Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Huw Rowlands a Delyth Lloyd Griffiths

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)     Datganodd yr Aelod Canlynol fuddiant yn yr eitem a nodir:

 

Y Cynghorydd Cai Larsen (oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 (C25/0778/14/LL) ar y rhaglen oherwydd ei fod yn Aelod o Fwrdd Adra

 

b)     Datganodd yr Aelodau canlynol eu bod yn Aelodau Lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir:

 

Y Cynghorydd Menna Trenholme (nad oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 (C24/0323/14/LL) ar y rhaglen

 

Y Cynghorydd Cai Larsen (oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 (C24/0323/14/LL) ar y rhaglen

 

Y Cynghorydd Nia Jeffreys (nad oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 (C25/0946/44/EIA) ar y rhaglen

 

Y Cynghorydd Gwilym Owen (nad oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 (C25/0946/44/EIA) ar y rhaglen

 

Y Cynghorydd Dewi Jones  (nad oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 (C25/0778/14/LL) ar y rhaglen

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 236 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 13eg o Orffennaf 2026 fel rhai cywir

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i’w datblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

 

6.

Cais Rhif C24/0323/14/LL Tir ger Gwesty Muriau Park, Ffordd Bont Saint, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2YS pdf eicon PDF 462 KB

Gorsaf betrol arfaethedig, hwb gwefru ceir trydan, adeilad manwerthu, chreu myneda newydd a gwaith cysylltiedig gan gynnwys tirlunio.   

 

AELODAU LLEOL Cynghorydd Menna Trenholme a’r Cynghorydd Cai Larsen

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gwrthod

 

  1. Ystyrir fod y bwriad, oherwydd ei leoliad graddfa a’r defnydd yn annerbyniol o ganlyniad i’r lefel o aflonyddwch a chynnydd mewn gweithgaredd o’i gymharu â’r sefyllfa bresennol ac o ganlyniad, ystyrir fod y bwriad yn groes i faen prawf 7 o bolisi PCYFF 2 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026 sy’n diogelu mwynderau meddianwyr eiddo lleol.

 

  1. Mae’r prawf o effaith tebygol sylweddol yn awgrymu y gall y bwriad achosi effaith sylweddol ar rinweddau ACA Glynllifon, yn benodol yr ystlum pedol lleiaf sy’n nodwedd o’r ACA yma, o ganlyn-iad i’w leoliad, y dystiolaeth fod ystlumod pedol lleiaf yn defnyddio’r ardal ac fod y bwriad yn am-haru ar y gwrychoedd mae’r ystlumod yn ei ddefnyddio. Nid oes gwybodaeth digonol wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais er mwyn i’r Awdurdod Cynllunio Lleol allu cwblhau Asesiad Priodol yn yr achos yma yn unol a gofynion yr Awdurdod o dan Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017. Cesglir felly na ellir gael unrhyw sicrwydd na fydd y bwriad yn cael effaith sylweddol neu andwyol ar yr ACA oherwydd y diffyg gwybodaeth ac felly nid yw’r bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017.

 

  1. Nid oes datganiad seilwaith gwyrdd wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais ac felly nid oes sicrwydd fod y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion Pennod 6 Polisi Cynllunio Cymru (2024) o ran y dull gam wrth gam a gwelliannau bioamrywiaeth.

 

  1. Nid oes gwybodaeth ddigonol wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais ar hyn o bryd ar gyfer asesu effaith o ganlyniad i unrhyw halogiad yn y tir. I’r perwyl hyn ni ellir cadarnhau os yw’r bwriad yn cydymf-furfio gyda gofynion maen prawf 7 o bolisi PCYFF 2 na polisi PS6 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026

 

  1. Mae'r safle'n cynnwys prif afon ddynodedig (Afon Rhosdican) ac mae pryderon ynghylch y datblygi-ad hwn a'r risg llifogydd yn y dyfodol i'r cynnig ac i drydydd partïon. Nid oes gwybodaeth digonol wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais er mwyn sicrhau mynediad addas a digonol i beiriannau er mwyn galluogi gwaith cynnal a chadw'r prif afon yn y dyfodol a darparu llwybr llif llifogydd/parth byffer i'r brif afon. Ystyrir heb y wybodaeth yma na ellir sicrhau fod y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion maen prawf rhif 4 polisi PS6 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026.

 

  1. Ni chyflwynwyd tystiolaeth ddigonol fel rhan o’r cais cynllunio i ddangos fod ystyriaeth lawn wedi ei roi i’r effaith o golli tir amaethyddol gorau a mwyaf aml bwrpas. Ystyrir felly fod y cais yn groes i ofynion maen prawf 6 Polisi PS 6 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026 ynghyd a’r cyngor a roddir ym mharagraffau 3.58 a 3.59 o Bolisi Cynllunio Cymru.

 

  1. Nid yw’r datblygiad yn adlewyrchu dull sensitif na phriodol o ddylunio. Mae’n ymddangos yn anghydnaws ac yn ymwthiol o fewn ei gyd-destun, ac felly nid yw’n cydymffurfio â pholisïau PCYFF 3 a PCYFF 4  ...  view the full Penderfyniad text for item 6.

Cofnod:

Gorsaf betrol arfaethedig, hwb gwefru ceir trydan, adeilad manwerthu, chreu mynedfa a gwaith cysylltiedig gan gynnwys tirlunio. 

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)     Amlygodd y Swyddog Monitro bod y cais yn cael ei gyflwyno am ail ystyriaeth a hynny oherwydd bod un elfen yn ymwneud ag arwynebedd yr ardal manwerthu a ‘bwyd i fynd’ angen ystyriaeth bellach gan nad oedd y rheswm gwrthod wedi ei egluro yn llawn yng nghyfarfod 13eg o Orffennaf 2026.  Nodwyd bod angen adolygu penderfyniad y Pwyllgor gan nad oedd y wybodaeth ar gael yn llawn i’r Pwyllgor wrthynt ddod i benderfyniad yn y cyfarfod hwnnw. Gan nad oedd y sail gwrthod ychwanegol wedi ei ystyried na’r penderfyniad wedi ei ryddhau yn ffurfiol, nodwyd mai priodol fyddai ail ystyried y cais yng ngoleuni’r sail gwrthod ychwanegol. Rhoddwyd cyngor i adolygu’r penderfyniad ac i’r Pwyllgor ystyried y sail gwrthod ychwanegol fel rhan o’r cais yn ei gyfanrwydd.

 

b)     Nododd y Rheolwr Cynllunio, ers trafod y cais ym mhwyllgor 13eg o Orffennaf 2026 bod mater wedi ei ddwyn i sylw’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn amlygu nad oedd yr adroddiad gwreiddiol a gyflwynwyd i’r Pwyllgor ar gyfer y cais wedi rhoi ystyriaeth lawn na digonol i  ddarpariaeth unedau “bwyd i fynd” ( “food to go”) a’r ardal manwerthu a gynigiwyd fel rhan o’r bwriad. Amlygwyd bod yr adroddiad gwreiddiol wedi dod i gasgliad effaith manwerthu’r bwriad heb roi ystyriaeth lawn i gynnwys yn y cais a’r polisïau cynllunio perthnasol ynghyd destun yr ardal manwerthu a ‘bwyd i fynd’. Yn dilyn cyngor cyfreithiol ar y mater ac o ystyried nad oedd y dyfarniad wedi ei gyhoeddi a bod y mater yma wedi dod i law oedd yn amlygu nad oedd y Pwyllgor Cynllunio wedi meddiannu’r wybodaeth lawn wrth ddod i benderfyniad ym Mhwyllgor 13.07.2026, ystyriwyd ei fod yn briodol cyfeirio’r cais yn ôl i’r Pwyllgor Cynllunio ar gyfer ei ail ystyried. Ategwyd bod yr adroddiad bellach wedi ei ddiwygio i gynnwys yr ardal “bwyd i fynd” ac asesiad llawn o’r mater wedi ei gwblhau ac wedi ei gynnwys fel rhan o asesiad o’r cais yn ei gyfanrwydd.

 

Adroddwyd mai cais llawn ydoedd ar gyfer adeiladu gorsaf gwasanaethu sy’n darparu tanwydd i gerbydau ac yn cynnwys hwb gwefru ceir trydan, adeilad manwerthu i gynnwys dwy ardal ‘bwyd i fynd’ ynghyd a chreu mynedfa newydd a gwaith cysylltiedig gan gynnwys tirlunio.

 

Eglurwyd bod y safle yn eistedd tu allan i’r ffin datblygu fel y nodir yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl); Nid yw’r safle yn eistedd o fewn unrhyw ddynodiadau tir arbennig ond, ar sail effaith Ffosfforws, amlygwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn parth ymgynghori Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Afon Gwyrfai. Lleolir y safle yn union ger yr A487, sydd yn rhan o’r rhwydwaith ffyrdd strategol. Bydd natur y datblygiad yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth i ddefnyddwyr y ffordd yma ac felly aseswyd egwyddor y datblygiad drwy bolisïau TRA 1 ac PCYFF1 y CDLl.

 

Mae’r datblygiad yn cynnwys gofod manwerthu sylweddol ynghyd ag  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cais Rhif C25/0946/44/EIA Tir ar hyd coridor yr A483, Porthmadog pdf eicon PDF 1 MB

Estyniad i gompownd ceblau selio pen presennol Wern gan gynnwys mynediad parhaol newydd, Compownd selio pen newydd ac adeilad pen twnnel gyda mynediad parhaol ym Minffordd; tynnu compownd selio pen presennol Garth;  gosod ceblau 400 cilofolt (kV) newydd i ddisodli ceblau 400 kV a 132 kV di-angen; ac isadeiledd a gwaith atodol cysylltiedig.  

 

AELODAU LLEOL:

 

Cynghorydd Nia Jeffreys

Cynghorydd Gwilym Jones

Cynghorydd June Jones

Cynghorydd Meryl Roberts

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu

 

  1. Terfyn Amser        

Rhaid i'r datblygiad ddechrau o fewn 5 mlynedd i'r dyddiad caniatâd.

  1. Cynlluniau a Gymeradwywyd   

Y datblygiad i'w wneud yn unol â'r cynlluniau a'r dogfennau a gymeradwywyd.

  1. Oriau Gwaith        

Yn cyfyngu ar oriau gwaith adeiladu ac yn rheoli gweithrediadau y tu allan i oriau.

  1. Gosod Seilbyst     

Yn gofyn am ddulliau distaw (non-percussive) o osod seilbyst ac yn cyfyngu ar oriau gosod y seilbyst. 

  1. Goleuadau  

Yn gofyn am gymeradwyo cynllun goleuo i amddiffyn ystlumod a rheoli gorlif golau cyn gosod goleuadau gweithredol.

  1. Rhannau Caeedig 

Yn gofyn am gymeradwyo lliwiau a gorffeniadau ar gyfer ffensys, waliau, giatiau a thriniaethau eraill ar gyfer terfynau.

  1. Halogiad     

Yn gofyn am waith ymchwilio a chyweirio unrhyw halogiad nas nodwyd o'r blaen a ganfuwyd yn ystod y datblygiad. 

  1. Lliniaru Llifogydd

Yn gofyn am gymeradwyo a gweithredu cynllun lliniaru llifogydd dros dro ar gyfer y gwaith adeiladu.

  1. Parc a Gardd Gofrestredig y Wern     

Yn gofyn am gynllun lliniaru/gwrthbwyso ar gyfer effeithiau ar Barc a Gardd Gofrestredig y Wern.

  1. Cynllun Rheoli a Monitro Cynefinoedd (HMP)        

Yn sicrhau gwneud iawn am gynefinoedd, budd net i fioamrywiaeth, monitro cynefinoedd a rheoli INNS dros yr hirdymor.

 

  1. Cynllun Rheoli Tirwedd ac Ecolegol (LEMP)

Yn sicrhau adfer tirwedd, plannu, rheoli cynefinoedd, monitro ecolegol a chynnal a chadw hirdymor.

  1. Ymchwiliad Archeolegol (WSI) 

Yn ei gwneud yn ofynnol cael ymchwiliad a chofnod archeolegol cyn dechrau'r gwaith paratoi tir.

  1. Adrodd Archeolegol       

Yn gofyn am gyflwyno adroddiad archeolegol ac archif yn dilyn gwaith maes.

  1. Cynllun Rheoli Deunyddiau a Gwastraff

Yn sicrhau rheolaeth gynaliadwy, ailddefnyddio, adfer a chael gwared ar ddeunyddiau a gloddiwyd a gwastraff.

  1. Hawliau Tramwy Cyhoeddus    

Yn gofyn am drefniadau rheoli ar gyfer hawliau tramwy cyhoeddus a Llwybr Beicio Cenedlaethol 8 yn ystod y gwaith adeiladu.

  1. Datganiad Dull Adeiladu 

Cyn dechrau unrhyw waith ar y safle, Datganiadau Dull Adeiladu (CMS) ac Asesiadau Risg i fodloni'r Sefydliad Goruchwylio ar gyfer y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol (SRN).

  1. Dyluniad ailsefydlu'r ffordd gerbydau

Cyn dechrau unrhyw waith ar y safle, bydd angen cyflwyno dyluniad ailsefydlu'r ffordd gerbydau a manyleb palmant a fydd yn bodloni Llywodraeth Cymru, fel y Sefydliad Goruchwylio ar gyfer y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol

  1. Asedau Dŵr Cymru        

Yn ei gwneud yn ofynnol cynnal arolygon a threfniadau diogelu/dargyfeirio ar gyfer seilwaith dŵr a charthffosiaeth.

  1. Draenio Dŵr Wyneb        

Yn atal dŵr wyneb rhag cysylltu â'r rhwydwaith carthffosiaeth cyhoeddus.

  1. Arwyddion Cymraeg       

Yn ei gwneud yn ofynnol i arwyddion sy'n gysylltiedig â'r datblygiad fod yn y Gymraeg neu'n ddwyieithog gyda blaenoriaeth i'r Gymraeg.

  1. Tŷ Pen Twnnel (THH) Minffordd

Yn gofyn am Gynllun Rheoli Traffig Adeiladu pecyn-benodol ar gyfer gwaith Tŷ Pen Twnnel Minffordd. 

  1. CEMP Tŷ Pen Twnnel Minffordd         

Yn gofyn am Gynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu pecyn-benodol ar gyfer gwaith Tŷ Pen Twnnel Minffordd. 

  1. HMP Tŷ Pen Twnnel Minffordd 

Yn gofyn am Gynllun Rheoli Cynefinoedd pecyn-benodol ar gyfer gwaith Tŷ Pen Twnnel Minffordd.

  1.  CTMPs ar gyfer y Prif Becynnau Gwaith     

Yn gofyn am Gynlluniau Rheoli Traffig Adeiladu ar wahân ar gyfer pecynnau gwaith CSEC y Wern, CSEC Garth, CSEC Minffordd a Cheblau Glaslyn. 

  1. CEMPs ar  ...  view the full Penderfyniad text for item 7.

Cofnod:

 

Estyniad i gompownd ceblau selio pen presennol Wern gan gynnwys mynediad parhaol newydd, compownd selio pen newydd ac adeilad pen twnnel gyda mynediad parhaol ym Minffordd; tynnu compownd selio pen presennol Garth;  gosod ceblau 400 cilofolt (kV) newydd i ddisodli ceblau 400 kV a 132 kV diangen; ac isadeiledd a gwaith atodol cysylltiedig.  

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr, yn benodol sylw gan Dŵr Cymru am eiriad yr amod. Cyfeiriwyd at gywiriad bod sylwadau ynglŷn â’r Rheilffordd (paragraff 5.299 - 5.303 o’r adroddiad) wedi eu cyflwyno gan Rheilffordd Ucheldir Cymru (Welsh Highland Railway Ltd) sydd yn gweithredu Rheilffordd Treftadaeth Ucheldir Cymru (Welsh Highland Heritage Railway)

 

a)           Amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff  bod y Prosiect yn rhan o'r uwchraddiadau trawsyrru rhwydwaith ehangach sydd eu hangen i hwyluso'r gwaith o gysylltu 50 Gigawat (GW) o ynni gwynt ar y môr erbyn 2030. Mae cynyddu capasiti ar y llinell drawsyrru bresennol rhwng is-orsafoedd Pentir a Thrawsfynydd wedi cael ei nodi fel cam y mae angen ei gymryd ar frys i ddarparu mwy o gapasiti trawsyrru. Mae hyn yn cael ei gydnabod gan Ofgem, y rheolwyr ynni cenedlaethol, sydd wedi nodi bod y gwaith angenrheidiol yn Fuddsoddiad Trawsyrru Strategol Cyflym.

 

Roedd gwaith arfaethedig y cais yn cynnwys cwmpasu 106.4 hectar ac yn mesur oddeutu 6 km, rhwng CSEC (Cable Sealing End Compounds) Wern a Minffordd. Bydd llwybr y gwaith yn pasio drwy Gylchfan Porthmadog, o dan Ffordd Osgoi Porthmadog yr A487, ac yn croesi Rheilffordd Ucheldir Cymru (WHHR) a Rheilffordd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru (FfWHR); Yn parhau i'r gogledd o Glwb Chwaraeon Madog cyn pasio eto o dan Ffordd Osgoi Porthmadog. Bydd yn croesi Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Glaslyn (SoDdGA), gan barhau i gyfeiriad y dwyrain tuag at ei derfyn yn CSEC presennol Garth. Rhennir y gwaith arfaethedig i'r elfennau canlynol; CSEC Wern, Ceblau Glaslyn, CSEC Garth, Tŷ Pen Twnnel a CSEC Minffordd

 

Adroddwyd bod y cais a gyflwynwyd yn gais Asesiad Effaith Amgylcheddol sydd wedi ystyried yr holl ddatblygiadau sy'n rhan o Brosiect Atgyfnerthu cyfan rhwng Pentir a Trawsfynydd.

 

O ran egwyddor y datblygiad, nodwyd y byddai'r ceblau newydd yn defnyddio technoleg XLPE, yn lle'r system geblau presennol sydd wedi'i llenwi ag olew ac felly bod manteision o ran moderneiddio a gwytnwch y rhwydwaith, yn ogystal â lleihau'r risg amgylcheddol sy'n gysylltiedig â'r ceblau olew presennol. Ategwyd bod y prosiect hefyd yn rhan o'r gwaith rhwydwaith ehangach sydd ei angen i hwyluso cynnydd yn y ddarpariaeth ynni adnewyddadwy ac felly’r egwyddor yn derbyn cefnogaeth polisïau cenedlaethol, sy’n cynnwys Cymru'r Dyfodol a Pholisi Cynllunio Cymru, sy’n cydnabod yr angen am seilwaith grid ychwanegol i gefnogi'r newid i ynni carbon isel.

 

Yng nghyd-destun tirwedd a mwynderau gweledol, gan fod y ceblau'n cael eu gosod dan ddaear, ystyriwyd y byddai’r effeithiau gweledol mwyaf yn digwydd yn ystod y cyfnod adeiladu.

Eglurwyd bod yr Asesiad Effaith Tirwedd a Gweledol yn adnabod effeithiau cymedrol andwyol a sylweddol dros dro mewn rhannau o'r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Cais Rhif C25/0778/14/LL Llain o Dir ar Ffordd Llanberis, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2ED pdf eicon PDF 287 KB

Adeiladu 36 o dai a gwaith seilwaith cysylltiedig gan gynnwys ffyrdd a llwybrau troed, gofod hamdden, tiroedd, draeniau, ac is- gorsaf  newydd.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Dewi Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau

 

1.               5 mlynedd

2.               Unol a’r cynlluniau

3.               Amodau Priffyrdd

4.               Rhaid gosod ffensys diogelu coed cyn dechrau unrhyw waith adeiladu er mwyn osgoi difrod i’r coed ac unrhyw atebolrwydd posib

5.               Amod bioamrywiaeth - Gwrych ac yn unol â’r datganiad seilwaith gwyrdd

6.               Amodau Dwr Cymru

7.               Amodau Gwarchod y Cyhoedd - mesurau lliniaru sŵn, gosod ffens acwstig, manylion pympiau gwres ffynhonnell aer, oriau gwaith

8.               Cyflwyno Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu

9.               Amodau llygredd tir

10.            Amodau Archeolegol

11.            Enw Cymraeg

12.            Amod Tai Fforddiadwy

13.            Amod C3 yn unig

14.            Tynnu hawliau dirprwyedig a ganiateir

 

Nodiadau

 

Priffyrdd

SUDS

Datblygiad Mawr

 

Cofnod:

Adeiladu 36 o dai a gwaith seilwaith cysylltiedig gan gynnwys ffyrdd a llwybrau troed, gofod hamdden, tiroedd, draeniau, ac is-orsaf  newydd

 

a)               Amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio bod y cais yn ymwneud ag adeiladu 36 o anheddau ar dir sydd wedi’i leoli ar gyrion tref Caernarfon - safle sydd wedi ffinio a stad breswyl ar un ochr ac annedd unigol a safle diwydiannol ar yr ochr arall. Bydd y datblygiad yn darparu 10 fflat, 3 byngalo a 23 o dai gyda phob uned yn fforddiadwy, ac yn cynnwys cymysgedd o dai rhent cymdeithasol a thai rhent canolradd. Yn ogystal â’r anheddau, bydd y cynllun yn cynnwys mynedfa a ffordd ystâd, mannau parcio, llecynnau agored ac ardal draenio gynaliadwy a gwaith tirlunio cysylltiedig.

 

Saif y safle y tu allan, ond yn union gyfagos i ffin datblygu Caernarfon fel y’i diffinnir yn y CDLl. Ceir mynediad i’r safle o ffordd sirol Dosbarth 1 sy’n rhedeg ar hyd ffin ogleddol y safle gyda llwybr troed cyhoeddus yn rhedeg ar hyd ffin ddwyreiniol y safle. Mae parth llifogydd 2 a pharth llifogydd 3 dwr wyneb a chyrsiau dwr bychan wedi ei leoli yn agos i ffin de ddwyreiniol y safle.

 

Yn unol â’r drefn, derbyniwyd Adroddiad Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio fel rhan o’r cais gyda’r adroddiad yn dangos fod y datblygwr wedi hysbysebu’r bwriad i’r cyhoedd ac ymgynghorwyr statudol cyn cyflwyno cais cynllunio ffurfiol.

 

Cyfeiriwyd at sylwadau Uned Strategol Tai oedd yn cadarnhau’r angen fforddiadwy cyffredinol (heb gysylltiad lleol) ar gyfer Peblig, gyda gwybodaeth bellach wedi ei dderbyn gan yr Uned yn cadarnhau bod angen fforddiadwy gyda chyswllt 5 mlynedd a Chaernarfon (Band 1A-2) yn 199 (Medi 2026) a bod 323 o bobl ar restr Tai Teg am eiddo canolraddol 2/3 llofft (cyfanswm ar gyfer pob math o annedd yn 351). Nodwyd nad oedd y ffigyrau hyn yn cynnwys yr angen gwledig o fewn 6km i Gaernarfon, ac felly’r ffigwr dros ben yn debygol o fod yn uwch.

 

Adroddwyd bod y cynnig ar gyfer tai ble mae angen lleol fforddiadwy clir wedi ei brofi ar safle sydd wedi ei leoli y tu allan i’r ffin datblygu, ond yn cyffwrdd â ffin ddatblygu ar gyfer Caernarfon. Ystyriwyd fod y bwriad yn ffurfio estyniad rhesymegol i’r dref ac felly yn cydymffurfio yn llawn a gofynion polisïau PCYFF 1 a PCYFF 2, TAI 8, TAI 15 a TAI 16 o’r CDLl yn ogystal â’r cyngor perthnasol a roddir o fewn y Canllawiau Cynllunio Atodol a chyfarwyddyd cenedlaethol o fewn Polisi Cynllunio Cymru a Nodiadau Cyngor Technegol.

 

Eglurwyd mai tir amaethyddol yw’r tir presennol ac y bydd bwriad i blannu a chadw gwrych i amgylchynu’r safle er mwyn lliniaru effaith andwyol sylweddol ar y dirwedd ehangach. Wrth ystyried fod y bwriad wedi ei leoli ar gyrion y dref, ac y byddai’n ymdoddi i mewn i dirwedd adeiledig Caernarfon yn ehangach, ystyriwyd ei fod yn dderbyniol ac na fyddai’n cael effaith andwyol sylweddol ar gymeriad yr ardal na’r dirwedd ehangach. Ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol ac yn darparu  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.