Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sera Jane Whitley E-bost: serajanewhitley@gwynedd.llyw.cymru
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
ETHOL CADEIRYDD AR GYFER 2025/26 I ethol Cadeirydd ar gyfer 2025/26. Penderfyniad: Penderfynwyd gohirio'r penodiad hyd nes y cyfarfod nesaf. Penderfynwyd ethol Nigel Rudd yn Gadeirydd y cyfarfod hwn. Cofnod: Penderfynwyd gohirio'r penodiad hyd nes y cyfarfod nesaf. Penderfynwyd ethol Nigel Rudd yn Gadeirydd y cyfarfod hwn. |
|
|
ETHOL IS-GADEIRYDD AR GYFER 2025/26 I ethol Is-Gadeirydd ar gyfer 2025/26. Penderfyniad: Penderfynwyd gohirio'r penodiad hyd nes y cyfarfod nesaf. Cofnod: Penderfynwyd gohirio'r penodiad hyd nes y cyfarfod nesaf. |
|
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Gynghorydd Carol Holliday
(Cyngor Sir Ddinbych), Carys Edwards (Aelod Lleyg), a Sian Pugh (Pennaeth
Cynorthwyol Cyllid - Cyngor Gwynedd). |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatgan o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
|
MATERION BRYS Cofnod: Croesawodd Prif Weithredwr y Cydbwyllgor Corfforedig (CBC)
yr holl Aelodau i’r cyfarfod gyntaf yr Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
CBC Gogledd Cymru, a chyflwynwyd cyd-destun am y CBC. Gofynnwyd am gadarnhad beth yw cynnwys cworwm yn yr
Is-bwyllgor hwn, gan ofyn a yw’n bosib dirprwyo. Eglurodd y Swyddog Monitro nad
yw hyn yn bosib, gan fod y Cylch Gorchwyl wedi gosod cworwm uchel. Cadarnhawyd
bod un aelod o bob awdurdod ac un aelod lleyg yn bresennol heddiw ac o
ganlyniad fod cworwm. Cyflwynwyd y swyddogion ynghyd a’i rolau er mwyn rhoi
cefndir a chyd-destun yr Is-bwyllgor. |
|
|
BLAEN GYNLLUN GWAITH YR IS-BWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO Claire Incledon, Dirprwy Swyddog Monitro (dros dro) i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi bod y Blaengynllun Gwaith
yn darparu’r rhaglen waith, sy’n caniatáu i’r Is-bwyllgor gyflawni ei rôl
statudol fel y’i nodir yn Rheoliadau Sefydlu 2021. Eglurwyd mai mater i’r
Aelodau a’r Cadeirydd yw nodi pa adroddiadau y maent am eu gweld ger bron yr
Is-bwyllgor ac unrhyw ofynion hyfforddi y byddant eu hangen. Bydd y rhain yn
cael eu hychwanegu at y Blaengynllun Gwaith, a fydd yn ddogfen fyw a chaiff ei
gylchredeg yn rheolaidd i’r Aelodau. Cadarnhawyd bod dyddiadau cyfarfodydd y CBC ar gyfer 2025/26
yn y calendr tan fis Mai 2026. Nodwyd y bydd calendr terfynol newydd yn cael ei
ddatblygu ddechrau’r flwyddyn nesaf. Holwyd os oes dyddiadau cyfarfodydd
Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi ei gyflwyno. Mynegwyd bod dyddiad ar
gyfer mis Ionawr er mwyn ystyried y Gyllideb cyn iddo gael ei gyflwyno i’r CBC
ar 23 Ionawr. Cadarnhawyd y bydd cyfarfodydd yr Is-bwyllgorau yn cael eu
hamserlennu o gwmpas y Blaengynllun Gwaith, er mwyn caniatáu i waith yr
Is-bwyllgor fwydo’n briodol i’r CBC. Nodwyd y byddai dyddiadau cyfarfodydd ar
gyfer diwedd 2025/26 yn ddibynnol ar gapasiti adnoddau a gofynion yr eitemau fydd angen eu
cyflwyno i’r Is-bwyllgor. Amlygwyd pwysigrwydd rhannu dyddiadau yn amserol ar gyfer
cyfarfodydd yr Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, o ystyried y gofynion
sydd arnynt yn eu hawdurdodau priodol, ac er mwyn sicrhau cworwm. Cadarnhawyd y
byddai yn cael eu cylchredeg cyn gynted â phosib. Mynegwyd pryderon am brinder eitemau ar y Blaengynllun
Gwaith, yn enwedig o ystyried bod y Cylch Gorchwyl yn amlygu eitemau y dylid eu
cynnwys. Ymatebwyd gan esbonio fod y Blaengynllun yn parhau i gael ei ddatblygu
wrth weithio ochor yn ochor ag aelodau er mwyn cyflawni cyfrifoldebau statudol
yr Is-bwyllgor hwn. Ategwyd yr angen i ystyried capasiti
ac yr anodau sydd ar gael ei wneud y gwaith yn ogystal. Cynigwyd gohirio’r penderfyniad tan ddiwedd y cyfarfod er
mwyn cael cyd-destun cyn penderfynu ar flaenoriaethau’r Is-bwyllgor, ac i
amlygu unrhyw eitem ychwanegol i’w gynnwys ar y Blaengynllun Gwaith. Nid oedd cworwm ar ddiwedd y cyfarfod ac felly ni wnaethpwyd
unrhyw benderfyniad ond nodwyd y sylwadau er gwybodaeth. Gofynnwyd cwestiwn ynghylch sefydlu’r Is-bwyllgor Trosolwg a
Chraffu ar y Cyd i sicrhau craffu priodol ar y CBC. Holwyd os oedd angen
ystyried y strwythur arfaethedig. Cadarnhawyd bod y cylch gorchwyl yr
Is-bwyllgor Trosolwg a Chraffu ar y Cyd eisoes wedi’i sefydlu a’i gytuno gan y
chwe awdurdod lleol. Adroddwyd y rhestr
ganlynol o eitemau, fel awgrymiadau ar gyfer y Blaen Cynllun Gwaith: ·
Rhaglen
Archwilio Mewnol / Archwilio Allan (Archwilio Cymru) ·
Adroddiad
olrhain camau gweithredu archwilio ·
Datganiad
cyfrifon blynyddol 2024/25 ac adroddiad Archwilio Cymru ·
Datganiad
Llywodraethu Blynyddol 2024/25 ·
Cofrestr
Risg ·
Rheoli
asedau a gwaredu cyfalaf ·
Rheoli’r
trysorlys ·
Cyllideb
ddrafft 2026/27 ·
Strategaeth
drafft ariannol tymor canolig ·
Adroddiad
crynodeb llywodraethu’r CBC o
Cynllunio
Corfforaethol o
Cynllunio
Ariannol o
Rheoli
Perfformiad o
Rheoli
Risg o
Cynllunio’r
Gweithlu o
Rheoli
Asedau o
Caffael Eglurwyd y byddai swyddogion yn cynghori pa eitemau fyddai’n mynd ger bron yr Is-bwyllgor ar ba ddyddiadau, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, gyda’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
|
CYLCH GORCHWYL YR IS-BWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO Claire Incledon, Dirprwy Swyddog Monitro (dros dro) i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodiwyd Cylch Gorchwyl. Cofnod: Cyflwynwyd bod y cylch gorchwyl yn adlewyrchu rôl a
swyddogaeth yr Is-bwyllgor, a bod y rhain wedi’u nodi yn Rheoliadau Sefydlu
2021 ac yng nghyfansoddiad y CBC. Amlygwyd
swyddogaeth statudol benodol i’w Aelodau. Ymhelaethwyd y bydd yr Is-bwyllgor yn hyrwyddo arfer da.
Nodwyd bod canllawiau statudol ac anstatudol sy’n cefnogi’r prif Gynghorau'r un
mor berthnasol i’r CBC. Cydnabuwyd bod cylch gorchwyl yr Is-bwyllgor yn debyg i
gylch gorchwyl awdurdodau lleol. Nodwyd byddai nodi rhif fersiwn ar y cylch
gorchwyl yn hwyluso unrhyw newidiadau dilynol. Cytunwyd y byddai unrhyw
addasiadau yn cael eu nodi’n glir fel y
gellir amlygu pob newid. Gofynnwyd pwy yw Prif Swyddog yr Is-bwyllgor, a’r angen i’w
amlygu yn y Cylch Gorchwyl. Holwyd am eglurhad ar y perthynas rhwng yr
Is-bwyllgor a’r CBC, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o ble mae’r
penderfyniadau’n cael eu gwneud a ble mae adroddiadau’n cael eu rhannu’n
ffurfiol. Mynegwyd bod y Swyddog Adran 151 yn cael ei ystyried fel swyddog
arweiniol de-facto ar gyfer Is-bwyllgor Llywodraethu
ac Archwilio’r Cyngor yng Nghyngor Gwynedd, ond fod angen trafodaeth bellach ar
benodi’r Swyddog Arweiniol ar gyfer y Pwyllgor hwn. Ategwyd nad yw Swyddogion
Arweiniol yn cael ei gadarnhau yn y Cyfansoddiad na Chylch Gorchwyl yng
Nghyngor Gwynedd. Esboniwyd ei bod yn bwysig nodi’r swyddog arweiniol cywir,
er mwyn sicrhau bod gwybodaeth amserol a perthnasol yn cael ei darparu am
raglen waith y CBC yn yr Is-bwyllgor. Atgoffwyd Aelodau bod y CBC yn
gweithredu’n rhanbarthol yn hytrach nag yn lleol, ac felly bod yn bwysig
cydnabod y gwahaniaethau rhwng y CBC a’r awdurdodau lleol. Ymhellach, nodwyd
bod hwn yn gyfle i’r Is-bwyllgor lunio a thywys gwaith y CBC yn briodol, ac
felly rhaid sicrhau bod Aelodau’n derbyn y wybodaeth gywir. Tynnwyd sylw at Ddeddf Etholiadau Lleol 2021, a rôl
pwyllgorau llywodraethu ac archwilio, ac sy’n cynnwys agweddau o berfformiad a
chwynion. Nodwyd byddai’r gwaith yr Is-bwyllgor yn mynd ar draws i feysydd
eraill ac o ganlyniad yn debygol o fod yn ehangach na chyfraniad y Swyddog
Adran 151. Mynegwyd yr angen i amlygu llinell atebolrwydd clir i sicrhau bod yr
Is-bwyllgor yn gwybod pwy yw’r pwynt cyswllt. Amlygwyd pryder ynghylch a ddylai cynrychiolydd o Archwilio
Cymru fod yn bresennol yng nghyfarfodydd yr Is-bwyllgor gan nad oedd unrhyw
faterion archwilio allanol ger bron yr Is-bwyllgor yn y cyfarfod hwn.
Cadarnhawyd bod y CBC wedi cytuno ar raglen waith gydag Archwilio Cymru felly
bydd disgwyliad iddynt fod yn bresennol ar gyfer yr eitemau yma. Nodwyd angen
i’w gynnwys ar y Blaengynllun Gwaith. Cadarnhawyd y drefn bleidleisiau ar gyfer y cyfarfod hwn, a
bod penderfyniadau yn cael ei gyhoeddi yn y daflen benderfyniad dim mwy na 5
diwrnod gwaith yn dilyn y cyfarfod. |
|
|
ADRODDIAD CYNNYDD Y CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG Dave Hole, Arweinydd Rhaglen Weithredu'r CBC i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: Nodiwyd sefyllfa gyd-destunol. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod hwn yn gyfle i roi
cyd-destun y CBC ynghyd â diweddariad ar y gwaith sydd wedi ei wneud. Eglurwyd
fod dau adroddiad wedi ei gyflwyno eisoes i’r Cydbwyllgor, y cyntaf yn ôl ym
mis Mehefin yn ystod dyddiau cynnar y rhaglen yn dilyn y trosglwyddiad, a
adnabuwyd rhestr uchelgeisiol o beth oedd angen ei wneud ond ei fod yn gyfnod
ble nad oedd Prif Weithredwr wedi ei benodi. Bu i’r ail adroddiad adrodd ym mis
Tachwedd, er mwyn diweddaru ar y gwaith sydd wedi ei wneud ac adnabod y
sialensiau ar adnoddau sydd ei angen i gwblhau’r gwaith. O ran cefndir, eglurwyd for y
Cynllun Twf wedi trosglwyddo i’r CBC yn ôl yn Ebrill a bellach gyda statws
gweithredu llawn ac felly a’r gallu i gyflogi pobl. Mynegwyd yr angen i’r CBC
gydymffurfio â’r dyletswyddau cyffredino â sefydliadau sector cyhoeddus a
nodwyd fod dyletswydd statudol i gynhyrchu Cynllun Datblygu Strategol a
Chynllun Trafnidiaeth Ranbarthol. Eglurwyd fod cynnydd sylweddol wedi ei wneud hyd at / a gan
gynnwys y trosglwyddiad a hynny gyda thîm bach iawn. Tynnwyd sylw at y rhestr a
gyflwynwyd yn yr adroddiad. Ategwyd fod rhaglen o newid wedi ei ddatblygu yn
seiliedig ar flaenoriaethau, a bod y Prif Weithredwr wedi ei phenodi ym Mehefin
2025. Nodwyd fod ffactorau wedi dal rhai pethau yn ôl, megis y penodi
swyddogion ond eu bod yn gweithio drwy’r Cytundebau Lefel Gwasanaeth i dderbyn
y gefnogaeth sydd ei angen. Er y sialensiau nodwyd fod gwaith wedi parhau i ddatblygu
a'u bod o fewn camau ddyblygu ar gyfer meysydd fel y wefan. Amlygwyd heriau
megis oedi ar adolygu prosbectws CBC Llywodraeth Cymru, oedi wrth gaffael a
gweithredu'r System Rheoli Pwyllgorau a denu ymgeisiwyd ar gyfer swyddi megis
Uwch Swyddog Caffael. Esboniwyd eu bod yn parhau i fod angen gweithredu dau
Is-bwyllgor sef Safonau a Throsolwg a Chraffu. Mynegwyd fod datblygu rhaglen
UGC newydd ar gyfer 2026/27 a map ffordd ar gyfer y blynyddoedd dilynol yn
debygol o fwrw sawl prosiect ymlaen. Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod y CBC wedi cyrraedd ble
maen nhw o ganlyniad i gymorth staff partneriaid megis Cyngor Gwynedd a
diolchwyd iddynt am eu gwaith. Pwysleisiwyd fod y Cydbwyllgorau ar draws Cymru
yn newydd ac felly mae’n cymryd amser i lywio drwy’r broses o flaenoriaethu gan
geisio peidio rhoi pwysau ychwanegol ar Awdurdodau’r Gogledd ond i sicrhau eu
bod yn cyrraedd gofynion y Llywodraeth. Nododd y Swyddog Monitro fod gwaith yn ac wedi ei wneud
i sefydlu’r CBC yn endid o ran maint
sy’n weddol fychan ond a maint gofynion maint Llywodraeth Leol. Uwchlaw
sefydlu, nododd fod rhaglenni wedi bod yn datblygu yn y cefndir yn rhanbarthol
ac yn genedlaethol. Ategwyd fod trosglwyddo’r Cynllun TWF wedi bod yn gatalydd
i symud ymlaen ond fod adnoddau wedi bod yn heriol gan fod yr angen i ymateb i
gynlluniau a gofynion statudol wrth gyfiawnhau adnoddau. Mynegodd y Prif Swyddog Cyllid fod y pwysau adnoddau wedi bod yn sialens a bod nifer o waith wedi ei wneud. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
|
MANDAD A SIARTER ARCHWILIO MEWNOL Luned Fôn Jones, Rheolwr Archwilio Cyngor Gwynedd
i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd a chymeradwywyd cynnwys y Mandad a’r Siarter
Archwilio Mewnol a chefnogi Archwilio Mewnol yn ei weithrediadau. Cofnod: Eglurwyd bod ers Ebrill 2025, pan ddaeth y Safonau Archwilio
Mewnol Byd-eang i rym yn Sector Gyhoeddus y Deyrnas Unedig, mae’n hanfodol bod
y Gwasanaeth Archwilio yn cydymffurfio â’r Safonau yma. Eglurwyd fod Nodyn
Cymhwyso wedi ei gyflwyno sydd yn darparu fframwaith ymarferol ar sut y gellid
gweithredu a chymhwyso, yn rhoi arweiniad ac yn egluro sut mae’r Safonau
Archwilio Mewnol Byd-eang ar lywodraethu - sef Parth III (Domain
III) yn berthnasol i oruchwyliaeth a dyletswyddau’r Is-bwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio. Un o’r camau hanfodol yw
cymeradwyo siarter sydd yn cynnwys mandad a sgôp a mathau o waith Archwilio
Mewnol. Ategwyd fod CIPFA wedi datblygu Cod Ymarfer ar gyfer
Llywodraethu Archwilio Mewnol yn Llywodraeth Leol y Deyrnas Unedig gyfer
dehongli a sicrhau cydymffurfiaeth gyda dyletswyddau statudol. Mae’r Cod wedi
ei anelu at y rhai sy’n gyfrifol am drefniadau llywodraethu effeithiol – sef yr
Is-Bwyllgor hwn. Mae’r Siarter yn nodi’r trefniadau ar gyfer swyddogaeth
archwilio fewnol gyflawni ei ddiben. Mae rôl archwilio mewnol yn cynnwys: ·
Cefnogi’r gwaith o gyflawni amcanion strategol
drwy ddarparu sicrwydd gwrthrychol sy’n seiliedig ar risg, ·
Hyrwyddo arfer da mewn llywodraethu a ·
Cynghori ar drefniadau llywodraethu, rheoli risg
a rheolaeth fewnol. I sicrhau cydymffurfiaeth â’r Safonau, nodwyd mai
cyfrifoldeb yr Is-Bwyllgor hwn yw adolygu a chymeradwyo’r Siarter gan sicrhau
bod diffiniad clir o ·
Bwrpas, awdurdod a chyfrifoldeb Archwilio
Mewnol, ·
Annibyniaeth a llinellau adrodd y swyddogaeth
Archwilio Mewnol, ·
Cwmpas gwaith a hawliau mynediad Archwilio
Mewnol, ·
Bod y mandad yn cadarnhau bod Archwilio Mewnol
yn meddu ar yr awdurdod cyfreithiol a sefydliadol i weithredu’n effeithiol ac
yn darparu manylion am rôl a chyfrifoldebau swyddogaeth Archwilio Mewnol, ·
Gwirio bod y Siarter a’r mandad yn sicrhau
annibyniaeth Archwilio Mewnol ac yn diogelu Archwilio Mewnol rhag dylanwad
amhriodol ·
Goruchwylio a monitro gweithgareddau Archwilio
Mewnol i adolygu cydymffurfiaeth â’r Siarter a’r mandad. Gofynnwyd beth yw capasiti
archwilio mewnol y CBC. Eglurwyd bod Cyngor Gwynedd yn darparu gwasanaeth
archwilio mewnol trwy gytundeb lefel gwasanaeth, a nodwyd bod tîm archwilio
mewnol Cyngor Gwynedd yn cynnwys Rheolwr Archwilio, dau Arweinydd Archwilio, a
4 Uwch Archwilwyr. Gofynnwyd sut y penderfynir ar y rhaglen waith gyfredol ar
gyfer archwilio mewnol. Manylwyd bod y cynllun blynyddol ar gyfer Uchelgais
Gogledd Cymru yn cael eu llunio gyda mewnbwn y Prif Weithredwr a’r Prif Swyddog
Cyllid. Cadarnhawyd bydd y Cynllun Blynyddol yn dod ger bron yr Is-bwyllgor hwn
yn y dyfodol i dderbyn cymeradwyaeth. Nodwyd nad oedd Cynllun Blynyddol wedi’i
lunio ar hyn o bryd gan fod angen Siarter Archwilio yn gyntaf er mwyn llunio
Strategaeth a’r Cynllun Blynyddol. Eglurwyd bod asesiad risg yn cael ei drafod
ac y bydd unrhyw waith archwilio mewnol wedi ei llunio un unol â’r prif
risgiau. Sicrhawyd yr Is-bwyllgor bod Uchelgais Gogledd Cymru wrthi’n
datblygu eu Strategaeth Risg Gorfforaethol, ac mae drafft wedi’i ddosbarthu
gyda swyddogion, a bydd yn cael ei gyflwyno i’r Is-Bwyllgor maes o law.
Pwysleisiwyd ei bod yn parhau i fod yn ddyddiau cynnar ers trosglwyddo’r CBC
ond fod llunio Strategaeth Risg Gorfforaethol ranbarthol yn flaenoriaeth ac yn
ofyniad hanfodol. Gofynnwyd pa gamau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |