Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Iwan Edwards 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol
Cadeirydd ar gyfer 2025 / 2026 Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd Elwyn Jones yn
Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Gofal ar gyfer 2025/26. Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Elwyn
Jones yn Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn 2025/26. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd
ar gyfer 2025 / 2026 Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ethol Y Cynghorydd Sian Williams yn Is-gadeirydd Pwyllgor Craffu
Gofal ar gyfer 2023/2024 Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Sian Williams yn Is-gadeirydd y
Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn 2025/26. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Anwen J. Davies, Geraint Parry a Linda Morgan. . |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd
ar 3 Ebrill 2025 fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 3
Ebrill 2025, fel rhai cywir. |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET TAI AC EIDDO (10:30 - 11:45) Adroddiad I’r
Pwyllgor Craffu ar berfformiad yr Adran Tai ac Eiddo Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr
adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Tai ac Eiddo,
Pennaeth Adran Tai ac Eiddo a Phenaethiaid Cynorthwyol yr Adran. Adroddwyd bod yr Adran yn gweithredu ar Gynllun y Cyngor
2023-2028, ac ar y cynnydd hyd at ddiwedd Ebrill 2025. Nodwyd bod cynnydd yn
erbyn y cerrig milltir a osodwyd i brosiectau’r Adran o fewn blaenoriaeth wella
Gwynedd Glyd a Gwynedd Effeithlon. Adroddwyd bod y cynnydd, ar y cyfan, yn dda
gyda sawl carreg filltir wedi’i chyrraedd erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, a
hynny o dan amgylchiadau heriol. Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan yr
Aelodau: Tynnwyd sylw at y cynllun ‘Siop un Stop’ a nodwyd yr aelod
ei fod yn siomedig gyda’r cynnydd yn y cynllun. Gofynnwyd am eglurhad am pam
bod y cynllun yma wedi cymryd amser mor hir i’w ddod mewn i weithrediad.
Cydnabuwyd fod oedi wedi bod yn dod a’r cynllun yma i mewn i weithrediad ond
eglurwyd ei fod yn falch o gyhoeddi fod y siop yn agor ar y 15fed o Fedi. Nodwyd fod yr adroddiad yn un da a cynhwysfawr iawn. Er hyn,
nodwyd pryder gyda’r niferoedd o bobl sydd yn ddigartref ac yn byw mewn llety
anaddas yng Ngwynedd. Gofynnwyd beth yw’r cynllun i wella’r ystadegau yma.
Eglurwyd eu bod yn datblygu cynlluniau i daclo’r broblem yma gyda safleoedd yn
cael ei adeiladu ar hyn o bryd. Nodwyd fod datblygiadau mawr yn cael ei
adeiladu ar hyn o bryd yng Nghaernarfon a Bangor. Gobeithiwyd y byddai’r
adeiladau yma yn barod i’w agor yn fuan. O ran eglurdeb, esboniwyd fod dros 200
o bobl mewn llety argyfwng ar hyn o bryd gyda’r ffigwr yn codi i dros 400 wrth
gyfri'r tai sydd ar les. Gofynnwyd cwestiwn ynglŷn â’r cysylltiad Gwynedd, y
bobl sydd ddim yn byw yng Ngwynedd ar hyn o bryd, yn benodol faint o’r bobl yma
sydd yn medru hawlio cysylltiad gyda Gwynedd a chael tŷ Cyngor. Eglurwyd
fod 97% o dai cymdeithasol Gwynedd yn mynd i bobl sydd â chysylltiad â Gwynedd
ac yn ychwanegol mae 60% yn mynd i bobl sydd yn dymuno byw yn y ward maen nhw
eisiau byw ynddo. Yn ychwanegol, adroddwyd fod y Cymdeithasau Tai wedi gwneud
arolwg diweddar o’r 9 datblygiad diwethaf maen nhw wedi cwblhau a darganfuwyd
fod 90% o’r bobl sydd wedi symud i’r tai cymdeithasol yma yn siarad Cymraeg. Nodwyd canmoliaeth i’r adran am y nifer o gynlluniau sydd yn
ceisio mynd i’r afael ar y problemau difrifol o angen tai yng Ngwynedd. Tynnwyd
sylw i’r garreg filltir a osodwyd i ddenu 20 eiddo ychwanegol i Gynllun Lesu
Cymru – Gwynedd ond dim ond 12 sydd wedi’i ddenu gan ofyn beth yw’r problemau
sydd yn achosi hyn. Eglurwyd fod diddordeb y cynllun yma wedi dechrau pylu ac
felly ei fod yn fwriad i’r adran wneud ymgyrch sylweddol i godi'r diddordeb
eto. Nodwyd ei fod yn gynllun arbennig
sydd yn diwallu nifer o anghenion tai gwag. Tynnwyd sylw at Eiddo 5 yr Uned Cydymffurfiaeth gan nodi fod y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET PLANT A CHEFNOGI TEULUOEDD (11:45 - 13:00) Adroddiad i’r
Pwyllgor Craffu ar berfformiad yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr
adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr aelod Cabinet Plant a
Chefnogi Teuluoedd a’r Pennaeth Adran. Adroddwyd bod yr adran yn gweithredu ar Gynllun y Cyngor
2023-2028 ac yn adrodd ar y cynnydd a wnaed hyd at ddiwedd Mawrth 2025, gan
gydnabod ei bod yn parhau’n ddyddiau cynnar yng nghyd-destun rhai o’r
addewidion sy’n newydd yn y ddogfen ers Ebrill y llynedd. Nodwyd fod gan yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd ddau
brosiect yng Nghynllun y Cyngor sef y Cynllun Awtistiaeth a Chynllun datblygu
darpariaeth breswyl i blant mewn gofal mewn cartrefi grŵp bychan. Eglurwyd
fod y Cynllun Awtistiaeth yn ffynnu, gyda rhaglen hyfforddiant i staff rheng
flaen yn parhau gyda’r amcan o fod yn awdurdod lleol sydd yn deall ac yn
ymwybodol o awtistiaeth. Soniwyd hefyd fod y cydweithio gyda’r adran Addysg yn
parhau gyda staff mewnol ag allanol yn ymgysylltu a’r trydydd sector. Mynegwyd
balchder fod dim rhestr aros ar gyfer y Tîm Awtistiaeth ar hyn o bryd, ond
rhagdybiwyd na fydd hyn yn parhau am hir gan fod galw uchel am y gwasanaeth. Eglurwyd fod y cynllun datblygu darpariaeth breswyl i blant
mewn gofal mewn cartref grŵp bychan wedi datblygu’n sylweddol dros y
flwyddyn ddiwethaf. Nodwyd fod staff wedi penodi i’r cartref cyntaf ym Morfa
Bychan a chroesawyd dau blentyn i’r lleoliad. Adroddwyd hefyd fod dau eiddo
ychwanegol wedi eu prynu a bod y gwaith paratoi i’w cael i’r safon cofrestriad
wedi cychwyn. Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan yr
Aelodau: Holwyd am y Gwasanaeth Derwen, yn benodol beth yw meini
prawf ar gyfer mynediad i gael gwasanaeth gan Derwen. Eglurwyd mai’r meini
prawf y os oes gan blentyn anabledd dysgu neu yn oediad sylweddol mewn mwy nag
un maes datblygiad. Nododd yr aelod ei fod yn gwerthfawrogi'r holl waith gwych
mae Derwen yn gwneud ond fod hyn yn golygu fod llawer o deuluoedd sydd gyda
phlant sydd angen gwasanaeth tebyg i’r hyn mae Derwen yn gynnig yn colli allan
oherwydd ei bod ddim yn ffitio i mewn i’r meini prawf anabledd dysgu. Credwyd
fod y Cyngor yn diffinio ar sail ‘IQ’ yn unig ac felly fod amryw o blant, er
enghraifft plant gydag awtistiaeth, yn methu allan ar y gwasanaeth maen nhw
angen. Eglurwyd nad yw’r Cyngor yn defnyddio ‘IQ’ ar gyfer meini prawf Derwen,
ond cydnabuwyd fod yna fwlch a dyna yw’r rheswm dros sefydlu’r tîm awtistiaeth
i drio cyfarch rhywfaint o’r bwlch. Gofynnwyd a all yr adran rhoi sicrwydd fod pob un o’r
gweithwyr y tîm awtistiaeth wedi cael hyfforddiant i lefel uchel yn y maes
awtistiaeth. Nodwyd ei fod yn un o flaenoriaethau'r adran i sicrhau fod staff
sydd gyda chysylltiad efo’r cyhoedd yn derbyn hyfforddiant priodol a
pherthnasol i’r gwaith maent yn gwneud. Eglurwyd na allai ddweud gyda sicrwydd
fod pob aelod o staff wedi derbyn yr hyfforddiant ar hyn o bryd ond fod y
rhaglen yn ei le a’r bwriad i’w i holl staff y tîm dderbyn yr hyfforddiant perthnasol. Gyda’r cynllun dechrau’n deg, cydnabuwyd fod cyfarch ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET OEDOLION, IECHYD A LLESIANT (14:00 - 15:15) Adroddiad i’r
Pwyllgor Craffu ar berfformiad yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr
adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a
Llesiant a’r Pennaeth Adran. Adroddwyd bod yr adran yn gweithredu ar Gynllun y Cyngor
2023-28 a'i bod yn adrodd ar y cynnydd hyd at ddiwedd mis Mawrth 2025. Nodwyd
ei bod yn ymwybodol o’r holl heriau sydd yn wynebu’r adran a bod hyn wedi ei
amlygu fwy nag erioed fel rhan o’r adroddiad Llechen Lân. Nodwyd ei bod yn
hapus adrodd fod cynnydd sylweddol wedi ei wneud yn ystod y flwyddyn. Rhoddwyd crynodeb o brif brosiectau sydd wedi gweld cynnydd
neu sy’n peri pryder gan nodi mai rhai esiamplau sydd yn yr adroddiad, a nad
yw’n cyfeirio at bob un llif gwaith gan fod prosiectau’r adran yn eang iawn. Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan yr
Aelodau: Diolchwyd i’r Pennaeth Adran sydd yn ymddeol am ei holl
waith caled dros y blynyddoedd a chroesawyd y pennaeth Adran newydd. Gofynnwyd i’r aelod Cabinet i wneud yn siŵr fod y
Cyngor yn cysylltu gyda’r Llywodraeth yng Nghaerdydd i herio i wneud yn
siŵr fod y grantiau sydd ar gael i’r tîm awtistiaeth tan 2027 yn parhau tu
hwnt i hyn. Holwyd hefyd am faint sydd yn aros am asesiad gofal cartref a beth
yw’r ffigyrau ynglŷn a hyn. O ran herio’r Llywodraeth, nodwyd ei fod yn
broses parhaol i’r aelodau cabinet ac yn digwydd yn wythnosol. I ateb cwestiwn
yr aelod, eglurwyd fod y rhestr aros am ofal cartref wedi dod i lawr i 64.
Esboniwyd mai blaenoriaeth yr adran yw sicrhau fod y bobl sydd ar y rhestr aros
yn ddiogel. O ran nifer y bobl sydd yn aros am asesiad, soniwyd fod gan yr
adran y wybodaeth yma fesul mis hyd at ddiwedd mis Mawrth gyda 129 o asesiadau
wedi cael eu cynnal dros y ddau fis diwethaf. Cadarnhawyd nad oes unrhyw
unigolyn yn cael ei gwrthod am asesiad. Gofynnwyd am beth sydd yn cael ei wneud i wella’r sefyllfa o
ran pobl hyn yn aros am gynllun gofal a chefnogaeth. Nodwyd ei fod yn bwynt
amserol iawn oherwydd bod yr adran yn gwneud llawer iawn o waith o dan y faner
ataliol ar hyn o bryd a bod pobl yn aros am asesiad mwy manwl. Adroddwyd fod
angen symud i ffwrdd o'r meddylfryd fod angen gofal cartrefi i gefnogi pobl.
Mae Gofal Cartref yn un o'r opsiynau ond mae llawer o waith yn digwydd o fewn
cymunedau i gefnogi pobl sydd angen cymorth a chefnogaeth. Nodwyd fod y Ddeddf
Gwasanaethau Cymdeithasol a llesiant yn pwysleisio'r angen i edrych ar
gryfderau unigolion yn hytrach na'r hyn nad ydynt yn gallu ei gyflawni. Holwyd beth mae'r adran yn ei weld fel y rhwystr mwyaf i fod yn gwneud mwy o Daliadau Uniongyrchol i gefnogi pobl. Eglurwyd fod cymhlethdodau yn y broses o sefydlu'r trefniadau wedi bod yn rhwystr i bobl fod yn awyddus i ystyried taliadau uniongyrchol ond fod llawer o waith wedi ei wneud gan yr Adran i symleiddio'r broses a sicrhau swyddogion i ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |