Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Sioned Mai Jones 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol
Cadeirydd ar gyfer 2024/25. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd Beth Lawton
yn Gadeirydd Pwyllgor Craffu Gofal ar gyfer 2024/2025. Cofnod: PENDERFYNWYD
ethol y Cynghorydd Beth Lawton yn
Gadeirydd Pwyllgor Craffu Gofal ar gyfer 2024/2025 |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd
ar gyfer 2024/25. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnod: PENDERFYNWYD
ethol y Cynghorydd Dewi Jones yn
Is-gadeirydd Pwyllgor Craffu Gofal ar gyfer 2024/2025. Mynegwyd llongyfarchiadau i’r Cynghorydd Dewi Jones ar
gael ei ethol fel Maer Caernarfon. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd
Anwen J Davies. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw eitemau sydd yn fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar yr 11eg o Ebrill, 2024 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 11 Ebrill, 2024 fel rhai cywir. |
|
DIOGELU RHAG COLLI RHYDDID (DoLS) PDF 277 KB I drafod gallu'r Cyngor i weithredu Cynllun Diogelu rhag colli Rhyddid. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan
nodi’r sylwadau canlynol: a)
Datgan gwir
bryder am y sefyllfa ac amharodrwydd y Pwyllgor Craffu Gofal i dderbyn y risg
sy’n cael ei amlygu yn yr adroddiad. b)
Gofyn i’r Aelod
Cabinet Oedolion drafod ymhellach efo’r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a
chreu cynllun gweithredu. c)
Gofyn i’r Adran
ddarparu adroddiad Cynnydd ymhen 6 mis. d)
Nodi dymuniad i
dderbyn gwybodaeth bellach gan arbenigwr. Cofnod: Eglurwyd
mai trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid (DoLS) yw’r weithdrefn a ragnodir yn
y gyfraith pan fo angen amddifadu preswylydd neu glaf o’u rhyddid pan nad oes
ganddynt y gallu i gytuno am eu gofal neu eu triniaeth, er mwyn eu cadw’n
ddiogel rhag niwed. Esboniwyd gall cyflyrau megis dementia neu anaf i’r
ymennydd arwain at y diffyg hwn mewn capasiti. Pwysleisiwyd bod pob achos yn
cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau unigol. Tywyswyd
y Pwyllgor drwy’r adroddiad gan nodi bod DoLS yn ddyletswydd statudol a’i bod
yn ofynnol i Awdurdodau Lleol arwain ar faterion DoLS o fewn eu cymunedau a
chartrefi gofal, gyda’r Bwrdd Iechyd yn arwain ar y maes o fewn ysbytai.
Ymhelaethwyd bod disgwyliad i bob cais am Awdurdod Safonol DoLS gael ei gwblhau
o fewn 21 diwrnod, gyda cheisiadau brys yn cael eu cwblhau o fewn 7 diwrnod.
Cydnabuwyd bod rhestr aros o 340 yng Ngwynedd ar hyn o bryd. Pwysleisiwyd y
golyga hyn bod 340 o unigolion yn cael eu hamddifadu o’u rhyddid heb awdurdod.
Ymhelaethwyd bod 20 o’r unigolion hynny wedi bod yn aros am Awdurdod Safonol
ers dros dair blynedd oherwydd newidiadau i’r rhestr aros yn sgil blaenoriaeth.
Amlygwyd
nad yw’r Cyngor yn cydymffurfio a’r deddfwriaethau perthnasol a bod risgiau
corfforaethol amlwg yma. Sicrhawyd bod y mater hwn wedi cael ei uchafu o fewn
cyfarfodydd herio perfformiad yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant. Esboniwyd
bod yr adroddiad yn ddull o rannu gwybodaeth am y sefyllfa i’r aelodau gan
geisio derbyn adborth a chefnogaeth y Pwyllgor. Pwysleisiwyd nad yw’r sefyllfa
hon yn unigryw i Wynedd gan gadarnhau bod Awdurdodau Lleol ar draws Gogledd
Cymru ac yn genedlaethol gyda rhestr aros ar gyfer darpariaeth DoLS. Datganwyd
bod y Cyngor yn derbyn cyfartaledd o 67 cais am Asesiad Awdurdod Safonol yn
fisol. Nodwyd bod 16 o’r ceisiadau hynny yn gallu cael eu hawdurdodi yn
amserol. Ymhelaethwyd bod Asesiad Safonol yn ddilys am gyfnod o flwyddyn gan
egluro bod angen i’r unigolion sydd wedi derbyn asesiad DoLS dderbyn asesiad
ychwanegol ar ddiwedd y cyfnod hwnnw. Sicrhawyd bod gan yr Adran broses er mwyn
blaenoriaethu’r unigolion sydd ar y rhestr aros yn unol ag anghenion brys ac yr
angen am adnewyddu’r Awdurdod Safonol. Adroddwyd
bod 18 o weithwyr o fewn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant wedi cymhwyso fel
Aseswyr Budd Gorau. Nodwyd bod yr Adran wedi ymdrechu yn y gorffennol i annog
yr unigolion hyn i gynnal asesiadau ar gyfer DoLS ond nid oedd hyn yn
gynaliadwy gan fod pob asesiad yn cymryd lleiafswm o 10 awr i’w gwblhau. Cyfeiriwyd at yr adnoddau sydd ar gael i fynd i’r afael a’r her hwn gan nodi bod gan yr Adran un Cydlynydd DoLS sy’n gyflogedig am 4 diwrnod yr wythnos ac un Asesydd Budd Gorau sy’n gyflogedig am ddeuddydd yr wythnos. Ymhelaethwyd bod y Cyngor wedi llwyddo i dderbyn arian grant gan Lywodraeth ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PANEL STRATEGOL DIOGELU 2023/24 PDF 144 KB I roi cyfle i aelodau graffu gwaith y Panel Strategol Diogelu dros
2023/24. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet
Cefnogaeth Gorfforaethol a’r Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol. Darparwyd diweddariad ar waith y Panel
Strategol Diogelu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Esboniwyd bod gwaith y Panel
yn allweddol i weithrediad holl Adrannau’r Cyngor, gan ei fod yn ystyried
prosesau diogelu yn gorfforaethol. Nodwyd bod y Cabinet wedi derbyn yr
adroddiad yn eu cyfarfod ar 11 Mehefin 2024. Tynnwyd sylw at y prif newidiadau a
gyflwynwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gan gynnwys addasiadau i Gylch
Gorchwyl y Panel, Cylch Gorchwyl y Grŵp Gweithredol Diogelu a chyhoeddi
Polisi Diogelu newydd. Ymfalchïwyd bod y Polisi Diogelu bellach yn fwy eglur yn
enwedig ynghylch y diffiniadau o amddiffyn a diogelu. Ymhelaethwyd bydd
hyfforddiant ar y Polisi hwn yn cael ei ddatblygu yn y dyfodol agos. Cadarnhawyd bod yr Adran Plant a Chefnogi
Teuluoedd wedi derbyn 7,230 o gyfeiriadau i wasanaethau plant yn ystod y
flwyddyn. Cymharwyd yr ystadegyn hwn gyda’r ffigwr cyfartalog cyn y pandemig,
ble’r oedd cyfeiriadau i wasanaethau plant oddeutu 5,000 y flwyddyn. Nodwyd bod
hyn yn gynnydd sylweddol o gyfeiriadau ond cadarnhawyd bod y ffigyrau blynyddol
yn lefelu erbyn hyn, gan obeithio bydd niferoedd cyfeiriadau yn lleihau yn y
blynyddoedd i ddod. Adroddwyd bod cynnydd o 248% i’w weld yn y
gwaith sy’n ymwneud â phryderon diogelu am ymarferwyr a’r rhai mewn swyddi o
ymddiriedaeth, o’i gymharu â 2022/23. Cadarnhawyd bod gweithdrefnau mewn lle ar
gyfer ymateb i bryderon diogelu am y rhai y mae eu gwaith yn dod â nhw i
gysylltiad â phlant neu oedolion sydd yn wynebu risg. Eglurwyd bod 281 o blant mewn gofal ar
ddiwedd Mawrth 2024. Cadarnhawyd bod niferoedd plant mewn gofal wedi lleihau yn
ystod y flwyddyn ddiwethaf ond oherwydd cyfrifoldebau’r Cyngor i warchod
ymgeiswyr lloches a ffoaduriaid, mae’r niferoedd o blant o dan ofal yr awdurdod
yn parhau i fod yn 281, yn debyg i’r niferoedd ar ddiwedd Mawrth 2023. Yn yr un
modd, cadarnhawyd bod niferoedd o adroddiadau Oedolion yn ystod y flwyddyn
2023/24 yn debyg iawn i’r niferoedd a adroddwyd ar ddiwedd Mawrth 2023. Mynegwyd balchder bod y Cyngor wedi ennyn
achrediad ‘Rhuban Gwyn’ gan ei fod yn cymryd dull strategol i roi diwedd i
drais domestig ac i bwysleisio nad yw’n cael ei oddef o fewn y Sir. Ymhellach,
nodwyd bod 55% o staff y Cyngor, sy’n gweithio yn y maes diogelwch cyhoeddus,
wedi mynychu hyfforddiant ‘Gofyn a Gweithredu’ er mwyn rhoi hyder iddynt i
gefnogi unigolion sy’n profi trais, cam-drin domestig neu drais rhywiol.
Pwysleisiwyd ei fod yn flaenoriaeth i’r staff hynny fynychu’r hyfforddiant dros
y flwyddyn nesaf. Cyfeiriwyd at nifer o faterion sydd ar gynnydd yn y blynyddoedd diwethaf megis troseddau manwerthu (lladrad o siopa). Cadarnhawyd bod y Cyngor yn cydweithio gyda’r Heddlu er mwyn sicrhau bod gwybodaeth am gymorth i ymdopi â’r argyfwng costau byw ar gael iddynt, yn y gobaith bydd hyn yn lleihau’r niferoedd o droseddau manwerthu i’r dyfodol. Tynnwyd sylw at nifer o agweddau diogelu eraill sydd yn derbyn cefnogaeth y Panel megis Dyletswydd Trais Difrifol, Caethwasiaeth Fodern ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
DATBLYGU DARPARIAETH BERSWYL I BLANT MEWN GOFAL MEWN GRŴP BYCHAN PDF 192 KB Mae datblygiad darpariaeth breswyl i blant mewn gofal drwy gynllunio
cynllun cartrefi grŵp bychan angen ei graffu oherwydd bod y prosiect yn
rhan o Gynllun y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: a) Derbyn yr
adroddiad gan ddymuno pob llwyddiant i’r datblygiad. b) Nodi awydd y
Pwyllgor i dderbyn diweddariad pan fydd y cartref preswyl wedi agor ac wedi
cyfnod o setlo. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet
Plant a Theuluoedd ac y Pennaeth Cynorthwyol Adnoddau - Plant a Chefnogi
Teuluoedd, gan nodi bod datblygiad cartrefi preswyl i blant mewn gofal yn un
sy’n flaenoriaeth o fewn Cynllun y Cyngor. Rhannwyd cefndir i’r cynllun gan nodi bod
oddeutu 280 o blant yng ngofal y Cyngor ar hyn o bryd. Diolchwyd i bawb sy’n
rhan o’r cynllun maethu, gan fod y mwyafrif o blant mewn gofal wedi eu lleoli
gyda theuluoedd maeth. Eglurwyd bod eraill yn byw gartref gyda’u teuluoedd ond
yn derbyn cefnogaeth barhaus gan y Cyngor. Cydnabuwyd bod oddeutu 20 o blant
yng ngofal y Cyngor sydd angen lleoliad preswyl ar hyn o bryd ac nid oes
lleoliadau digonol ar gyfer gynnig y gwasanaeth hynny ar hyn o bryd heb
allanoli. Atgoffwyd bod nifer o blant wedi eu lleoli mewn ardaloedd tu hwnt i
Gymru ar hyn o bryd megis Bryste a Northumbria. Cadarnhawyd mai nod y cynllun yw disodli’r
angen i allanoli gyda darpariaeth a gyflenwir gan y Cyngor, gan lwyddo i
ddarparu gofal preswyl i blant mewn gofal am gost sylweddol is na’r costau
cyfartalog presennol. Eglurwyd bod y cynllun yn lleoli 2 blentyn
mewn gofal mewn tŷ yn y gymuned er mwyn sicrhau bod ganddynt gartref
sefydlog pan nad yw maethu yn ddatrysiad priodol ar eu cyfer. Manylwyd ar nifer
o fanteision y cynllun gan gynnwys derbyn gofal yn Gymraeg, parhau yn eu hysgol
leol a pharhau i feithrin perthynas gyda theulu a ffrindiau ble’n bosibl.
Cadarnhawyd mai prif ddiben y Cynllun yw darparu gofal arbenigol Cymraeg i
blant yn lleol gan ddiddymu’r angen iddynt adael y sir, neu adael Cymru i’w
dderbyn. Pwysleisiwyd bod y cynllun yn cydymffurfio gyda Chynllun Cydraddoldeb
y Cyngor yn ogystal â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Esboniwyd bod tŷ addas wedi cael ei
brynu ym Morfa Bychan ar gyfer cynnig gofal preswyl i blant rhwng 10 ac 18 oed.
Amlygwyd mai’r pwyslais ar hyn o bryd yw sicrhau staff i’r tai er mwyn caniatáu
i’r cynllun ddatblygu’n amserol cyn ystyried opsiynau o’r fath i’r dyfodol.
Ymhelaethwyd y gobeithir prynu dau dŷ arall mewn cymunedau gwahanol yn y
Sir yn fuan. Cydnabuwyd bod pryniant a chwblhau addasiadau i’r tŷ cyntaf
yn broses araf oherwydd bod polisïau a gweithdrefnau angenrheidiol yn cael eu
datblygu ar y cyd gyda datblygiad y tŷ. Pwysleisiwyd bydd pryniannau tai
i’r dyfodol yn broses cyflymach oherwydd bydd y polisïau a gweithdrefnau hynny
eisoes yn weithredol. Adroddwyd bod angen i’r cynllun cael ei
gwblhau erbyn diwedd 2027 gan bwysleisio bydd angen 3 cartref preswyl
cofrestredig erbyn hynny. Cydnabuwyd bod nifer o risgiau yn deillio o’r
amserlen hyn megis; anhawster i ganfod ail neu drydydd adeilad addas neu
anhawster i gael y plentyn cyntaf yn y tŷ cyntaf erbyn mis Medi 2024.
Nodwyd hefyd bod heriau recriwtio hefyd yn derbyn ystyriaeth gan yr Adran. Tynnwyd sylw at y sefyllfa gyllidol drwy gadarnhau bod y cynllun yn cael ei ariannu drwy grant RIF/HCF gan gadarnhau bod dwy filiwn o ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
GRŴP CRAFFU CYD-BWYLLGOR IECHYD A GOFAL CANOLBARTH CYMRU PDF 103 KB I ethol aelod i gynrychioli’r Pwyllgor Craffu ar Grŵp Craffu Cyd-Bwyllgor Iechyd a Gofal Canolbarth Cymru. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd
Linda Morgan i gynrychioli’r Pwyllgor Craffu ar Grŵp Craffu Cydbwyllgor
Iechyd a Gofal Canolbarth Cymru Cofnod: PENDERFYNWYD Ethol y Cynghorydd Linda Morgan i
gynrychioli’r Pwyllgor Craffu ar Grŵp Craffu Cydbwyllgor Iechyd a Gofal
Canolbarth Cymru |
|
BLAENRAGLEN PWYLLGOR CRAFFU GOFAL 2024/25 PDF 287 KB Cyflwyno rhaglen waith ddrafft y Pwyllgor ar gyfer 2024/25 i’w
mabwysiadu. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: a) Mabwysiadu
rhaglen waith y Pwyllgor ar gyfer 2024/25. b) Cytuno i
ychwanegu eitem ychwanegol Polisi Codi Tâl am Ofal (Adran Oedolion, Iechyd a
Llesiant) i gyfarfod 26 Medi 2024. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Uwch
Ymgynghorydd Iaith a Chraffu. Atgoffwyd yr aelodau bod Blaenraglen y
Pwyllgor yn seiliedig ar y materion a drafodwyd yng Ngweithdy Blynyddol y
Pwyllgor a gynhaliwyd ar 30 Ebrill 2024. Cadarnhawyd bod tair eitem wedi cael eu
rhaglennu ar gyfer pob cyfarfod yn ystod y flwyddyn oni bai am un cyfarfod
penodol ym mis Tachwedd i graffu’r maes Tai Cymdeithasol yn unig a chyfarfod ym
mis Ionawr i drafod materion Iechyd megis pryder am feddygon teulu, iechyd
meddwl a pherthynas cydweithiol â’r gwasanaeth ambiwlans. Diweddarwyd bod yr Uwch Ymgynghorydd Iaith a
Chraffu wedi derbyn cais gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant yn gofyn i’r
Pwyllgor ystyried ychwanegu eitem ‘Polisi Codi Tâl am Ofal’ ar gyfer cyfarfod
26 Medi 2024. Esboniwyd bod yr Adran yn awyddus i dderbyn sylwadau ac
ystyriaethau’r Pwyllgor cyn cyflwyno adroddiad i’r Cabinet. Nodwyd y golyga hyn
y byddai pedair eitem i’w craffu yng nghyfarfod 26 Medi 2024 o’r Pwyllgor. Anogwyd yr Aelodau i ystyried pa faterion
maent yn dymuno i’r Adrannau eu cynnwys yn yr adroddiadau i’r Pwyllgor.
Ymhelaethwyd bydd modd i’r Aelodau drafod y materion hynny mewn cyfres o
gyfarfodydd paratoi. Pwysleisiwyd mai nod y cyfarfodydd paratoi fydd canfod
prif faterion sydd angen eu craffu o fewn y meysydd gan arwain at gwestiynau
atodol yn y cyfarfodydd ffurfiol. Cadarnhawyd bydd yr Uwch Ymgynghorydd Iaith a
Chraffu yn ymgynghori â’r Swyddog Gwasanaethau Democratiaeth er mwyn canfod
dyddiadau addas ar gyfer y cyfarfodydd paratoi gan wneud pob ymdrech i sicrhau
eu bod yn cael eu cynnal ar ddyddiau Iau oherwydd argaeledd yr Aelodau.
Cydnabuwyd na fydd hyn yn bosib ar bob achlysur ond sicrhawyd bydd amser
cychwyn y cyfarfodydd yn 4yh gan fod yr amser yma yn gyfleus i fwyafrif o’r
Aelodau. PENDERFYNWYD a)
Mabwysiadu
rhaglen waith y Pwyllgor ar gyfer 2024/25. b)
Cytuno
i ychwanegu eitem ychwanegol Polisi Codi Tâl am Ofal (Adran Oedolion, Iechyd a
Llesiant) i gyfarfod 26 Medi 2024. |
|
CYFARFODYDD HERIO PERFFORMIAD OEDOLION, IECHYD A LLESIANT PLANT A CHEFNOGI TEULUOEDD PDF 103 KB I enwebu cynrychiolwyr i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad yr Adran
Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Enwebu’r Cynghorydd Einir Wyn Williams fel cynrychiolydd i
fynychu cyfarfodydd herio perfformiad yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r
Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd. Cofnod: PENDERFYNWYD Enwebu’r Cynghorydd Einir Wyn
Williams fel cynrychiolydd i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad yr Adran
Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd. |