Lleoliad: Virtual Meeting - Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Hugh Evans (Cyngor Sir Ddinbych), Llinos Medi
Huws (Cyngor Sir Ynys Môn) ac Ian Roberts (Cyngor Sir y Fflint); Yana Williams
(Coleg Cambria), Yr Athro Iwan Davies (Prifysgol Bangor), Neil Cockerton
(Cyngor Sir y Fflint) a Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w
nodi. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 135 KB Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2022 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
a gynhaliwyd ar 28 Ionawr, 2022 fel rhai cywir. |
|
RHEOLI NEWID – STRWYTHUR Y RHAGLEN DIGIDOL PDF 972 KB Stuart Whitfield i gyflwyno cais i newid yn ymwneud â strwythur y Rhaglen Ddigidol a
chynnig newid i strwythur cyflawni'r Rhaglen Ddigidol. Penderfyniad: 1.
Cymeradwyo’r cais
i ailstrwythuro tri o brosiectau isadeiledd digidol y Rhaglen Ddigidol i greu
dau brosiect newydd. 2.
Nodi’r cynnig i gyfuno'r prosiectau
Campysau Cysylltiedig a Ffibr Llawn mewn
Safleoedd Allweddol yn un prosiect i ganolbwyntio
ar gyflawni capasiti rhwydwaith ffibr-optig i fodloni amcanion
gwario'r ddau brosiect. Yn ddarostyngedig i asesiad pellach
o'r gofynion (lle mae gofyn
am rwydweithiau ffibr-optig
newydd wedi'i adnabod) gallai elfen o'r prosiect
Campws Cysylltiedig gael ei chynnwys
yn y prosiect newydd hwn. Ni argymhellir newid i'r prosiect
Ychydig % Olaf na'r prosiect Ymchwil a Datblygu DSP. 3.
Nodi strwythur cyflawni ac amserlen ddiwygiedig y rhaglen fel y nodir yn Atodiad 2 i’r adroddiad.
4.
Nodi bod gofyn hysbysu Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am y newid sydd wedi'i gytuno. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Stuart Whitfield (Rheolwr Rhaglen Digidol). PENDERFYNWYD (1)
Cymeradwyo’r cais i newid i
ailstrwythuro tri o brosiectau isadeiladedd digidol y Rhaglen Ddigidol i greu
dau brosiect newydd. (2)
Nodi’r cynnig i gyfuno’r
prosiectau Campysau Cysylltiedig a Ffibr Llawn mewn Safleoedd Allweddol yn un
prosiect i ganolbwyntio ar gyflawni capasiti rhwydwaith ffibr-optig i fodloni
amcanion gwario’r ddau brosiect. Yn
ddarostyngedig i asesiad pellach o’r gofynion (lle mae gofyn am rwydweithiau
ffibr-optig newydd wedi’i adnabod) gallai elfen o’r prosiect Campws
Cysylltiedig gael ei chynnwys yn y prosiect hwn. Ni argymhellir newid i’r prosiect Ychydig %
Olaf na’r prosiect Ymchwil a Datblygu DSP. (3)
Nodi strwythur cyflawni ac
amserlen ddiwygiedig y rhaglen fel y nodir yn Atodiad 2 i’r adroddiad. (4)
Nodi bod gofyn hysbysu
Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am y newid sydd wedi’i gytuno. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Deilliant y gweithdai Achos Economaidd ar gyfer y prosiect
Coridorau Cysylltiedig oedd adnabod opsiwn a ffefrir sy'n cynnwys buddsoddi
mewn darpariaeth rhwydwaith ffibr-optig newydd yn y rhanbarth. Mae prosiect Ffibr Llawn mewn Safleoedd
Allweddol y Rhaglen Ddigidol, sydd ar y cam SOC ar hyn o bryd, hefyd yn targedu
darpariaeth rhwydwaith ffibr-optig, gyda'r 'safleoedd allweddol' cyfredol fel
arfer yn agos i'r safleoedd 'coridorau' trafnidiaeth sydd o fewn sgôp y
prosiect Coridorau Cysylltiedig. Mae'r
ffaith fod y lleoliadau a bellach y ddarpariaeth gwasanaeth yn alinio yn rhoi
cyfle i ddod â'r ddau brosiect ynghyd i gyflawni amcanion gwario dan un
prosiect yn unig. Cefnogir yr egwyddor
hon gan arferion gorau Trysorlys EM yn ei Ganllaw i Ddatblygu Achos Busnes y
Rhaglen (‘Better Business Cases for better outcomes’). Er mwyn lleihau'r effaith i'r amserlenni ar gyfer datblygu achosion
busnes prosiectau a gymeradwywyd gan y Bwrdd Uchelgais, bydd angen gweithredu
newidiadau i strwythur y rhaglen cyn gynted â phosibl. Bydd angen gwneud newidiadau i gwmpas yr
achosion amlinellol strategol nesaf cyn comisiynu cymorth ymgynghori pellach. Bydd
angen i'r broses o gaffael cymorth ymgynghori i gwblhau Achosion Busnes
Amlinellol ar gyfer y prosiectau Coridorau Cysylltiedig, Ffibr Llawn mewn Safleoedd
Allweddol a Champws Cysylltiedig ddechrau'r chwarter nesaf ac ni ellir
cadarnhau cwmpas y gwaith hwn hyd nes y gwneir penderfyniad ar strwythur y
rhaglen. Mae Trysorlys EM yn argymell
adolygiadau rheolaidd o Achos Busnes y Rhaglen i gyfrif am newidiadau yn yr
achos strategol a chanlyniadau diweddar gweithdai prosiect, ac mae gweithgarwch
y farchnad a'r Llywodraeth yn awgrymu bod digon o newidiadau wedi digwydd i fod
angen eu hadolygu. TRAFODAETH Manylwyd ar y
cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd. Nododd y Cadeirydd
fod hwn yn ymddangos yn gam rhesymegol ymlaen, a phetai yna obaith o leihau’r
strwythur llywodraethiant, bod hynny i’w groesawu’n fawr, a bod y buddion o
gaffael hefyd yn glir yma. Codwyd y materion
a ganlyn:- ·
Diolchwyd
i’r Cyfarwyddwr Portffolio, y Rheolwr Rhaglen Digidol a’r tîm am eu gwaith
caled. ·
Gofynnwyd
i’r mater ddod yn ôl i’r Bwrdd petai’r amserlen yn llithro. · Nodwyd bod y cais yn synhwyrol ac yn gymesur, a chroesawyd y parodrwydd i addasu, petai angen, wrth ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
CYNNIG I GYFLAWNI CYNLLUNIAU YNNI ARDALOEDD LLEOL YNG NGOGLEDD CYMRU PDF 382 KB Henry Aron i geisio cytundeb i
Uchelgais Gogledd Cymru gyflawni Cynlluniau Ynni Ardaloedd Lleol (LAEPs) yng Ngogledd Cymru. Penderfyniad: 1.
Cytuno i
fabwysiadu dull cydgysylltiedig, rhanbarthol o
ddarparu'r Cynlluniau Ynni Ardaloedd Lleol ar draws awdurdodau lleol y Gogledd
dan arweiniad y Swyddfa Rheoli Portffolio (drwy Gyngor Gwynedd fel y Corff
Atebol). 2.
Cytuno i recriwtio
rheolwr prosiect a dau swyddog prosiect i gyflawni'r Cynlluniau Ynni Ardaloedd
Lleol i'w hariannu gan Lywodraeth Cymru a dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr
Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Swyddog a151 a’r Swyddog Monitro, i gytuno ar
y cytundebau ariannu grant a gweithredu'r cynnig. 3. Nodi, yn amodol ar gytundeb ariannu grant, y bydd
Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid grant i dalu costau cyflawni'r cynlluniau
ac ar gyfer adnoddau rheoli'r prosiect. 4.
Nodi y caiff y trefniadau
llywodraethu prosiect priodol eu rhoi ar waith ym mhob awdurdod lleol ar gyfer
cyflwyno a chymeradwyo’r cynlluniau. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Henry Aron (Rheolwr Rhaglen Ynni). PENDERFYNIAD (1) Cytuno
i fabwysiadu dull cydgysylltiedig, rhanbarthol o ddarparu'r Cynlluniau Ynni
Ardaloedd Lleol ar draws awdurdodau lleol y Gogledd dan arweiniad y Swyddfa
Rheoli Portffolio (drwy Gyngor Gwynedd fel y Corff Atebol). (2)
Cytuno i recriwtio rheolwr
prosiect a dau swyddog prosiect i gyflawni'r Cynlluniau Ynni Ardaloedd Lleol
i'w hariannu gan Lywodraeth Cymru a dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr
Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Swyddog a151 a’r Swyddog Monitro, i gytuno ar
y cytundebau ariannu grant a gweithredu'r cynnig. (3)
Nodi, yn amodol ar gytundeb
ariannu grant, y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid grant i dalu costau
cyflawni'r cynlluniau ac ar gyfer adnoddau rheoli'r prosiect. (4)
Nodi y caiff trefniadau
llywodraethu prosiect priodol eu rhoi ar waith ym mhob awdurdod lleol ar gyfer
cyflwyno a chymeradwyo’r cynlluniau. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Ceisio cytundeb i Uchelgais Gogledd Cymru gyflawni
Cynlluniau Ardaloedd Lleol (LAEPs) yng Ngogledd Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi Cynllunio Ynni
Ardal Leol (LAEP) ledled Cymru ac wedi cynnig dull rhanbarthol cydgysylltiedig
o gyflawni. Mae Prif Weithredwyr
awdurdodau lleol Gogledd Cymru wedi cadarnhau eu cefnogaeth i'r dull hwn ac i'r
gwaith cyflawni gael ei gydlynu gan Swyddfa Rheoli Portffolio Uchelgais Gogledd
Cymru. TRAFODAETH Manylwyd ar y
cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd. Gan gyfeirio at y
penderfyniadau a geisid, gofynnodd y Rheolwr Rhaglen Ynni i’r Bwrdd ystyried
gwneud y penderfyniad ychwanegol a ganlyn, yn dilyn ymgysylltu gyda’r prif
weithredwyr:- “Nodi y caiff
trefniadau llywodraethu prosiect priodol eu rhoi ar waith ym mhob awdurdod
lleol ar gyfer cyflwyno a chymeradwyo’r cynlluniau.” Gofynnodd y
Swyddog Monitro i’r Bwrdd ystyried addasu penderfyniad 2 fel a ganlyn, er mwyn
caniatáu sefydlu trefniadau grant rhwng Gwynedd a’r cynghorau unigol hefyd,
petai eu hangen. “Cytuno i recriwtio rheolwr prosiect a dau swyddog
prosiect i gyflawni'r Cynlluniau Ynni Ardaloedd Lleol i'w hariannu gan
Lywodraeth Cymru a dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn
ymgynghoriad â'r Swyddog a151 a’r Swyddog Monitro, i gytuno ar y
cytundebau ariannu grant a gweithredu'r cynnig. Codwyd y materion
a ganlyn:- ·
Nodwyd
bod Cyngor Conwy wedi mynd drwy’r broses, a bod yr adborth yn dangos bod yr
ymarferiad wedi bod yn un buddiol, oedd yn feincnod o lle rydym wedi cyrraedd,
ac yn gosod llwybr ar gyfer lle’r ydym angen bod. Credid ei bod yn synhwyrol gweithredu’n
rhanbarthol, oherwydd er bod rhai pethau’n berthnasol i siroedd penodol,
byddai’n rhaid i’r prif gynlluniau, megis hydrogen, morlynnoedd llanw a
thrafnidiaeth, gael eu gwneud yn rhanbarthol. ·
Mewn
ymateb i gais am fwy o eglurder ynglŷn â’r diwygiad i benderfyniad 2, eglurodd
y Swyddog Monitro, er bod y grantiau yn cael eu derbyn gan y Bwrdd, bod elfen
o’u gweithredu yn nwylo’r awdurdodau unigol, ac felly bod angen sicrhau’r
mecanwaith ar gyfer sefydlu’r llinell atebolrwydd rhwng gweithredu ac arwyddo’r
grant, petai angen hynny. |
|
CYLLIDEB REFENIW A CHYFALAF 2022/23 PDF 626 KB Dewi A Morgan, Swyddog Cyllid Statudol yr Awdurdod Lletya a Sian Pugh, frifydd Grŵp yr Awdurdod Llety i gynnig Cyllideb Refeniw a Chyfalaf 2022/23 ar gyfer Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (y Bwrdd Uchelgais). Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1.
Cymeradwyo Cyllideb Refeniw 2022/23 fel y'i
cyflwynir yn Atodiad 1 i’r adroddiad. Mae hyn yn cynnwys trosglwyddiadau
unwaith ac am byth o £85,000 yn y gyllideb refeniw i'w hariannu o'r gronfa wrth
gefn a glustnodir. 2. Cymeradwyo cyfraniadau ariannu
yn cynnwys cyfraniadau partneriaid, cyfraniadau atodol awdurdodau lleol, a
chyfraniadau llog partneriaid. 3.
Cymeradwyo cais y Bwrdd Cyflawni Busnes bod y
tanwariant o £20,000 yn erbyn eu cyllideb 2021/22 yn cael ei gario ymlaen i
2022/23 i roi cyfanswm cyllideb o £40,000 iddynt. 4.
Cymeradwyo Cyllideb Gyfalaf ar
gyfer y Cynllun Twf fel y'i cyflwynir yn Atodiad 2. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Dewi Morgan (Swyddog Cyllid Statudol) a Sian Pugh (Cyfrifydd
Grŵp - Corfforaethol a Phrosiectau). PENDERFYNWYD 1.
Cymeradwyo Cyllideb Refeniw
2022/23 fel y'i cyflwynir yn Atodiad 1. Mae hyn yn cynnwys trosglwyddiadau
unwaith ac am byth o £85,000 yn y gyllideb refeniw i'w hariannu o'r gronfa wrth
gefn a glustnodir. 2.
Cymeradwyo cyfraniadau ariannu yn cynnwys cyfraniadau partneriaid,
cyfraniadau atodol awdurdodau lleol, a chyfraniadau llog partneriaid. 3. Cymeradwyo
cais y Bwrdd Cyflawni Busnes bod y tanwariant o £20,000 yn erbyn eu cyllideb
2021/22 yn cael ei gario ymlaen i 2022/23 i roi cyfanswm cyllideb o £40,000
iddynt. 4. Cymeradwyo
Cyllideb Gyfalaf ar gyfer y Cynllun Twf fel y'i cyflwynir yn Atodiad 2. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Er mwyn gweithredu'n effeithiol o fewn y cyllid sydd ar
gael, mae angen i gyllideb flynyddol gael ei chymeradwyo ar gyfer y Bwrdd Uchelgais. TRAFODAETH Manylwyd ar y
cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd. Yn ystod y
drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:- ·
Diolchwyd
i’r Swyddog Cyllid Statudol a’r Cyfrifydd Grŵp - Corfforaethol a
Phrosiectau am y gwaith a’r cyflwyniad clir. ·
Eglurwyd
fod y gyllideb gwariant Hyfforddiant yn cyfeirio at hyfforddiant penodol y bydd
staff y Bwrdd Uchelgais ei angen yn ystod y flwyddyn. ·
Mewn
ymateb i gwestiwn am y gwariant yswiriant o £2,980, eglurwyd ei fod yn cyfeirio
at gostau yswiriant atebolrwydd cyflogwr ac atebolrwydd cyhoeddus sy’n cael ei
drefnu fel rhan o waith yr awdurdod lletya ac fel rhan o bolisi yswiriant
Cyngor Gwynedd. ·
Mewn
ymateb i ymholiad ynglŷn â pham na chafodd cyllid y Bwrdd Cyflawni Busnes
ei wario yn y flwyddyn ddiwethaf, nodwyd nad oedd y Bwrdd hwn yn siŵr ble
i wario’r arian yn flaenorol. Hyderwyd y bydd yr arian sy’n cael ei gario
drosodd pe caniateir y penderfyniad yn cael ei wario’n ddoeth a’n gynhyrchiol
yn y flwyddyn i ddod ynghyd a’r arian o’r gyllideb 2022/23. Ychwanegwyd fod
amseru wedi bod yn broblem; dylid defnyddio’r gyllideb hon tuag at dargedu a
denu buddsoddiadau i’r rhanbarth; adroddwyd ei bod yn anodd cyflawni hyn nes
oedd y brand newydd yn ei le. Bellach mae gan y Bwrdd Uchelgais lawer mwy o
eglurder a nod cadarn ynglŷn â ble i fynd a beth i’w gyflawni o ran denu
buddsoddiadau. Diolchwyd i’r Bwrdd Cefnogi Busnes am eu cefnogaeth. ·
Tynnwyd
sylw at y ffaith bod cyfraddau llog o 2.2% yn parhau heb eu newid ers Hydref
2020, cytunwyd ar hyn yn dilyn derbyn barn cwmni ymgynghorol trysorlys
annibynnol. Bydd cronfa ar wahân yn cael ei greu ar gyfer y llog sy'n cael ei
glustnodi fel ei fod yn cael ei ddangos ar wahân. · Mewn ymateb i sylw y bydd pwysau chwyddiant cynyddol ar yr holl brosiectau, eglurwyd y bydd pob prosiect wrth fynd drwy’r broses ddatblygu yn cael gwiriad trylwyr ynghylch fforddiadwyedd; bydd mwy o ffocws yn cael ei roi ar yr elfen hon ynghyd ag adolygu rheolaidd. Ychwanegwyd fod materion chwyddiant a chyfraddau llog wedi derbyn ystyriaeth lawn a bod trafodaethau rheoli ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
SWYDDFA RHEOLI PORTFFOLIO - STRWYTHUR A CHONTRACTAU PDF 337 KB Alwen Williams Cyfarwyddwr Portffolio a
Hedd Vaughan-Evans, Rheolwr Gweithrediadau i gyflwyno cynnig a sail resymegol
i'r Bwrdd ar gyfer ymestyn contractau tymor penodol o fewn y Swyddfa Rheoli
Portffolio. Penderfyniad: 1.
Cymeradwyo'r
egwyddor o ymestyn contractau tymor penodol o fewn y Swyddfa Rheoli Portffolio
hyd at 31 Mawrth 2024 a gofyn i'r Cyfarwyddwr Portffolio weithredu hyn ar
unwaith. 2.
Nodi y telir
costau'r ymestyniad hwn o ffynonellau ariannu presennol (yn cynnwys cronfeydd
wrth gefn) ac ni fydd yn arwain at unrhyw ofynion ariannol ychwanegol gan
bartneriaid. 3.
Nodi bod awdurdod
dirprwyedig wedi'i roi yn flaenorol [Ionawr 2020] i'r Cyfarwyddwr Portffolio i
wneud newidiadau i strwythur y Swyddfa Rheoli Portffolio mewn ymgynghoriad â
Phrif Weithredwr yr Awdurdod Lletya a'r Swyddog Cyllid Statudol i ddiwygio'r
strwythur fel sydd angen o fewn yr amlen ariannu. 4.
Nodi y bydd
gofynion adnoddau'r Swyddfa Rheoli Portffolio i gyflawni'r Cynllun Twf wedi
Mawrth 2024 yn rhan o adolygiad o adnoddau rhanbarthol i'w wneud gan y
Grŵp Swyddogion Gweithredol a fydd hefyd yn ystyried goblygiadau ehangach
y Fframwaith Economaidd Rhanbarthol, y Gronfa Ffyniant Cyffredin a ffynonellau
ariannu eraill a'r Cyd-bwyllgor Corfforedig a’r adnoddau sydd eu hangen ar
lefel awdurdodau lleol i ddatblygu a chyflawni prosiectau a rhaglenni datblygu
economaidd ac adfywio lleol. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio a Hedd Vaughan-Evans
(Rheolwr Gweithrediadau). PENDERFYNIAD 1.
Cymeradwyo’r
egwyddor o ymestyn contractau tymor penodol o fewn y Swyddfa Rheoli Portffolio
hyd at 31 Mawrth 2024 a gofyn i'r Cyfarwyddwr Portffolio weithredu hyn ar
unwaith. 2. Nodi y telir costau'r ymestyniad hwn o ffynonellau ariannu
presennol (yn cynnwys cronfeydd wrth gefn) ac ni fydd yn arwain at unrhyw
ofynion ariannol ychwanegol gan bartneriaid. 3.
Nodi bod awdurdod
dirprwyedig wedi'i roi yn flaenorol [Ionawr 2020] i'r Cyfarwyddwr Portffolio i
wneud newidiadau i strwythur y Swyddfa Rheoli Portffolio mewn ymgynghoriad â
Phrif Weithredwr yr Awdurdod Lletya a'r Swyddog Cyllid Statudol i ddiwygio'r
strwythur fel sydd angen o fewn yr amlen ariannu. 4. Nodi y bydd gofynion adnoddau'r Swyddfa Rheoli Portffolio i
gyflawni'r Cynllun Twf wedi Mawrth 2024 yn rhan o adolygiad o adnoddau
rhanbarthol i'w wneud gan y Grŵp Swyddogion Gweithredol a fydd hefyd yn
ystyried goblygiadau ehangach y Fframwaith Economaidd Rhanbarthol, y Gronfa
Ffyniant Cyffredin a ffynonellau ariannu eraill a'r Cyd-bwyllgor Corfforedig
a’r adnoddau sydd eu hangen ar lefel awdurdodau lleol i ddatblygu a chyflawni
prosiectau a rhaglenni datblygu economaidd ac adfywio lleol. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Cyflwyno cynnig a sail resymegol i’r Bwrdd
ar gyfer ymestyn contractau tymor penodol o fewn y Swyddfa Rheoli Portffolio. Mae gan y Bwrdd gyfrifoldeb i sicrhau bod
adnoddau digonol yn eu lle i gyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru. Sefydlwyd
y Swyddfa Rheoli Portffolio yn wreiddiol ym mis Ionawr 2020 gyda thîm bychan o
staff. Yn sgil cais llwyddiannus am grant Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd
(ESF), ehangwyd y tîm a recriwtiwyd i'r strwythur cyfredol dros y 18 mis
diwethaf. Mae'r grant ESF sydd wedi'i sicrhau tan ddiwedd mis Mehefin
2023 ac mae rhan fwyaf y staff o fewn y Swyddfa Rheoli Portffolio ar gontractau
tymor penodol hyd at 30 Mehefin 2023. Mae hyn risg sylweddol i'r Swyddfa Rheoli Portffolio gan fod
staff sy'n allweddol i gyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru yn tynnu am flwyddyn
olaf eu contractau a gallent geisio am gyfleoedd eraill sydd â mwy o sicrwydd
cytundebol. O
ganlyniad i nifer o ffactorau yn cynnwys y pandemig, oedi wrth ddatblygu
prosiectau a heriau recriwtio, mae'r Cynllun Twf tua blwyddyn ar ei hôl hi o
gymharu â'r amserlen gyflawni wreiddiol. Gydag un prosiect eisoes yn cael ei
gyflawni, mae'r 24 mis nesaf yn hanfodol yn nhermau symud gweddill y prosiectau
ymlaen i'r wedd cyflawni pan fyddwn yn dechrau gwireddu'r buddion i'r Gogledd. TRAFODAETH Manylwyd ar y
cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd. Gan gyfeirio at y
penderfyniadau a geisid, gofynnodd y Rheolwr Gweithrediadau i’r Bwrdd ystyried
gwneud yr ychwanegiad a ganlyn i ddiwedd pwynt 2.4:- “.. a’r adnoddau sydd eu hangen ar lefel
awdurdodau lleol i ddatblygu a chyflawni prosiectau a rhaglenni datblygu
economaidd ac adfywio lleol.” Yn ystod y
drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:- ·
Diolchwyd
am y cyflwyniad a chredwyd fod y cais yn un rhesymol a rhesymegol. · Cydnabyddwyd bod risg sylweddol i golli aelodau o’r tîm ynghyd a’u gwybodaeth a’u profiadau. Mynegwyd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |