Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiehruiad gan Cyng. Gareth Thomas. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Nid oedd unrhyw faterion brys. |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu. |
|
COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 18 MAI 2021 PDF 317 KB Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd
ar 15 Mai 2021 fel rhai cywir. |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD CYNGOR GWYNEDD 2020/21 PDF 121 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siecyn Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd Adroddiad Perfformiad Cyngor Gwynedd 2020/21 ac
argymhellwyd i’r Cyngor Llawn ei fabwysiadu yn y Cyngor Llawn ar yr 8
Gorffennaf 2021. COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig
Siencyn. PENDERFYNIAD Cymeradwywyd Adroddiad Perfformiad Cyngor Gwynedd 2020/21 ac
argymhellwyd i’r Cyngor Llawn ei fabwysiadu yn y Cyngor Llawn ar yr 8
Gorffennaf 2021. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei bod yn bleser
ei gyflwyno. Pwysleisiwyd fod y ddogfen yn un clir, darllenadwy sy’n rhoi
darlun clir o waith yr holl gyngor. Eglurwyd fod un rhan a’r ddechrau’r
adroddiad yn rhoi disgrifiad o’r gwaith a wnaethpwyd ar ddechrau’r cyfnod clo
pan fu i waith y Cyngor gael ei gyfyngu o ganlyniad i’r rheoliadau covid. Eglurwyd fod staff y Cyngor wedi ymateb yn ystwyth a
hyblyg i gyfarch y sefyllfa ac wedi gweithio i greu ffordd newydd o weithio.
Diolchwyd i’r holl staff am fod mor barod i addasu ac i ymateb mor gyflym ac effeithlon
i’r cyfnod clo. Nodwyd fod yr adroddiad yn amlygu
blaenoriaethau’r Cyngor gan bwysleisio'r angen i barhau i drafod y maes
twristiaeth gynaliadwy. Nodwyd y bydd yr Adran Addysg yn parhau i weithio i wella’r ddarpariaeth addysg o fewn
y sir, gan nodi fod gwaith wedi ei wneud yn Ysgol Godrau’r
Berwyn ac Ysgol y Garnedd a bod ysgol newydd ar ei ffordd yng Nghricieth. Mynegwyd yn wyneb yr argyfwng tai fod y
Cynllun Gweithredu Tai yn ei le. Nodwyd fod y cynllun hwn yn uchelgeisiol ac
arloesol a bod ymrwymiad o £77miliwn o arian ar gyfer cyfnod y cynllun. Esboniwyd fod rhai adrannau yn anweledig gan
drigolion y sir ac wedi ei effeithio dros y blynyddoedd gan doriadau. Amlygwyd
adran Gwarchod y Cyhoedd sydd wedi delio gyda nifer o newidiadau o ganlyniad i
argyfwng Covid-19. Diolchwyd i staff am ymroi i’r drefn Profi, Olrhain a
Diogelu sydd wedi amlygu gallu Llywodraeth Leol i wneud y gwaith heb wastraffu
arian ar gwmnïau allanol. Mynegwyd mai dyma Adroddiad Blynyddol olaf y
tymor yma ac y bydd trefn newydd i’r
dyfodol. Ychwanegwyd fod y drefn herio perfformiad mewnol o fewn y Cyngor yn
ail gychwyn er mwyn sicrhau fod y Cyngor yn edrych ar ei gwendidau ac yn gwella
yn barhaus. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾
Diolchwyd i staff yr adran
Blant a Chefnogi Teuluoedd am barodrwydd a hyblygrwydd yn ystod y cyfnod.
Diolchwyd i’r holl rieni maeth sydd wedi bod mor barod i lenwi’r bwlch.
Ychwanegwyd fod yr adran yn ymwybodol o’u heriau wrth symud yn eu blaenau a bod
y cynllun awtistiaeth am fod yn un o’r flaenoriaeth am eleni. ¾
Diolchwyd i staff yr adran
Oedolion, Iechyd a Llesiant am ddyfalbarhau mewn blwyddyn anodd. Nodwyd fod
eleni wedi amlygu cryfder y staff. ¾
Tynnwyd sylw at un cywiriad
bychan i’w addasu, fod 8 blaenoriaeth gwella bellach nid 7. ¾
Cydnabuwyd y gwaith arbennig
sydd wedi ei wneud yn yr ysgolion i ymateb i’r her o ddysgu o adref. ¾
Diolchwyd i staff yr adran
gyllid a technoleg gwybodaeth am ei gwaith i gefnogi yr adrannau eraill. ¾ Diolchwyd i staff yr adran Economi am siarad gyda busnesau yn ystod yr holl gyfnod ac i ddyrannu grantiau ... view the full COFNODION text for item 6. Awdur: Dewi Wyn Jones |
|
Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Williams Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Bu i’r Cabinet, yn dilyn ystyried sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y
cyfnod ymgynghori statudol, ynghyd â’r ymateb yr Adran Addysg i’r sylwadau
hynny
i.
Gymeradwyo
cyhoeddi cynnig statudol i gau Ysgol Abersoch ar 31 Rhagfyr 2021, a darparu lle
i ddisgyblion yn Ysgol sarn Bach o 1 Ionawr 2022
ii.
Cymeradwyo
cyhoeddi rhybuddion statudol ar y cynnig yn (i) yn unol â gofynion Adran 48 o
Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013. COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Cemlyn
Williams PENDERFYNIAD Bu i’r
Cabinet, yn dilyn ystyried sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y
cyfnod ymgynghori statudol, ynghyd â’r ymateb yr Adran
Addysg i’r sylwadau hynny
i.Gymeradwyo cyhoeddi cynnig statudol i
gau Ysgol Abersoch ar 31 Rhagfyr 2021, a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol
Sarn Bach o 1 Ionawr 2022
ii.Cymeradwyo cyhoeddi rhybuddion statudol
ar y cynnig yn (i) yn unol â gofynion Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth
Ysgolion (Cymru) 2013. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi mai pwrpas yr adroddiad yw adrodd yn ôl yn dilyn cyfnod
ymgynghori statudol ar yr opsiwn i gau Ysgol Abersoch a chynnig lle i’r
disgyblion yn Ysgol Sarn Bach. Mynegwyd nad oedd y penderfyniad i ddod a’r
adroddiad i’r Cabinet wedi bod yn rhwydd ond fod yr adran yn gofyn am
gymeradwyaeth i gyhoeddi cynnig statudol i gau Ysgol Abersoch yn unol â
gofynion Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013. Pwysleisiwyd ei
bod yn anodd iawn cyflwyno’r adroddiad hwn, ond fod dyletswydd sicrhau addysg a phrofiadau ac
amgylchedd gorau posib i blant. Mynegwyd fod ystyriaeth lawn wedi ei roi i’r
holl opsiynau posib i’r ysgol. Diolchwyd i’r holl unigolion, disgyblion,
athrawon a llywodraethwyr ar roi eu hamser i ymateb i’r ymgynghoriad statudol. Mynegwyd fod yr
angen wedi codi i edrych ar ddyfodol Ysgol Abersoch y dilyn gostyngiad yn nifer
y disgyblion Nodwyd fod niferoedd Ysgol Abersoch wedi gostwng dros y
blynyddoedd diwethaf a bellach fod 76% o gapsiti’r
ysgol yn wag gyda rhag amcanion am y blynyddoedd nesaf yn dangos fod y
niferoedd am barhau yn isel. Bu i’r Pennaeth
Addysg nodi yn ôl yn Mai 2019 y bu i’r Cabinet gytuno i gefnogi cynnal
trafodaeth ffurfiol gyda chorff llywodraethol yr Ysgol i drafod opsiynau posib
yn dilyn lleihad yn y nifer y disgyblion. Bu i 3 cyfarfod ei gynnal a oedd yn
gyfle i egluro’r angen i drafod opsiynau, i gyflwyno a thrafod yr opsiynau cyn
dod i benderfyniad ar yr opsiwn ffarfredig. Yn ôl ym Medi 2020
nodwyd y bu i’r Cabinet ymgymryd â’r proses ymgynghori statudol ar gynnig i gau
Ysgol Abersoch Awst 2021, gan gynnig lle i’r disgyblion yn Ysgol Sarn Bach. Bu
i’r penderfyniad gan ei gadarnhau yn y Cabinet ar y 5ed o Dachwedd wedi i’r
penderfyniad gael ei alw mewn i’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ym mis
Hydref. Amlygodd y Pennaeth Addysg y prif heriau oedd yn wynebu’r ysgol a oedd yn cynnwys niferoedd disgyblion wedi gostwng ers 2016. Mynegwyd fod 8 disgybl yn yr ysgol yn llawn amser ar hyn o bryd gyda 2 ddisgybl yno rhan amser. Ychwanegwyd fod y rhagolygon yn nodi y bydd 10 disgybl yn 2021, a 12 yn 2022 a 2023. Esboniwyd fod data yn amlygu fod 21 o blant yn nalgylch Abersoch yn mynychu ysgolion arall a bod 3 disgybl o du hwnt i ddalgylch Aberoch yn mynychu’r ysgol. Mynegwyd fod niferoedd isod yn rhoi pwysau ychwanegol ar gyllidebau. Tynnwyd sylw at ... view the full COFNODION text for item 7. Awdur: Gwern ap Rhisiart |
|
YMATEB I'R ADRODDIAD "AIL GARTREFI - DATBLYGU POLISIAU NEWYDD YNG NGHYMRU PDF 508 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfirg Siencyn Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cytunwyd ar ymateb y Cyngor i’r adroddiad “Ail Gartrefi –
Datblygu Polisïau Newydd yng Nghymru” fel y nodir yn rhan 9 o’r adroddiad gan
amlygu’n benodol yr angen i addasu argymhelliad rhif 7 – Llety Gwyliau Tymor
Byr a Threthi Busnes. Cytunodd yr Arweinydd i gyfleu’r ymateb yn ffurfiol i
Lywodraeth Cymru gan alw arnynt i’w fabwysiadau a gweithredu’r argymhellion
mwyaf effeithiol ar fyrder er mwyn ymateb i’r argyfwng tai sy’n wynebu
cymunedau Gwynedd. COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Cyng. Dyfrig Siencyn. PENDERFYNIAD Cytunwyd ar
ymateb y Cyngor i’r adroddiad “Ail Gartrefi – Datblygu Polisïau Newydd yng
Nghymru” fel y nodir yn rhan 9 o’r adroddiad gan amlygu’n benodol yr angen
i addasu argymhelliad rhif 7 – Llety Gwyliau Tymor Byr a Threthi Busnes. Cytunodd yr Arweinydd
i gyfleu’r ymateb yn ffurfiol i Lywodraeth Cymru gan alw arnynt i’w fabwysiadau
a gweithredu’r argymhellion mwyaf effeithiol ar fyrder er mwyn ymateb i’r
argyfwng tai sy’n wynebu cymunedau Gwynedd. . TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod angen
ymatebiad i’r adroddiad “Ail Gartrefi – Datblygu Polisïau Newydd yng Nghymru”
gan y Dr Simon Brooks, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru a’r Coleg Cymraeg.
Mynegwyd fod Dr Brooks wedi cysylltu â’r Cyngor a bod nifer o’r argymhellion
wedi dod o adroddiad a gyflwynwyd gan yr Adran Amgylchedd i’r Cabinet yn ôl ym
mis Rhagfyr. Eglurwyd fod
deuddeg argymhelliad yn yr adroddiad a bod angen i’r Cyngor ymateb i’r
adroddiad. Amlygwyd mai dim ond un argymhelliad mae’r Cyngor yn anghytuno a hi
sef argymhelliad 7 – Llety Gwyliau Tymor Byr a Threthi Busnes. Mynegwyd yr
angen i bob annedd gael ei gyfrif fel annedd ac yn cael ei orfodi i dalu treth
Cyngor ac unrhyw bremiwm sydd yn cyd-fynd ar annedd hwn. Nodwyd fod yr
adroddiad yn un clodwiw ac o bwys ac ategwyd yr awydd i yrru neges at y
Llywodraeth at ymateb y Cyngor i’r adroddiad. Ychwanegodd y Prif Weithredwr fod yr adroddiad wedi
tynnu ar lawer o ffynonellau a'i bod yn holl
bwysig i’r Cyngor ymateb gan fod
problem ail gartrefi yng Nghywydd ar ei
gwaethaf. Amlygwyd y camau mae’r Cyngor wedi ei wneud
yn barod i daclo’r broblem
a oedd yn cynnwys mabwysiadu Polisi Gosod Newydd
fel bod y flaenoriaeth ar bobl leol,
gwneud defnydd o godi Premiwm Treth
Cyngor ar ail gartrefi gan fuddsoddi’r arian ychwanegol mewn Cynllun Gweithredu
Tai. Pwysleisiwyd fod y
Cyngor wedi gwneud popeth o fewn eu
gallu ar gyfer y sefyllfa ynghyd a chomisiynu gwaith penodol er mwyn edrych
i’r broblem. Cefnogwyd adroddiad Dr Simon
Brooks gan bwysleisio fod nifer o argymhellion
a wnaethpwyd gan y Cyngor yn y gwaith comisiwn
i’w gweld yn yr adroddiad.
Eglurwyd i wneud gwahaniaeth mwyaf mae angen canolbwyntio ar yr argymhellion sydd am wneud gwahaniaeth ac amlygwyd 3 argymhelliad. Y cyntaf oedd Argymhelliad 7, gan ei fod wedi ei amlygu fel un o brif broblemau’r trigolion sef fod ail gartrefi ddim yn talu treth Cyngor wrth symud i dreth fusnes bach. Pwysleisiwyd yr angen i rwystro hyn rhag digwydd fel eu bod yn cyfrannu i’r Cyngor ac efallai gyda’r premiwm yn rhwystro eraill rhag prynu ail gartref. Yr ail flaenoriaeth oedd sicrhau fod dosbarth derbyn penodol er mwyn newid cartref o fod yn annedd i fod yn ail gartref a drwy hyn fod angen cais cynllunio. A'r trydydd er mwyn cael y dystiolaeth ar gyfer y ceisiadau cynllunio od angen cynllun trwyddedu ar gyfer dai gwyliau ... view the full COFNODION text for item 8. Awdur: Dafydd Gibbard |