o safbwynt ymateb i unrhyw ymholiadau. ·
Bod
5 darpar wirfoddolwr yn mynd drwy’r broses DBS ar hyn o bryd a mawr obeithid y
byddai’r unigolion hyn ar gael i’r gwasanaeth yn fuan er mwyn gwneud
gwahaniaeth. ·
O
bosib’ bod yr argyfwng costau byw yn effeithio ar awydd pobl i roi eu hunain
ymlaen i wirfoddoli, ond yn sicr byddai’r Gwasanaeth yn dyfalbarhau i geisio
cynyddu’r nifer. Holwyd pa
wasanaeth a gynigir i deuluoedd plant ag anghenion llai dwys ynghyd â beth yw’r
rhagolygon ar gyfer y dyfodol o ystyried bod y galw yn cynyddu o flwyddyn i
flwyddyn. Gofynnwyd hefyd a ellir bod yn
hyderus y byddwn yn gallu cwrdd â’r anghenion dwys, heb son am yr anghenion
eraill, yn wyneb sefyllfa gyllidol y Cyngor ar gyfer y blynyddoedd nesaf. Mewn ymateb, nodwyd:- ·
Bod y cwestiynau yn adlewyrchu’r heriau mae’r
Gwasanaeth yn eu hwynebu ac yn amlwg yn eu trafod o ran datblygiad, ayb, a sut
i addasu’r gwasanaeth i gyfarch yr anghenion sy’n codi. ·
Bod y ddarpariaeth bresennol yn cyfarch amrywiaeth o
anghenion, ac nid yr anghenion uwch yn unig, gyda’r anghenion uwch yn tueddu i
fod yn egwyl fer yn Hafan y Sêr a mwy o oriau cefnogol efallai na’r anghenion
is. · Bod amrywiaeth o anghenion yn cael eu darparu yn yr oriau cefnogol a bod ceisio dadansoddi rhywfaint o hynny yn ddarn o ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
GRŴP TASG A GORFFEN CYNLLUN AWTISTIAETH PDF 235 KB I gyflwyno canfyddiadau ac argymhellion y Grŵp Tasg a Gorffen. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: a) Derbyn
canfyddiadau’r Grŵp Tasg a Gorffen. b) Gofyn
i’r gwasanaeth:- ·
gynnal awdit o
sefyllfa hyfforddiant staff proffesiynol sy’n gweithio yn y maes fel cam
cyntaf. ·
Yna ystyried gosod targed ar gyfer cyflawni
hyfforddiant gan anelu i’w cynnwys ar y rhaglen hyfforddiant craidd fel a
ganlyn:- a) staff sy’n gweithio neu’n dod i gyswllt
gyda phobl ag awtistiaeth (fesul adran a chan gynnwys ysgolion) a b) hyfforddiant codi ymwybyddiaeth ymhlith
holl staff y Cyngor. ·
adeiladu
ar yr hyfforddiant i staff mewn ysgolion a meddygfeydd ynghylch cyfeirio at y
Tîm Niwro-ddatblygiadol mewn achosion nad ydynt yn
gymwys. ·
annog
yr holl Gynghorwyr i ddilyn yr e-fodiwl hyfforddiant Ymwybyddiaeth o
Awtistiaeth a mynychu dyddiau agored ar draws y Sir sy’n galluogi pawb i gael
profiad ar y bws awtistiaeth. c) Argymell fod y Pwyllgor Craffu, ar y cyd â’r Aelod Cabinet Plant a Theuluoedd, yn cysylltu
gyda’r Aelod Cabinet Tai ac Eiddo i sicrhau mewnbwn gan y Gwasanaeth Anghenion
Dysgu Ychwanegol i ddatblygiad unrhyw ysgol newydd neu addasiadau i unrhyw
ysgol i’r dyfodol er mwyn ei gwneud yn addas i unigolion gydag awtistiaeth e.e.
gofod tawel, gallu lleihau’r golau ayyb.
Byddai’n fuddiol sefydlu’r egwyddor o sicrhau mewnbwn gan y Tîm
Awtistiaeth (Adran Plant ac Oedolion) ar gyfer unrhyw ddatblygiad newydd neu
addasiad i unrhyw adeilad arall gan y Cyngor. ch) Yn sgil pryder fod y cynllun yn cael ei ariannu trwy grant yn gyfredol, bod y Pwyllgor Craffu Gofal yn gofyn am ddiweddariad ymhen 12 mis pellach o weithredu i sicrhau fod cynnydd yn parhau i ddigwydd, gan ofyn am fewnbwn Addysg ac Iechyd unwaith eto. Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad
Cadeirydd y Grŵp Tasg a Gorffen Cynllun Awtistiaeth, y Cynghorydd Elwyn
Jones, yn gwahodd y pwyllgor i graffu canfyddiadau ac argymhellion y Grŵp
Tasg a Gorffen. Yn absenoldeb y
Cynghorydd Elwyn Jones o’r cyfarfod, cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr
Gwasanaeth Democratiaeth ac Iaith.
Nodwyd bod Cadeirydd y Grŵp Tasg a Gorffen yn dymuno:- ·
Diolch i’r holl swyddogion, nid yn unig am eu gwaith
yn paratoi cyn cyfarfod y grŵp tasg, ond hefyd am eu cyfraniad yn ystod y
cyfarfod a’u hatebion clir a gonest. ·
Diolch i’w gyd-gynghorwyr am y gwaith o baratoi cyn
y cyfarfod a chyflwyno cwestiynau mor dda yn ystod y cyfarfod, a’i fod o’r farn
bod yna sicrhau dealltwriaeth glir wedi dod yn sgil y cwestiynu a’r ymatebion
cadarn. ·
Pwysleisio bod gan bob un o’r aelodau hefyd rôl
allweddol i ymgymryd â’r hyfforddiant sydd ar gael yn y maes awtistiaeth. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau. Nododd aelod o’r
Grŵp Tasg a Gorffen:- ·
Fod profiad personol a mewnwelediad proffesiynol y
Cynghorwyr Dawn Jones a Gwynfor Owen wedi llywio trafodaethau’r Grŵp, a
diolchodd iddynt am eu cyfraniadau gwerthfawr. ·
Y
bu’n fraint cydweithio a gweld y gwaith sy’n mynd i mewn i’r maes awtistiaeth
ac y cafwyd tryloywder clir a thrafodaeth onest gyda’r swyddogion. ·
Y
dymunai dynnu sylw’n benodol at argymhelliad 3, sy’n ymwneud â sicrhau bod
datblygiad unrhyw ysgol newydd neu addasiadau i unrhyw ysgol i’r dyfodol yn
addas i unigolion gydag awtistiaeth, ac argymhelliad 4, sy’n galw am
ddiweddariad i’r pwyllgor ymhen 12 mis pellach o weithredu i sicrhau fod
cynnydd yn parhau i ddigwydd. Nododd y
Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol:- ·
Bod hwn yn adroddiad ardderchog a’i fod yn falch bod
y Grŵp wedi mynd i’r afael â’r pwnc hynod bwysig yma. ·
Bod y maes awtistiaeth yn faes sy’n cynyddu o ran y
niferoedd o bobl sydd angen cymorth ac yn faes sy’n cynyddu o ran cymhlethdod
hefyd. ·
Mai
un o’r ffactorau heriol yw mai grant sy’n talu am ganran sylweddol o’r Tîm
Awtistiaeth newydd, a gan nad oes sicrwydd y bydd Llywodraeth Cymru yn
diogelu’r arian yma i’r dyfodol, bod angen diogelu’r Cyngor a’r bobl sy’n
derbyn y gwasanaethau drwy edrych ar hynny. ·
Yn sicr bod angen cymryd cyngor wrth gynllunio
unrhyw adeilad newydd neu addasiad i unrhyw un o adeiladau’r Cyngor neu
ysgolion er mwyn sicrhau eu bod yn addas i unigolion gydag awtistiaeth, ond y
byddai’n awgrymu diwygio geiriad argymhelliad 3 fel a ganlyn er mwyn
adlewyrchu’r ffaith bod gan yr Adran Addysg eu tîm eu hunain sydd â’r
arbenigedd penodol o ran adeiladau ysgolion, a hefyd i amlygu’r cyfrifoldebau
yn glir:- Argymell fod y Pwyllgor Craffu, ar y cyd â’r Aelod Cabinet Plant a Theuluoedd, yn cysylltu gyda’r Aelod Cabinet Tai ac Eiddo i sicrhau mewnbwn gan y Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol i ddatblygiad unrhyw ysgol newydd neu addasiadau i unrhyw ysgol i’r dyfodol er mwyn ei gwneud yn addas i unigolion gydag awtistiaeth e.e. gofod tawel, gallu lleihau’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |