Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan yr Athro Edmund Burke (Prifysgol Bangor) a Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 406 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynahliwyd ar 24 Mawrth, 2023 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 24 Mawrth, 2023 fel rhai cywir.

 

5.

SEFYLLFA ALLDRO REFENIW A CHYFALAF Y BWRDD UCHELGAIS AR GYFER 2022-23 pdf eicon PDF 531 KB

Dewi A.Morgan (Pennaeth Cyllid yr Awdurdod Lletya – Swyddog Cyllid Statudol) a Sian Pugh (Pennaeth Cyllid Cynorthwyol yr Awdurdod Lletya) i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

1.       Nodi a derbyn adroddiad alldro refeniw y Bwrdd Uchelgais ar gyfer 2022/23 (Atodiad 1 i’r adroddiad), cronfeydd y Bwrdd Uchelgais (Atodiad 2) a'r Adolygiad Cyfalaf Diwedd Blwyddyn ar 31 Mawrth 2023 (Atodiad 3).

2.       Cymeradwyo i'r tanwariant refeniw o £148,000 ar gyfer 2022/23 gael ei drosglwyddo i gyllideb 2023/24, gyda £18,000 ohono yn cael ei ychwanegu at y pennawd Bwrdd Cyflawni Busnes a £130,000 gael ei ychwanegu at y pennawd Prosiectau.

 

Cofnod:

Gosodwyd y cyd-destun gan Dewi A. Morgan (Pennaeth Cyllid yr Awdurdod Lletya – Swyddog Cyllid Statudol) a manylodd Sian Pugh (Pennaeth Cyllid Cynorthwyol yr Awdurdod Lletya) ar gynnwys yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD

 

1.         Nodi a derbyn adroddiad alldro refeniw y Bwrdd Uchelgais ar gyfer 2022/23 (Atodiad 1 i’r adroddiad), cronfeydd y Bwrdd Uchelgais (Atodiad 2) a'r Adolygiad Cyfalaf Diwedd Blwyddyn ar 31 Mawrth 2023 (Atodiad 3).

2.         Cymeradwyo i'r tanwariant refeniw o £148,000 ar gyfer 2022/23 gael ei drosglwyddo i gyllideb 2023/24, gyda £18,000 ohono yn cael ei ychwanegu at y pennawd Bwrdd Cyflawni Busnes a £130,000 gael ei ychwanegu at y pennawd Prosiectau.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Er mwyn hysbysu’r Bwrdd Uchelgais am ei sefyllfa ariannol ar gyfer refeniw a chyfalaf yn 2022/23.

 

TRAFODAETH

 

Mewn ymateb i gwestiwn, eglurwyd bod angen ychwanegu £18,000 at y pennawd Bwrdd Cyflawni Busnes (argymhelliad 2) oherwydd bod gwaith y Bwrdd o dendro contract wedi llithro i ran gyntaf 2023/24.

 

Eglurwyd ymhellach:-

 

·         Bod y Swyddfa Rheoli Portffolio wedi hysbysebu am bartner i gydweithio ar friff penodol ar ran y Bwrdd Cyflawni Busnes a thîm cynghori o’r sector fusnes. 

·         Bod y briff yn amlinellu proses ar gyfer ymgysylltu â phartner fyddai’n gallu creu adroddiad gwaelodlin ar ein cyfer ac edrych ar economi Gogledd Cymru a’r sectorau sydd yma, gan asesu’r cryfderau a’r cyfleoedd o fewn y sector hwnnw.

·         Bod y briff cychwynnol wedi bod yn heriol iawn i’r partneriaid.  Ceisiwyd annog cymaint o elw â phosib’, ond yn anffodus ni chafwyd unrhyw ymateb i’r tendr.

·         Bod darparwr arall wedi cysylltu yn ddiweddar iawn ac wedi gofyn am gyflwyno tendr, a gofynnwyd i’r darparwr hwnnw ddatblygu cynnig dros y tair wythnos nesaf.

·         Y byddai’r adroddiad gwaelodlin o gymorth i ymateb i’r gofyn i ddarparu strategaeth fuddsoddi er mwyn dangos sut y bydd y Cynllun Twf yn trosoli’r rhagor na £722m fydd ei angen i gyflawni’r £1bn o Gynllun Twf yn ei gyfanrwydd dros y cyfnod.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach, eglurwyd bod y swm o £722m yn seiliedig ar faint o fuddsoddiad fydd yn rhaid ei drosoli o’r sector preifat, sy’n cyfuno gydag ymrwymiad blaenorol y ddwy lywodraeth i ddarparu £240m dros y cyfnod, a bod swm ychwanegol wedi’i glustnodi i ddod i mewn fel arian ychwanegol o’r sector gyhoeddus yn ogystal.

 

6.

CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISGIAU CHWARTER 4 pdf eicon PDF 363 KB

Hedd Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau) i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

1.       Bod y Bwrdd yn ystyried ac yn nodi Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi'i diweddaru.

2.       Bod y Bwrdd yn cymeradwyo cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio) ac ymhelaethodd y rheolwyr rhaglen ar uchafbwyntiau’r rhaglenni unigol.

 

Nodwyd bod angen cywiro Statws RAG y prosiect M-Sparc (Prifysgol Bangor) o ambr i wyrdd yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD

 

1.         Bod y Bwrdd yn ystyried ac yn nodi Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi'i diweddaru.

2.         Bod y Bwrdd yn cymeradwyo cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae adrodd chwarterol ar gynnydd yn erbyn Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf.  Yn dilyn ystyriaeth gan y BUEGC, caiff yr adroddiadau eu rhannu gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol.

 

TRAFODAETH

 

Nododd y Cadeirydd ei bod yn ymddangos bod cynnydd yn digwydd mewn sawl maes.

 

Gan gyfeirio at brosiect Warren Hall, Brychdyn, mynegwyd siomedigaeth fod Adroddiad y Panel Adolygiad Ffyrdd yn cael ei ddefnyddio fel rheswm i beidio bwrw ymlaen â chynlluniau pwysig fel hyn, a galwyd am drafodaeth frys rhwng Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Bwrdd a Llywodraeth Cymru.

 

Mewn ymateb, eglurwyd:-

 

·         Bod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn disgwyl am arweiniad gan y Gweinidog mewn perthynas â’i ymateb i argymhelliad y Panel Adolygiad Ffyrdd, ac y derbyniwyd adborth anffurfiol bellach gan y Llywodraeth bod ffordd ymlaen i’r prosiect.

·         Bod cyfarfodydd wedi’u rhaglennu gyda swyddogion Llywodraeth Cymru a swyddogion Cyngor Sir y Fflint i drafod hyn ymhellach, a disgwylid y gellid rhoi mwy o sicrwydd yn Chwarter 1 2023/24 bod y prosiect yn symud yn ei flaen mewn ffordd bositif.

 

Holwyd beth fyddai effaith y Porthladd Rhydd ar brosiectau’r Cynllun Twf.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Bod y Porthladd Rhydd yn bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Ynys Môn, Stena Line a phartneriaid eraill yn ogystal, a bod buddsoddiad sylweddol Stena Line yn y safle yng Nghaergybi cyn i’r cyhoeddiad ynglŷn â’r Porthladd Rhydd gael ei wneud, a chyn cychwyn ar unrhyw waith yn y porthladd, yn arwydd o hyder y cwmni yn y fenter.

·         Ei bod yn ddyddiau cynnar o ran y prosiect hwn.  Roedd yna 6 mis i gyflwyno achos busnes llawn a byddai angen proses lywodraethu ac ymgysylltu i gael mewnbwn yn ystod y broses yna.

·         Mai Cyngor Sir Ynys Môn fyddai’r corff atebol, a byddai Arweinydd a Phrif Weithredwr y Cyngor yn gorfod sicrhau cydymffurfiaeth.

·         Yn dilyn y broses llywodraethu, bwriedid ymgysylltu gydag arweinyddion a phrif arweinwyr eraill y rhanbarth i sicrhau bod pawb yn deall y cyfeiriad a lle fydd yr effaith a’r cyfle i ddylanwadu, yn enwedig ar y strategaethau trawsffiniol o ran cyflogaeth a sgiliau, arloesi, net sero a’r iaith Gymraeg.

 

Holwyd a fyddai’r newid o ran rheoli arian cyhoeddus a darparu buddsoddiad band llydan yng Nghymru yn peryglu prosiectau digidol y Cynllun Twf.  Mewn ymateb, eglurwyd:-

 

·         Mai Llywodraeth Cymru oedd wedi bod yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - PROSES GYMERADWYO FBC WEDI'I MIREINIO pdf eicon PDF 551 KB

Hedd Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau) i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

 

1.       Bod y Bwrdd yn cymeradwyo'r llwybr cymeradwyo wedi'i fireinio ar gyfer Achosion Busnes Llawn (FBC) fel yr amlinellir yn paragraff 4.10 yr adroddiad ble:

Ø  Na fu unrhyw newid yn sgôp y prosiect ers i'r Achos Busnes Amlinellol (OBC) gael ei gymeradwyo nac unrhyw gais dilynol am newid a gafodd ei gymeradwyo.

Ø  Nid yw targedau amcanion gwario (e.e. swyddi) wedi cael eu lleihau fwy na 10% ers i'r Achos Busnes Amlinellol (OBC) gael ei gymeradwyo nac unrhyw gais dilynol a gafodd ei gymeradwyo gan y Bwrdd.

Ø  Nid oes unrhyw ofynion ariannol ychwanegol ar Gynllun Twf Gogledd Cymru ers i'r Achos Busnes Amlinellol (OBC) gael ei gymeradwyo nac unrhyw gais dilynol am newid a gafodd ei gymeradwyo gan y Bwrdd.

Ø  Nid oes angen awdurdod dirprwyedig pellach gan y Bwrdd.

2.       Ym mhob achos arall y bydd y broses gymeradwyo FBC arferol yn berthnasol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio).

 

PENDERFYNWYD

 

1.         Bod y Bwrdd yn cymeradwyo'r llwybr cymeradwyo wedi'i fireinio ar gyfer Achosion Busnes Llawn (FBC) fel yr amlinellir ym mharagraff 4.10 yr adroddiad ble:

Ø  Na fu unrhyw newid yn sgôp y prosiect ers i'r Achos Busnes Amlinellol (OBC) gael ei gymeradwyo nac unrhyw gais dilynol am newid a gafodd ei gymeradwyo.

Ø  Nid yw targedau amcanion gwario (e.e. swyddi) wedi cael eu lleihau fwy na 10% ers i'r Achos Busnes Amlinellol (OBC) gael ei gymeradwyo nac unrhyw gais dilynol a gafodd ei gymeradwyo gan y Bwrdd.

Ø  Nid oes unrhyw ofynion ariannol ychwanegol ar Gynllun Twf Gogledd Cymru ers i'r Achos Busnes Amlinellol (OBC) gael ei gymeradwyo nac unrhyw gais dilynol am newid a gafodd ei gymeradwyo gan y Bwrdd.

Ø  Nid oes angen awdurdod dirprwyedig pellach gan y Bwrdd.

2.         Ym mhob achos arall y bydd y broses gymeradwyo FBC arferol yn berthnasol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

I amlinellu cynnig i fireinio'r broses gymeradwyo ar gyfer Achosion Busnes Llawn (FBC) er mwyn sicrhau bod penderfyniadau buddsoddi terfynol gan y Bwrdd yn cael eu gwneud mewn modd amserol ac effeithiol.

 

TRAFODAETH

 

Mewn ymateb i gais am esboniad o’r goddefiant o 10% yn ail bwynt bwled argymhelliad 1, eglurwyd y gosodwyd y goddefiant i gydnabod bod yna fân newidiadau fel rheol wrth i brosiectau fynd drwy’r broses hon, yn arbennig drwy gaffael, a bod 10% yn cael ei gydnabod yn gyffredinol fel lleihad rhesymegol a chyfrannol sy’n rhoi hyblygrwydd, ond eto ddim yn ffigwr sylweddol.  Gan hynny, petai yna 1 neu 2 o swyddi yn newid yn ystod y broses, ni fyddai hynny o reidrwydd yn golygu gorfod ail-gychwyn y broses.

 

Holwyd a fyddai’r broses wedi’i mireinio yn berthnasol i brosiectau sy’n mynd drwy’r broses o ddatblygu Achos Busnes Terfynol (FBC) ar hyn o bryd, ac a fyddai’r drefn newydd yn weithredol yn syth.

 

Mewn ymateb, nodwyd bod bwriad i weithredu hyn yn syth, petai’r Bwrdd yn cyd-fynd â’r argymhelliad, felly byddai’n berthnasol i brosiectau sydd yn y broses o ddatblygu Achos Busnes Terfynol (FBC).  Eglurwyd hefyd y byddai’r broses wedi’i mireinio o fantais i’r prosiectau hynny oherwydd y gallai oedi olygu cynnydd mewn costau.

 

Mewn ymateb i sylw o ran tryloywder ac atebolrwydd y Bwrdd, eglurwyd bod y broses wedi’i mireinio yn golygu symleiddio’r swyddogaethau sicrwydd swyddfa cefn sy’n digwydd cyn dod ag achosion busnes gerbron y Bwrdd, ac sy’n gallu cymryd rhai misoedd.  Ychwanegwyd na fyddai hynny’n digwydd ymhob achos, fodd bynnag.

 

Holwyd a oedd yna enghreifftiau go iawn o achosion lle bu i’r lleihad ym maint yr amser y mae prisiau tendr yn ddilys arwain at sefyllfa o orfod ail-gaffael. 

 

Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Nad oedd hyn wedi digwydd o fewn y Cynllun Twf ei hun, ond bod ein partneriaid wedi datgan pryder bod ganddynt brosiectau byw lle mae’r prisiau tendr ond yn ddilys am 30 diwrnod, neu 60 diwrnod ar y mwyaf, ac felly nad oes amser i fynd drwy’r broses sicrwydd a chymeradwyo prosiect cyn i’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

ADNODDAU I'R SWYDDFA RHEOLI PORTFFOLIO pdf eicon PDF 353 KB

Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio) a Hedd Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau) i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

 

Bod y Bwrdd yn cymeradwyo'r cynnydd yng swm y grant Cynllun Twf sydd ar gael i gefnogi'r Swyddfa Rheoli Portffolio o 1.5% i 2% gan leihau swm cyffredinol yr arian i gefnogi prosiectau newydd drwy'r broses prosiectau newydd o £1.2 miliwn ac ystyried cynnydd pellach petai unrhyw arian heb ei ddyrannu ar ddiwedd y broses i ddewis prosiectau newydd ar gyfer y Cynllun Twf.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio).

 

PENDERFYNWYD

 

Bod y Bwrdd yn cymeradwyo'r cynnydd yn swm y grant Cynllun Twf sydd ar gael i gefnogi'r Swyddfa Rheoli Portffolio o 1.5% i 2% gan leihau swm cyffredinol yr arian i gefnogi prosiectau newydd drwy'r broses prosiectau newydd o £1.2 miliwn ac ystyried cynnydd pellach petai unrhyw arian heb ei ddyrannu ar ddiwedd y broses i ddewis prosiectau newydd ar gyfer y Cynllun Twf.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

I amlinellu opsiynau i ddarparu adnoddau i'r Swyddfa Rheoli Portffolio dros y pedair blynedd nesaf i oruchwylio cyfnod cyflawni allweddol Cynllun Twf Gogledd Cymru

 

TRAFODAETH

 

Nododd y Cadeirydd fod gennym dîm hynod o alluog a chryf yng Ngogledd Cymru, sy’n ased i ni, a’i bod yn bwysig edrych ar bob cyfle i gadw’r tîm yna gyda’i gilydd.

 

Holwyd a oedd cynyddu swm y grant sydd ar gael i gefnogi’r Swyddfa Rheoli Portffolio o 1.5% i 2% yn ddigonol.

 

Mewn ymateb, nodwyd y credid bod cynnydd o 0.5% yn realistig ac yn gyfrannol, ac yn gydnaws â chynlluniau twf eraill, a’i bod yn bwysig cadw cymaint o gyfalaf â phosib’ ar gyfer cyflawni’r prosiectau a chaniatáu i ni gwrdd ag amcanion y Cynllun Twf a chyflenwi swyddi.

 

Nodwyd bod paragraffau 4.12 a 4.13 o’r adroddiad yn nodi mai’r cynnig yw defnyddio 50% o’r £1.2m ychwanegol i alluogi ymestyn contractau tymor sefydlog presennol yn y tîm i fis Mawrth 2025, ac na ellir darparu estyniad pellach hyd nes y byddai ffynonellau cyllid eraill yn cael eu sicrhau.  Yn wyneb hynny, holwyd beth oedd yn digwydd i’r £600,000 arall.

 

Mewn ymateb, eglurwyd:-

 

·         Y bwriedid defnyddio £600,000 y flwyddyn nesaf er mwyn galluogi’r estyniad 12 mis hwnnw, fydd yn lliniaru’r risg o staff yn gadael yn ystod y flwyddyn nesaf ac yn prynu amser i ni weld beth fydd canlyniad y pecyn ariannu arall rydym yn ymgeisio amdano drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF).

·         Gan hynny, bod y £600,000 wedi’i ddyrannu’n ddamcaniaethol ar gyfer blynyddoedd 3 a 4, ond pe na lwyddid i sicrhau unrhyw gyllid ychwanegol, efallai y byddai’n rhaid defnyddio’r arian hwnnw mewn ffordd wahanol, ac ni fyddai’n bosib’ ymestyn cytundeb pawb gyda’r swm hwnnw o arian.

·         Pe byddai’r cais i’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, neu unrhyw ffynhonnell allanol arall, yn llwyddiannus, byddai’n ofynnol ail-broffilio sut y byddem yn defnyddio’r £1.2m, felly yn hytrach na defnyddio’r £600,000 y flwyddyn nesaf, byddem yn ei ddefnyddio ym mlynyddoedd 3 a 4.

 

Awgrymwyd bod y geiriad yn yr adroddiad yn gwrth-ddweud ei hun gan ei fod yn dweud na ellir darparu estyniad pellach hyd nes y byddai ffynonellau cyllid eraill yn cael eu sicrhau.

 

Mewn ymateb, cadarnhawyd, er eglurder, na ellir darparu unrhyw estyniadau pellach i’r holl staff ar y sail hynny, felly ni ellid cynnig estyniadau pellach i bawb os mai’r £1.2m yw’r unig gyllid sydd ar gael.

 

Nodwyd bod y risg o golli staff yn sylweddol, ac felly nad oedd gan y Bwrdd lawer o ddewis ond derbyn yr argymhelliad.

 

Nodwyd bod yna brinder sylweddol o dalent  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.