Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679556
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Arwyn Herald
Roberts, Berwyn Parry Jones, Elfed Powell Roberts ac Elin Hywel. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan y Cynghorydd
Stephen Churchman, gan ei fod yn Gadeirydd Pwyllgor Neuadd Bentref
Garndolbenmaen sy’n derbyn grant o dan y Cynllun Grant Cymunedol. Nodwyd nad
oedd yn fuddiant sy’n rhagfarnu ac ni adawodd y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2025 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 23
Ionawr 2025, fel rhai cywir. |
|
CYFLWYNO PWYNTIAU GWEFRU CYHOEDDUS AR GYFER CERBYDAU TRYDAN I graffu trefniadau cyflwyno pwyntiau gwefru cyhoeddus ar gyfer cerbydau tryfan fel rhan
o Gynllun y Cyngor 2023-28 – Gwynedd Werdd. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd:
COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr
Aelod Cabinet Amgylchedd, Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd (Trafnidiaeth) a
Rheolwr Gwasanaeth Traffig a Phrosiectau. Adroddwyd bod y maes hwn yn dod
yn fwy amlwg ac yn ennill proffil uwch, gyda mwy o gerbydau trydan ar y ffyrdd,
gan adlewyrchu’r targed ar gyfer 2030 i leihau ac yna atal cynhyrchu cerbydau
petrol a disel. Nodwyd bod yr adran yn arwain ar ddarparu mannau gwefru
cyhoeddus a oedd yn brosiect blaenoriaeth o dan yr amcan Gwynedd Werdd yng Nghynllun y Cyngor
2023-28 , gan fod teimlad mewn rhai ardaloedd o Wynedd nad yw’r sector preifat
yn diwallu’r angen fel mewn mannau eraill. Esboniwyd mai’r bwriad ydy llenwi’r
bylchau lle nad oes darpariaeth gan sectorau eraill. Tynnwyd sylw at natur ddeinamig
y maes, gyda datblygiadau’n digwydd yn aml ac yn sydyn. Eglurwyd nad oedd yn
glir ble y byddai’r dechnoleg yn mynd nesaf, ond yr uchelgais fyddai cael
argaeledd darpariaeth a fyddai’n golygu bod yr amser gwefru cerbyd trydan yr un
fath â’r amser i lenwi car petrol neu ddisel. Nodwyd bod gwaith eisoes wedi’i
wneud i osod y pwyntiau gwefru, a bod cyfeiriad yn yr adroddiad at wefan ‘Zapmap’, sy’n dangos nifer fawr o bwyntiau gwefru newydd yn
ymddangos ledled y wlad. Nodwyd y byddai hyn yn dylanwadu ar rôl y Cyngor wrth
symud ymlaen, gan y byddai’n gynyddol anodd cydlynu a chael trosolwg o’r
lleoliadau. Eglurwyd bod y peiriannau’n cael
eu gosod bellach mewn mannau gwaith, siopau, datblygiadau eraill ac mewn
meysydd parcio sy’n eiddo i’r Cyngor ger canolfannau Byw’n Iach. Cadarnhawyd
bod gwaith ar y gweill i gyflwyno mwy o bwyntiau gwefru chwim. Esboniwyd y
byddai’r ffocws dros amser yn symud o argaeledd daearyddol tuag at faint o
bwyntiau fydd ar gael, gan dybio y bydd y galw’n cynyddu’n gyson. Nodwyd bod Strategaeth
Isadeiledd Cerbydau Trydan Gwynedd yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, gan
gofio nad y mannau gwefru cyhoeddus yn unig sydd angen sylw, ond hefyd y cyfle
i bobl allu gwefru gartref. Eglurwyd bod gwaith ar y gweill i archwilio sut i
alluogi pobl i wefru ar y stryd, er bod hyn yn gymhleth oherwydd ystyriaethau
iechyd a diogelwch ac egwyddorion Deddf Priffyrdd. Yn
ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- Diolchwyd am yr adroddiad, gan nodi bod
cynnydd da yn cael ei wneud tuag at greu rhwydwaith gwefru trydan a bod y
safleoedd newydd a’r rhai arfaethedig yn cael eu croesawu, yn enwedig y
pwyntiau gwefru chwim. Mynegwyd pryder bod gormod o ddibyniaeth ar beiriannau
gwefru araf 7kW. Ymhelaethwyd eu bod yn addas ar gyfer gwefru dros nos ond nid
ar gyfer gwefru cyflym mewn lleoliadau fel meysydd parcio. Croesawyd yr opsiwn o ddefnyddio cerdyn banc er mwyn talu yn hytrach na cherdyn neu apiau ar gyfer cwmnïau penodol megis GRIDSERVE neu Tesla. Credwyd bod defnyddio cerdyn banc yn ffordd symlach a bod hyn bellach yn ofyniad deddfwriaethol. Tynnwyd sylw at fylchau yn y rhwydwaith, megis Aberdaron lle’r mae’r pwynt gwefru chwim agosaf dros 50 milltir i ... view the full COFNODION text for item 5. |
|
I ystyried
adroddiad cynnydd ar Strategaeth Toiledau Lleol Gwynedd. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn
ystod y drafodaeth. COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod
Cabinet Priffyrdd, Peirianneg ac YGC, Pennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg ac
YGC a Rheolwr Asedau Bwrdeistrefol. Nodwyd bod gan Wynedd ar hyn o bryd 61
o doiledau cyhoeddus a 39 o doiledau mewn busnesau sy’n cymryd rhan yn y
Cynllun Grant Cyfleusterau Cyhoeddus. Pwysleisiwyd bod rhan fawr o Wynedd yn
gorwedd o fewn Parc Cenedlaethol Eryri, ac felly fod gan y Parc Cenedlaethol ac
Ymddiriedolaeth Genedlaethol doiledau cyhoeddus hefyd. Nodwyd felly bod nifer
dda o gyfleusterau ar gael ar hyd a lled y sir. Eglurwyd bod yr adroddiad yn
rhoi diweddariad ar weithrediad y Strategaeth Toiledau Cyhoeddus ers 2019, ac
yn cynnwys cynllun gweithredu sy’n nodi’r camau nesaf a’r camau sydd eisoes
wedi’u cyflawni i wella delwedd y toiledau cyhoeddus a chyfarch disgwyliadau
defnyddwyr, yn ogystal ag egluro pa ffynonellau ariannu sydd ar gael i wella’r
ddarpariaeth, beth yw’r amserlen ddiweddaraf o ran cyflwyno technoleg talu
di-gyffwrdd, a beth yw’r sefyllfa o ran incwm. Nodwyd bod grantiau amrywiol
wedi’u denu drwy amryw o ffyrdd dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys y Gronfa
Ffyniant Gyffredin. Pwysleisiwyd bod ymdrechion wedi parhau i gael mynediad at
grantiau, gyda chais wedi’i gyflwyno ar gyfer y rownd nesaf o arian gan y
Gronfa Ffyniant Gyffredin. Nodwyd bod cyllideb refeniw’r
gwasanaeth yn gyfyngedig a’i bod wedi bod dan bwysau sylweddol oherwydd cyflwr
yr adeiladau a fandaliaeth. Nodwyd bod y rhan fwyaf o’r gyllideb wedi’i
defnyddio i gynnal a chadw’r cyfleusterau presennol, gan adael ychydig iawn ar
gyfer adnewyddu neu wella. Cyfeiriwyd at gynllun grant gan
Llywodraeth Cymru sydd yn darparu cyllid i fusnesau sy’n fodlon agor eu
cyfleusterau i’r cyhoedd. Nodwyd ei bod yn ofynnol i’r busnesau sicrhau
arwyddion priodol, a bod swyddogion yn monitro bod hynny’n digwydd. Cadarnhawyd
nad oes unrhyw fusnesau ar y rhestr aros ar hyn o bryd, felly mae modd cynnwys
busnesau newydd pe byddent yn ymddangos. Eglurwyd bod gwefan y Cyngor yn nodi’r
busnesau sy’n cymryd rhan yn y cynllun a bod y rhestr honno ar gael i’r
cyhoedd. Nodwyd bod gwaith wedi mynd rhagddo i adolygu’r trefniadau glanhau, ac
er bod y safonau’n gyffredinol yn foddhaol, credwyd fod lle i wella. Atgoffwyd bod pwysau ar y Cyngor rai
blynyddoedd yn ôl i arbed arian drwy gau toiledau cyhoeddus, ond yn hytrach na
gwneud hynny, sefydlwyd cynllun partneriaeth gyda chynghorau tref a chymuned.
Nodwyd y bydd angen adolygu’r cyfraniad hwn eleni, gan nad oes chwyddiant
wedi’i godi ar y cyfraniad ers cyflwyno’r cynllun. Nodwyd
bod pum toiled gyda threfn codi tâl am eu defnydd. Nodwyd bod bid i adnewyddu a
gosod drysau talu modern wedi bod yn llwyddiannus, ond y bu llithriad yn y
rhaglen waith. Disgwyliwyd y byddai’r ddarpariaeth newydd ar gael cyn bo hir,
ond nid oedd modd adrodd ar ei heffeithiolrwydd eto. Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- Diolchwyd am y cyflwyniad. Cyfeiriwyd at brif amcanion y strategaeth wrth fynegi pryder ynghylch y diffyg dull clir o’u mesur, sydd yn hollbwysig. Er enghraifft, er bod yr amcanion yn sôn am annog ... view the full COFNODION text for item 6. |
|
TORRI GWAIR A CHYNNAL YMYLON FFYRDD SIROL Dilyniant
yn dilyn Craffu yng nghyfarfod 22 Chwefror 2024. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Penderfynwyd:
COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod
Cabinet Priffyrdd, Peirianneg ac YGC, Pennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg ac
YGC a’r Pennaeth Cynorthwyol. Eglurwyd bod dyletswyddau statudol ar
awdurdodau lleol i gynnal a gwella bioamrywiaeth, ond bod dyletswydd foesol
hefyd ar y Cyngor i weithredu yn gadarnhaol. Nodwyd bod gan y Cyngor
gyfrifoldeb fel tirfeddiannwr sylweddol i osod esiampl a chryfhau gwytnwch
ecosystemau’r ardal. Mynegwyd bod y gwaith a wnaed hyd yma yn gam cyntaf
cadarnhaol ac yn gam ar y ffordd tuag at wireddu’r uchelgeisiau hyn. Cadarnhawyd bod y ffigurau
presennol yn yr adroddiad yn dangos sut y mae’r gwasanaeth wedi addasu’r
trefniadau torri glaswellt, gan greu mwy o arwynebedd ar gyfer blodau gwyllt i
dyfu ac annog pryfed peillio. Eglurwyd y gobaith yw, wedi cwblhau’r treialon, y
gellir eithrio ardaloedd sylweddol o ymylon ffyrdd o’r contract presennol a’u
cynnwys mewn trefniant newydd o dorri a chasglu glaswellt. Fodd bynnag, nodwyd y bydd angen
ystyried sawl ffactor cyn gweithredu hyn, gan gynnwys hyfywedd ariannol, gan
fod y Cyngor dan bwysau ariannol sylweddol a methu fforddio cynyddu costau wrth
weithredu trefniadau newydd. Nodwyd bod angen penderfynu pwy fydd yn cyflawni’r
gwaith, ai gweithlu mewnol y Cyngor sydd â’r arbenigedd angenrheidiol, neu
gontractwyr allanol. Tynnwyd sylw at ymateb y cyhoedd
i’r trefniadau newydd, gan gyfeirio at yr ymgyrch ‘Nature
is not neat’ ac at y ffaith bod gan unigolion farn
wahanol am daclusrwydd. Nodwyd yr angen i sicrhau nad yw’r newidiadau’n arwain
at gwynion gan y cyhoedd. Eglurwyd bod torri ymylon ffyrdd
trefol hefyd yn rhan o’r gwaith, nid yn unig am resymau diogelwch ond hefyd i
wella delwedd cymunedau. Yn y mannau hyn, caiff glaswellt ei dorri rhwng tair a
phum gwaith y flwyddyn, a hynny’n is i’r ddaear. Nodwyd bod rhai cynghorau tref a
chymuned yn talu’r Cyngor i dorri glaswellt yn amlach, ond bod eraill yn
awyddus i neilltuo tir ar gyfer blodau gwyllt, gan gydweithio â’r Cyngor neu’n
gofyn iddynt wneud y gwaith ar eu rhan. Cyfeiriwyd at y treialon yn Nwyfor a’r gwaith yn Meirionnydd, lle derbyniwyd adroddiad
gan ecolegydd lleol cyn dechrau’r gwaith gyda’r tîm yn gweithredu yn unol â’r
adroddiad. Eglurwyd bod y profiad yn gyffredinol yn gadarnhaol, ond bod
problemau wedi codi, megis pan dorrodd contractwr safle ar gam gan adael
glaswellt ar wyneb y tir, neu pan fu i Dŵr Cymru
dyrchu dros waith oedd eisoes wedi’i gwblhau cyn i arwyddion allu cael eu
gosod. Nodwyd bod camau wedi'u cymryd i unioni’r sefyllfa ac y caiff gwersi eu
dysgu. Edrychwyd ymlaen at gamau nesaf
y cynllun, gan gynnwys archwiliadau i safleoedd yn Arfon ac ehangu’r treialon y
flwyddyn ganlynol, os bydd cyllid ar gael. Nodwyd bod gwaith cydweithredol yn
digwydd rhwng yr Adran Amgylchedd a’r Tîm Bioamrywiaeth, gan obeithio derbyn
cyllid i ychwanegu mwy o safleoedd. Eglurwyd bod Gwasanaeth Cynnal Tiroedd wedi cychwyn cynnal treialon torri a chasglu eu hunain ar rai o’r tiroedd maent yn gyfrifol am eu cynnal, fel Cerrig yr Orsedd yng Nghaernarfon. Nodwyd bod grant gan Bartneriaeth Natur Gwynedd ... view the full COFNODION text for item 7. |