Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y
Cynghorwyr Aled Evans a Mair Rowlands, Colette
Owen (Yr Eglwys Gatholig) a’r Cynghorydd Gareth Thomas (Aelod Cabinet Economi). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd y Cynghorydd Dewi Roberts
fuddiant personol yn eitem 5 – Penderfyniad y Cabinet – 28-09-21 – Eitem 8 –
Ysgol Abersoch - oherwydd ei fod yn llywodraethwr Ysgol Abersoch, ond oherwydd
iddo gael ei benodi i’r rôl honno gan yr Awdurdod, nid oedd o’r farn ei fod yn
fuddiant oedd yn rhagfarnu, ac ni adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar
yr eitem. Datganodd y Cynghorydd Selwyn
Griffiths fuddiant personol yn eitem 6 – Yr Economi a Chefnogaeth i Fusnesau -
oherwydd mai ei fab oedd awdur yr adroddiad i’r pwyllgor. Nid oedd o’r farn ei fod yn fuddiant oedd yn
rhagfarnu, ac ni adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w
nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd
yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 10 Mehefin, 2021 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 10 Mehefin, 2021 fel rhai cywir. |
|
PENDERFYNIAD Y CABINET - 28-09-21 - EITEM 8 - YSGOL ABERSOCH PDF 305 KB Ystyried
adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Bod y
pwyllgor craffu yn cyfeirio’r mater yn ôl i’r Cabinet i’w ail-ystyried ar y
sail na chafwyd ymateb digonol i’r ail reswm dros alw i mewn, sef:- “2.Nid yw’r Adroddiad yn cymryd
i ystyriaeth ddyfodol Tai a Gwaith fydd yn dod i rym yn y Pentref . (a) Mae Datblygiad Newydd o
godi Gwesty Newydd fydd yn creu beth bynnag 40 o swyddi llawn amser yn yr ardal
- mi fydd y Gweithwyr a’u Teulu angen adnoddau yn cynnwys Addysg i ein
plant. (b) Mae Llywodraeth Cymru, yr
Adran Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd a Chymdeithas Tai (sydd yn berchen tir yn y
pentref) ar hyn o bryd yn edrych i godi mwy o dai - mae Llywodraeth Cymru wedi
dweud fod grant ar gael i ddatblygu y tir yma i godi o bosib 15 o dai. Mae’r Gymdeithas tai wedi
cadarnhau fod cynlluniau wedi gwneud yn barod ar safle Bryn Garmon. Nid yw’r adroddiad yn sôn dim
am y cynllun newydd gan yr Adran Tai ac Eiddo a dim am y datblygiadau sydd yn
mynd ymlaen yn y Pentref ac felly nid yw’r Adran Addysg wedi ymateb i ofynion
Ddeddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol wrth beidio gwneud hyn.” Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth
Democratiaeth yn nodi bod y penderfyniad a ganlyn wedi ei alw i mewn i’w
graffu, yn unol ag Adran 7.25 o Gyfansoddiad y Cyngor:- Eitem 8: Ysgol Abersoch, cyfarfod Cabinet
28.9.21 “Cadarnhawyd
yn derfynol y cynnig a roddwyd drwy rybudd statudol, i gau Ysgol Abersoch ar 31
Rhagfyr 2021, a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Sarn Bach o 1 Ionawr, 2022,
yn unol ag Adran 53 o’r Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a
gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion 11/2018.” Eglurodd y Cadeirydd y gwnaethpwyd y cais i
alw’r penderfyniad i mewn i’w graffu gan y Cynghorwyr Alwyn Gruffydd, Elwyn
Jones a hithau o fewn y gofynion a’r amserlen angenrheidiol. Nodwyd bod y rhesymau dros alw i mewn, sef
yr agweddau o’r penderfyniad yr ystyrid y dylid eu craffu, ac sydd o fewn
gofynion Cyfansoddiadol, wedi eu nodi fel a ganlyn: “1. Mae’r
Adroddiad yn anghywir ac yn gamarweiniol rhan effaith ar y Gymuned, er
enghraifft iaith a diwylliant Cymraeg - yn y tabl ar dudalen 714 mae yn dweud
nad oes dim effaith ar yr Iaith. 2. Nid yw’r Adroddiad yn cymryd i ystyriaeth ddyfodol Tai a
Gwaith fydd yn dod i rym yn y Pentref. (a) Mae Datblygiad Newydd o godi Gwesty Newydd fydd yn creu beth
bynnag 40 o swyddi llawn amser yn yr ardal - mi fydd y Gweithwyr a’u Teulu
angen adnoddau yn cynnwys Addysg i ein plant. (b) Mae Llywodraeth Cymru, yr Adran Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd
a Chymdeithas Tai (sydd yn berchen tir yn y pentref) ar hyn o bryd yn edrych i
godi mwy o dai - mae Llywodraeth Cymru wedi dweud fod grant ar gael i ddatblygu
y tir yma i godi o bosib 15 o dai. Mae’r Gymdeithas tai wedi cadarnhau fod cynlluniau wedi gwneud
yn barod ar safle Bryn Garmon. Nid yw’r adroddiad yn sôn dim am y cynllun newydd gan yr Adran
Tai ac Eiddo a dim am y datblygiadau sydd yn mynd ymlaen yn y Pentref ac felly
nid yw’r Adran Addysg wedi ymateb i ofynion Ddeddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol
wrth beidio gwneud hyn. 3. Mae pryder wedi ei ddatgan rhan y ffordd droed rhwng Abersoch
a Sarn Bach mae yr Adran addysg yn dweud fod cyswllt wedi bod gyda’r Adran
Ffyrdd ond nid oes dim byd pendant wedi ei gyflwyno rhan datrys y risg yma sydd
yn rhoi disgyblion mewn peryg. Mae’r Adran Addysg yn sôn am drefniadau cludiant
sydd wrth gwrs yn ychwanegu at hinsawdd ac yn enghraifft ddrwg i’r plant ar sut
mae’r Cyngor yn cymryd i ystyriaeth effaith ar hinsawdd. 4. Mae un plentyn yn disgyn allan o’r cynnig i gael cludiant
oherwydd polisïau oed - yn y dyfodol pan fydd rhifau plant yn cynyddu oherwydd
(a) a (b) mae’n debyg bydd plant eraill yn cael gwrthod y cludiant yma ac
felly yn dioddef rhan eu haddysg. 5.Y penderfyniad ydi i gau yr ysgol yn ganol y flwyddyn ysgol a does dim amheuaeth fod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
YR ECONOMI A CHEFNOGAETH I FUSNESAU PDF 120 KB Aelod Cabinet – Y Cynghorydd
Gareth Thomas Ystyried adroddiad ar yr uchod. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr
adroddiad gan edrych ymlaen at gael mwy o wybodaeth ynglŷn â grantiau i
fusnesau maes o law. Cofnod: Croesawyd swyddogion yr Adran Economi a Chymuned
i’r cyfarfod. Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet
Economi a Chymuned, ar gais y pwyllgor craffu, yn amlinellu pa gefnogaeth mae’r
Cyngor yn ei roi i fusnesau, yn arbennig yn sgil y Deyrnas Unedig yn gadael yr
Undeb Ewropeaidd a’r pandemig Covid-19. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau. Nododd aelod, o ran cywirdeb, y dylai’r
adroddiad gyfeirio at y Deyrnas Gyfunol, yn hytrach na’r Deyrnas Unedig. Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau,
nodwyd:- ·
Bod
y cynnydd yn nifer yr ymholiadau a cheisiadau am gymorth gan fusnesau dros y 18
mis diwethaf wedi cyflwyno heriau i’r gwasanaeth o ran adnoddau ac o ran
ail-gyfeirio a blaenoriaethu’r gwaith.
Hefyd, roedd y gwasanaeth wedi ail-flaenoriaethu mwy tuag at gefnogi a
chynnal busnesau i barhau, yn hytrach na datblygu a chreu swyddi o’r newydd,
fel yn y gorffennol. Roedd mwy o
fusnesau wedi dod i gyswllt â’r Cyngor yn ystod cyfnod y pandemig
nag erioed o’r blaen, ac un o’r pethau cadarnhaol a ddeilliodd o hynny oedd
sefydlu’r bwletin busnes, oedd bellach yn mynd allan o leiaf ddwywaith yr
wythnos i dros 4,500 o fusnesau’r sir.
Roedd y gwasanaeth hefyd wedi symud tuag at roi cyngor ynglŷn â
materion ychydig ehangach o ran arferion da a sut i fabwysiadu technoleg
newydd. Roedd yn rhaid rhoi ymdrech i
mewn i’r gwaith o gynnal a sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei dosbarthu, ac
roedd y gwasanaeth yn ail-drefnu eu hunain hefyd, gan chwilio am adnoddau trwy law’r Cyngor i’w galluogi i barhau gyda’r gwaith. ·
Na
chafwyd sgwrs benodol gyda’r Adran Tai ac Eiddo yn y cyfnod yma o ran
cynorthwyo gweithwyr allweddol, ac ati, sy’n symud i mewn i’r ardal i ddod o
hyd i rywle i fyw. Roedd trafodaethau’n
mynd ymlaen gyda’r Adran o ran polisïau cynllunio, ac ati, ond roedd angen
gwneud mwy o waith ar hynny. Eglurwyd
nad prinder sgiliau oedd y brif gŵyn gan fusnesau ar hyn o bryd, ond
prinder pobl i weithio i’r busnesau hynny, ac roedd hynny’n wir ar draws y
sectorau. Cyfeiriwyd at ddarn o waith i
geisio cefnogi pobl nad ydynt mewn gwaith i mewn i swyddi mewn meysydd lle mae
bylchau, ond roedd graddfa’r broblem yn llawer ehangach nag a fu, a byddai’n
rhaid edrych ar hyn yn ehangach gyda phartneriaid eraill, er mwyn cwrdd â lefel
y galw presennol. Nodwyd ymhellach bod
dros 120 o bobl wedi cael cymorth drwy’r Tîm Gwaith Gwynedd, ac er nad oedd hyn
yn cyfarch y galw yn ei gyfanrwydd, roedd yna weithgaredd sylweddol wedi
digwydd. Hefyd, fe geisiwyd cymryd
rhywfaint o gamau bychan, ond ymarferol, i gefnogi busnesau, e.e. drwy hwyluso
cael tudalennau ar Facebook, fel bod modd i fusnesau hyrwyddo’r cyfleoedd
gwaith sydd ganddynt. · Bod cyhoeddiad Llywodraeth Prydain ar y trefniadau grant i’r dyfodol, yn sgil diflaniad arian Ewropeaidd, wedi ei wthio nôl, ond roedd yn debygol y byddai yna ryw fath o gyhoeddiad yn dilyn yr adolygiad ariannol fis nesaf. Eglurwyd mai’r bwriad oedd cyhoeddi ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
GAGENDOR LLES A CHYRHAEDDIAD PDF 415 KB Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Cemlyn Williams Ystyried
adroddiad ar yr uchod. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn yr
adroddiad a chofnodi ein diolchiadau i’r gweithlu am eu cyfraniad yn ystod y 18
mis diwethaf. Cofnod: Croesawyd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE a’i
gyd-swyddogion, swyddogion yr Adran Addysg a Phennaeth Ysgol Cefn Coch ac Ysgol
Talsarnau, Pennaeth Ysgol Botwnnog a Phennaeth Ysgol Pendalar
i’r cyfarfod. Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg
yn cyflwyno gwybodaeth i’r pwyllgor craffu ar y Gagendor Lles a Chyrhaeddiad,
gan gynnwys:- ·
Effaith
Covid ar addysg yr holl ddisgyblion; ·
Pa
gynlluniau sydd gan ysgolion o ran llesiant yr holl ddisgyblion Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun drwy
nodi:- ·
Er
bod y gagendor lles a chyrhaeddiad wedi gwaethygu efallai yn ystod y pandemig, bod angen cydnabod bod y problemau hyn wedi
bodoli ers rhai blynyddoedd. ·
Bod
presenoldeb swyddogion GwE yn y cyfarfod hwn yn tanlinellu pwysigrwydd gweithio
mewn partneriaeth gyda GwE, a bod hyn yn ein galluogi i ymateb yn bositif i’r
broblem ddyrys yma. ·
Ei
fod yn awyddus i’r pwyllgor gael darlun drwy lygaid gweithwyr rheng flaen, a’i
fod felly’n hynod ddiolchgar bod cynrychiolwyr o’r uwchradd, y cynradd ac
arbennig yn y cyfarfod i rannu eu profiadau. Ategwyd sylwadau’r Aelod Cabinet gan y
Pennaeth Addysg, a nododd ymhellach:- ·
Bod
cyfnod y pandemig wedi bod yn gyfnod heriol iawn i’r
ysgolion, a bod yr Awdurdod, GwE, yr ysgolion a phartneriaid eraill wedi
cydweithio’n agos iawn er mwyn lleihau’r problemau i’r graddau mwyaf oedd yn
bosib’. ·
Bod
adroddiad Estyn ynghylch i ba raddau roedd yr Awdurdod wedi bod yn llwyddiannus
yn cefnogi dysgwyr yn ystod y cyfnod yma yn adroddiad clodwiw, a’i fod yn
ymwybodol bod Rheolwr Gyfarwyddwr GwE a’i dîm hefyd wedi derbyn adroddiad yr un
mor ganmoliaethus ar eu gwaith hwy yn ystod y cyfnod hwn, oedd eto’n amlygu’r cydweithio rhyngddynt. Gosododd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE y
cyd-destun i’r Strategaeth Adnewyddu a Diwygio, sy’n cefnogi lles a dysgu’r
disgyblion ar draws Gogledd Cymru, gan ganolbwyntio’n benodol ar Wynedd. Yna derbyniwyd cyfres o gyflwyniadau gan
swyddogion GwE, fel a ganlyn:- ·
Cyfarwyddwr
Cynorthwyol (Safonau) – prif benawdau’r Strategaeth (Atodiad 1) ·
Uwch
Arweinydd – Uwchradd – blas o’r gwaith ymgysylltu gyda’r ysgolion i ddal
cynnydd ac effaith y gweithredu sydd wedi bod hyd yma (Atodiad 2) ·
Arweinyddion
Craidd – Cynradd / Uwchradd – diweddariad ar y defnydd a’r effaith o’r Grant
Cyflymu’r Dysgu (Atodiad 4) Nododd aelod mai un sgil-effaith o’r cyfnod Covid yw’r diffyg cyfleoedd i ddisgyblion ymarfer a siarad
ar lafar gyda’i gilydd, a bod y cyfeiriad yn y papurau at ‘ailgodi’ sgiliau
llafar a thrafod Cymraeg yn tanlinellu bod rhywbeth wedi syrthio. O gofio mai prif bwrpas y Siarter Iaith yw
hybu defnydd anffurfiol o’r Gymraeg, holwyd beth fyddai rôl y Siarter Iaith yn
y cyfnod hwn wrth geisio cyflymu’r dysgu, a pham nad oedd cyfeiriad penodol at
waith allweddol y Siarter Iaith yn yr adroddiad cyflymu dysgu? Mewn ymateb, eglurwyd bod yr adroddiad hwn yn
cyfeirio at ffocws y grant yn benodol.
Yn dilyn cyflwyniadau GwE, byddai swyddogion yr Awdurdod yn ymhelaethu
ar y gwaith partneriaethol sydd wedi digwydd rhwng yr
Awdurdod a GwE, a byddai cyflwyniad Swyddog Addysg Uwchradd Gwynedd yn manylu
ar ddylanwad y Siarter Iaith. Derbyniwyd cyflwyniad gan Swyddog Addysg Uwchradd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU DDIWYGIEDIG 2021-22 PDF 300 KB Cyflwyno rhaglen
waith craffu ddiwygiedig ar gyfer 2021/22. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo’r
rhaglen waith ar gyfer cyfarfod 9 Rhagfyr, a thrafod gweddill y rhaglen yn y
cyfarfod anffurfiol i ddilyn y pwyllgor. Cofnod: Cyflwynwyd rhaglen waith
craffu ddiwygiedig ar gyfer 2021/22. PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhaglen waith ar gyfer cyfarfod 9
Rhagfyr, a thrafod gweddill y rhaglen yn y cyfarfod anffurfiol i ddilyn y
pwyllgor. |