Rhaglen a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 678556

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Dewi Morgan (Pennaeth Cyllid), y Cynghorydd Gwynfor Owen (Llywodraethwr Ysgol Hafod Lon) a Joanna Thomas (Ysgol y Faenol).

 

Croesawyd David Healey (Ysgol Friars), Gwion Owens (Ffederasiwn Cefn Coch a Thalsarnau) a Nia Puw (Ysgol Llanrug), aelodau newydd o’r Fforwm, i’w cyfarfod cyntaf. Croesawyd y Cynghorydd Ioan Thomas (Ysgol y Gelli ac Ysgol Syr Hugh Owen) yn ôl i’r Fforwm fel cynrychiolaeth Llywodraethwyr Arfon.

 

Cydymdeimlwyd yn ddwys gydag Arwyn Williams (Ysgol Brynrefail) a’i deulu yn dilyn eu profedigaeth ddiweddar.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

3.

COFNODION pdf eicon PDF 178 KB

I gadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf 2024.

 

(Copi ynghlwm)

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Fforwm a gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf, 2024 fel rhai cywir, gan dderbyn diweddariad fel y nodir isod.

 

4.

MATERION YN CODI O’R COFNODION

I drafod unhryw faterion sy’n codi o’r cofnodion nad ydynt yn ymddanghos ar yr Agenda.

Cofnod:

Eitem 10: Fformiwla Cyllido Ysgolion Uwchradd - Adolygu Arlwyaeth a Glanhau:-

Cadarnhawyd bod is-grŵp wedi ei sefydlu o blith penaethiaid ysgolion uwchradd er mwyn trafod y fformiwlâu. Nodwyd bod yr is-grŵp wedi cyfarfod eisoes ac yn cynnal eu hail gyfarfod yn fuan.

 

Cofnod cyfarfod 17 Gorffennaf 2023 o’r Fforwm Cyllideb Ysgolion:-

Nodwyd bod cofnodion y cyfarfod hwn yn tynnu sylw at argymhellion a blaenoriaethau ESTYN yn dilyn eu hymweliad gyda’r awdurdod. Manylwyd bod y rhain yn ymwneud â chynllunio strategol, presenoldeb a chynhwysiad. Cadarnhawyd nad oes oblygiadau ariannol penodol ar gyfer y tri maes yma ar hyn o bryd ac mae gwaith cynllunio yn mynd rhagddo er mwyn gwireddu’r argymhellion a’r blaenoriaethau. Cyfeiriwyd at yr adroddiad cynnydd ar y gwaith hwn fydd yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ym mis Hydref gan nodi bod modd i unrhyw un wylio’r gwe-ddarllediad os ydynt yn dymuno derbyn diweddariad pellach ar y gwaith.

 

5.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2024/25.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol Aled Williams (Pennaeth Ysgol Ardudwy) yn Is-gadeirydd y Fforwm am 2024/25.

 

6.

AELODAETH Y FFORWM

I dderbyn diweddariad llafar.

Cofnod:

Adroddwyd bod swyddogion wedi croesawu enwebiadau gan benaethiaid ysgolion cynradd ac uwchradd yn dilyn y cyfarfod diwethaf. Nodwyd bod un sedd wag yn parhau ar gyfer cynrychiolaeth o benaethiaid cynradd a sedd wag arall am gynrychiolydd o blith y penaethiaid uwchradd.  Esboniwyd bod Grwpiau Strategol penaethiaid yn cael eu cynnal yn fuan a gobeithiwyd y bydd cynrychiolaeth lawn ar y Fforwm yn dilyn hynny.

 

Eglurwyd bod un sedd wag o blith cynrychiolaeth Llywodraethwyr ardal Arfon. Nodwyd y bwriad i’r sedd hon gael ei llenwi erbyn y cyfarfod nesaf.

 

Soniwyd hefyd bod sedd wag ar gyfer cynrychiolaeth yr Esgobaeth. Nodwyd y bwriad i gysylltu efo’r Esgobaeth i ofynam gynrychiolydd i’r Fforwm, a gobeithiwyd y bydd aelodaeth wedi ei gadarnhau erbyn y  cyfarfod nesaf.

 

7.

BALANSAU YSGOLION: BLWYDDYN GYLLIDOL 2023/24 pdf eicon PDF 191 KB

I dderbyn gwybodaeth ar falansau ysgolion dros y 5 mlynedd ddiwethaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion.

 

Adroddwyd bod lefelau balansau ysgolion unigol wedi cael eu dadansoddi ar gyfer yr Adroddiad hwn. Ymhelaethwyd bod balansau’r Awdurdod ar gyfer ysgolion wedi cael ei nodi hyd at 2017 er mwyn cymharu’r sefyllfa bresennol gyda’r sefyllfa cyn Covid-19. Esboniwyd bod balansau ysgolion wedi cynyddu yn ystod cyfnod y pandemig a bod hynny i’w weld yn genedlaethol. Fodd bynnag, pwysleisiwyd y gwelir yr arian hynny a gynilwyd yn ystod y pandemig yn cael ei ddefnyddio’n gyflym iawn ar hyn o bryd. Cadarnhawyd mai cipolwg o’r balansau a welir yn yr adroddiad gan eu bod yn newid yn gyson. O’r herwydd, dylai unrhyw un sy’n eu hasesu bod yn ymwybodol iawn o’u natur newidiol cyn gwneud penderfyniadau.

 

Cadarnhawyd bod tair ysgol gynradd a thair ysgol uwchradd mewn diffyg ariannol erbyn diwedd y flwyddyn ariannol 2023/24. Esboniwyd bod hyn yn gyfran fechan o ysgolion mewn diffyg o’i gymharu ag Awdurdodau eraill. Pwysleisiwyd bod gwasanaethau Cyllid ac Addysg yn cydweithio gyda’r ysgolion hynny er mwyn datrys dyledion a chynllunio er mwyn i’r ysgolion fod mewn sefyllfa ariannol well i’r dyfodol. Nodwyd gall hyn fod yn waith datblygol dros ychydig flynyddoedd i’w wireddu.

 

Ystyriwyd faint o’r balansau sydd wedi cyfrannu tuag at ddatblygu cyllideb ar gyfer 2024/25. Rhannwyd enghraifft bod y mwyafrif o’r balansau yn cael eu clustnodi fel rhan helaeth o gyllideb y flwyddyn ddilynol gan arwain at wir balans isel ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Mewn ymateb, pwysleisiodd y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion mai diweddariad ar ddiwedd y flwyddyn ariannol yw’r ffigyrau a ddangoswyd yn yr adroddiad gan gydnabod bod cyfran helaeth o’r arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer sefydlu cyllidebau o’r newydd ar 1af Ebrill yn flynyddol.

 

Tynnwyd sylw at falansau ysgolion uwchradd ac ystyriwyd bod gwahanol batrymau i’w weld o fewn yr ysgolion. Nodwyd bod rhai ysgolion gyda’u balansau yn tyfu’n flynyddol ac eraill yn defnyddio mwy ar eu balansau gan arwain at ffigyrau gymharol gyson yn flynyddol. Mewn ymateb i’r sylwadau, cadarnhaodd Cyfrifydd Grŵp Ysgolion bod hyn yn deillio o gynlluniau unigol ysgolion a’r anghenion sydd yn flaenoriaethau iddynt. Esboniwyd hefyd bod cynnydd mewn niferoedd staff drwy gytundebau dros dro yn ystod cyfnod y pandemig wedi arwain ar gynnydd mewn staff ysgolion ar draws y sir. Ymhelaethwyd bod nifer fawr o’r cytundebau hynny bellach wedi dod i ben a bod llai o staff o fewn ysgolion yn gyffredinol. Ystyriwyd bod hyn yn cael effaith ar ysgolion gan fod llai o bobl yn gyflogedig yno ond mae’n eu cynorthwyo i aros o fewn eu cyllideb.

 

Adroddwyd ar falansau Ysgol y Moelwyn gan nodi bod eu balansau hwy wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Pwysleisiwyd nad oes unrhyw wahaniaeth rhwng yr ysgol hon ac ysgolion eraill y sir ac nid yw’n cael ei ffafrio mewn unrhyw ffordd, oni bai am drefniadau lleol ble mae’r ysgol yn gyfrifol am y pwll nofio cyhoeddus. Nodwyd bydd swyddogion yn cynnal trafodaethau gyda’r ysgol yn fuan er mwyn trafod eu llwyddiant gyda’r balansau er  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

GRANTIAU YSGOLION 2024/25 pdf eicon PDF 205 KB

I dderbyn gwybodaeth am grantiau ysgolion ar gyfer 2024/25.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion er gwybodaeth yn unig.

 

Eglurwyd bod £96miliwn yn cael ei ddyrannu ar gyfer yr holl ysgolion yn flynyddol. Nodwyd mai £9.4miliwn yw dyraniad grantiau Llywodraeth Cymru i ysgolion Gwynedd ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024/25. Ymhelaethwyd bod Grant Chweched Dosbarth yn cael ei dderbyn gan y saith ysgol uwchradd berthnasol o fewn y sir, gwerth cyfanswm o £4.4miliwn eleni.

 

Adroddwyd bod arian grant yn ariannu cyflog staff, gan arwain at her dros y blynyddoedd diwethaf. Eglurwyd bod swm y grantiau yn aros yn gymharol debyg o flwyddyn i flwyddyn ond bod cyfradd chwyddiant o gyflogi staff yn cynyddu. Cadarnhawyd bod hyn yn arwain at doriad gan fod yr ysgolion yn gallu gwneud llai gyda’r arian erbyn heddiw nag oedden nhw rai blynyddoedd yn ôl.

 

Cadarnhawyd bod grant newydd wedi cael ei sefydlu ar gyfer 2024/25 o’r enw ‘Grant Safonau’. Cydnabuwyd bod y Grant hwn yn disodli cyn grantiau eraill megis ‘Grant Gwella Addysg - Cyfnod Sylfaen ac Arall’, ‘Cyflymu Dysgu (RRRS)’ a ‘Llwybrau Dysgu14-16oed’. Pwysleisiwyd bod y newid hwn wedi arwain at leihad o oddeutu £600,00 yn swm yr arian grant i Wynedd.

 

Nodwyd nad oes unrhyw awgrym ar hyn o bryd y bydd newidiadau mawr i grantiau Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025/26. Cadarnhawyd bydd y Pennaeth Addysg yn diweddaru ysgolion ar unrhyw newidiadau i’r grantiau i’r dyfodol os oes cynlluniau yn cael eu cyflwyno gan y Llywodraeth i’w haddasu.

 

9.

CEFNOGAETH TECHNOLEG

I dderbyn diweddariad lafar.

Cofnod:

Cyflwynwyd diweddariad llafar gan y Pennaeth Cynorthwyol Technoleg Gwybodaeth.

 

Darparwyd diweddariad i’r Aelodau ar ddatblygiadau i system gwybodaeth reolaethol ysgolion (MIS / SIMS) a diweddariad ar Gynllun Digidol y Cyngor (Prosiect CC2 - Gwelliannau i ddarpariaeth ffôn).

 

System Gwybodaeth Reolaethol Ysgolion

Eglurwyd bod y system gwybodaeth reolaethol yn feddalwedd sydd yn cael ei ddefnyddio ym mhob ysgol ac yn cael ei ddarparu gan gwmni ESS. Nodwyd bod y cwmni hwnnw yn colli eu monopoli o fewn y farchnad oherwydd bod y feddalwedd yn mynd yn hŷn a bod y cwmni wedi oedi rhy hir cyn cyflwyno olynydd iddo. Ymhelaethwyd bod cwmnïau newydd yn darparu meddalwedd tebyg ar y farchnad ar hyn o bryd gan amlygu’r risg y gall y cwmni stopio gweinyddu’r meddalwedd yn gyfan gwbl. Cadarnhawyd bod cytundeb y Cyngor gyda’r cwmni yn dod i ben ar 31 Mawrth 2026. Pwysleisiwyd bod angen sicrhau bod cynllun mewn lle o 1 Ebrill 2026 ymlaen i sicrhau bod meddalwedd addas ym mhob ysgol.

 

Adroddwyd bod gweithgor wedi cael ei sefydlu, gyda chynrychiolwyr o benaethiaid cynradd ac uwchradd, cynrychiolaeth busnes a chynrychiolaeth yr awdurdod. Eglurwyd eu bod yn edrych ar opsiynau am feddalwedd addas i’r dyfodol megis adnewyddu cytundeb gyda’r darparwr presennol neu edrych ar ddarparwr amgen. Esboniwyd bydd angen penodi Cadeirydd i’r gweithgor o blith y penaethiaid sy’n aelodau ohono. Diweddarwyd bod y gweithgor wedi edrych ar dair system gwahanol hyd yma ac yn rhoi ystyriaeth fanwl iddynt i gyd. Mynegwyd balchder o dderbyn cefnogaeth gyfreithiol a masnachol gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) ar y mater hwn.

 

Cyfeiriwyd at effaith ariannol yr her hon gan bwysleisio bydd cynnydd i gostau refeniw yn 2026. Ymhelaethwyd nad yw cwmnïau yn caniatáu i ddefnyddwyr brynu’r meddalwedd ar gyfer dyfeisiadau ac yn hytrach, mae defnyddwyr yn hurio’r meddalwedd ar lwyfannau perthnasol. Cadarnhawyd bod hyn yn fwy costus i’r Cyngor na phrynu’r feddalwedd a’i osod ar isadeiledd ei hun.

 

Tybiwyd bydd angen canfod darparwr newydd os na fydd sefyllfa cwmni ESS yn newid. Nodwyd bydd hyn yn cael ei wneud yn y drefn briodol drwy ddangos bod gwahanol gwmnïau wedi cael cyfle i fod yn ddarparwyr i’r Cyngor a bod cystadleuaeth wedi bod. Ymhelaethwyd bydd costau mudo wrth adael ESS a byddai hynny’n disgyn i mewn i’r flwyddyn ariannol 2025/26. Cadarnhawyd bydd y Pennaeth Cynorthwyol Technoleg Gwybodaeth yn cyflwyno bid am aran i’r Cyngor i gyfarch y costau hyn pan fydd gwybodaeth fanylach yn dod i’r amlwg. Pwysleisiwyd hefyd bydd ystyriaeth yn cael ei roi ar gyfer costau ac amser hyfforddi staff ysgolion ar newidiadau i’r feddalwedd.

 

Esboniwyd bod y ffi o gyflwyno’r feddalwedd yn gyson ar gyfer pob ysgol. Ymhelaethwyd bod hyn yn cyflwyno her ynddo’i hun oherwydd bod y ffi ar gyfer ei gyflwyno i ysgol sydd â llai na 20 o blant yr un peth a’r ffi o’i gyflwyno i ysgolion uwchradd. Nodwyd bod hyn yn effeithio ar elfen ariannol y costau o ganfod darparwr newydd.

 

Rhagdybiwyd bydd y costau o newid darparwr y meddalwedd yn arwain at oddeutu dwbl y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

CYLLID ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL A CHYNHWYSIAD 2025/26 pdf eicon PDF 321 KB

I dderbyn diweddariad ar gyllid Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Cynorthwyol: Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad.

 

Eglurwyd bod yr adroddiad yn ymdrin ag ariannu ceisiadau sy’n cyrraedd y Panel Cymedroli ar gyfer cefnogaeth i ddisgyblion unigol.

 

Nodwyd yr angen i ddyrannu’r cyllid ar sail anghenion a fformiwla yn hytrach na’r Panel Cymedroli, gan ddilyn arweiniad nifer o Awdurdodau Lleol sydd eisoes wedi cymryd y cam hwn. Esboniwyd byddai hyn yn arwain at system fwy teg oherwydd bod yr un fformiwla yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pob ysgol. Ymhelaethwyd ei fod yn seiliedig ar ddefnyddio data sydd ar gael yn barod. Teimlwyd bydd y newid hwn yn rhoi mwy o sicrwydd i ysgolion gan arwain at swyddi sefydlog i gymorthyddion.

 

Cadarnhawyd bod y gwaith o weithio tuag at y newid hwn wedi cychwyn yn 2019 yn dilyn adroddiad allanol a oedd yn awgrymu’r ffordd orau ymlaen. Cydnabuwyd bod peth oediad wedi bod yn y gwaith hwn dros gyfnod y pandemig ond bod gwaith yn mynd rhagddo i gyflawni’r newid hwn fel blaenoriaeth erbyn hyn.

 

Adroddwyd bod y newid hwn yn seiliedig ar ddata ADY PLASC. Atgoffwyd yr aelodau bod saith model amrywiol wedi cael eu cyflwyno i’r Fforwm hwn yn 2022 ac mai dyma’r un a ffafriwyd yn dilyn yr adroddiad hwnnw. Nodwyd bod gwaith wedi mynd rhagddo i’w ddatblygu a chadarnhawyd mai dyma yw’r model sy’n cael ei weithredu ar hyn o bryd wrth arwain y newid ymlaen.

 

Mewn ymateb i ymholiad, cydnabuwyd nad oes ystyriaeth wedi cael ei roi i oedran y plant sydd gydag ADY. Nodwyd bod hyn oherwydd ei fod yn galluogi ysgolion i sicrhau eu bod yn gwneud y defnydd orau o’r gyllideb er lles y plant tra hefyd yn sicrhau nad yw’r fformiwla i ddyrannu arian yn mynd yn or-gymleth.

 

Pwysleisiwyd bod cyllideb ADY wedi ei rewi ar gyfer 2024/25 oherwydd terfynau amser tynn a’r angen i ryddhau cyllidebau ysgolion. Pwysleisiwyd mai’r eithriadau i hyn yw darparu cefnogaeth unigol i unrhyw ddisgybl sydd wedi dod i mewn i’r Sir o fewn y flwyddyn hon. Cadarnhawyd bod hyn wedi rhoi cyfle i swyddogion edrych ar y gyllideb a’r ffordd orau ymlaen wrth ystyried y newid i system ganolog ar gyfer pob ysgol. Ymhelaethwyd bod niferoedd a lefelau dwyster ADY yn cael ei asesu drwy ddefnyddio data sy’n cael ei fewnbynnu i’r Cynllun Datblygu Unigol.

 

Manylwyd ar y cynllun o fewn ADY PLASC gan nodi ei fod wedi cael ei ddatblygu i edrych ar angen y plentyn ac nad oedd yn ystyried cefnogaeth allanol. Ymhelaethwyd hefyd bod cyllideb gwerth 5% o gyllideb ADY wedi cael ei glustnodi ar gyfer eithriadau o fewn y flwyddyn ysgol. Eglurwyd bod eithriadau yn cynnwys nifer o bethau megis dirywiad sydyn mewn amgylchiadau, neu blentyn gydag anghenion ADY yn symud i mewn i ardal addysg Gwynedd. Pwysleisiwyd hefyd bod y gyllideb ar gyfer cefnogi disgyblion sydd ag anghenion meddygol megis Diabetes math 1 neu epilepsi yn cael ei dynnu o’r gyllideb cyn ei ddyrannu. Cadarnhawyd y bydd unrhyw eithriad yn cael ei  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

UNRHYW FATER ARALL

I godi unrhyw fater perthnasol.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

12.

DYDDIAD AR GYFER Y CYFARFOD NESAF

I benderfynu ar ddyddiad ar gyfer y cyfarfod nesaf.

Cofnod:

Bwriedir cynnal y cyfarfod nesaf yn fuan ym mis Rhagfyr. Bydd y Pennaeth Cynorthwyol: Gwasanaethau Corfforaethol, Cyfrifydd Grŵp Ysgolion a’r Swyddog Gwasanaethau Democratiaeth yn trafod dyddiad addas ar gyfer y cyfarfod nesaf mor fuan â phosib.

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad ar sut mae cyllidebau ysgolion yn cael ei ddyrannu o fewn y gwahanol sectorau (cynradd, uwchradd ac ysgolion arbennig) a gwasanaethau eraill yn ogystal â manylion demograffig er mwyn adnabod heriau a rhannu sylwadau.