Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a)
Y Cynghorydd Cai Larsen (oedd yn Aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 C24/0205/32/LL ar y rhaglen, oherwydd ei fod aelod
o Fwrdd Adra Roedd yr Aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu ac ni fu
iddo gymryd rhan yn ystod y drafodaeth na phleidleisio ar y cais. b)
Datganodd yr aelodau canlynol eu
bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir: ·
Y Cynghorydd Gareth Williams (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 C24/0205/32/LL ar y rhaglen ·
Y Cynghorydd Gareth Tudor Jones (oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 C24/0640/42/LL ar y rhaglen c)
Materion protocol
|
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Fel mater o drefn, adroddwyd, gyda’r Cadeirydd yn ymuno yn rhithiol,
mai’r Swyddog Cyfreithiol fyddai’n cyhoeddi canlyniadau’r pleidleisiau ar y
ceisiadau. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniodd y Cadeirydd
gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 30ain o Fedi 2024 fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau
canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i
gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. |
|
Cais Rhif C24/0205/32/LL Tir ger Cae Capel, Botwnnog, Pwllheli, LL53 8RE PDF 436 KB Cais llawn i godi 18 tŷ fforddiadwy gyda
datblygiadau cysylltiol AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Williams Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Gwrthod yn groes
i’r argymhelliad. RHESWM: Cais yn groes i PS1 –
niwed arwyddocaol i’r Iaith Gymraeg Cofnod: Cais llawn i godi 18 tŷ fforddiadwy gyda
datblygiadau cysylltiol Tynnwyd
sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn cynnwys crynodeb o sylwadau a dderbyniwyd gan Cyngor Cymuned Bownnog ac
ar ran Prosiect Perthyn; penderfyniad apêl diweddar yn Ynys Môn (sydd a’r un
polisïau cynllunio â Gwynedd), lle caniatawyd yr apêl, gyda chostau yn erbyn y Cyngor am ymddygiad afresymol;
gwybodaeth a thystiolaeth gan Adra yn dangos bod canran prif denantiaid mewn
datblygiadau tai newydd sy’n siarad Cymraeg ar gyfartaledd yn uwch na’r canran
siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd a bod datblygiadau tebyg, ar y cyfan yn cael
effaith bositif ar yr iaith Gymraeg. a) Amlygodd Pennaeth Cynorthwyol Cynllunio ac Amgylchedd mai bwriad y Pwyllgor ar
y 9fed o Fai oedd gwrthod y cais yn groes i’r argymhelliad am resymau yn
ymwneud ag effaith negyddol ar yr iaith Gymraeg a diffyg angen o fewn ward
Botwnnog am dai fforddiadwy. Gyda risg sylweddol i’r Cyngor dros wrthod y cais,
cyfeiriwyd y cais i gyfnod cnoi cil. Adroddwyd ar gyd-destun y polisi
cynllunio, y risgiau posib i’r Cyngor ac opsiynau i’r Pwyllgor cyn dod i
benderfyniad terfynol ar y cais. Eglurwyd
mai cais ydoedd ar gyfer codi 18 o dai fforddiadwy ar safle wedi ei ddynodi yn
benodol ar gyfer tai, o fewn ffin datblygu Pentref Gwasanaeth Botwnnog, fel y
diffinnir yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl).
Ategwyd, ers adrodd i’r Pwyllgor tro diwethaf, bod gwybodaeth ychwanegol
wedi ei gyflwyno gan yr ymgeisydd yn ymateb i’r ddau reswm gwrthod. Roedd y
wybodaeth yn datgan, bod: -
statws
Botwnnog fel anheddle yn y CDLl yn golygu nad oedd gofyn profi bod yr angen
lleol wedi ei gyfyngu i ward Botwnnog, ond yn hytrach fod disgwyl i’r anheddle
gyfarch angen ehangach yr ardal; bod graddfa’r datblygiad yn briodol ac yn
cyd-fynd gyda statws Botwnnog fel Pentref Gwasanaeth; bod ystadegau diweddar
gan Uned Strategol Tai'r Cyngor yn profi’r angen am dai fforddiadwy yn y Sir
a’r cymysgedd tai sy’n cael eu cynnig yn adlewyrchu’r angen hwnnw; bod
cynlluniau fel hyn yn allweddol i gefnogi’r iaith Gymraeg ac yn ymateb i’r
argyfwng tai yng Ngwynedd. Ystyriwyd bod diffyg tystiolaeth wedi ei gynnig i
amddiffyn y rheswm gwrthod yma. - Yng nhyd-destun polisi cynllunio, nodwyd mai’r gofyn statudol yw bod rhaid i geisiadau cynllunio gael eu penderfynu yn unol â’r cynllun a fabwysiadwyd (CDLl) onibai bod ystyriaeth cynllunio perthnasol yn nodi fel arall. Tynnwyd sylw at restr llawn o’r polisïau cynllunio perthnasol ac yn arbennig i’r polisïau cynllunio oedd yn ymwneud a’r ddau reswm gwrthod a roddwyd gan y Pwyllgor. Ategwyd bod ystyriaeth i’r iaith Gymraeg yn ganolog i Strategaeth y CDLl, fel modd o gyfrannu at gynnal a chreu cymunedau Cymraeg, a bod hyn wedi bod yn ystyriaeth wrth ddynodi safleoedd ar gyfer datblygiadau tai yn ardal y Cynllun. Pwysleisiwyd bod y strategaeth yn adnabod rôl a statws pob anheddle yn ardal y Cynllun gyda Botwnnog yn cael ei gydnabod fel Pentref Gwasanaeth. Botwnnog fyddai’r unig Bentref Gwasanaeth ym Mhen Llyn i wasanaethu ardal wledig eang gyda ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cais Rhif C24/0174/25/LL Vaynol Arms, Pentir, Bangor, Gwynedd, LL57 4EA PDF 302 KB Newid defnydd y llawr gwaelod o Dafarn i Lety Gwyliau ar Osod AELOD LLEOL: Cynghorydd Dafydd Meurig Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFNWYD: Gwrthod Nid yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi ei argyhoeddi bod y
dystiolaeth a gyflwynwyd gyda’r cais yn ddigonol i gadarnhau nad oes posibl parhau
gyda defnydd cymunedol o’r adeilad hwn. Mae’r cais felly’n groes i Bolisi ISA 2
Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026 fel y mae’n ymwneud ag
amddiffyn cyfleusterau cymunedol Cofnod: Newid defnydd y llawr gwaelod o Dafarn i Lety
Gwyliau ar osod a) Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd ar
gyfer trosi llawr gwaelod tŷ tafarn wag yn ddwy uned wyliau
hunangynhaliol. Cyflwynwyd y cais i bwyllgor am benderfyniad ar gais yr aelod
lleol a hefyd oherwydd diddordeb cyhoeddus yn y cais. Eglurwyd bod hwn yn
drydydd cyflwyniad o gynllun cyffelyb ac fe wrthodwyd y ceisiadau eraill
oherwydd diffyg gwybodaeth yn cyfiawnhau colled o adnodd gymunedol. Amlygwyd,
mai’r prif wahaniaeth gyda’r cais yma oedd bod Adroddiad Hyfywedd wedi ei
gynnwys gyda’r cais. Wrth ystyried egwyddor y
datblygiad, tynnwyd sylw at Polisi ISA 2 a’r meini prawf perthnasol. Amlygwyd
yn yr adroddiad nad oedd cyfleuster tebyg o fewn pellter cyfleus i’r pentref
heb ddefnyddio cerbyd modur i’w gyrraedd. Nodwyd bod yr Adroddiad
Hyfywedd yn trafod cynigion gan grŵp cymunedol i gynnal busnes yn y dafarn
gan ddod i’r casgliad na fyddai menter o’r fath yn hyfyw yn yr achos hwn. Er
hynny, ni ymddengys i’r casgliadau hynny gael eu selio ar unrhyw ddadansoddiad
manwl o gynnig busnes penodol ac roedd y grŵp cymunedol yn parhau o’r farn
bod eu cynigion i redeg busnes o’r safle yn hyfyw ac ymarferol. Ategwyd bod yr
Adroddiad Hyfywedd yn ddibynnol yn bennaf ar farn yr arbenigwr ac nad oedd
tystiolaeth ariannol gadarn ar y ffurf briodol wedi ei gyflwyno i gefnogi’r
cais. Ymddengys bod y polisi hefyd
yn gofyn bod tystiolaeth o ymdrechion gwirioneddol i farchnata’r cyfleuster.
Cyfeiriwyd at e-bost oedd wedi ei gyflwyno yn datgan ymdrech i farchnata'r
eiddo am dros 12 mis ond nad oedd tystiolaeth fanwl wedi ei gyflwyno i gefnogi’r
datganiad yma. Yn ogystal, ymddengys mai ymdrech i farchnata'r eiddo ar gyfer
rhentu oedd wedi digwydd yn hytrach nag ymdrech i werthu'r eiddo yn ei
gyfanrwydd fel busnes. Derbyniwyd copi o hysbyseb marchnata, ond nid oedd
gwybodaeth i ddangos pryd cafodd yr eiddo ei hysbysebu, hyd y cyfnod hysbysebu
a beth oedd yr ymateb a fu i’r hysbyseb hwnnw – nid oes hysbyseb ar gyfer yr
eiddo ar wefan y cwmni mwyach. Wrth asesu'r wybodaeth a gyflwynwyd gyda'r cais,
ni ystyriwyd bod tystiolaeth ddigonol wedi ei gyflwyno ynghylch sefyllfa
ariannol y busnes nac i ddangos bod y dafarn wedi cael ei hysbysebu mewn modd
priodol am gyfnod parhaus o 12 mis o leiaf yn unol â gofynion y CCA a pholisi
ISA 2 Yng nghyd-destun darparu
llety gwyliau hunanwasanaeth eglurwyd nad oedd tystiolaeth o ormodedd yn yr
ardal ac felly’r bwriad yn cwrdd gyda’r maen prawf perthnasol o fewn polisi TWR
2. Er hynny, amlygwyd bod polisi TWR 2 yn anelu at amddiffyn cymeriad preswyl
ardal ac wrth ystyried y buasai’r datblygiad hwn yn golygu colli adnodd
cymunedol pwysig a chreu cyfleuster preifat cwbl wahanol ei naws yn ei le,
byddai’n anorfod y bydd niwed i gymeriad preswyl yr ardal yn deillio o’r
datblygiad hwn. Adroddwyd bod y cynllun busnes a gyflwynwyd gyda’r cais yn cyfeirio at fusnes yn cynnwys tair uned wyliau, gyda llawr cyntaf yr adeilad ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Cais Rhif C24/0640/42/LL Glascoed Lôn Cae Glas, Edern, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8YT PDF 208 KB Cais llawn i godi eiddo preswyl 3 ystafell wely
deulawr (defnydd C3) ynghyd a chreu mynedfa gerbydol newydd AEOD LLEOL: Cynghorydd Gruffydd Williams Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Gohirio er mwyn cynnal ymweliad safle Cofnod: Cais llawn i godi eiddo preswyl 3 ystafell wely deulawr (defnydd C3)
ynghyd a chreu mynedfa gerbydol newydd a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd
ar gyfer codi eiddo preswyl deulawr o fewn rhan o ardd tŷ presennol ym
mhentref Edern. Cyflwynwyd y cais i bwyllgor am benderfyniad ar gais yr aelod
lleol. Eglurwyd bod y safle
wedi ei leoli oddi fewn i ffin ddatblygu Edern sydd yn bentref wedi ei adnabod
fel Pentref Gwledig yn y CDLl ac fe ystyriwyd polisi TAI1wrth asesu’r cais. Amlygywd mai lefel cyflenwad dangosol tai
Edern yw 12 uned, gyda chyfanswm o 3 uned wedi eu cwblhau a 4 uned yn y banc
tir ar hap. Ar sail y wybodaeth yma, byddai caniatáu datblygiad ar y raddfa yma
yn gwbl dderbyniol ar sail lefel twf dangosol y Pentref a gan mai 1 tŷ a
fwriedir, nid oedd y bwriad yn cyrraedd y trothwy o fod angen cyfraniad tŷ
fforddiadwy. Adroddwyd bod
caniatâd cynllunio yn bodoli ar y safle hyd mis Ionawr eleni am yr un
datblygiad a’r penderfyniad hwnnw wedi ei ystyried o dan y CDLl - yr un
ystyriaethau polisi yn parhau. Ategwyd, gan nad oedd newid yn nhermau polisi
nac yn ddaearol, byddai gwrthod y cais yn afresymol ac yn debygol o fod yn
destun costau apêl pe byddai’r cais yn cael ei wrthod. Tynnwyd sylw fodd bynnag
at hanes cynllunio hynach ble gwrthodwyd ceisiadau ar y sail byddai’r bwriad yn
ychwanegu at y nifer o ail gartrefi, pryder am faint y safle a’r gallu i
ddarparu mynediad, parcio a lle mwynderol ac nad oedd gwybodaeth i’r cyngor i’r
gwrthwyneb. Amlygwyd, ar yr adeg yma, roedd y polisïau yn wahanol, y ceisiadau
cynllunio yn rai amlinellol heb angen dangos gosodiad dangosol. Yng nghyd-destun
materion trafnidiaeth a mynediad, nodwyd bod modd darparu mynedfa i safon a
digon o le troi a pharcio o fewn y cwrtil. Nid oedd gwrthwynebiad gan yr uned
trafnidiaeth. Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi cadarnhau bod y
bwriad yn un ar gyfer tŷ parhaol dosbarth C3 sy’n golygu bod modd rheoli’r
defnydd drwy amod er mwyn sicrhau mai defnydd preswyl parhaol a wneir yma ac
nid defnydd gwyliau na defnydd fel ail gartref. O safbwynt effaith gweledol,
eglurwyd bod amrywiaeth i faint a dyluniad tai cyfagos oedd yn cynnwys tai
traddodiadol a rhai mwy modern gydag amrywiaeth a chymysgedd o glystyrau o dai
teras a thai deulawr ar wahân i’w gweld drwy’r pentref. Gyda’r bwriad wedi ei
leoli gerllaw tai eraill, ni ystyriwyd y byddai’n amlwg yn y tirlun. O ran deunyddiau adeiladu, ystyriwyd y byddai llechi, rendr, byrddau pren a charreg yn addas ar gyfer y lleoliad ac yn cyd-fynd a'r deunyddiau adeiladu lleol. O ran y balconi, cydnabuwyd fod nodweddion megis balconïau yn gyffredin ar dai eraill o fewn yr ardal ehangach oedd yn amrywio o ran maint ac ymddangosiadau, ac felly ni ystyriwyd byddai'r cynnig yma yn sylweddol wahanol os o gwbl i'r mathau o ddatblygiadau oedd eisoes wedi eu cymeradwyo’n lleol. Er bod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |