Rhaglen a Phenderfyniadau

Lleoliad: Hybrid Meeting - Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, LL55 1SH and on Zoom

Cyswllt: Sioned Mai Jones  01286 679665

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 11 MAWRTH pdf eicon PDF 168 KB

Dogfennau ychwanegol:

6.

DARPARIAETH CYNHWYSIAD GWYNEDD pdf eicon PDF 259 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dewi Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.     Mabwysiadu yr Opsiwn o greu Uned Gyfeirio Disgyblion Cofrestredig Portffolio (Aml Safle).

2.     Derbyn y cynllun ariannu a gyflwynwyd yn yr adroddiad gan ddirprwyo’r amserlen gweithredu a gwireddu y cynllun i’r Pennaeth Addysg mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet Addysg.

 

7.

CRONFA FFYNIANT GYFFREDIN 2025/26 YNG NGWYNEDD pdf eicon PDF 228 KB

Mae Atodiad 1 ar wahân ar gyfer Aelodau’r Cabinet n unig.

 

Mae’r Atodiad yn eithriedig o dan Paragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 – Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae cynnwys yr eitem yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol a masnachol sensitif am nifer o brosiectau. Mae hyn yn berthnasol i nifer o sefydliadau.

Cyflwynwyd gan: Cyng. Medwyn Hughes

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.    Cytuno i barhad trefn llywodraethu ranbarthol Cronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) y  Deyrnas Gyfunol ar gyfer y flwyddyn bontio 2025/26 gan awdurdodi’r Pennaeth Economi a Chymuned - mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Cyllid, Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol a’r Prif Weithredwr - i gadarnhau’r trefniadau

 

2.    Cytuno i barhau trefniadau llywodraethu lleol Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Gyfunol yng Ngwynedd ar gyfer y flwyddyn bontio 2025/26.

 

3.    Cytuno bod pob cynllun yng Ngwynedd yn derbyn arian o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin wireddu dwy egwyddor, sef:

a.    Bod ymdrech fwriadol i sicrhau fod arian SPF a’r budd yn deillio ohono yn elwa cymunedau a thrigolion ym mhob rhan o Wynedd.

b.    Bod ymdrech fwriadol i annog gweithgareddau (a sefydliadau) nad ydynt wedi derbyn arian yn flaenorol gael mynediad i gymorth)

 

4.    Cytuno i esblygu ac addasu gweithgareddau o ymhlith prosiectau presennol a’u hymestyn ar gyfer y flwyddyn drosiannol, yn unol ag egwyddor Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol bod cyllid 2025/26 y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn estyniad o’r cyfnod 2022/24 i 2024/25 sy’n pontio i drefn ariannu newydd.

 

5.    Gofyn i’r Panel Cronfa Ffyniant Gyffredin rhoi ystyriaeth fanwl i’r cynlluniau unigol sydd dan ystyriaeth ar gyfer dyraniad Gwynedd o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, gan gyflwyno argymhelliad yn ôl i’r Cabinet ar y dyraniadau unigol.

 

6.    O fewn y gyllideb £7,900,000, cytunwyd i barhad pedair cronfa (gyda chyfanswm cyllideb cychwynnol oddeutu £2.29 miliwn) i ddosbarthu symiau llai o arian Cronfa Ffyniant Gyffredin i fentrau a chymunedau’r sir gan awdurdodi parhad tair cronfa dan reolaeth Cyngor Gwynedd.

 

8.

CYNNIG MAETHU I OFALWYR MAETHU CYMRU GWYNEDD pdf eicon PDF 215 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Trenholme

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.     Caniatáu gostyngiad o 50% (25% i Ofalwyr Maeth egwyl fer) ym miliau Treth Cyngor prif breswylfa gofalwyr maeth sy’n gofrestredig i’r Cyngor, cyn ystyried unrhyw ddisgowntiau, eithriadau a/neu Ostyngiad Treth Cyngor y maent eisoes yn deilwng iddynt.

2.     Cynnid tocyn parcio blynyddol am ddim.

3.     Defnydd diderfyn o ganolfannau hamdden.

4.     Mabwysiadu polisi Maethu Cyfeillgar i ofalwyr maeth Maethu Cymru Gwynedd sy’n gyflogedig i’r Cyngor.

 

9.

SIARTER RHIANTA CORFFORAETHOL pdf eicon PDF 173 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Trenholme

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo mabwysiadu’r Siarter Rhianta Corfforaethol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

10.

ADRODDIAD PERFFORMAD YR AELOD CABINET DROS ECONOMI A CHYMUNED pdf eicon PDF 258 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Medwyn Hughes

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

11.

ADRODDIAD PERFFORMAD YR AELOD CABINET DROS TAI AC EIDDO pdf eicon PDF 17 MB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Paul Rowlinson

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

12.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodath ar yr eitemau canlynol gan ei bd yn debygol y datgelir Gwybodaeth eithreidig fel y’i diffyinnir ym Mharagraff 16 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth y gallai honiad ynghylch braint broffesiynol gyfreithiol gael ei gynnal yn ei chylch mew nachos cyfreithiol.

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig  mewn bod yn agored  ynglyn a materion sydd o ddiddordeb cyhoeddus megis y Cyfarwyddyd Erthygl 4.  Fodd bynnag mae braint gyfretihiol yn cynrychioli hawl sylfaenol sydd a budd cyhoeddus cryf o’i amgylch.  Wrth wynebu her gyfreithiol i benderfyniad mae’n ofynnol i’r Cabinet gael myneidad at gyngor cyfreithiol di lyffethair ac agored  ar gynnal ac ymateb i achos yn yr un modd a unrhwy barti arall. Ni ellir sicrhau hyn o fewn fforwm gyhoeddus. Byddai hyn yn groes  i’r budd cyhoeddus sydd yn ynghlwm a sicrhau y canlyniad gorau i’r Cyngor.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

13.

DIWEDDARIAD YN DILYN DYFARNIAD YR UCHEL LYS MEWN PERTHYNAS Â CHADARNHAU'R CYFARWYDDYD ERTHYGL 4

Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.     Nodi penderfyniad caniatâd yr Uchel Lys ynglŷn â’r Cyfarwyddyd Erthygl 4 ynglŷn â’r wybodaeth bellach a ddarperir.

2.     Gan ystyried cynnwys yr adroddiad a’r atodiadau cadarnhau cefnogaeth i Opsiwn 3 i barhau i amddiffyn yr achos.